Lansio Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig
Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 22-09-2017
Roedd Phyllis Kinney ynghyd â’i merch Eluned yn bresennol yn y lansiad Dydd Gwener ac fe wnes i Maredudd ap Huw roi cyflwyniad i’r Bwrdd am y casgliadau cerddorol sydd yma a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Canodd aelodau o Gôr y Gen (staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ddetholiad o ganeuon gwerin yn ystod y lansiad.
Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn arbennig fod archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, sy’n cynnwys gwaith ymchwil oes i gerddoriaeth draddodiadol, wedi dod i’r Llyfrgell ac yn ddiolchgar i’r teulu am eu haelioni yn rhoi’r casgliad i ofal y Llyfrgell. Blaenoriaeth y Rhaglen hon fydd rhoi mynediad at yr adnodd newydd yma i bawb sydd am ddarganfod mwy am ganu gwerin, a chreu mynediad ato ar-lein mewn ffurf ddigidol. Mae archif Merêd a Phyllis yn adlewyrchu eu gwybodaeth eang am ganu traddodiadol ac yn arwain at astudiaethau pellach i gasgliadau eraill y Llyfrgell megis casgliadau J Lloyd Williams (un o sylfaenwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru) a Maria Jane Williams, yr arloesydd cofnodi caneuon gwerin.
Yn ystod y dathliad dangosir fideo o Cerys Matthews yn rhoi cefnogaeth frwd i’r Archif Gerddorol Gymreig yn ystod ei hymweliad diweddar â’r Llyfrgell:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru nid yn unig yn gartref diogel i gerddoriaeth ysgrifenedig gynharaf a erys o Gymru, ond hefyd yn gasglwr cyfansoddiadau a pherfformiadau diweddaraf gan ein cerddorion cyfoes. Mae’n adnodd sydd yn tyfu’n gyson; ychwanegir deunydd yn rheolaidd at ein casgliadau cerddorol. Mae’r Llyfrgell yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig clasurol a ddaeth i fri rhyngwladol fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am
- Yr Archif Gerddorol Gymreig
https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/dysgwch-fwy/archifau/yr-archif-gerddorol-gymreig/
- a Cherddoriaeth draddodiadol Cymru.
Nia Mai Daniel,
Rheolwr Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig
Datganiad i’r Wasg
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English