Blog - ITV Cymru / Wales

Postiwyd - 02-12-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Dathlu Bywyd Merêd

“Allai ddim meddwl am dad yn gant”, meddai ei ferch Eluned, ac yn wir wrth ymchwilio yn yr archif sydd yn y Llyfrgell nid hen ddyn sydd yn dod i’r meddwl, ond dyn egnïol, brwdfrydig, gweithgar a phenderfynol. Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith. Cyfle i ddathlu bywyd llawn a chynhyrchiol yw’r canmlwyddiant a dyma flas o’r bwrlwm o weithgareddau yn y Llyfrgell Genedlaethol :

  • Ffilm: Canmlwyddiant Merêd – Clipiau o’r archif Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019

Ymunwch â ni i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd (9 Rhagfyr 1919 – 21 Chwefror 2015) ar ddiwrnod ei ben-blwydd gyda dangosiad arbennig o ddetholiad o glipiau o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain, sy’n rhoi blas o fywyd a gwaith Merêd a Phyllis Kinney. Dewch gyda ni ar siwrne o’r Noson Lawen i Ryan a Ronnie, ac o’r caneuon gwerin i Heather Jones yn canu ‘Colli laith’.

  • Sesiwn Unnos Radio Cymru

Fis Medi 2019 gwahoddwyd y cerddorion Siân James, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Gai Toms, Iestyn Tyne a Casi Wyn i greu trefniant newydd o rai o hen alawon gwerin Cymru o archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darlledwyd rhaglen Sesiwn Unnos Gwerin Radio Cymru ar 29 Medi o Gynhadledd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. I nodi canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, dyma gyfle prin i chi glywed y casgliad hwnnw o alawon yn cael eu canu eto, yn dilyn y ffilm Merêd, a ddangosir yn y Drwm ar y 9fed o Ragfyr.

  • Merêd yn gant – Darlith awr ginio gan Geraint H. Jenkins, Dydd Mercher 11 Rhagfyr.

Cyfle i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd – athronydd, llenor, cerddor a gweithredwr – yng nghwmni’r hanesydd Geraint H. Jenkins. Bydd ffotograff arbennig o Merêd gan Iestyn Hughes i’w weld yma yn ystod yr wythnos.

  • Rhaglen BBC Radio Cymru ‘Hela’r Hen Ganeuon’

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio yn archif Merêd a Phyllis yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd cerddorion yn ymateb i gerddoriaeth yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Calan. Al Lewis, Nia Morgan ac Arfon Gwilym sy’n ymuno â Georgia Ruth Williams, ac maen nhw’n perfformio caneuon sy’n perthyn i dymor y Nadolig a’r flwyddyn newydd e.e. Plygain, Calennig, Y Fari Lwyd. Darlledir dydd Sul 8 Rhagfyr am 19:05 ar BBC Radio Cymru, a bydd y rhaglen ‘Hela’r Hen Ganeuion’ ar gael wedyn i wrando eto ar wefan Radio Cymru neu ap BBC Sounds.

  • Rhaglen BBC Radio Wales. Frank Hennessy ‘Celtic Heartbeat’.

Sgwrs am Merêd ar ‘Celtic Heartbeat’, Radio Wales (1 Rhagfyr 2019) gyda Nia Mai Daniel a Frank Hennessey yn trafod y modd y bu yn ysgogiad i gerddorion gwerin Cymru drwy ei fywyd o’r cyfnod fel pennaeth adloniant ysgafn yn y BBC (1963- 1973) i gynorthwyo cerddorion ifanc y Prosiect ‘10 mewn bws’. Roedd Merêd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954, ac yn ddiweddarach i label recordio Sain.

  • Catalogio archif Merêd a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Fel rhan o waith yr Archif Gerddorol Gymreig rydym yn paratoi catalog o’r archif er mwyn rhoi mynediad hawdd at y drysorfa o archif sy’n cynnwys papurau cerddorol Merêd a Phyllis Kinney, gohebiaeth Merêd, a ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg, a mwy.

  • Cardiau mynegai ar gael ar-lein

Mae miloedd o gardiau mynegai ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi cael eu digido ac ar gael ar ein gwefan. Ceir naw grŵp sef Caneuon gwerin, Alawon Carolau, Geiriau Carolau, Hwiangerddi, ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett, Mari Lwyd, J. Lloyd Williams a Chylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bydd cyfle cyffrous i ymwneud â phrosiect gwirfoddoli ar yr Hwiangerddi yn y flwyddyn newydd.

  • PhD Cerddoriaeth werin

Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru. Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn.

  • Arddangosfa gerddorol ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru o’r Crwth i’r Cyrff. Sylwer fod yr arddangosfa yn cau ar 11 Rhagfyr (nid 1 Chwefror) oherwydd y gwaith adeiladu. Mae’r arddangosfa yn cynnwys adran ar Merêd gan edrych ar ei ddylanwad fel casglwr a pherfformiwr ac fel pennaeth rhaglenni adloniant ysgafn BBC Cymru.

Wrth ddathlu’r canmlwyddiant, diolchwn am gyfraniad enfawr Merêd i ddiwylliant Cymru.

Nia Mai Daniel, Yr Archif Gerddorol Gymreig @CerddLLGC

Postiwyd - 14-02-2019

Digido / ITV Cymru / Wales / Sgrin a Sain

Pobi, Adfer, Achub!

Mae archif HTV Cymru yn gofnod arwyddcaol o ddiwylliant poblogaidd, gwleidyddiaeth a hanes Cymru ar ffilm a fideo, a mae hi’n ffurfio rhan fawr o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain. Bydd archif o’r fath faint ac oedran yn cynnwys amrywiaeth o sialensau cadwraethol, yn enwedig wrth adfer deunydd. Y broblem fwyaf cyffredin o lawer gyda hen dâp yw hydrolysis, neu ‘Sticky-shed syndrome’ (SSS). Mae SSS yn digwydd pan fod rhwymiad polyester y tâp yn dirywio oherwydd ei fod wedi amsugno lleithder.

Mae s?n gwichian wrth i’r tâp chwarae a baw mân yn casglu ar y pennau troi tâp yn y peiriant yn arwyddion diamau o SSS. Wrth ei chwarae bydd y llun ar dâp gyda SSS yn dioddef o’r hyn a elwir yn ‘crabbing’ – y llun yn symud yn ôl ac ymlaen o’r naill ochr i’r llall,, a gall parhau i chwarae’r tâp heb ei drin achosi difrod pellach.

Sut felly ydym ni’n adfer pennod goll o ‘Gwesty Gwirion’? Efallai bydd yr ateb yn eich synnu! Y dull arferol yw i bobi’r tâp ar dymheredd isel, megis 130°F i 140 °F (54 i 60 °C), am gyfnodau cymharol hir. A bod yn hollol gywir, nid ‘pobi’ tapiau fyddwn ni, ond defnyddio dadhydradydd bwyd masnachol sy’n tynnu’r holl leithder o’r tâp. Mae hyd yr amser pobi’n dibynnu ar ba mor ddrwg yw’r SSS – rydym wedi canfod bod hyd at wythnos yn ddigon. Rydym wedi cael llwyddiant gyda’r mwyafrif o dapiau i ni eu rhoi drwy’r broses gan achub sawl perl rhag bron cael eu colli. Gallwch weld rhai ohonynt ar sianel YouTube ITV Cymru https://www.youtube.com/channel/UCT2NfMee-YxsGaH852qTx3Q neu eu gweld yn y Llyfrgell.

 

Martin Edwards

Postiwyd - 15-10-2018

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Llawysgrifau Peniarth: cynhaeaf cymysg

Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y gr?p cyntaf o Lawysgrifau Peniarth a ddigidwyd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i gyflwyno holl gynnwys y casgliad ar-lein.

Yr wythnos hon, gyda’r Llyfrgell yn dathlu eitemau a chasgliadau sydd wedi eu cynnwys ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan adain UNESCO, mae’n bleser cyhoeddi fod delweddau 25 llawysgrif arall o Gasgliad Peniarth newydd ymddangos ar ein gwefan. Dyma nhw, wedi eu dosbarthu fesul cyfnod:

O’r bedwaredd ganrif ar ddeg, fe groesawn lawysgrif Gymraeg 190, sy’n cynnwys testunau crefyddol megis Lucidar ac Ymborth yr Enaid, ynghyd â dwy lawysgrif gyfreithiol Seisnig, 328 a 329, yr ola’n cynnwys testun y Magna Carta.

O ddechrau’r bymthegfed ganrif, croesewir testunau crefyddol Lladin a Saesneg 334. O ganol y ganrif honno, wele lawysgrif Ladin o Rydychen, 336, sy’n cynnwys gwaith Petrarch, ynghyd â thestun pwysig Gwassanaeth Meir yn 191. Mae’r cnwd yn fwy toreithiog yn ail hanner y ganrif, gyda llawysgrif 175 o Gyfraith Hywel yn ymddangos am y tro cyntaf, ynghyd â chalendr yn llaw Gutun Owain (186), a cherddi yn llaw Huw Cae Llwyd (189).

Yn ofer y chwiliais am gynnyrch dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond fe gynrychiolir ail hanner y ganrif honno’n helaeth gan lawysgrifau Roger Morris, Coed-y-talwrn (169), Thomas Evans, Hendreforfudd (187), Thomas Wiliems y geiriadurwr (188), Simwnt Fychan (189), a thestun arall o Gwassanaeth Meir (192). Nac anghofier hefyd yr achau a geir yn 193, a’r testunau meddygol yn 184, 206 a 207.

Ni fyddai Robert Vaughan yn esgeuluso casglu llawysgrifau ei oes ei hunan, wrth reswm, ac o’r ail ganrif ar bymtheg, cyhoeddir casgliad cywyddau ac englynion 184, gramadegau a geirfâu yn llaw John Jones, Gellilyfdy (295, 296, 302, 304 a 305), a llawysgrifau yn llaw Robert Vaughan ei hunan (180 a 185).

Ac yna, ar ei phen ei hun megis, un llawysgrif yn unig o’r ddeunawfed ganrif, sef pregethau Cymraeg 324, efallai o sir Drefaldwyn.

Am restr gyflawn o holl lawysgrifau Peniarth sydd ar gael yn ddigidol, gweler y dudalen a neilltuir i’r casgliad ar ein gwefan. Ac mae’n braf gallu dweud fod y gwaith o ddigido’n parhau, diolch i’n digidwyr dyfal!

Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

 

Postiwyd - 21-09-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Geiriaduron a Gramadegau

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, geiriaduron a gramadegau sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Gruffydd Robert – Dosparth byrr (1563)

Roedd Gruffydd Robert yn ysgolhaig Pabyddol, yn ramadegydd ac yn ddyneiddiwr o gyfnod y Dadeni. Nid yw’n syndod felly iddo ymddiddori yn y maes ieithyddol. Fel Pabydd alltud bu’n rhaid i Robert ymgyfarwyddo â sensoriaeth drylwyr gwasg Ewropeaidd ei gyfnod. Serch hynny, cyhoeddwyd ei gyfrol ‘Dosbarth byrr’, sef llyfr gramadegol cynharaf y Gymraeg, yn rhannol ym Milan o 1567 ymlaen. Roedd Gruffydd Robert yn gefnogwr brwd o’r maes cyfieithu; a oedd, yn ei dyb, yn hanfodol wrth ehangu a datblygu ieithoedd yn y byd modern. Yn ogystal, fe drosodd yr arddull Ciceronaidd i’r Gymraeg a chyflwynodd cyfieithiadau detholedig o ‘De Senectute’ Cicero yn ‘Dosparth byrr’.

John Davies – Antiquae linguae Britannicae, nunc vulgo dictae Cambro-britannicae, a suis Cymraecae vel Cambricae, ab aliis Wallicae, et linguae Latinae, dictionarium duplex. Prius Britannico-Latinum, … posterius, Latino-Britannicum. Accesserunt adagia Britannica (1632)

Geiriadur Lladin-Cymraeg, Cymraeg-Lladin oedd ‘Dictionarium Duplex’. Ffrwyth llafur ymchwil John Davies ydoedd ; o Gymraeg beirdd y chweched ganrif, i Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg. Ysgolhaig y Dadeni oedd Davies a chynhwysodd gwerthoedd dyneiddiol ei genhedlaeth yn ‘Dictionarium Duplex’. Yn ei ragair, amlinellodd Davies ei syniadau ynghylch natur unigryw’r iaith Gymraeg, ei hanes, a’i safle o fewn y cyd-destun ieithyddol rhyngwladol. Yn ogystal, roedd ei wybodaeth drylwyr o syniadau ysgolheigion eraill yn amlwg o’r darn hwn. Prif ddefnyddwyr y cyhoeddiad oedd ysgolheigion a Lladinwyr. Heb os, nid adnodd ar gyfer yr unigolyn cyffredin ydoedd. Daeth y cyhoeddiad i sylw rai o ieithyddion blaenllaw Ewrop yr unfed ganrif ar bymtheg a bu’n sylfaen gadarn i lawer o astudiaethau tebyg. Ystyrir cyhoeddi ‘Dictionarium Duplex’ fel un o ddigwyddiadau pwysicaf yn hanes y Gymraeg yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

Thomas Jones – Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb / The British language in its lustre (1688)

‘Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb’ oedd y geiriadur Cymraeg-Saesneg cyntaf i ymddangos ar ffurf gyhoeddedig ac fe’i cynhwyswyd gan yr almanaciwr Thomas Jones. Cyfrol cymharol fechan ydoedd o ran maint a phris archebu. Defnyddiodd Thomas Jones adran Gymraeg-Lladin ‘Dictionarium Duplex’ fel man cychwyn i’w gyhoeddiad. Fodd bynnag, nid geiriadur i’r lleiafrif addysgiadol oedd ‘Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb’, yn wahanol i gyfrol John Davies. Prif amcan Thomas Jones drwy’r ei eiriadur oedd gwella llythrennedd y dosbarthiadau is, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Postiwyd - 14-09-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Llyfrau Coginio a Ffordd o Fyw

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llyfrau coginio a ffordd o fyw sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Augusta Hall – Good cookery illustrated. And recipes communicated by the Welsh hermit of the cell of St. Gover, with various remarks on many things past and present (1867)

Noddwraig hael o ddiwylliant gwerinol Cymreig oedd Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Cyfres o straeon a ryseitiau Cymreig a geir yn ei chyfrol ‘Good cookery illustrated’. Strwythurwyd y gwaith ar ffurf deialog, rhwng teithiwr yn ymweld â Llanofer a meudwy o’r ardal.

Thomas, Thomas – Llyfr Coginio a Chadw T? (1880)

Gweinidog Wesleaidd ac awdur amrywiol oedd Thomas Thomas. Cynhyrchodd nifer o lyfrau poblogaidd ac roedd ‘Llyfr Coginio a Chadw T?’ yn arbennig o lwyddiannus. Roedd y llyfr hwn wedi ei anelu at fenywod Cymru. Ei brif nod oedd dysgu’r wraig Gymreig sut i baratoi a choginio bwyd blasus a maethlon. Llyfr cyfeirio ydoedd i’r gogyddes ddibrofiad, fel y noda’r awdur wrth gyfiawnhau manylder llethol ei gyfarwyddiadau. Rhoddwyd cyfarwyddiadau ar sut i drefnu’r aelwyd er mwyn sicrhau cartref iach a chysurus ar gyfer yr uned deuluol. Roedd yr awdur yn argyhoeddedig mai diffygion ynghylch y cartref a yrrai gw?r i’r dafarn.

Thomas, Thomas – Llyfr pawb ar bob-peth: sef, y ffordd oreu i gyflawni holl ddyledswyddau, ac i gyfarfod a holl amgylchiadau bywyd cyffredin (1880)

Roedd ‘Llyfr pawb ar bob-peth’ hefyd ymysg rhai o weithiau mwyaf poblogaidd Thomas Thomas. Cyfrol fechan o gyfarwyddiadau i ‘bawb ar bob-peth’ ydoedd. Fe’i hanelwyd at gynulleidfa eang ac amrywiol. I’r dyn ifanc, cyflwynwyd cyfarwyddiadau ar sut i ddarllen ac ysgrifennu, esboniwyd y cod ymddygiad derbyniol, fe’i cynghorwyd ar sut i wisgo’n daclus a dewis gwraig addas. I’r ferch ifanc rhoddwyd cyfarwyddiadau manwl ar sut i lanhau a chadw gwisgoedd. I’r pâr ifanc awgrymwyd sut i ddewis, prynu ac adeiladu t?, trefnu’r cartref a llywodraethu’r teulu. I’r ffarmwr a’r amaethwr cafwyd argymhellion ar sut i drin y tir, magu stoc a sicrhau cynnyrch o’r radd flaenaf.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Postiwyd - 07-09-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Gwyddoniaeth a Mathemateg

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyhoeddiadau gwyddonol a mathemategol sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Robert Recorde – The Whetstone of Witte: whiche is the seconde parte of arithmetike; containyng thextraction of rootes: the cossike practise, with the rule of equation: and the woorkes of surde nombers (1557)

Fe gyhoeddwyd gwaith nodedig yr athro a mathemategydd Robert Recorde ‘The Whetstone of Witte’ ym 1557. Yn ei lyfr cyflwynwyd algebra a symbol yr hafalnod (=) am y tro cyntaf mewn cyhoeddiad print.

Robert Hooke – Micrographia (1665)

Bu Robert Hooke yn Bennaeth Arbrofion gyda’r Gymdeithas Frenhinol ac roedd ei ddiddordebau gwyddonol yn amrywiol iawn. Gwnaeth gyfraniadau arloesol i’w faes, yn enwedig ei ddyfais – y microsgop cyfansawdd. Drwy ei ficrosgop, astudiodd bryfed, planhigion, plu ac adar, ac ymddangosodd y rhain ar ffurf darluniau yn ‘Micrographia’. Yn ei gyfrol, cyflwynodd Hooke ffyrdd newydd o gynnal arbrofion gwyddonol; drwy er enghraifft bwysleisio pwysigrwydd arsylwi gofalus a chofnodi canlyniadau. Bu cysyniadau Hooke yn ddylanwadol iawn a daeth llawer ohonynt i fod yn arferion cyffredin o fewn y maes gwyddonol.

William Robert Grove – On the Correlation of Physical Forces: being the substance of a course of lectures delivered in the London Institution, in the year 1843 (1846)

Yr oedd William Robert Grove yn wyddonydd ffisegol, yn farnwr ac yn gyfreithiwr Cymreig. Gweithiodd yn ddiwyd yn y maes gwyddonol ac fe dderbyniodd gryn ganmoliaeth ynghylch ei brosiectau ymchwil personol. Ystyrir ei gyfrol ‘On the Correlation of Physical Forces’ (1846) yn gyhoeddiad clasurol. Ynddo, esboniodd yr egwyddor o gynilo ynni. Mae’n werth cydnabod dyddiad y cyhoeddiad oblegid fe’i lledaenwyd flwyddyn ynghynt na thraethawd enwog Herman von Helmholtz, ‘Über die Erhaltung der Kraft’ (“Cadwraeth Grymoedd”), a oedd yn trafod yr un egwyddor.

William Henry Preece – Telegraphy (1914)

Yn gyffredinol, cysylltwyd William Henry Preece â maes peirianneg delegraffig. Fe addysgwyd ef yng Ngholeg y Brenin, Llundain a datblygodd ei yrfa yn yr ardal. Penodwyd Preece yn drydanwr i’r Swyddfa Bost Cyffredinol ym 1877, a derbyniodd dyrchafiad i swydd y prif beiriannydd ym 1892. Yn ‘Telegraphy’ roedd modd synhwyro diddordeb yr awdur yn natblygiad ei faes.

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Postiwyd - 31-08-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Ymatebion i’r Llyfrau Gleision

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyhoeddiadau’n ymateb i gynnwys y Llyfrau Gleision sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

R. R. W. Lingen, J. C. Symons and H. R. Vaughan Johnson – Report of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales (1847)

Ym 1846 cyflwynodd William Williams, yr Aelod Seneddol dros Coventry, symudiad yn y Senedd a fyddai’n arwain at ymchwiliad swyddogol i gyflwr addysg yng Nghymru. Yn ôl Williams, a’r Llywodraeth Brydeinig yn gyffredinol, yr oedd y Cymry’n gyflym ddatblygu i fod yn garfan derfysglyd ac afreolus, ac felly hefyd yn bygwth sylfaeni gymdeithas. Yn ogystal, yr oedd swyddogion Llywodraethol yn tybio mai’r iaith Gymraeg oedd cyfrwng y fath weithgarwch. Yn ôl Kay-Suttleworth, Ysgrifennydd y Cyngor Addysg, byddai’r comisiwn yn cynnal “ymholiad i gyflwr addysg yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar fynediad y dosbarthiadau is i addysg a gwybodaeth cyfrwng Saesneg” – hynny yw iaith masnach, addysg uwch, llywodraeth a chyfraith. Fe benodwyd tri dirprwy i ymchwilio’r achos; R. W. W. Lingen, J. C. Symons a H. V. Johnson. Cyhoeddwyd eu casgliadau ar ffurf adroddiadau diweddarach, sy’n cael eu hadnabod fel ‘Y Llyfrau Gleision’. Beirniadwyd ansawdd cyffredinol addysg yng Nghymru gan y tri, hynny yw safon yr athrawon ynghyd a chyfleusterau a lleoliadau’r ysgolion. Serch hynny, rhaid cofio nad oedd cyflwr addysg yn Lloegr llawer gwell i’r mwyafrif o’r boblogaeth. Sylwadau’r dirprwywyr ynghylch anfoesoldeb a chymeriad y Cymry a daniodd yr ymateb chwyrnaf, yn enwedig eu nodiadau ar fenywod Cymreig. Er mai dim ond chwe tudalen o’r adroddiadau swmpus a neilltuwyd ar gyfer y fath beirniadaethau, fe’u trafodwyd yn helaeth gan y wasg genedlaethol. Gwelwyd yr adroddiadau fel ymosodiadau ar yr iaith Gymraeg hefyd o ganlyniad i’r beirniadaethau niferus a gyflwynwyd ynddynt ynghylch israddoldeb yr iaith.

Jane Williams (Ysgafell) – Artegall or, Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales (1848)

Ganed yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane Williams ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Ysgrifennodd nifer o gyfrolau pwysig, er fe gyhoeddwyd ‘Artegall or, Remarks on the Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales’ fel pamffled dienw. Archwilio dibynadwyedd y tystion a ddefnyddiwyd i lunio adroddiadau 1847 a wnaeth Williams yn ei phamffled. Anghymeradwyodd y cyffredinoli a waned gan y dirprwyon yn y Llyfrau Gleision.

Evan Jones (Ieuan Gwynedd) – Facts, figures, and statements, of illustration of the dissent and morality of Wales: an appeal to the English people (1849)

Bardd a phamffledwr oedd Evan Jones, neu Ieuan Gwynedd. Roedd yn gefnogwr brwd o’r mudiad dirwestol ac yn Anghydffurfiwr ymroddedig. Amddiffynnodd Anghydffurfiaeth yn erbyn ymosodiadau clerigwyr, yn enwedig eu beirniadaethau yng nghynnwys y Llyfrau Gleision. Roedd ganddo’r ddawn i gyflwyno dadleuon synhwyrol, ac fe amgylchynodd ei sylwadau gofalus â ffeithiau, fel y gwelir yn ei bamffledyn ‘Facts, figures, and statements, of illustration of the dissent and morality of Wales: an appeal to the English people’.

Robert Jones (R. J. Derfel) – Brad y Llyfrau Gleision (1854)

Bardd, awdur a sosialydd nodedig oedd R. J. Derfel. Ef oedd awdur y ddrama enwog ‘Brad y Llyfrau Gleision’ sef ymatebiad uniongyrchol i adroddiadau 1847. Portreadodd Cymru fel gwlad odidog a Duwiol yn y ddrama, ac o’r herwydd, yr oedd yn lleoliad annioddefol yn llygaid gythreuliaid uffern. Er hynny, derbyniwyd, â hoffter, clerigwyr Eglwysig Cymru, gr?p a ddarparodd lawer o dystiolaeth wrth lunio adroddiadau 1847. Wedi cyhoeddiad y Llyfrau Gleision cyhuddwyd rhai clerigwyr o frad, yn bennaf oll gan Anghydffurfwyr teyrngar. Yn ystod yr ail act danfonwyd tri archwilydd i Gymru gan Beelzebub (tywysog y cythreuliaid) i asesu cyflwr y wlad a’i phobl, nid yn annhebyg i’r tri dirprwy a benodwyd i lunio adroddiadau 1847. Fodd bynnag, cyflawnwyd y ‘brad’ gan glerigwyr yr Eglwys. Yr oedd rhai o’r farn, gan gynnwys Derfel, bod eu tystiolaeth wedi cynorthwyo, a hyd yn oed bwydo beirniadaethau gwrth Cymreig Llyfrau Gleision 1847. Ysbrydolwyd y ddrama gan chwedl ‘Brad y Cyllyll Hirion’.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , ,

Postiwyd - 24-08-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Cyhoeddiadau Gwleidyddol

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyhoeddiadau gwleidyddol sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Richard Price – A Discourse on the Love of our Country (1789)

Roedd Richard Price yn weinidog, athronydd ac yn gyfrifydd yswiriant. Caiff ei gofio’n bennaf fel traddodwr y bregeth enwog ‘A Discourse on the Love of our Country’ (1789); sef mynegiant o gefnogaeth tuag at egwyddorion y Chwyldro Ffrengig. Fe sbardunwyd pamffled gwleidyddol enwog Edmund Burke: ‘Reflections on the Revolution in France’ gan eiriau Price. Ystyrir y cyhoeddiad yn glasur erbyn heddiw. Wedi marwolaeth Richard Price ym 1791 fe gynhaliwyd cyfnod galaru swyddogol ym Mharis i’w anrhydeddu.

David Williams – Letters on Political Liberty, and the principles of the English and Irish projects of reform (1789)

Pamffledwr gwleidyddol oedd David Williams. Yn ei gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ y mae Williams yn cefnogi ac yn amddiffyn rhai o syniadau radicalaidd ymsefydlwyr Americanaidd, yn bennaf oll ynghylch diwygio ac ad-drefnu gwleidyddol. Cyfeiria hefyd at ei ddamcaniaeth bersonol am rôl seneddwyr gwleidyddol. Yn ei dyb, fe ddylai deiliaid y fath swyddi ymddwyn fel ymddiriedolwyr a gwarcheidwaid hawliau dynol. Magodd David Williams enwogrwydd yn Ffrainc. Dosbarthwyd ei gyhoeddiad ‘Letters on Political Liberty’ yn eang yno wedi iddo gael ei gyfieithu i’r Ffrangeg. Fe werthfawrogwyd y gwaith yn arbennig gan arweinwyr y Chwyldro a dyfarnwyd dinasyddiaeth Ffrengig i Williams.

John Jones (Jac Glan-y-gors) – Seren tan gwmmwl, neu ychydig sylw ar frenhinoedd, escobion, arglwyddi, &c. a llywodraeth Lloegr yn gyffredin. Wedi ei ysgrifennu er mwyn y Cymru uniaith (1795)

Cofir am Jac Glan-y-gors fel awdur dychanol; yr oedd hefyd yn geidwad tafarn nodedig. Yn ei bamffled ‘Seren tan gwmmwl’ trafoda’r awdur syniadau Thomas Paine drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyflwyno ei ddamcaniaethau i gynulleidfa newydd. Yr oedd yn rhannu’r un egwyddorion a Paine ynghylch rhyfel, y frenhiniaeth, yr Eglwys Sefydledig, a hawliau dynol. Caiff y rhain oll eu trafod yn ‘Seren tan gwmmwl’. Yr oedd Jac Glan-y-gors yn aelod blaenllaw o gymdeithas Cymry Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a chydsefydlodd Cymdeithas y Cymreigyddion.

Unofficial Reform Committee – The Miners’ Next Step: being a suggested scheme for the reorganization of the Federation (1912)

Maniffesto ar ffurf pamffled yw ‘The Miners’ Next Step’ a ffurfiwyd ei gynnwys gan Bwyllgor Diwygio answyddogol. Daethpwyd a’r pwyllgor ynghyd gan Noah Ablett (glöwr ac arweinydd Undeb Llafur), yn ogystal ag A. J. Cook, Henry Mainwaring ac eraill. Maniffesto syndicalaidd ydyw, a rhoddwyd cryn gyhoeddusrwydd i’w gynnwys. Drwy ‘The Miners’ Next Step’ y mae’r pwyllgor yn ymgyrchu dros ddiwygiadau ym mherchnogaeth, rheolaeth a threfniant y pyllau glo, ceir cyfeiriad hefyd at greu undeb diwydiannol unigol a chynhwysfawr. Yn ogystal, cyflwynir y syniad y dylai’r diwydiant gael ei reoli a’i berchnogi gan weithwyr. Ysgogodd ‘The Miners’ Next Step’ trafodaethau dwys o fewn y maes diwydiannol ac mae’n hysbys heddiw am ei syniadau Syndicalaidd a Marcsaidd.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Postiwyd - 17-08-2018

Casgliadau / Collections / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Cerddoriaeth

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cerddoriaeth wedi’i gyhoeddi sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Ann Griffiths (golygwyd gan Thomas Charles) – Casgliad o Hymnau: gan mwyaf heb erioed eu hargraffu o’r blaen (1806)

Cofir am Ann Griffiths fel bardd a lluniwr emynau. Mae ei chyfansoddiadau’n garreg filltiroedd pwysig yn hanes llenyddiaeth menywod. Yn y gyfrol hon ceir cofnod o’i gwaith cynharaf. Roedd Griffiths yn aelod ymroddgar o’r Gymdeithas Fethodistaidd a cheir cofnod o’i phrofiadau ysbrydol yn ei hemynau. Fel rhan o’r gred Fethodistaidd, anogwyd aelodau i ddatblygu perthynas personol â Duw a thrafodwyd y profiad hwnnw yn y seiat. Fe ysbrydolwyd Ann Griffiths gan ieithwedd ddwys y seiat, ynghyd a barddoniaeth werinol. Rhaid cofio mai cyfansoddwraig lafar ydoedd ac ni luniwyd ei hemynau ar gyfer dibenion cynulleidfaol. Er hynny, dysgodd ei morwyn, Ruth, ei gwaith ar gof a’u hadrodd yn y pendraw i’w g?r – y pregethwr nodedig John Hughes. Cofnododd yntau gweithiau Ann Griffiths. Golygwyd ‘Casgliad o Hymnau’ gan Thomas Charles o’r Bala.

John Roberts (Ieuan Gwyllt) – Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859)

Roedd John Roberts yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac yn gerddor nodedig. Ystyrir ei gyhoeddiad ‘Llyfr Tonau Cynulleidfaol’ yn garreg filltir allweddol yn natblygiad canu cynulleidfaol yng Nghymru. Gweithiodd yn ddiwyd am chwe blynedd ar y gyfrol cyn iddi gael ei chyhoeddi ym 1859.

John Owen (Owain Alaw) – Gems of Welsh Melody (1860)

Cerddor gwobrwyol oedd John Owen, neu Owain Alaw. Casgliad cynhwysfawr o ddarnau cerddorol poblogaidd a geir yn ei gyfrol ‘Gems of Welsh Melody’. Lledaenwyd y casgliad yn eang a bu’n adnodd defnyddiol iawn i lawer. Gellir canfod clasuron megis ‘Hên Wlad fy Nhadau’ ac ‘Ar hyd y Nos’ yn y casgliad.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , ,

Postiwyd - 10-08-2018

Casgliadau / Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Llyfrau Hanes

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llyfrau hanes sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Theophilius Jones – A History of the County of Brecknock (1805)

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyhoeddwyd amryw o destunau cynhwysfawr ar hanesion lleol yng Nghymru. Y mae’r gyfrol hon gan Theophilus Jones ymhlith y cofnodion mwyaf cywrain a chaboledig. Ar y cyfan, y mae’r cyfanwaith o safon ysgolheigaidd, er i ragfarnau amlwg dreiddio i’w gynnwys. Roedd Theophilus Jones yn ?yr i’r hanesydd nodedig Theophilus Evans.

Thomas Price (Carnhuanawc) – Hanes Cymru, a chenedl y Cymry, o’r cynoesoedd hyd at farwolaeth Llewelyn Ap Gruffydd : ynghyd a rhai cofiaint perthynol i’r amseroedd o’r pryd hynny i waered (1842)

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymroddodd ysgolheigion Ewropeaidd (clerigwyr yn bennaf) eu hamser i gofnodi hanes a diwylliant cenhedloedd bychain a difreintiedig. Yng nghyd-destun Cymru, Carnhuanawc yw’r enghraifft amlycaf. Fe’i hysbrydolwyd yn bennaf gan Herder, athronydd Almaeneg, a fagodd enwogrwydd wrth ddadlau dros werth ac arwyddocâd diwylliannau bychain. Roedd y ddau’n rhannu’r un gred bod diwylliannau o’r fath yn cael eu gwarchod a’u cynnal gan haenau is, niferus, ond materol dlotach y gymdeithas. Ystyrir ‘Hanes Cymru’ fel prif gampwaith Carnhuanawc. Rhannwyd y gwaith yn bedwar cyfrol ar ddeg a chyhoeddwyd hwy rhwng 1836 a 1842. Rhaid nodi nad oedd gan Carnhuanawc afael gadarn ar ddyletswyddau’r hanesydd proffesiynol, serch hynny, ni fyddai gwaith cyfatebol i ‘Hanes Cymru’ yn ymddangos am rai blynyddoedd.

Jane Williams (Ysgafell) – A History of Wales derived from authentic sources (1869)

Ganwyd yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane Williams ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau pwysig, gan gynnwys ‘A History of Wales derived from authentic sources’ (1869). Yn y gyfrol honno ceir casgliad o’i gwaith mwyaf uchelgeisiol, ac er gwaethaf ei ddiffygion, ni ddisodlwyd ei gynnwys tan gyhoeddiad holl arwyddocaol Syr John Edward Lloyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

John Edward Lloyd – A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (1911)

Cofir am John Edward Lloyd fel un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru. Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a llwyddodd i ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Goleg Lincoln, Rhydychen ym 1883.  Dilynodd gyrfa yn y maes academaidd – penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1885 ac yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ym 1899. Arbenigwr yn y cyfnod canoloesol ydoedd ac fe ysgrifennodd testunau cynhwysfawr ar hanes cynnar Cymru. Cyhoeddwyd ei gampwaith enwocaf: ‘A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest’ ar ffurf dwy gyfrol ym 1911. Roedd eu cynnwys yn unigryw oblegid fe’u lluniwyd drwy asesiadau beirniadol ac ymchwil wyddonol drylwyr. Ystyrir hwy heddiw fel trobwyntiau allweddol ym maes astudio Hanes Cymru. Cydnabuwyd ei gyfrolau fel gweithiau awdurdodol allweddol. Nid yw’n syndod felly bod rhai ysgolheigion wedi, ac yn cyfeirio at Syr John Edward Lloyd fel ‘tad’ astudiaeth Hanes Cymru.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog