J.M.W. Turner, ‘Dolbadarn Castle’
Casgliadau / Digido - Postiwyd 27-07-2016
Carcharwyd Owain Goch ap Gruffydd am ugain mlynedd yn 1257 gan ei frawd Llywelyn ap Gruffydd / Llywelyn ein Llyw Olaf (Tywysog brodorol olaf Cymru) yng Nghastell Dolbadarn am wrthryfela. Roedd yn ddigwyddiad trasig yn hanes rheoli brodorol Cymreig. Yn hytrach na pheintio’r union olygfa’n llythrennol fel y digwyddodd, mae gwaith Turner yn crybwyll y digwyddiad drwy’r awyr, y ffigyrau yn y blaen, a phresenoldeb gweladwy y t?r bygythiol. Portreir Owain Gwynedd yn gwisgo tiwnig goch ac yn cael ei arwain at y castell gan y milwyr. Rydym yn gwybod i Turner wneud pum taith o amgylch Cymru rhwng 1792 a 1799 yn chwilio am dirluniau darluniadwy. Yn ystod ei ymweliad ym 1799 creodd lyfr o frasluniau o Ddolbadarn a arweiniodd at y gwaith terfynol. Cedwir llyfr brasluniau Dolbadarn yn y Tate Britain. Roedd chwedlau, hanes, cestyll a thirwedd fynyddig ddramatig Cymru’n denu Turner. Gwyddom hefyd i Turner ddarllen yn eang am hanes Cymru, yn cynnwys gweithiau Thomas Pennant ac roedd felly’n gyfarwydd â hanes y tywysogion Cymreig.
Gorwedd athrylith Turner yn ei allu i ddysgu o’r Hen Feistri, ond hefyd i wrthryfela a chreu ffyrdd newydd o ddarlunio tirluniau dychmygus trwy ei ddefnydd unigryw o olau. Chwyldrodd ei ddefnydd o strociau brwsh rhydd a’i liwio grymus dirlunio i genedlaethau’r dyfodol. Disgrifiodd John Ruskin, y beirniad celf blaenllaw o Oes Fictoria, Turner fel ‘tad y gelfyddyd fodern’.
Mae’r llun yma’n rhan o Europeana 280, lle bu 28 o Weinidogion Diwylliant Ewropeaidd yn cydweithio gyda’u sefydliadau diwylliannol cenedlaethol i ddewis o leiaf 10 darlun sy’n cynrychioli cyfraniad eu gwlad i hanes celf Ewrop.
Am fwy o wybodaeth gweler yr Oriel Ddigidol
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English