Blog

Y Llychlynwyr yn Llenyddiaeth Gymraeg Ganoloesol

Collections / Stori Cymru - Postiwyd 07-02-2020

 

Pobl mordwyol oedd y Llychlynwyr a ddaeth i Ynysoedd Prydain rhwng tua’r 8fed a’r 11eg ganrif, yn bennaf o Norwy a Denmarc yn Sgandinafia. Daethant a thrais a dinistr, ond hefyd daethant a’u diwylliant – eu sgiliau, eu crefydd, a’u iaith. Daethant yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ganoloesol, gan gynnwys sawl llawysgrif sydd ar gadw yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Beth a ddenodd y Llychlynwyr o Sgandinafia i Gymru? Mae’n bosib fod y Llychlynwyr a ddaeth i Gymru yn chwilio am dir ffrwythlon a nwyddau i’w masnachu. Roedd arfordir Cymru yn ran o lwybr arfordirol o Sgandinafia, gan deithio drwy Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch, Yr Alban, Iwerddon, gogledd-ddwyrain Lloegr ac Ynys Manaw i Gymru. Roedd cyrchoedd cyntaf y Llychlynwyr yng Nghymru yn targedu lleoedd amlwg ar yr arfordir, a daeth canolfannau eglwysig yn dargedau poblogaidd. Disgrifiwyd y cyrchoedd hyn ar ddiwedd y 13eg/dechrau’r 14eg ganrif ym Mrut y Tywysogion, sy’n rhoi darlun apocalyptaidd o ddinistrio Tyddewi (Mynyw) mewn cyrch yn 810.

‘Deg mlynedd ac wythcant oed oet Krist pan duawd y lleuad duw Nadolic. Ac y llos[get] Mynyw. Ac y bu varwolaeth ar yr ysgrubyl yn holl ynys Brydein.’

Wyth cant a deg oedd blwyddyn oed Crist pan dywyllodd y lleuad ar Ddydd Nadolig. A llosgwyd Mynyw. A bu marwolaeth ar holl anifeiliaid Prydain.’

(Brut y Tywysogion, NLW MS Peniarth 20, t. 67)

Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth ymosodiadau’r Llychlynwyr o’r môr yn fwyfwy cyffredin wrth i Gymru gael ei rhoi ar fap y Llychlynwyr a sefydlwyd treflannau Llychlynnaidd parhaol yn Iwerddon. Roedd y Llychlynwyr hefyd yn awyddus i hawlio tiroedd yng Nghymru. Dywed yr Annales Cambriae, a ysgrifennwyd yn gynnar yn y 12fed ganrif, i Llychlynnwr o’r enw Ingimundr ddod i Ynys Môn a meddiannu tir mewn lle o’r enw Maes Osfeilion; mae Liber Landavensis (Llyfr Llandaf) o’r 12fed ganrif yn disgrifio sut bu’r brenin Cymreig Gruffudd ap Llywelyn yn gwrthsefyll ymosodiadau Llychlynnaidd o Denmarc, Ynysoedd Erch, ac Iwerddon. Erbyn diwedd yr 11eg ganrif roedd cysylltiadau Gwyddelig-Llychlynnaidd mor sefydledig nes fod un arall o arweinwyr Cymru yn medru ymdrechu i hawlio tras Llychlynnaidd. Mae Historia Gruffud vab Cynan o’r 13eg ganrif a’i ragflaenydd Lladin Vita Griffini filii Conani yn ymgais i olrhain achres y brenin Cymreig Gruffudd ap Cynan (m.1137) yn ôl i hen frenhinoedd Norwy. Dioddefodd Gruffudd ei hun fwy na’i siâr o drafferth gyda’r Llychlynwyr; yn 1098 fe’i fradychwyd gan ei lynges Wyddelig-Lychlynnaidd ei hun yn dilyn ymosodiad ar Wynedd gan yr ieirll Normanaidd Hugh o Gaer ac Hugh a’r Amwythig. Ar yr un pryd, roedd y brenin Norwyaidd Magnús Berfœtr yn ymosod ar Ynys Môn, ac yn ôl y ffynonellau uchod, lladdwyd Hugh o’r Amwythig gan Magnús  pan saethodd ef yn ei lygad.

 (Liber Landavensis, f.109v)

Roedd gan Gruffudd ap Cynan hefyd duedd i gyrchu mewn modd Llychlynnaidd. Mae Vita Sancti Gundleii (Buchedd Sant Gwynllyw) , a grynhowyd gyntaf yn y 12fed ganrif, yn disgrifio sut y casglodd Gruffudd lynges Wyddelig-Lychlynnaidd at bwrpas môr-ladrad. Wedi glanio yn aber yr afon Wysg, ymosodwyd ar eglwys Sant Gwynllyw, ond pan ddychwelsant fe ddinistriwyd eu llynges a bu bron i Gruffudd gael ei ladd mewn storm ofnadwy, efallai wedi ei danfon yn gosb gan Sant Gwynllyw ei hun. Mae’r syniad hwn o gosb yn cyd-fynd a’r disgrifiad apocalyptaidd o gyrch Llychlynnaidd ym Mrut y Tywysogion, ac nid yw’n syndod; doedd dim rheswm gan fynachlogydd i gyflwyno’r Llychlynwyr mewn goleuni ffafriol, a hwythau yn brif dargedau i’r Llychlynwyr yn ogystal â bod yn gynhyrchwyr o hanesion ysgrifenedig. Oherwydd hyn, a’r bwlch mewn amser rhwng y cofnodion a’r digwyddiadau a ddisgrifir, mae’n rhaid i ni gwestiynu pa mor ddibynadwy ydynt.

Mae hyn yn amlygu un o’r prif wahaniaethau diwylliannol rhwng y Llychlynwyr a’r Cymru – eu crefydd. Yn ystod Oes y Llychlynwyr, nid oedd Denmarc na Norwy wedi cael tröedigaeth lawn i Gristnogaeth, ac felly byddai llawer o’r ymwelwyr wedi bod yn ddilynwyr crefydd paganaidd Llychlynnaidd. Gellir gweld tir diwylliannol cyffredin drwy astudio ffynonellau llenyddol eraill. Roedd y traddodiad barddol canoloesol skald yn Norwy yr un mor hen a datblygedig a’r gogynfeirdd yng Nghymru, ac roedd beirdd yn aml yn bresennol ar achlysuron pwysig ac yn rhoi adroddiadau cyfoesol o’r digwyddiadau. Cyfansoddodd y bardd Meilyr farwnad i Gruffudd, Marwnad Gruffudd ap Cynan, ac mae’r detholiad isod yn rhoi darlun cryf o ryfel:

‘Gwern gwygid, gwanai bawb yn ei gilydd,
Gwaed gwŷr goferai, gwyrai onwydd.’

Malwyd gwaywffyn, rhuthrodd pawb at ei gilydd,
Llifodd gwaed rhyfelwyr, gostyngodd gwaywffyn ynn’

(Marwnad Ruffut ab Kynan, NLW MS 6680B (Llawysgrif Hendregadredd), f1.r)

Yn yr un modd, mae Gisl Illugason, bardd Magnús Berfœtr, yn tystio i’r hyn a welodd a’i lygaid ei hun wrth ddisgrifio marwolaeth Hugh o’r Amwythig yn ei Erfikvæði (marwnad) i Magnús. Mae’r beirdd yn cyfleu delweddau byw tra’n dilyn ffurf mydryddol gaeth; roedd Meilyr yn dilyn cyhydedd naw ban y gynghanedd, tra dilynai Gisl y ffurf Llychlynnaidd fornyrðislag (‘ffurf-iaith-hen’). Cwynodd Iolo Morganwg, y bardd a’r hynfiaethydd o’r 18fed ganrif, fod hen farddoniaeth Llychlynnaidd yn llawn o gymeriadau treisgar a theimladau ffyrnig, termau sydd hefyd yn berthnasol i farddoniaeth Meilyr. Efallai mai yma mae’r Llychlynwyr a’r Cymry yn rhannu diddordebau llenyddol.

Yn ôl y Brut, roedd cyrch Magnús Berfœtr i Ynys Môn yn 1098 yn un o ymosodiadau diwethaf y Llychlynwyr yng Nghymru. Nid yw olion llenyddol y Llychlynwyr yng Nghymru yn amlwg bob tro, ond mae’r etifeddiaeth yn parhau, nid yn unig mewn llawysgrifau, ond mewn ffurfiau mwy cyfarwydd, beunyddiol megis enwau lleoedd. Er mor gyfarwydd ydynt, mae’n hynnod meddwl ein bod yn byw ochr yn ochr a’r treftadaeth Llychlynnaidd hwn a ddaethpwyd i Gymru bron i fil o flynyddoedd yn ôl.

Lucie Hobson

Archifydd dan Hyfforddiant

Ffynonellau:

Annales Cambriae, A.D. 682-954: Texts A-C in Parallel, gol. & chyf. gan David N. Dumville (Caergrawnt: ASNC, 2002)

Brut y Tywysogion or The Chronicle of the Princes: Peniarth MS 20 Version, cyf. Thomas Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1952)

Historia Gruffud vab Kenan, gol. D. Simon Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1977)

Jesch, Judith, ‘Norse Historical Traditions and Historia Gruffud vab Kenan: Magnús berfœtr and Harald hárfagri’, yn Gruffudd ap Cynan: A Collaborative Biography, gol. K. L. Maund (Woodbridge: Boydell, 1996), tt. 117-148

Vita Griffini filii Conani, gol. & chyf. Paul Russell (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)

Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogie, gol. & chyf. A. W. Wade-Evans (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1944)

Williams, J. E. Caerwyn, ‘Meilyr Brydydd and Gruffudd ap Cynan’, yn Gruffudd ap Cynan: A Collaborative Biography, gol. K. L. Maund (Woodbridge: Boydell, 1996), tt. 165-186

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog