Blog

Mapiau, celf a dadgoloneiddio

#CaruMapiau / Arddangosfeydd - Postiwyd 05-02-2024

Mae’r blog hwn yn un o gyfres i ddathlu ein harddangosfa Cymru i’r Byd: mapiau o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd ar agor ar hyn o bryd yn oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd, tan 24 Chwefror 2024. Mae pob blog yn canolbwyntio ar ddetholiad o eitemau â gysylltir â thema gyffredin. Y tro hwn, rydym am edrych ar fapiau sydd â chysylltiad â choloneiddio a chaethwasiaeth.

Yn 2023, comisiynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) pedwar artist o liw i greu gweithiau celf newydd yn ymateb i’w casgliadau. Tyfodd dau o’r prosiectau hyn o eitemau sydd o fewn y casgliad mapiau, gyda phwyslais arbennig ar hanesion anodd o gaethwasiaeth a choloneiddio. Cafodd y prosiect hwn ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

 

Beth sydd ddim ar y map?

Cafodd Mfikela Jean Samuel, artist a siaradwr ar gyfiawnder hiliol, ei eni yn Shisong-Kumbo yng ngogledd-orllewin Camerŵn, ac mae’n byw yng ngogledd Cymru erbyn hyn. Mae Mfikela’n gweithio gyda phaent acrylig ac olew ac yn cael ei ysbrydoli gan ei dreftadaeth a’i linach yn ogystal â themâu hanesyddol ehangach. Mae gwaith newydd Mfikela’n ymateb i fap gan ‘Central Office of Information’ (COI) Llywodraeth Prydain sy’n dangos gwledydd trefedigaethol Prydain yng ngorllewin Affrica yn y 1940au.

 

 

Roedd gan y COI gyfrifoldeb i greu ymgyrchoedd gwybodaeth am bopeth o iechyd ac addysg i drafnidiaeth a gofal plant. Mae’r map hwn yn canolbwyntio ar gynhyrchion o ddefnydd i Brydain yn eu trefedigaethau yng ngorllewin Affrica. Dim ond yr ardaloedd o dan reolaeth Prydain sy’n cael eu dangos mewn unrhyw fanylder.

 

 

Meddai Mfikela am y gwaith: ‘Mewn ymdrech i gwmpasu amrywiaeth y cyfandir, rydw i wedi cynnwys elfennau sy’n cael eu hysbrydoli gan bob prif ardal o Affrica. Rwyf yn bwrpasol wedi dewis delweddau o pharaoid o’r Aifft a mygydau traddodiadol o ardaloedd amrywiol. Mae’r symbolau hyn yn cynrychioli’r dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’ wedi goroesi er gwaethaf yr ymyriad coloneiddio, ac sydd yn dangos gwydnwch a chryfder cymdeithas Affricanaidd.

Ymddiddan gweledol yw’r gwaith celf sydd yn gwahodd y gwyliwr i holi hanesion gosodwyd gan bwerau coloneiddio. Mae’n herio’r syniad bod Affrica’n gwrthrych goddefol o wladychiad. Yn lle, mae’n pwysleisio’r gweithrediad a gwrthwynebiad sydd wedi bodoli yno drwy hanes. Trwy blethu’r mapiau efo’r symbolau diwylliannol hyn, rydw i’n anelu at doddi’r olygfa un-dimensiwn rhoddwyd ar Affrica a’i phobl.’

 

Caethwasiaeth ac Ystâd Slebech

Graddiodd Jasmine Violet o Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 2020. Artist rhyngddisgyblaethol ydy Jasmine, sydd yn gweithio gyda ffotograffiaeth, argraffu cyanotype, dyfrlliw ac olewau i archwilio themâu o hunaniaeth, yr isymwybod ac iechyd meddwl.

 

 

 

Creodd Jasmine ei gwaith mewn ymateb i gysylltiadau rhwng Cymru a Jamaica yn ystod y 18fed ganrif. Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol gofnodion o blanhigfeydd siwgr a phobl a chafodd eu caethiwo gan Nathaniel Phillips. Fe ddefnyddiodd Phillips y cyfoeth a greodd o’i blanhigfeydd Caribïaidd i brynu ystâd Slebech, pum milltir i ddwyrain Hwlffordd. Mae cofnodion y Llyfrgell yn cynnwys map o Pleasant Hill, un o blanhigfeydd Phillips, ynghyd â rhestr o’r bobl gaeth a oedd yn gweithio yno yn y 1760au.

 

 

Aeth Nathaniel Phillips (1733–1813), mab anghyfreithlon o fasnachwr siwgr yn Llundain, i Jamaica yn 1759 ac erbyn 1761 roedd wedi prynu hanner planhigfa Pleasant Hill. Roedd hanner y blanhigfa hefyd yn eiddo i Richard Swarton (–1762). Tua’r un cyfnod fe briododd Phillips â merch Swarton, sef Ann (–1767). Pan fu farw Swarton yn 1762, gadawodd Swarton ei ran o Pleasant Hill i Ann a’i disgynyddion. Yn ôl cofnod o Ystâd Slebech roedd Swarton yn rhannu perchnogaeth o 51 dyn, 29 fenyw, naw bachgen a saith merch. Roedd hefyd yn llawn berchen ar 10 menyw, wyth bachgen a saith o ferched eraill. Mae’r rhestr o enwau’r bobl gaeth yn goroesi yng nghasgliadau’r Llyfrgell.

 

 

Gan nad oedd hi’n bosibl i ferched briod berchen ar eiddo eu hun fe ddaeth y blanhigfa a’r rhai a gaethgludwyd yn eiddo i ŵr Ann, sef Nathaniel Phillips. Yn y 1760au, roedd disgwyl i’r 120 o bobl gaeth gynhyrchu 90,000 cilogram o siwgr a 30,000 litr o rỳm bob blwyddyn yn y blanhigfa. Pan ddychwelodd Phillips i Brydain gyda’r cyfoeth crëwyd o’r planhigfeydd yn 1789, prynodd Slebech Hall a oedd gydag ystâd o 600 erw, ger Hwlffordd. Pan adawodd Phillips Jamaica, roedd yn berchen ar 706 o bobl gaeth, a oedd yn werth £50,000. Roedd ei dir yn Jamaica hefyd yn werth £160,000 yn ychwanegol. Roedd e’n ymgyrchydd cryf yn erbyn diddymu masnach gaethweision yn yr 1790au trwy’r ‘Society of West India Planters and Merchants’. Pan gafodd caethwasiaeth ei ddiddymu yn yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1838, hawliodd cynrychiolwyr ar ran disgynnydd Phillips £3,599, pedwar swllt a phum ceiniog mewn iawndal am golled o eiddo. Derbyniodd y bobl gaeth dim un geiniog.

Mae gweithiau celf Mfikela a Jasmine, a’r mapiau â ysbrydolodd eu gweithiau, yn cael eu harddangos yn Cymru i’r Byd yn oriel Glan-yr-Afon, Hwlffordd, tan 24 Chwefror 2024.

 

Dolennau a darllen pellach

Mwy o wybodaeth am Mfikela Jean Samuel a Jasmine Violet [Saesneg].

Mae’r prosiect Legacies of British Slavery  [Saesneg] yn cynnwys gwybodaeth fanwl am berchnogion caethweision a’u hiawndal oddi wrth Lywodraeth Prydain.

Mae’r British Online Archive [Saesneg, dim ond ar gael ar safle LlGC] yn cynnwys gwybodaeth fanwl am  bapurau Slebech sydd o fewn y Llyfrgell Genedlaethol.

Gweler y blog hwn am fwy o fanylion am y map o Orllewin Affrica gan y COI a mapiau eraill o Affrica.

Gweler y blog hwn am wybodaeth bellach am gasgliadau’r Llyfrgell sydd yn ymwneud â Chymru a’r fasnach gaethweision.

Gweler y blog hwn i weld ambell eitem eraill sy’n cael ei harddangos yn yr arddangosfa Cymru i’r Byd.

 

Ellie King

Curadur Cynorthwyol Mapiau

 

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog