Blog

Mervyn Burtch a’r Great Wine Gum Robbery

Casgliadau / Cerddoriaeth - Postiwyd 31-08-2021

Yn enedigol o Ystrad Mynach yn Nyffryn Rhymney, roedd Mervyn Burtch (1929-2015) yn athro a chyfansoddwr, ei waith yn cynnwys nifer eang o genres gan gynnwys operâu, concerti, darnau llinynnol, gweithiau i fandiau pres, a corawl. Yn ystod cyfnod o ryw drigain mlynedd cynhyrchodd a threfnu tua 650 o weithiau, cyfran sylweddol ohonynt ar gyfer grwpiau cymunedol, plant a ffrindiau. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru.

Mynychodd Mervyn Burtch Ysgol Ramadeg Lewis ym Mhengam lle dysgodd cerddoriaeth gan David Wynne (1900-1983), un o gyfansoddwyr mwyaf arwyddocaol Cymru. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, ac yn ddiweddarach sicrhaodd swydd Pennaeth Cerdd yn Ysgol Lewis i Ferched. Ym 1979 ymunodd â staff Coleg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd (Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru bellach). Fe’i gwnaed yn Gymrawd y Coleg yn dilyn ei ymddeoliad ym 1989, ac enillodd yr M.B.E yn 2003 am ei wasanaethau i gerddoriaeth ac addysg yng Nghymru a gweithio fel Llywydd ‘KidsOp’.

Fel Cyfarwyddwr Rhaglen Opera i Ysgolion Coleg Cerdd a Drama Cymru, cynhyrchodd weithiau fel The Pied Piper ac Alice in Wonderland, rhai eraill gyda theitlau gwych fel The Dragon of Abercwmgoch; Percy the Martian; The Great Wine Gum Robbery; a Fred Fish and the Weather Bureau. Rhai o’i weithiau mwyaf arwyddocaol oedd y Concerti a’r ddau ar bymtheg cylch i bedwarawd llinynnol a gyfansoddodd yn ystod y cyfnod 1985 a 2013.

Priododd ei wraig Rita Jones pan oedd yn 74 oed. Yn dilyn salwch hir, bu farw Mervyn Burtch ar 12 Mai 2015, yn 85 oed. Cynhaliwyd ei wasanaeth angladdol yn Amlosgfa Thornhill, Caerdydd ar Fai 27. Crëwyd Ymddiriedolaeth Mervyn Burtch gyda’r pwrpas o addysgu a hyrwyddo gwerthfawrogiad y cyhoedd yng ngherddoriaeth Mervyn Burtch ac i addysgu’r cyhoedd am fywyd Mervyn Burtch.

Trosglwyddwyd ei sgoriau llawysgrif gan ei weddw i Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn 2019 ac mae catalog o’r 27 blwch hyn i’w gweld yma: Mervyn Burtch Music Manuscripts. Mae papurau yn ymwneud â Mervyn Burtch hefyd yn archifau Daniel Jones, Alun Lewis, Peter Reynolds ac Alun Hoddinott yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Mae llawer o’r sgoriau rhannau offerynnol (llawysgrif a chopïau) yn cael eu cadw yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dilynwch y ddolen hon i gael gwybodaeth am Archifau cyfansoddwyr Cymru a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Robert Evans
Swyddog Prosiect Yr Archif Gerddorol Gymreig

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau:

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog