Blog

Iaith, Llenyddiaeth, a Chwilio am Raeadr Derwennydd: Cofnodion Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

Casgliadau - Postiwyd 03-05-2021

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddiweddar wedi cael y pleser o dderbyn cofnodion ein cymdogion, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Un o’r sefydliadau academaidd blaenorol ym maes astudiaethau Celtaidd, mae ymchwil y Ganolfan yn cwmpasu’r llenyddiaeth a’r ieithoedd Celtaidd i gyd, yn cynnwys y Gymraeg, Gwyddeleg, Manaweg, Llydaweg, Cernyweg, a Gaeleg yr Alban, ymysg eraill.

Mae’r cofnodion yn dechrau yn swyddogol yn y 70au, gyda sefydlu’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru yn 1971 gydag adrannau Y Gymraeg, Gwyddeleg, a Hanes Cymru. Mae’r papurau cynnar yma (Cyfres D1 yn y catalog) yn cyfleu rhai o’r syniadau tu ôl sefydlu’r Ysgol Astudiaethau Celtaidd, yn ogystal â rhai o’r problemau ymarferol fel chwilio am adeilad addas fel cartref i’r Ysgol. Gallwn glywed hefyd rhai o leisiau myfyrwyr cyntaf yr Ysgol, trwy lythyrau gan ddarpar fyfyrwyr yn gwneud ymholiadau am astudio yn yr Ysgol newydd.

Yn 1976, lansiodd athrawon yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd gronfa apêl er cof am y llenor Thomas Parry-Williams gyda’r bwriad o sefydlu Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth. Mae cofnodion y Ganolfan (Cyfres A1) yn dangos ymdrech a datblygiad yr Apêl trwy ohebiaeth yr Athrawon a manylion rhoddion, ac yn cofnodi llwyddiant yr Apêl ac agoriad swyddogol y Ganolfan yn 1979 (Ffeil D1/2). Mae’r dogfennau yn dangos y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o staff yn ymuno yn yr 80au, ac agor yr adeilad newydd ar bwys y Llyfrgell Genedlaethol yn 1993  (Ffeil D2/2 a Chyfres D3).

Rhan fawr o’r casgliad yw’r cofnodion cyfarfodydd (Grŵp P), sy’n cofnodi gwaith y Ganolfan o ddydd i ddydd yn ogystal â thrafod gweithgareddau fel cyhoeddiad ac ymchwil. Mae ehangder ag amrywiaeth gwaith y Ganolfan yn amlwg o gofnodion a phapurau seminarau a fforymau (Cyfresau G1 a G2), sy’n hyrwyddo pynciau fel ‘Gweithiau Beirdd y Tywysogion’ (G2/1), ‘Traddodiad Barddol yr Alban’ (G2/5), ‘Tafodieithoedd’ (G2/9), ‘Archaeoleg’ (G2/11), a ‘Llysiau a Meddygaeth’ (G2/16) ymysg eraill. Fel rhywun sydd â ddiddordeb yn astudiaethau Celtaidd fy hunan, rwy’n meddwl mai’r dogfennau mwyaf diddorol yn y casgliad yw’r rhai sy’n cyfleu’r broses ymchwilio. Un o fy ffefrynnau yw’r casgliad o lythyrau (Ffeil C1/3) sy’n trafod ymchwil un o gyn-gyfarwyddwyr y Ganolfan, R. Geraint Gruffydd, ar gyfer ei ddarn ‘Where Was Rhaeadr Derwennydd?’ a gyhoeddwyd yn 1990. Mae’r ffeil yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gruffydd at bob Bwrdd Dŵr rhanbarthol yn Lloegr yn gofyn am leoliad y Rhaeadr enwog sy’n cael ei henwi yn y gerdd gynnar ‘Canu Aneurin’ – gydag amrywiaeth o atebion diddorol o weithwyr y Byrddau Dŵr!

Ond efallai un o’r pethau pwysicaf am gofnodion y Ganolfan yw’r papurau sydd wedi cael eu hysgrifennu yn yr ieithoedd Celtaidd. Heblaw’r Gymraeg, mae’r casgliad yn cynnwys dogfennau a llythyrau yn y Wyddeleg, Llydaweg, a Gaeleg yr Alban. Mae’n braf iawn i weld yr ieithoedd yma yn cael eu defnyddio, ac mae’n pwysleisio gwaith y Ganolfan i ymchwilio a hyrwyddo hanes a llenyddiaeth Geltaidd er mwyn cadw’r ieithoedd yma yn fyw ac i helpu sicrhau eu dyfodol.

Catalog: https://archives.library.wales/index.php/cofnodion-canolfan-uwchefrydiau-cymreig-a-cheltaidd-prifysgol-cymru-2

 

Lucie Hobson
Archifydd Cynorthwyol

Tagiau: ,

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog