Blog

Postiwyd - 03-11-2014

Arddangosfeydd

Innocent as Strawberries

Newyddion cyffrous! Fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Dylan Thomas, mae’r Llyfrgell – gyda chymorth ariannol oddi wrth DT100 a’r Scottish Power Foundation – wedi comisiynu’r cwmni theatr ieuenctid cenedlaethol Arad Goch i berfformio cynhyrchiad theatr arbennig yn y Llyfrgell ar gyfer Ysgolion Uwchradd.

Bydd y perfformiad yn seiliedig ar gyfres o gerddi a straeon byrion Dylan Thomas yn delio gyda llencyndod, gan ddwyn ysbrydoliaeth o’r gerdd ‘The Hunchback in the Park’ yn benodol.  Gallwch wylio ffilm fer o’r gerdd wedi’i hanimeiddio gan y BBC yma.

The Tormenting of the Hunchback © Jeff Philips

The Tormenting of the Hunchback © Jeff Philips

Bydd y perfformiadau’n digwydd yn arddangosfa Dylan, ymhlith ei lawysgrifau, rhwng y 10fed a’r 14eg o Dachwedd.

Bydd yr arddangosfa’r parhau i fod ar agor i’r cyhoedd fel arfer; er dylai ymwelwyr fod yn ymwybodol y bydd peth amhariad yn yr Oriel yn y cyfnod hwn. Bydd y cwmni hefyd yn ymarfer yn y gofod ddydd Gwener Tachwedd 7fed , er y bydd yr Oriel ar agor fel arfer.

Os ydych yn bwriadu ymweld â’r arddangosfa rhwng y dyddiadau hyn ac am fwy o wybodaeth yngl?n ag amseroedd y perfformiadau (naill ai i’w hosgoi neu i gael cip arnynt!), cysylltwch â’r Llyfrgell os gwelwch yn dda.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau:

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog