Blog

Liber Landavensis: Llyfr Llandaf

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 26-05-2020

Naw can mlynedd yn ôl, ym mis Mai 1120, trosglwyddwyd esgyrn Dyfrig, sant o’r chweched ganrif, o Enlli a’u hailgladdu yn Llandaf, lle ‘roedd yr esgob Urban wrthi’n ailadeiladu a helaethu’r eglwys i adlewyrchu beth oedd, yn ei dyb ef, ei phriod parch. Fel esgob Llandaf, ‘roedd Urban yn hawlio awdurdod dros bob eglwys a gysegrwyd i esgobion gwreiddiol a nawddseintiau Llandaf, sef Dyfrig, Teilo ac Euddogwy, ac fe gododd hyn anghydfod rhyngddo fe ac esgobion Tŷ Ddewi a Henffordd, yr oeddent yn israddol iddo yn ei lygaid ef. Bwriad trosglwyddo creiriau Dyfrig i Landaf oedd i gryfhau achos Urban, ond canolbwynt ei ymgyrch oedd Liber Landavensis, Llyfr Llandaf, sydd yn un o drysorau’r Llyfrgell erbyn hyn. Trwy hon, cawn weld sut y chwaraeodd honiadau uchelgeisiol Urban ran pwysig mewn ailddiffinio nid yn unig yr eglwys yng Nghymru ond ei pherthnasau gyda’r eglwys yn Lloegr a hefyd gyda’r pab.

Rhoddwyd cynnwys y llawysgrif at ei gilydd gyda’r bwriad o ddangos bod Llandaf yn meddu ar statws archesgobaethol, bod awdurdod uniongyrchol ganddi dros yr eglwys o’r Tywi hyd y Gwy (ardal cyfatebol yn fras i hen deyrnas Morgannwg) a bod ei thraddodiad yn ddi-dor ers Dyfrig, gan feddiannu traddodiadau eglwysi eraill yn y broses o wneud hyn. Mae hi’n dyddio rhwng tua 1120 a marwolaeth Urban ym 1133 (er yr ychwanegwyd deunydd eraill wedyn), ac ymhlith ei chynnwys y mae Efengyl Mathew Sant, ‘Bucheddau’ Dyfrig, Teilo, Euddogwy a saint eraill, ‘Braint Teilo’ yn Lladin ac yn Gymraeg, hanes sefydlu Llandaf, rhestr o’i hesgobion, a chopiau anghyflawn neu llygredig o siarteri rheolwyr seciwlar yn rhoi tiroedd i Landaf o’r chweched ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae rhywfaint o ddeunydd cyfoes hefyd, yn cynnwys copi o’r cytundeb a wnaethpwyd ym 1126 rhwng Urban a Robert o Gaerloyw, arglwydd Morgannwg, yn atal ymosodiadau ar feddiannau bydol yr esgobaeth. Fel arfer yn achos propaganda, mae Liber Landavensis yn cynnwys cymysgedd o ffaith, ensyniad a ffuglen sydd yn aml yn anodd i’w dadblethu.

 

 

Ymatebodd Tŷ Ddewi trwy greu ei phropaganda ei hun, gan honni statws archesgobaethol dros Gymru gyfan a chan adolygu ‘Buchedd Dewi’ Rhigyfarch o’r unfed ganrif ar ddeg fel bod Dewi yn mynd yn uwchradd i Deilo a bod unrhyw gyfeiriad at ei gysegru gan Ddyfrig yn cael ei ddileu, ond nid yng Nghymru y penderfynwyd y mater. Golygai grym cynyddol yr eglwys Eingl-Normanaidd a’r pabaeth diwygiadol bod cydnabyddiaeth y pab ac archesgob Caergaint yn allweddol i lwyddiant achos Llandaf, a mae’r llawysgrif yn dogfennu yn ofalus sut yr aeth Urban ati i geisio cyflawni hyn. ‘Roedd arno ddyled i’r Normaniaid am gael ei swydd; o gael ei benodi gan Harri I a’i gysegru gan yr archesgob Anselm ym 1107, ‘roedd e’n un o’r esgobion cyntaf yng Nghymru i gael ei sefydlu gan awdurdodau tu allan i Gymru, a fe oedd yr un cyntaf y gwyddwn iddo dyngu llw o ufudd-dod i Gaergaint. Mae Liber Landavensis yn adlewyrchu’r realaeth newydd hon, gan honni (yn anghywir) ym ‘Muchedd’ Euddogwy bod Llandaf wedi bod yn ostyngedig i Gaergaint ac yn ufudd i frenhinoedd Lloegr ers amser Awstin Sant, a bod ei harferion yr un fath ag eiddo’r Saeson. Yn yr un modd, ‘roedd gweithgareddau Urban mewn materion eglwysig ar lefel Ewropeaidd yn beth newydd i esgob o Gymru. Mynychodd Gyngor Rheims ym 1119, lle apeliodd am y tro cyntaf i’r pab Calixtus II i gydnabod statws Llandaf; derbyniodd y Cardinal John o Crema, legad cyntaf y pab y gwyddwn iddo ymweld â Chymru, ym 1125; mynychodd Gynghorau San Steffan ym 1125 a 1127, a cymerodd ran mewn cysegru esgobion yn Lloegr; aeth â’i anghydfod gyda Tŷ Ddewi at lys y pab yn bersonol ym 1128 a 1129; a fe farwodd yn yr Eidal tra’n dilyn achos arall. Mae Liber Landavensis yn cofnodi hyn i gyd o’r bron, yn cynnwys copiau o lythyron y pabau a hanesion am y Cynghorau ac am deithiau Urban i Rufain.

Calonogwyd Urban gan ddyfarniad dros dro o’i blaid gan y pab Honorius II ym 1128, ond collodd ei achos yn y pen draw. ‘Roedd e wedi bod yn ymhongar – nid oedd Llandaf wedi bod yn eglwys o bwys ond ers rhyw ganrif, ac Urban ei hun oedd y cyntaf o esgobion Morgannwg i ddefnyddio teitl esgob Llandaf – ond ‘roedd e wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol. O ganlyniad i’w uchelgais, enillodd Tŷ Ddewi yr anghydfod am ffiniau a sefydlodd ei hun fel y prif esgobaeth yng Nghymru, tynhaodd Caergaint ei gafael ar esgobaethau Cymru, a rhoddwyd hwb newydd i eglwyswyr Lloegr i fynd â’u cwynion at lys y pab. Mae Liber Landavensis yn tystio i weledigaeth Urban, a’i fethiant hefyd.

Mae copi digidol o’r llawysgrif ar gael ar wefan y Llyfrgell, yn datgelu testun nad oedd yn weladwy cyn i’r gyfrol gael ei hailrwymo yn 2007.

 

Dr David Moore (Archifydd)

 

Llun

Delwedd efydd Crist ar glawr y llawysgrif; dim ond y clawr hwn sy’n goroesi o’r cloriau derw gwreiddiol. Cysylltiwyd y ddelwedd â’r clawr, yn ôl pob tebyg, yn fuan ar ôl iddi gael ei gwneud yn Lloegr yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Cedwir y cloriau ar wahân erbyn hyn.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog