“…innumerable exercise books full of poems…”
Arddangosfeydd / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 08-09-2014
Ar ôl teithio draw i Gymru ym mis Ionawr eleni, a threulio pum mis yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, mae Llyfrau Nodiadau Dylan wedi dychwelyd yma i’r Llyfrgell ac i’r arddangosfa ‘Dod â Dylan Adref’.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys y pedwar Llyfr Nodiadau barddoniaeth a ysgrifennodd Dylan yn ei arddegau, rhwng 1930 a 1934. Gwerthodd nhw i Brifysgol Buffalo yn yr 1940au am swm bach iawn o arian, a dyma’u trip cyntaf yn ôl i Gymru ers hynny.
Gyda’r Llyfrau Nodiadau mae darnau o lythyrau rhwng y bardd a Pamela Hansofrd Johnson, sy’n bwrw golwg ar y broses farddoni, ynghyd â llawysgrifau o’r gerdd ‘Ballad of the Long-Legged Bait’.
Bydd arddangosfa ‘Dylan’ yn Oriel Gregynog hefyd yn cael ei hailwampio, gydag eitemau newydd o gasgliadau’r Llyfrgell yn cael eu harddangos. Bydd mwy o lythyrau nad ydynt wedi eu cyhoeddi o’r blaen i’w gweld, yn cynnwys un gan Dylan at ei feistres yn America, Elizabeth Reitell. Bydd hefyd llawysgrifau o rhai o gerddi enwocaf Dylan i’w gweld yn Nhafarn y Beirdd, megis ‘A Refusal to Mourn the Death, by Fire, of a Child in London’ ac ‘Into Her Lying Down Head’.
Hyd yn oed os ydych wedi ymweld â’r arddangosfa o’r blaen, mae’n werth galw heibio eto unwaith eto i weld Llyfrau Nodiadau Dylan a’r eitemau newydd sydd i’w gweld yn yr Oriel o 13eg Medi. Edrychwn ymlaen i’ch gweld!
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English