Jiwbilïau yng Nghymru
Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 30-05-2022
Tra bod y Deyrnas Unedig yn dathlu Jiwbili Platinwm y Frenhines, mae’n gyfle i weld sut mae achlysuron tebyg wedi cael eu nodi yng Nghymru yn y gorffennol.
Adeiladwyd nifer o gofgolofnau trwy Brydain i ddathlu Jiwbili Aur Siôr III yn 1809, gan gynnwys y Bwa ger Pontarfynach, Ceredigion, a godwyd ar gyfer Thomas Johnes, casglwr llyfrau a pherchennog Gwasg Hafod. Codwyd hefyd Tŵr Jiwbili ar ben Moel Famau, Sir Fflint, sy’n cael ei ddisgrifio yn A history of the Jubilee Tower on Moel Fammau in North Wales gan R.J. Edwards. Mae’r ddau yn dal yn sefyll heddiw. Cyhoeddodd Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys eglwysi yng Nghymru bryd hynny) ffurfiau gweddi arbennig, yn Gymraeg a Saesneg, i ddiolch am hanner canrif o deyrnasiad y Brenin.
Cyhoeddwyd ffurfiau gweddi tebyg yn 1887 ar gyfer Jiwbili Aur y Frenhines Fictoria, a chynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin, gyda phregeth gan Esgob Tyddewi. Ddegawd yn ddiweddarach dathlodd Fictoria ei Jiwbili Diemwnt. Un o’r llyfrau a gyhoeddwyd i nodi’r achlysur hwn oedd The Queen’s Diamond Jubilee: illustrated record of Her Majesty’s reign and descriptive sketch of Aberdare, 1837-1897.
Mae’r casgliad a roddwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol gan Miss Margaret Davies o Gregynog, ger Y Drenewydd, yn cynnwys cofnod unigryw o Jiwbili Arian Siôr V yn 1935. Rhoddwyd llyfr i Miss Davies a’i chwaer Gwendoline gan aelodau corau Sir Drefaldwyn oedd yn canu o flaen y Brenin a’r Frenhines yn Neuadd Albert, er mwyn diolch i’r chwiorydd am eu cefnogaeth. Mae’r llyfr wedi’i lofnodi gan aelodau’r corau a’i rwymo’n gain.
Yr un nesaf i ddathlu Jiwbili Arian oedd y Frenhines bresennol. Dw i’n cofio sefyll fel plentyn wrth ochr y ffordd pan oedd hi a Dug Caeredin yn dychwelyd o wasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandâf yn 1977. Argraffwyd llyfryn hardd dwyieithog yn cynnwys trefn y gwasanaeth. Chwarter canrif yn ddiweddarach roedd y Frenhines yn dathlu Jiwbili Aur, ac ymysg digwyddiadau’r flwyddyn ymwelodd hi a Dug Caeredin â Gŵyl Ieuenctyd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Cyhoeddwyd llyfryn dwyieithog i ddathlu’r ymweliad.
Tybed pa gofnodion hanesyddol fydd yn cael eu hychwanegu at ein casgliadau ar ôl y dathliadau eleni?
Timothy Cutts
Llyfrgellydd Llyfrau Prin
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English