Hela’r Hen Ganeuon
Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido - Postiwyd 06-02-2018
Sut mae dod o hyd i alaw werin neu eiriau ar gyfer can werin? Mae nifer fawr wedi cael eu cyhoeddi ond oes na rai na wyddoch chi amdanynt? Fe wnaeth Merêd a Phyllis astudiaeth fanwl o ganeuon ac alawon gwerin Cymru ac mae eu harchif nawr ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn cael ei gatalogio fel rhan o Raglen yr Archif Gerddorol Gymreig . Os hoffech ddod i weld yr archif trefnwch sesiwn gyflwyno gyda Nia Mai Daniel ar nia.daniel@llgc.org.uk neu cysylltwch ar Twitter @cerddLLGC.
Mae Archif Merêd (Meredydd Evans 1919-2015) a’i wraig yr ysgolhaig a’r cerddor Phyllis Kinney yn cynnwys dros 150 bocs y gellir ei rannu i’r grwpiau isod:
- Papurau cerddorol Phyllis Kinney
- Papurau cerddorol Merêd
- Cardiau mynegai Merêd a Phyllis ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru
- Gohebiaeth Merêd
- Ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg a mwy.
Ein gobaith yw datblygu cronfa o gerddoriaeth werin yn seiliedig ar gardiau mynegai Merêd a Phyllis. Er mwyn cyrraedd hyn byddwn yn digido’r cardiau a threfnu ffordd o wneud y wybodaeth ar gael yn hwylus arlein i berfformwyr a’r rhai sy’n ymchwilio i alawon a chaneuon gwerin Cymreig.
Mae ‘na gardiau mynegai am y gwahanol gategoriau isod gyda channoedd o ganeuon ac alawon ynddynt.
- Caneuon gwerin ; dros 1,000 o gardiau wedi eu trefnu yn ôl teitl A-Z.
- Alawon Carolau : Nodiadau Phyllis ar enw’r alaw, enw’r llawysgrif, gyda hen nodiant
- Geiriau Carolau : Nodiadau Mered ar ffynonellau carolau Nadolig gan amlaf
- Hwiangerddi : O gasgliadau O. M Edwards, Ceiriog ac Eluned Bebb
- ‘Alawon Fy Ngwlad’ (1896) : llyfr yn cynnwys dros 500 o alawon a gasglwyd gan Nicholas Bennett. Mae hwn ar gael ar lein ar wefan y Llyfrgell.
- Mari Lwyd: Traddodiadau‘r Fari lwyd, Hela’r Dryw, calennig ac ati a ymddengys fel nodiadau Phyllis Kinney ar gyfer ‘Welsh Traditional Music’ (2011)
- J Lloyd Williams: Caneuon ac Alawon o archif J Lloyd Williams sydd yn LLGC
- Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru : Ystadegau ynghylch ffynonellau caneuon ac alawon yn y Cylchgrawn yn ystod Golygyddiaeth J Lloyd Williams.
Mae’r cardiau yn nodi’r alaw neu’r gan, gwahanol fersiynau ohoni, enw ardal sydd yn gysylltiedig, y llinell gyntaf ac yn nodi’r llyfr neu’r llawysgrif lle’i gwelwyd. Mae nifer o’r ffynonellau yma wedi cael eu digido gan y Llyfrgell gan gynnwys y llawysgrifau Melus-seiniau Cymru, Per-seiniau Cymru a Melus geingciau Deheubarth Cymru a cheir rhestr lawn ar ein tudalen am ‘Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru’ .
Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig
nia.daniel@llgc.org.uk
@cerddLLGC @MusicNLW
Gweler hefyd blog 22-09-2017 ar lansio rhaglen Yr Archif Gerddorol Gymreig
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English