Blog - Newyddion a Digwyddiadau

Postiwyd - 11-10-2019

Collections / Stori Cymru

T Llew Jones: Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru

Un prynhawn Gwener, mewn ysgol fechan yn Nyffryn Teifi, cafodd crwtyn ifanc ei wahodd i ddosbarth y plant mawr er mwyn clywed y prifathro yn darllen darn o stori. Roedd y stori yn un gyffrous. Roedd hi’n sôn am noson stormus, dywyll ac am dollborth unig yn y wlad. Dyma geidwad y tollborth yn clywed sŵn carnau ceffyl yn agosáu o’r pellter, ac yna’r marchog yn gweiddi ‘Gêt’. Wrth fentro mas i agor y gât, dyma’r marchog yn estyn rhywbeth iddo – rhyw barsel wedi ei lapio mewn clogyn – cyn gyrru i ffwrdd i’r tywyllwch. A beth oedd yn y parsel? Daeth y ceidwad i wybod ar ôl dychwelyd i’r tŷ – baban.

Y crwtyn ifanc a oedd yn gwrando’n gegrwth ar y stori hon oedd neb llai na T. Llew Jones. Ni chafodd glywed rhagor ohoni am ryw reswm, ond fe adawodd argraff ddofn ar ei ddychymyg am yn hir wedyn. Daeth i wybod yn ddiweddarach yn ei oes mai Y Golud Gwell (1910) gan Anthropos (Robert David Rowland; 1853?-1944) oedd y stori, ond nid cyn ysgrifennu ei fersiwn ei hun a’i chyhoeddi o dan y teitl Un Noson Dywyll (1973).

Cyffro, rhamant, dirgelwch – dyna’r hyn sy’n nodweddu’r hanesyn uchod. Dyma hefyd nodweddion a ymddengys yn aml yn llenyddiaeth plant T. Llew – yn ei farddoniaeth a’i ryddiaith. Y gŵr hwn a ddefnyddiodd gymeriadau hanesyddol a lled-hanesyddol fel y môr-ladron, Harry Morgan a Barti Ddu, a’r lleidr pen-ffordd, Twm Siôn Cati, fel ei ddeunydd crai. Y gŵr hwn hefyd a greodd fabinogi o’i fywyd ei hun, gyda photswyr Pentre-cwrt, sipsiwn y ‘Pishyn Padis’ ac anturiaethau Beirdd y Cilie yn rhan o un saga amryliw a ddefnyddiwyd i ddiddanu cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei gilydd.

Mae’n hawdd rhamantu T. Llew. Rhamantydd oedd e. A’r un mor rhamantus ar yr un olwg yw’r teitl anrhydeddus ac arwrol hwnnw y cysylltir T. Llew ag ef, sef ‘Brenin Llenyddiaeth Plant Cymru’. Ond eto i gyd, mae tadogi teitl o’r fath arno yn dangos cymaint yw ei gyfraniad i’r maes.

Yn y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd, roedd y diwydiant cyhoeddi Cymraeg mewn cyflwr truenus. Yn 1950, o’r can llyfr a gyhoeddwyd yn Gymraeg, dim ond 13 oedd yn gyhoeddiadau i blant. Gŵr a oedd yn effro i’r argyfwng hwn oedd y llyfrgellydd o Geredigion, Alun R. Edwards. Ym mis Medi 1951, trefnodd y gynhadledd gyntaf o blith nifer yn ystod yr 1950au ym mhlas y Cilgwyn ger Castellnewydd Emlyn, gyda’r nod o annog darpar ysgrifenwyr i greu deunydd darllen Cymraeg ar gyfer plant. Gwahoddwyd 48 o athrawon yr hen sir Aberteifi i’r gynhadledd arbennig hon, ac yn eu plith roedd T. Llew – bardd lled-ifanc ac ysgolfeistr Tre-groes ar y pryd.

Yn ei hunangofiant, Yr Hedyn Mwstard (1980), mae Alun R. Edwards yn cyfeirio at T. Llew fel “y pysgodyn mwyaf a ddaliwyd gan y Cilgwyn.” Roedd yn ysgrifennu’r geiriau hyn ar ddiwedd ei yrfa, ac ar adeg pan oedd T. Llew eisoes wedi ymsefydlu fel un o brif awduron plant Cymru. Bu farw T. Llew bron i dri degawd yn ddiweddarach yn 2009, a rhwng hynny a chynhadledd gyntaf y Cilgwyn yn 1951, fe gyhoeddodd tua hanner cant o gyfrolau – a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n rhai ar gyfer plant.

Fel athro – yn ysgolion Tre-groes (1951-1957) a Choed-y-bryn (1958-1976) – gwyddai T. Llew am yr angen i ddenu plant at ddarllen, ac i ddarparu deunydd cyffrous ar eu cyfer a fyddai’n eu haddysgu a’u diddanu ar yr un pryd. Yn y categori hwn y gosodir straeon fel Trysor y Môr-ladron (1960), Corn, Pistol a Chwip (1969) a Cri’r Dylluan (1974), sy’n cymryd darnau o hanes Cymru a’u troi’n anturiaethau cyffrous llawn arwyr a dihirod. Mae ei farddoniaeth i blant wedyn – a gyhoeddwyd yn Penillion y Plant (1965) a Cerddi Newydd i Blant (1973) – yn mentro mas o’r stafell ddosbarth i’r awyr agored, ac yn ceisio agor llygaid y darllenydd i ryfeddod y byd o’i gwmpas.

Mewn cyfweliad yn y cylchgrawn Llais Llyfrau yn 1968, dywed T. Llew iddo deimlo “mai’r hyn oedd eisiau fwyaf ar blant Cymru oedd arwyr.” Mae arwyr yn cael eu creu ar adeg o angen. Ac yn y Gymru Gymraeg ynghanol yr ugeinfed ganrif, roedd yna angen am awdur fel T. Llew Jones ar lenyddiaeth plant.

Endaf Griffiths

Cynnwys Perthnasol

Postiwyd - 27-09-2019

Collections / Stori Cymru

Campwaith Tryweryn yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd i drafod ei hanes

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Fel rhan o raglen Estyn Allan y Gwasanaeth Addysg, bob blwyddyn cynhelir Diwrnod Campweithiau Mewn Ysgol pan fydd eitem wreiddiol o gasgliad celf y Llyfrgell yn cael ei gludo i ysgol rhywle yng Nghymru i fod yn ganolbwynt i weithdy addysgol. Yn ystod y dair blynedd diwethaf aethpwyd â phaentiad William Turner o Gastell Dolbadarn i ysgol yn Llanberis, a chludwyd cyfres o ddarluniau gan Kyffin Williams i ysgolion Dyffryn Nantlle a Bro Lleu yn Mhenygroes. Mae’r achlysuron yma’n bwysig gan eu bod yn enghreifftiau gwŷch o sut gall casgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol ysbrydoli cynulleidfa iau, a’i chynorthwyo i ddysgu am, a dehongli gweithiau celf a’r hanes sy’n gysylltiedig â hwy.

Eleni, dan arweiniad rhaglen Sculpture Masterpieces in Schools Art UK (elusen sy’n ceisio amlygu gweithiau celf ym meddiant cyrff cyhoeddus ym Mhrydain) , gwahoddwyd Ffederasiwn Cysgod y Foel – sy’n cynnwys Ysgol Bro Tryweryn, Frongoch ac Ysgol Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn – i gymryd rhan mewn prosiect a oedd yn canolbwyntio ar un o gerfluniau mwyaf arwyddocaol y Llyfrgell, Cofeb Tryweryn gan John Meirion Morris. Crëwyd y cerflun gyda’r bwriad o gomisiynu fersiwn maint llawn (30 troedfedd o uchder) ar lan Llyn Celyn i goffáu boddi Cwm Tryweryn yn y 1960au.

Penderfynwyd gwahodd Iola Edwards, artist lleol a merch John Meirion Morris, i arwain sesiwn ar gyfer disgyblion Blwyddyn 5 a 6, a bu hi’n ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol i chwilio’r casgliadau am ddarnau o waith a ysbrydolwyd gan stori Capel Celyn, yn ogystal â cherflun ei thad, wrth baratoi a darparu gweithgareddau addas ar gyfer y gweithdy.

Ar ddydd Iau, Medi 12fed, cludwyd y cerflun i ardal y Bala i’w ddefnyddio am ddiwrnod yn ganolbwynt i weithdy celf. Cychwynwyd y diwrnod gyda chyfle i ddisgyblion y ddwy ysgol weld y gofeb yn ystod gwasanaeth y bore.

Er mwyn rhoi ychydig o gefndir i hanes y gofeb, dangosodd Iola ffotograffau a dynnwyd gan Geoff Charles i’r disgyblion. Maent yn adrodd stori boddi pentref Capel Celyn, a’r protestio brwd a fu’n cymryd lle mewn gwrthwynebiad i’r cynllun.

Tasg gyntaf y disgyblion oedd astudio ffurf y cerflun a chreu brasluniau ohono, er mwyn iddynt werthfawrogi siap deinamig yr aderyn yn ymestyn o’r dŵr. Roeddynt yn gweithio mewn golosg er mwyn gadael marc cryf sy’n llifo’n hwylus.

Rhoddwyd cyfle i’r plant edrych yn agos iawn ar y gofeb, a gweld manylder yr wynebau ym mhlu yr aderyn. Cafwyd trafodaeth am deimladau’r pentrefwyr y mae’r wynebau yma yn eu cynrychioli, eu tristwch a’u pryder, oll yn protestio yn erbyn yr hyn a oedd yn digwydd iddynt. Ar ôl cinio aeth y plant ymlaen i siapo ffigyrau 3D allan o bapur yn dangos wynebau yn bloeddio a sgrechian am yr anghyfiawnder a ddioddefwyd.

Roedd rhan o’r gweithdy yn bwrw golwg ar bentref Capel Celyn a’r gymuned a gollwyd o dan y dŵr. Gan ymarfer eu sgiliau dylunio, bu’r disgyblion yn creu darlun o adeiladau’r pentref, ac yn creu gludwaith o olygfeydd yr ardal a’r bobl sy’n ymddangos yn ffotograffau Geoff Charles.

Yn ystod rhan olaf y gweithdy bu’r disgyblion yn trafod sut rydym yn cofio am hanes Tryweryn, a’r wal eiconig sy’n sefyll ger Llanrhystud yng Ngheredigion. Trwy ddefnyddio proses argraffu â sgrîn, bu’r plant yn ail greu y graffiti sydd bellach wedi cael ei ailadrodd mewn nifer o leoliadau ar draws Cymru.

Roedd Diwrnod Campweithiau Mewn Ysgol eleni yn gyfle i ddisgyblion ddysgu a chofio am yr hyn a ddigwyddodd dafliad carreg o Ysgol Bro Tryweryn dros hanner canrif yn ôl, ac i wneud hynny ym mhresenoldeb cerflun arbennig a grëwyd i goffáu yr hanes. Dan arweiniad Iola Edwards, ysbrydolodd y cerflun griw o blant i ymarfer dulliau celf newydd a chreu murlun fel eu cofeb eu hunain i ddigwyddiad hynod bwysig yn hanes fodern Cymru.

Dolenni Perthnasol

Rhodri Morgan
Rheolwr Gwasanaeth Addysg

Postiwyd - 13-09-2019

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Stori Cymru / Ymchwil

Y Bywgraffiadur Cymreig

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Datblygu llinell amser ryngweithiol

Mae Cymru’n genedl fach ond un balch iawn, cenedl sydd wedi cyfrannu mwy na’i siâr o ddiwygwyr, dyfeiswyr ac arloeswyr i gymdeithas. O Wasanaeth Iechyd Aneurin Bevan, i ddatblygiad Radar gan Edward George Bowen, ni ddylid tanbrisio cyfraniad Cymru i dechnoleg a gwareiddiad yn ei gyfanrwydd. A pheidiwch anghofio, mae Cymru hefyd wedi ein diddanu gyda mawrion chwaraeon, actorion fel Richard Burton a llu o dalent gerddorol.

Mae’r Bywgraffiadur Cymreig wedi cofnodi bywydau ein henwogion ers blynyddoedd, fel na fyddwn yn anghofio eu cyfraniad i Gymru a’r byd. Ers 2004, mae’r holl gofiannau wedi bod ar gael yn ddwyieithog ar wefan y Bywgraffiadur Cymreig, ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda chofnodion newydd – dros 5000 erbyn hyn.

Portreadau o bobl yn y Bywgraffiadur  o Wikidata

Er mwyn gwneud y wefan mor agored a defnyddiol â phosib, dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn rhannu’r data sy’n gyrru wefan gyda Wikidata. Dyma chwaer llai adnabyddus y Wikipedia enwog, ac fe’i dyluniwyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn agored fel data, yn hytrach na rhyddiaith. Fel efo Wikipedia gall unrhyw un olygu a gwella’r data yn Wikidata ac erbyn hyn mae gennym adnodd cyfoethog o ddata am ein 5000 o unigolion pwysig. Mae Wikidata yn caniatáu inni nodi lleoedd geni pawb ar fap, mae’n caniatáu inni gysylltu data am addysg pobl â data ar gyfer yr ysgolion a’r prifysgolion a fynychwyd, a gallwn weld pa sefydliadau eraill sydd â chofnodion perthnasol, fel portreadau neu archifau.

Lleoliad geni pawb yn y Bywgraffiadur. Archwilio      –      Map yndangos teithiau a gymerwyd gan genhadon Cymreig. Crëwyd efo Wikidata.

 

Mae ein tîm o wirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur yn defnyddio’r Bywgraffiadur i greu erthyglau Wikipedia ar gyfer y bobl, fel bod gennymi bob pwrpas, ddau fersiwn o bob erthygl – un yn gofnod hanesyddol wedi’i adolygu a’i reoli’n ofalus gan arbenigwyr, a’r llall yn gofnod cymunedol a reolir gan bawb, erthygl sy’n esblygu’n gyson y gall unrhyw un gyfrannu ati a’i hailddefnyddio at unrhyw bwrpas.

Yn dilyn lansiad gwefan newydd y Bywgraffiadur llynedd, llwyddom i sicrhau cyllid i weithio gyda datblygwyr i ychwanegu nodwedd newydd a chyffrous. Gan ddefnyddio’r data cyfoethog o Wikidata, a miloedd o ddelweddau digidol o gasgliadau’r Llyfrgell, rydym yn datblygu llinell amser rhyngweithiol fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio pob un o’r 5000 person yn y geiriadur yn gronolegol. Cliciwch ar berson yn y llinell amser a gallwch weld y cofnod Bywgraffiadur perthnasol a’r erthygl Wikipedia.

Fersiwn cynnar o’r llinell amser sy’n cael ei ddatblygu

Yn fwy na hynny, bydd y llinell amser yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo’r cofnodion yn seiliedig ar ble cawsant eu geni, lle cawsant eu haddysgu, eu galwedigaeth a mwy. A gellir defnyddio’r hidlwyr yma mewn cyfuniad, felly os hoffech chi weld yr holl bêl-droedwyr a anwyd yn Aberdâr yn unig, mae hynny’n iawn! Mae’r Llyfrgell hefyd wedi curadu llinell amser o ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru y gellir ei gweld dros y linell amser i roi mwy o gyd-destun i fywydau’r bobl hyn.

Bydd y lefel hyn o ryngweithio ac addasu yn helpu i ddod â’r Bywgraffiadur Cymraeg yn fyw. Bydd yn haws nag erioed i chwilio a darganfod bywydau ein dinasyddion pwysicaf – y bobl a helpodd i lunio stori Cymru.

Dylai’r llinell amser fod yn fyw cyn diwedd y flwyddyn.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , ,

Postiwyd - 02-08-2019

Stori Cymru

Hunaniaeth Gymreig, Symbolau a’r Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

 

Dreigiau, telynau, gwisgoedd a blodau: maent oll yn dweud rhywbeth wrthym am ddatblygiad hunaniaeth Gymreig!

Bu’r symbolau uchod yn gynhwysion allweddol wrth hyrwyddo digwyddiadau o wedd ‘Gymreig’; er enghraifft, yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r ŵyl wedi gwneud defnydd helaeth o symbolau o’r fath yn ei hymgyrchoedd marchnata ar hyd y blynyddoedd.

 

 

Daeth pasiantau, symbolau a seremonïau i fod yn elfennau allweddol ym mywydau’r Cymry yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif. Roedd yr arferion yn cynrychioli’r ymdrech a fu i arddangos hunaniaeth Gymreig, ar adeg lle roedd diwylliannau cynhenid ar draws Ewrop yn mynd ati’n fwriadol i ddangos eu nodweddion unigryw.

Yn y blog hwn, byddwn yn defnyddio rhaglenni swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol i ddangos sut oedd symbolau yn cael eu defnyddio i gyflwyno delwedd o ‘Gymreictod’.

 

Crynodeb o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol

Y dechreuad – Yn 1176 cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr ‘eisteddfod’ gyntaf y gwyddwn amdani. Cynhaliodd ddwy gystadleuaeth fawr yng Nghastell Aberteifi; un mewn barddoniaeth a’r llall mewn cerddoriaeth.

Dirywiad cyflym – Cynhaliwyd cystadlaethau tebyg yn ystod y 15fed a’r 16eg ganrif. Yn ystod y cyfnod hwn y cafodd y term ‘eisteddfod’ ei fathu. Fodd bynnag, dirywiodd y digwyddiadau hyn yn ystod teyrnasiad Harri VIII.

Adfywiad – Rhoddodd y cymdeithasau Cymreig yn Llundain fywyd newydd i’r traddodiad eisteddfodol ar ddiwedd y 18fed ganrif. Fe wnaeth Iolo Morganwg, sylfaenydd seremonïau Gorsedd y Beirdd, chwarae rhan bwysig yn y gwaith o adfywio’r eisteddfod ar raddfa genedlaethol, drwy gysylltu’r Orsedd â’r sefydliad.

‘Eisteddfod Genedlaethol’ Swyddogol – Yn Ninbych yn 1860 etholwyd Cyngor a Phwyllgor Cyffredinol i reoli’r ‘Eisteddfod’, sefydliad cenedlaethol newydd sbon. Cynhaliwyd yr ‘Eisteddfod Genedlaethol’ swyddogol gyntaf y flwyddyn ganlynol yn Aberdâr.

 

 

 

Symbolau poblogaidd a’u gwreiddiau

Mae’r Ddraig Goch yn un o symbolau mwyaf adnabyddus Cymru. Credwyd i’r ddraig gael ei defnyddio gan y Brenin Arthur ac arweinwyr Celtaidd eraill – mae’n symbol o wreiddiau hynafol Cymru ac yn cynrychioli ei chyn-ryfelwyr anfarwol.

Ystyrir mai’r Delyn Deires yw offeryn cenedlaethol Cymru. Fe’i defnyddiwyd am ganrifoedd fel cyfeiliant i ganu gwerin, dawnsio ac adrodd barddoniaeth, ac mae’n crynhoi treftadaeth lenyddol a cherddorol gyfoethog Cymru.

Cafodd y Wisg Gymreig ei datblygu’n bennaf yn ystod y 19eg ganrif gan noddwr diwylliannol ymroddgar o’r enw Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Roedd y wisg draddodiadol Gymreig fwyaf sylfaenol yn cynnwys clogyn gwlanog coch a het ddu uchel. Credai Hall y byddai defod o’r fath yn hyrwyddo diwydiannau a hunaniaeth Cymru.

Cafodd y Nod Cyfrin – y symbol /|\ – ei ddyfeisio gan Iolo Morgannwg. Mae’n cynrychioli rhinweddau Cariad, Cyfiawnder a Gwirionedd. Cafodd y symbol ei ddefnyddio’n helaeth ar raglenni’r Eisteddfod ac roedd yn cynrychioli presenoldeb yr Orsedd yn y digwyddiad. Arferai’r Orsedd gael ei hystyried yn gylch hynafol o Dderwyddon a oedd yn mawrygu traddodiad barddol cyfoethog Cymru.

 

 

Adfywio Diwylliant Cymru
Gallai’r defnydd o symbolau ar raglenni’r Eisteddfod gael ei ystyried mewn cyd-destun ehangach, sef ymdrech gyffredinol i adfywio diwylliant Cymru. Mae’n amlwg bod ymgyrch o’r fath yn edrych tua’r gorffennol am ei ysbrydoliaeth ac yn annog y Cymry i ymfalchïo yn eu treftadaeth a’u hanes.

 

Elen Haf Jones, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect Europeana ‘The Rise of Literacy’

Postiwyd - 19-07-2019

Collections / Stori Cymru

Gosod troed ym Mhatagonia

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru. Cliciwch ar Stori Cymru o dan y categorïau i weld gweddill y cofnodion. Gallwch hefyd danysgrifio i’r blog i dderbyn ebyst am yr holl gofnodion.

Safai torf o dros 150 o bobl, yn oedolion a phlant, ar fwrdd llong yn craffu ar y wlad a fyddai’n gartref newydd iddyn nhw. Dydd Iau 27 Gorffennaf 1865 oedd hi. Roedd y Mimosa wedi bwrw ei hangor o’r diwedd a’r ymfudwyr yn disgwyl yn eiddgar i osod troed ar dir Patagonia.

Aeth bron i ddeufis union heibio ers iddynt gychwyn eu mordaith o ddociau Lerpwl, ac roedd yn rhyfeddod i’r fenter ddod mor bell â hyn. Wedi blynyddoedd o drafodaethau gyda Llywodraeth Buenos Aires, y bwriad gwreiddiol oedd iddyn nhw deithio i Batagonia ar fwrdd yr Halton Castle, llong ddwywaith maint y Mimosa. Methodd honno ddychwelyd yn brydlon o’i mordaith flaenorol a bu’n rhaid gwneud trefniadau newydd. Bu’r ymfudwyr – unigolion, cyplau a theuluoedd o leoedd fel Aberpennar, Aberdâr, Rhosllanerchrugog, Ffestiniog yn ogystal â Lerpwl a Phenbedw – yn aros am fis tra oedd y Mimosa yn cael ei haddasu ar gyfer y daith.

O ran y fordaith ei hun, dechreuodd gyda thywydd stormus wrth adael Lerpwl, cafwyd gwyntoedd cryfion ar y ffordd a dyddiau eraill pan oedd y môr yn dawel a’r haul yn grasboeth. Bu farw tri o blant ar y llong a ganwyd dau, a chafwyd priodas hefyd. Roedd cyrddau gweddi yn cael eu cynnal yn ddyddiol.

Roedden nhw wedi cyrraedd Patagonia er gwaethaf popeth, a dau o arweinwyr y fenter, Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts, yno i’w cyfarch. Mae Joseph Seth Jones, argraffydd i20 oed o Ddinbych oedd ar fwrdd y llong, yn nodi yn ei ddyddiadur bod Lewis Jones wedi dod atynt mewn cwch a’i fod wedi’i groesawu â llawenydd mawr. ‘Yr oedd ei adroddiad yn bodloni yn gyffredinol a thu hwnt i’n disgwyliadau o lawer.’ ysgrifennodd, ‘Dywedai mai trwy rwystrau anghyffredin yr oedd wedi llwyddo.’ Mae’r dyddiadur yn gofnod gwerthfawr o’r fordaith trwy lygaid un o’r teithwyr, ac mae ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dechreuodd pennod newydd yn hanes y fenter gyda’r glanio ar dir Patagonia; byddai’n rhaid iddynt wynebu taith arall o tua 40 milltir i gyrraedd dyffryn yr afon Chupat (a ddaeth i’w adnabod wedyn fel Dyffryn Camwy), heb sôn am yr her fawr o wneud cartref newydd i’w hunain ar dir mor sych a diffaith. Bu adegau wedyn pan y bu bron iawn i’r fenter ddod i ben yn llwyr, ond, er syndod i lawer, mae’r iaith Gymraeg yn dal i gael ei siarad ym Mhatagonia heddiw.

O ran y nifer y Cymry a aeth yno (cyfanswm o tua 4,000 erbyn 1900), darn bach yn unig yw’r Wladfa yn holl hanes yr ymfudo o Gymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth llawer mwy i’r Unol Daleithiau ac Awstralia, er enghraifft, a symudodd rhai o’r bobl hynny eto er mwyn ymuno â’r Wladfa. Ond mae’r swyn sy’n perthyn i Batagonia yn parhau hyd heddiw ac wedi rhoi amlygrwydd i’r bennod hon yn hanes y genedl. Mae’n deillio o’r darlun rhamantus o’r wlad a’i thirwedd, o ddewrder a dyfalbarhad yr ymfudwyr eu hunain, ac wrth gwrs o’r freuddwyd a ysgogodd y fenter: y dyhead i sefydlu gwladwriaeth annibynnol ble byddai’r iaith Gymraeg yn brif gyfrwng i bob agwedd o fywyd, gan gynnwys cyfraith, gwleidyddiaeth, addysg a masnach. Roedd uchelgais y fenter, yn ymarferol ac yn ideolegol, yn ddadleuol a rhyfeddol bryd hynny fel ag y mae heddiw.

Mae gan y Llyfrgell nifer o ddeunyddiau amrywiol ar-lein i’ch helpu i ddarganfod mwy am hanes y Cymry ym Mhatagonia. Ceir detholiad o’r 25 llawysgrif bwysicaf a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n ymwneud â Phatagonia, gyda dyddiadur Joseph Seth Jones yn eu plith. Mae hefyd rhestr o lyfrau ac erthyglau am Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America.

Dafydd Tudur, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 05-07-2019

Casgliadau / Stori Cymru

Game of Thrones a chwedloniaeth Gymreig – beth yw’r cysylltiad?

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i rai o’r llawysgrifau allweddol sy’n cynnwys rhai o destunau mwyaf dylanwadol chwedloniaeth Gymreig ac sydd wedi goroseu hyd heddiw.

Yn ei plith mae Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys y fersiwn gynharaf o’r Mabinogi – y storïau mwyaf adnabyddus yn chwedloniaeth Cymru.

 

Nid peth newydd yw bod awduron yn troi at hanes a chwedloniaeth Gymreig am ysbrydoliaeth. Roedd glo Cymru yn dannwydd i’r chwyldro diwydiannol, ac felly hefyd mae awduron wedi cloddio ein mytholeg am dannwydd i yrru boelerdai rhai o gyfresi ffantasi mwyaf poblogaidd y byd.

Y gyfres uchaf ei phroffil o’r rhain yw The Lord of the Rings, ac ynddi mae Cymru wedi dylanwadu popeth o iaith yr ‘Elves’ i briodasau rhwng rhyfelwyr a merched teg arallfydol, ac o gleddyfau tynghedus i deithiau niferus i leoedd tanddaearol tebyg i Annwn.

Mae cyfres Harry Potter hefyd yn llawn tebygrwydd i chwedloniaeth Gymreig. Sylwais yn arbennig ar yr olygfa lle mae’r anfad Arglwydd Voldemort yn cael ei atgyfodi  o grochan mewn rhediad stori sydd yn ddigon tebyg i un y Pair Dadeni yn Ail Gainc y Mabinogi.

 

Mae dylanwad chwedloniaeth Gymreig wedi ymestyn ymhell tu hwnt i’r byd gorllewinol hefyd – mae tua 500,000 o chwaraewyr gan Mabinogi, gêm amlchwaraewr anferth o Corea sydd wedi ei seilio ar y chwedlau o’r un enw.

Y gyfres ffantasi uchaf ei phroffil a’r mwyaf proffidiol ar hyn o bryd yw Game of Thrones. Mae’r olaf o wyth cyfres deledu newydd orffen gyda mwy na 38 miliwn yn gwylio’r bennod gyntaf. Mae dau lyfr arall i ddod, sef The Winds of Winter ac A Dream of Spring, ac mae’n siwr y bydd nifer o ffilmiau a chyfresi deilliedig yn dilyn hefyd.

Mae nifer o gyffelybiaethau rhwng cyfres Game of Thrones a chwedloniaeth a hanes Cymru, ond dyma rai a sylwais arnynt tra’n gwylio a darllen.

Cweryla

Un o’r themâu amlycaf yn y gyfres yw bod o dan warchae gan ‘eraill’ bygythiol – yn achos Game of Thrones, y Cerddwyr Gwyn o ‘du hwnt i’r Wal’.

Efallai mai’r gymhariaeth agosaf i’r stori hon yw’r waliau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid i gadw allan y Pictiaid. Ond mae tebygrwydd hefyd i ddyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid i Brydain, a ddisgrifiwyd gan Sieffre o Fynwy ym Mrut y Brenhinoedd fel cosb gan Dduw.

 

Yn bennaf, mae’r Prydeinwyr yn hanes Sieffre yn gadael ei hunain yn ddiamddiffyn i oresgynnwyr drwy ymddwyn yn anfoesol a chweryla ymysg ei gilydd.

Adlewyrchir hyn yn y modd mae’r gwahanol Deuluoedd yng nghyfres George RR Martin yn gwanhau ei hunain yn ystod Rhyfel y Pum Brenin, yn treisio ac yn ysbeilio, heb sylweddoli fod bygythiad llawer mwy ar drothwy Westeros.

Mae tebygrwydd i hanes Prydain hefyd yn y ffaith bod y ‘Dynion Cyntaf’, sy’n siarad yr ‘Hen Iaith’ ac yn addoli’r Hen Dduwiau, yn poblogi ardaloedd ymylol Westeros.

Yn y cyfamser, mae’r Andaliaid o Essos, a ddaeth a’r ‘Iaith Gyffredin’ gyda nhw, wedi goresgyn y rhan fwyaf o’r tiroedd ffrwythlon, heulog a llewyrchus.

‘Fy nheyrnas am ddraig!’

Cadarnhaodd George RR Martin hefyd bod cyffelybiaethau cryf rhwng Game of Thrones a Rhyfeloedd y Rhosod yn y 15fed ganrif, lle chwaraeodd Cymru rhan fawr.

Yn debyg i Joffrey Baratheon yn Game of Thrones, roedd etifeddion ifanc yn Rhyfeloedd y Rhosod – y Tywysogion yn y Tŵr – y credir iddynt gael eu llofruddio i alluogi rhywun arall – Richard III – i gymryd yr orsedd.

Mae rhan Harri VII, a anwyd yn Sir Benfro ond a alltudiwyd dros y môr, ac sydd yn parhau i gynllwynio i gymryd yr orsedd, yn cael ei gymryd gan Daenerys Targaryen.

Yn ogystal â bod o dras Cymreig, glaniodd Harri VII yng Nghymru gan recriwtio lluoedd milwrol yn y wlad cyn eu harwain i fuddugoliaeth ar Faes Bosworth.

 

Coed sanctaidd

Roedd coed megis derw ac yw yn sanctaidd i’r Celtiaid, fel ag y maent i’r ‘Dynion Cyntaf’ sydd dal i ddilyn yr ‘Hen Dduwiau’ yn Game of Thrones.

Nid cyd-ddigwyddiad chwaith yw pren gwyn a dail coch y coed Weirwood sydd yn Godswood yn Game of Thrones. Dyma luwiau’r goruwchnaturiol yn chwedloniaeth Cymru.

Pan ddaw Pwyll ar draws cnud o gŵn ar ddechrau’r Mabinogi – Cŵn Annwn – maent yn wyn â chlustiau coch.

Mae sôn hefyd yn Game of Thrones am Blant y Goedwig, sydd yn addoli anifeiliaid a choed, ac mae tebygrwydd clir rhyngddynt a’r Tylwyth Teg yn chwedloniaeth Cymru.

Anifeiliaid

Llosgach, trais a phobl yn troi i mewn i anifeiliaid – mae gan Game of Thrones ddigonedd o’r tri.

Ond mae’n anodd i George RR Martin wneud hyn yn well na Phedwaredd Cainc Y Mabinogi.

Wedi i Gilfaethwy dreisio morwyn ei ewythr, mae dewin pwerus yn ei droi ef a’i frawd Gwydion yn bâr cyplysol o anifeiliaid; yn gyntaf yn hydd ac ewig, yna yn faedd a hwch, ac yn olaf yn flaidd a bleiddast.

Mae’r ddau frawd yn cymharu tra’u bod yn eu ffurfiau anifeilaidd ac yn cael tri o feibion; Hyddwn, Hychddwn a Bleiddwn.

Yn Game of Thrones mae Joffrey wedi ei eni o berthynas losgachaidd rhwng ei fam a’i brawd.  Mae nifer o gymeriadau hefyd sydd yn medru meddiannu cyrff anifieiliaid cyfagos.

Camdriniaeth

Mae cyfeiriadau cyson yn llyfrau a chyfresi teledu Game of Thrones at ryfel a ddigwyddodd yn y gorffennol a arweiniodd at orseddu Robert Baratheon yn frenin.

Y gwreichionyn a daniodd y rhyfel oedd pan herwgipiodd Rhaegar Targaryen (brawd Daenerys) chwaer Edward Stark a darpar wraig Robert, Lyanna.

Mae Robert a Ned yn mynd ar ei hôl, ac mae hyn yn arwain at ryfel cartref sydd yn dymchwel y Teulu Targaryen. Mae rhai wedi cyfeirio at Helen o Gaerdroia fel ysbrydoliaeth amlwg – yr wyneb a lansiodd fil o longau.

Ond mae yma debygrwydd cryf iawn i stori Branwen ferch Llŷr yn Ail Gainc y Mabinogi.

 

Mae camdriniaeth Branwen gan y brenin Gwyddelig Matholwch yn dechrau rhyfel gyda Phrydain. Mae ei brodyr, Bendigeidfran, Brenin y Prydeinwyr, ac Efnisien, yn mynd ati i’w hachub.

Fel yn Game of Thrones, mae’r cyrff yn pentyrru. Mae’r prif gymeriadau i gyd wedi marw erbyn diwedd y rhyfel rhwng Prydain ac Iwerddon, gan gynnwys Matholwch, Bendigeidfran, Efnisien a Branwen.

Enwau

Mae gan nifer o gymeriadau Game of Thrones enwau Cymreig sydd yn rhoi syniad i ni o’u cymeriad neu eu ffawd.

Un o’r rhai mwyaf amlwg yw ‘Tyrion’ – enw sydd yn agos iawn i’r gair Cymraeg ‘tirion’.

Mae’r corrach, er ei fod yn gallu bod yn greulon, yn un o gymeriadau mwyaf hoffus y gyfres oherwydd y gamdriniaeth mae ef ei hun yn ei ddioddef.

Ond cymeriad Bran Stark yw’r enghraifft fwyaf amlwg o George RR Martin yn cael ysbrydoliaeth o chwedloniaeth Gymreig.

Mae tebygrwydd amlwg rhyngddo a’r cymeriad chwedlonol Bran, neu Bendigeidfran fel y gelwir ef yn y Mabinogi.

 

Mae Bran yn Game of Thrones yn datblygu pwerau arbennig wedi iddo golli defnydd ei goesau ar ôl cael ei daflu o ffenestr uchel mewn castell.

Mae ei goesau hefyd yn fan gwan i Bendigeidfran, ac mae ei bwerau yn cynyddu wedi iddo gael ei ‘ladd’ gan waywffon yn ei droed.

Fel y Bran sy’n cael ei gario o gwmpas Westeros gan Hodor, mae Bran y Mabinogi yn cael ei gario o gwmpas Prydain cyn cael ei gladdu ar y Gwynfryn (safle Tŵr Llundain heddiw).

Gwaed

Mae Game of Thrones yn adnabyddus iawn am fod yn arbennnig o waedlyd, ac mae hynny yn deillio o ddylanwad mytholeg Cymreig hefyd.

Mae gan Ramsey Bolton (sy’n cael ei chwarae gan y Cymro Iwan Rheon) hoffder o ddatgymalu cyrff sydd yn debyg iawn i hanner brawd drygionus Bendigeidfran, Efnisien.

Mae’r Efnisien gwallgof yn mwynhau torri clustiau a gwefusau, gwasgu pennau pobl gyda’i ddwylo, a llosgi plant bychain yn fyw.

Mae hanes Cymru hefyd yn llawn trais. Mae rhai pobl wedi tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng y Briodas Goch, ble mae’r teuluoedd Stark a Tully yn cael eu llofruddio yn ystod priodas a gynhalwyd gan yr Arglwydd Walder Frey, a’r lladdfa yng Nghastell Y Fenni ar Ddydd Nadolig 1175.

Yno, gwahoddodd y barwn Normanaidd, William de Braose, un o benaethiaid y Cymry, Seisyll ap Dyfnwal, i wledd yn y castell, cyn cloi’r drysau a’i lofruddio ef a’i ddynion i gyd.

Gwreiddiau

Mae’n drawiadol faint o bobl yng Nghymru sydd yn gyfarwydd â’r hanesion hyn yn ail-law drwy storïau Tolkien, Martin a Rowling, ond nad ydynt yn ymwybodol fod iddynt wreiddiau Cymreig.

Mae llawer o waith i’w wneud yng Nghymru i ddod i wybod am ein hanes a’n chwedloniaeth ni ein hunain. Dyna pam yr ysgrifennais fy nhrydedd nofel, Dadeni,  er mwyn cyflwyno nifer o bobl newydd yng Nghymru i’n chwedloniaeth ni ein hunain.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisioes, beth am ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol neu ddewis llyfr am hanes neu chwedloniaeth Cymru.

Efallai y cewch eich ysbrydoli i ysgrifennu y Game of Thrones nesaf!

Ifan Morgan Jones

Postiwyd - 21-06-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Stori Cymru

Cerddoriaeth Cymru: Gwerin, Protest a Phop

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Fe ddisgrifir Cymru yn aml fel gwlad y gân. Ond ym mha le dechreuodd ein traddodiad cerddorol, a sut y datblygodd?

Mae ein harddangosfa newydd – ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’ yn archwilio traddodiad cerddorol Cymru ar hyd y canrifoedd; o’r crwth i’r Cyrff, drwy ddefnyddio amrywiol eitemau o’r Archif Gerddorol Gymreig a’r Archif Sgrin a Sain.

Dyma Nia Mai Daniel o’r Archif Gerddorol i esbonio ymhellach …

 

 

Gwreiddiau
Er bod Cymru’n cael ei hadnabod fel ‘Gwlad y Gân’, does gennym ni ddim cof arbennig o weithiau cerddorol cynnar. Traddodiad llafar yw’n traddodiad gwerin, gyda thelynorion a baledwyr yn teithio ar hyd a lled y wlad, yn difyrru’r werin mewn marchnadoedd a thafarndai, gan gadw’r alawon ar eu cof.

Erbyn y ddeunawfed ganrif cofnodwyd alawon ar bapur, ac aeth nifer o bobl amlwg ati i gasglu’r rhain yn ddiweddarach; dim ond trwy waith diflino unigolion fel Nansi Richards, J Lloyd Williams a Meredydd Evans yr achubwyd a gofalwyd am ein traddodiad gwerin.

Mae sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906 a’r adfywiad yn y traddodiad gwerin yn yr 1970au, pan bu i ganu gwerin gyd-fyw ochr yn ochr â chanu poblogaidd, hefyd wedi cyfrannu’n fawr at ddiogelu’r traddodiad.

 

Merêd
Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natbylgiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith.

Casglodd Merêd a’i wraig Phyllis Kinney ganeuon a oedd wedi bod mewn perygl o ddiflannu, a chredai nad oedd modd i’r traddodiad dyfu ac addasu heb roi bywyd i’r caneuon hynny a ddarganfyddodd yn y llawysgrifau a’r sgorau hynafol.

Yn ogystal â’i waith fel casglwr, roedd Merêd hefyd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954. Am ddegawd o 1963 ef oedd pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i greu rhaglenni adloniant ysgafn Cymreig hynod boblogaidd.

 

Chwyldro
“Mae’n hen bryd cael mwy o ganu eithafol yng Nghymru heddiw, mwy o sgrechfeydd a drwmiau gwyllt…” oedd geiriau un o aelodau’r grwp roc Cymraeg cyntaf, Y Blew, a ffurfiwyd yn 1967.

Roedd Cymru’r 60au a’r 70au yn wlad a welodd gyffro gwleidyddol yn ogystal â cherddorol. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Ond yr hyn a wthiodd cerddoriaeth bop Cymraeg yn ei blaen oedd y gân brotest. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd a’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.

Erbyn yr 1980au daeth to newydd o fandiau a labeli recordio i’r wyneb, rhai a oedd yn creu sŵn gwahanol iawn i’r pop a arferwyd ei glywed ar lwyfannau a thonfeddi radio’r wlad. Roedd bandiau fel Anhrefn, Datblygu, Llwybr Llaethog a’r Cyrff yn arbrofol ac yn chwyldroadol.

 

Gorwelion
Yn ystod yr 1990au roedd llawer o fandiau yn canu caneuon yn yr iaith Gymraeg yn ogystal â chynhyrchu cerddoriaeth yn Saesneg, fel Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s Zygotic Mynci. Cafodd eu cerddoriaeth ei glywed gan gynulleidfa ehangach, a arweiniodd at ddiddordeb cynyddol yn yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar draws y byd.

Erbyn yr 1990au hwyr a dechrau’r unfed ganrif ar hugain, roedd yr iaith Gymraeg yn cael ei chyfleu trwy sawl arddull gwahanol, o hip hop, reggae a ska ac yn ôl i wreiddiau’r traddodiad gwerin.

Heddiw, mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghymru yn fyw ac yn iach, gyda thoreth gyfoethog o artistiaid talentog yn ysgrifennu, recordio a pherfformio yn y Gymraeg a mwy nag erioed o labeli annibynnol yn gweithio i ryddhau recordiau Cymreig.

 

Mwy o wybodaeth am arddangosfa RECORD: Gwerin, Protest a Phop (22 Mehefin 2019 – 1 Chwefror 2020)

Postiwyd - 07-06-2019

Collections / Stori Cymru

Llenyddiaeth Stryd: Almanaciau Cymraeg

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

 

Almanaciau oedd hoff ddeunydd darllen siaradwyr uniaith Gymraeg o ddechrau’r 17eg ganrif.

Roedd llenyddiaeth fforddiadwy fel yr almanac yn boblogaidd gyda’r dosbarthiadau is, a oedd yn ffurfio rhan fwyaf poblogaeth Cymru. Rhwng c. 1545 a 1801, gwelwyd cynnydd aruthrol ym mhoblogaeth Cymru – a dweud y gwir, gwelwyd e’n mwy na dyblu. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn siaradwyr uniaith Gymraeg.

Ond beth yn union yw almanac, a beth drodd hwn yn gymaint o ffefryn?

Nodwedd ddiffiniol yr almanac yw ei galendr blynyddol, ac yn hynny o beth, mae’n ei hanes yn dyddio’n ôl ymhell cyn y wasg brintiedig. Roedd y Dwyrain agos yn cynhyrchu testun a ystyrir i fod yn almanaciau mor bell yn ôl â 500BC. Fodd bynnag, dim ond ar ôl datblygiad argraffu tyfodd yr almanaciau yn eu poblogrwydd.

Cynhyrchwyd yr almanac cyntaf, yn Ewrop yn 1457. Argraffwyd almanaciau blynyddol yn Lloegr o ddiwedd yr 16eg ganrif, ac mi ddatblygont i fod yn werthwyr arbennig yn ystod y canrifoedd dilynol. Dilynodd yr almanac Cymraeg cyntaf yn fuan wedyn.

 

 

Mae stori’r almanac Cymraeg yn dechrau gyda Thomas Jones (1648-1713), mab i deiliwr o Dre’r Ddôl ger Corwen.

Yn 1679, pan yn 18 mlwydd oed, derbyniodd batent ar gyfer ysgrifennu a chyhoeddi almanac cyfrwng Cymraeg blynyddol. Cyhoeddwyd y rhain yn Llundain, o dan y teitl ‘Newyddion Oddi Wrth y Ser’.

Roedd almanaciau Jones rhwng 20 a 24 dalen o hyd. Roeddent yn cynnwys, ynghyd â chalendr blynyddol arferol, deunydd a luniwyd ar gyfer ei gynulleidfa.

Roedd yr almanaciau cyntaf yn cynnwys:

  • Adroddiadau tywydd a chyfnodau’r lleuad
  • Rhestr o farchnadoedd a ffeiriau
  • Canllawiau seryddol a darlleniadau
  • Gwyliau Cristnogol
  • Tablau’r llanw
  • Canllawiau darllen iaith Gymraeg
  • Enghreifftiau o lenyddiaeth Gymraeg a barddoniaeth
  • Cronoleg o ddigwyddiadau hanesyddol
  • Hysbysebion amrywiol

 

 

Roedd almanaciau Jones yn adnoddau defnyddiol ar gyfer y werin Gymreig, yn arbennig ffermwyr; ystyriwch er enghraifft, eu deunydd yn ymwneud â’r amgylchedd a’r tywydd. Roedd y nodweddion seryddol hefyd yn bwydo eu credoau ofergoelus. Roedd Jones yn adnabyddus fel cefnogwr ysgrifenwyr Cymreig, amatur, ac roedd yn cynnig llwyfan printiedig iddynt trwy ei almanac.

Roedd almanac Thomas Jones yn unigryw tan 1695, pan ddoeth y ddeddf Argraffu (a oedd wedi cyfyngu cyhoeddi llyfrau i Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt) i ben. O hynny ymlaen lledodd y diwydiant argraffu trwy Lloegr a Chymru, gan sbarduno cynnydd yn nifer y teitlau almanaciau Cymraeg. Mi arhosodd eu cynnwys serch hynny, yn agos iawn at fformat gwreiddiol Jones.

Mae’r almanac Cymraeg yn aros ar wahân i’w gefndryd Ewropeaidd. Roedd eu cynnwys yn amrywio o wybodaeth feddygol almanaciau canoloesol Lloegr i ddosraniad gweinyddol Ffrainc; fel yr ymddangosodd yn ‘Royal Almanac’ Ffrainc, a sefydlwyd yn 1683. Cynhwysir ‘Barbanera’ yr Eidal (a gyhoeddwyd gyntaf yn 1762) ar gofrestr Cof y Byd UNESCO, sy’n rhoi argraff glir o werth yr almanac.

Yn sicr nid yw’r almanac Cymraeg yn eithriad. Mae’n adnodd pwysig, nid yn unig yn nhermau hanes llenyddol, brodorol a chymdeithasol, ond hefyd fel gwaith o bwys treftadol arbennig.

Steffani W Davies, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog