Blog

“Mae digideiddio wedi gwneud gwahaniaeth mawr…byddai darllen cannoedd o bapurau newydd yn cymryd llawer o amser”

Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 26-05-2016

Yng ngeiriau cân y Manic Street Preachers, rhoddodd llyfrgelloedd bwer i ni, ond beth sy’n digwydd yn wirioneddol y tu ôl i’r silffoedd llyfrau ym mhwerdy diwylliannol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

O nofelwyr i achyddion, myfyrwyr PhD a beirdd, siaradom â rhai o ddarllenwyr niferus ac amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gael gwybod beth a wnânt y tu ôl i’r silffoedd llyfrau.

Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru a chynhyrchydd, cyfarwyddwr a chyflwynydd teledu.

“Ar hyn o bryd dw i’n gweithio ar lyfr seiliedig ar adnodd unigryw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; casgliad helaethaf y byd o lythyrau yn Gymraeg,  wedi’u hysgrifennu yn rhan gynta’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae casgliad diddorol iawn o tua 60 o lythyrau wedi’u hysgrifennu gan Gapten Dafydd Jones o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ladd yng Nghoedwig Mametz.

Mae’r llyfr a ysgrifennaf yn rhannol ffeithiol, hanesyddol ac yn rhannol fel ymateb personol a llyfr taith, gan fy mod yn ymweld â’r holl leoedd yr aeth Capten Jones iddynt a’u disgrifio yn ei lythyrau, gan ddechrau mewn gwesty yn y Rhyl, un o’r lleoedd y codwyd bataliynau Cymreig a’u hyfforddi. Yn ei lythyrau cyntaf mae’n ymddiheuro i’w rieni am adael ei radd ym Mhrifysgol Aberystwyth i ymuno â’r Fyddin, ond dyna wnaeth y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr ar y pryd. Dw i tua hanner ffordd trwy’r daith a’r ail hanner fydd y daith i’r Somme. Nid yw ymchwilio i’r lleoliadau yn dasg gwbl hawdd gan fod sensoriaeth i’r llythyrau yn golygu bod llawer o’r union leoliadau wedi cael eu tynnu allan.

“Y tro cyntaf i mi ddod ar draws y llythyrau oedd pan oeddwn yn gweithio ar raglen i S4C yn 2008 o’r enw ‘Lleisiau o’r rhyfel mawr’” a gwelais bod y llythyrau hyn yn un o gasgliadau helaethaf y cyfnod.

“Mae ymchwilio a galw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wastad yn ddiddorol, a dw i wedi gwneud llawer o waith yno yn y gorffennol gan ddefnyddio’r archif sgrîn wrth ymchwilio i’r ffilm gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr. Fodd bynnag mae’n rhaid i mi ddweud ers digideiddio a chael yr adnoddau yno ar-lein yn ddiweddar, mae’r broses fynediad yn haws o lawer. Nid yn unig mae’n golygu nad oes rhaid i mi deithio i lawr o Gaernarfon, ond mae’r cyfleuster chwilotair yn golygu nad oes rhaid i mi dyrchu’n gorfforol trwy gannoedd o gopïau o’r Carmarthen Journal yno i ddod o hyd i enw’r Capten Jones, a fyddai’n cymryd llawer iawn o amser.”

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog