Blog

‘In Parenthesis’ gan David Jones

Casgliadau - Postiwyd 14-02-2023

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cartref papurau personol a llenyddol, gweithiau artistig a llyfrgell bersonol yr arlunydd, ysgythrwr a bardd David Jones (1895-1974), a brynwyd yn 1978 ac 1985, ynghyd â derbynion mwy diweddar, megis ei lythyrau at Morag Owen a Valerie Wynne-Williams.

Yna ym mis Mai 2022 prynodd y Llyfrgell, gyda chymorth hael gan Gyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol, dwy eitem yn ymwneud â’i gerdd rhyfel enwog In Parenthesis, sef copi proflen a drafft o sgript radio.

Roedd Jones yn feteran y Ffrynt Gorllewinol, gan iddo wasanaethu gyda’r 38ain Adran (Gymreig) ar y Somme ac yn Ypres. Cafodd anaf i’w goes yn ystod brwydr Coed Mametz ar 10-11 Gorffennaf 1916 a daeth ei wasanaeth gweithredol i ben ar ôl pwl o dwymyn y ffosydd ym mis Chwefror 1918.

Yn dilyn y Rhyfel daeth yn adnabyddus fel arlunydd ac ysgythrwr. Tua 1928, fodd bynnag, dechreuodd weithio ar In Parenthesis a ddatblygodd i fod yn gerdd epig yn adrodd ei brofiadau yn ystod y rhyfel, gan gyrraedd ei uchafbwynt gydag ymosodiad Coed Mametz. Mae hefyd yn llawn cyfeiriadau at hanes a llenyddiaeth Cymru a Lloegr, ac at yr Ysgrythur. Cymerodd Jones ddegawd a nifer o ddrafftiau i gyfansoddi’r gerdd, gydag oediad hir oherwydd cyfnod o chwalfa nerfol.

 

 

NLW MS 24193B

 

Mae’r cyntaf o’n derbynion newydd, proflen o’r llyfr heb ei gywiro, yn dyddio o ddechrau 1937, pan oedd y gerdd yn cael ei pharatoi ar gyfer y wasg. Mae’r copïau eraill o’r proflenni sydd ohoni wedi’u diwygio a’u cywiro’n helaeth; mae’r gyfrol newydd yn ‘lân’, yn gyflawn ac wedi’i rhwymo, gyda’r dyddiad 10 Mehefin 1937 ar y clawr blaen, sef diwrnod parti cyhoeddi’r llyfr.

Cafodd In Parenthesis ganmoliaeth o’r cychwyn, gan ennill Gwobr Hawthornden yn 1938. Fe’i haddaswyd ar gyfer y radio gan Douglas Cleverdon ond gohiriwyd y darllediad ddwywaith, ym 1939 a 1942, oherwydd y Rhyfel. Llwyddodd y drydedd ymgais, a ddarlledwyd ar y Third Programme ar 19 Tachwedd 1946, gyda Dylan Thomas a Richard Burton yn y cwmni. Roedd gan y darllediad ragarweiniad gan David Jones, wedi ei recordio ganddo o flaen llaw, a’r ail eitem a brynwyd gan y Llyfrgell yw drafft llawysgrif o’r rhagarweiniad hwn – y drafft terfynol yn ôl pob tebyg. Mae’n cynnwys nifer o ddileadau a chywiriadau ond yn ei hanfod mae’n agos iawn at y sgript a recordiwyd gan Jones.

 

 

NLW MS 24194E

 

Mae’r ddwy eitem wedi’u catalogio’n llawn ac, fel gweddill ei archif, ar gael i’w gweld yn ystafell ddarllen y Llyfrgell. Mae’r copi proflen a’r cyflwyniad radio bellach yn NLW MS 24193B a NLW MS 24194E yn eu tro.

 

Rhys Jones

Curadur Llawysgrifau Cynorthwyol

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog