Llawysgrifau Peniarth: cynhaeaf cymysg
Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 15-10-2018
Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y grŵp cyntaf o Lawysgrifau Peniarth a ddigidwyd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i gyflwyno holl gynnwys y casgliad ar-lein.
Yr wythnos hon, gyda’r Llyfrgell yn dathlu eitemau a chasgliadau sydd wedi eu cynnwys ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan adain UNESCO, mae’n bleser cyhoeddi fod delweddau 25 llawysgrif arall o Gasgliad Peniarth newydd ymddangos ar ein gwefan. Dyma nhw, wedi eu dosbarthu fesul cyfnod:
O’r bedwaredd ganrif ar ddeg, fe groesawn lawysgrif Gymraeg 190, sy’n cynnwys testunau crefyddol megis Lucidar ac Ymborth yr Enaid, ynghyd â dwy lawysgrif gyfreithiol Seisnig, 328 a 329, yr ola’n cynnwys testun y Magna Carta.
O ddechrau’r bymthegfed ganrif, croesewir testunau crefyddol Lladin a Saesneg 334. O ganol y ganrif honno, wele, lawysgrif Ladin o Rydychen 336, sy’n cynnwys gwaith Petrarch, ynghyd â thestun pwysig Gwassanaeth Meir yn 191. Mae’r cnwd yn fwy toreithiog yn ail hanner y ganrif, gyda llawysgrif 175 o Gyfraith Hywel yn ymddangos am y tro cyntaf, ynghyd â chalendr yn llaw Gutun Owain (186), a cherddi yn llaw Huw Cae Llwyd (189).
Yn ofer y chwiliais am gynnyrch dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond fe gynrychiolir ail hanner y ganrif honno’n helaeth gan lawysgrifau Roger Morris, Coed-y-talwrn (169), Thomas Evans, Hendreforfudd (187), Thomas Wiliems y geiriadurwr (188), Simwnt Fychan (189), a thestun arall o Gwassanaeth Meir (192). Nac anghofier hefyd yr achau a geir yn 193, a’r testunau meddygol yn 184, 206 a 207.
Ni fyddai Robert Vaughan yn esgeuluso casglu llawysgrifau ei oes ei hunan, wrth reswm, ac o’r ail ganrif ar bymtheg, cyhoeddir casgliad cywyddau ac englynion 184, gramadegau a geirfâu yn llaw John Jones, Gellilyfdy (295, 296, 302, 304 a 305), a llawysgrifau yn llaw Robert Vaughan ei hunan (180 a 185).
Ac yna, ar ei phen ei hun megis, un llawysgrif yn unig o’r ddeunawfed ganrif, sef pregethau Cymraeg 324, efallai o sir Drefaldwyn.
Am restr gyflawn o holl lawysgrifau Peniarth sydd ar gael yn ddigidol, gweler y dudalen Casgliad Peniarth a neilltuir i’r casgliad ar ein gwefan. Ac mae’n braf gallu dweud fod y gwaith o ddigido’n parhau, diolch i’n digidwyr dyfal!
Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English