Blog - Heb ei gategoreiddio

Postiwyd - 25-12-2017

Heb ei gategoreiddio

5 Adnodd Hanes Teulu

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! Mae adeg y gwyliau yn draddodiadol yn adeg lle mae teuluoedd yn mynd at ei gilydd ac yn hel atgofion. Yn aml gwelwn gynnydd yn y nifer o ymholiadau achyddol ar ddechrau blwyddyn oherwydd bod rhai wedi eu hysgogi i ddechrau ymchwilio i hanes y teulu. Wel, dyma fi yn nodi pum adnodd ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i’ch rhoi ar ben ffordd. Os ydych yn dilyn @DarllenLLGC ar Twitter ma na lawer mwy o adnoddau wedi eu nodi yn ein calendr Adfent, cymrwch olwg.

1. Mae’r ffordd yr ydym yn cael mynediad at y Cyfrifiad, Cofrestri Plwyf, Cofrestri Etholiadol, Cofrestri Ysgolion, Cofrestr 1939 a llawer mwy wedi newid cryn dipyn dros y blynyddoedd, gan fod cwmnïau masnachol megis Findmypast ag Ancestry yn rhoi mynediad drwy danysgrifiad. Gellir cael mynediad i’r ddau wefan yn rhad ag am ddim o fewn adeilad y Llyfrgell.

2. Ydych wedi ystyried ymuno gyda Chymdeithas Hanes Teulu? Mae cylchgronau a chyhoeddiadau rhai Cymru ar gael ar y Silffoedd Agored yn Ystafell Ddarllen y De, maent yn nodweddiadol am drawsgrifio cofnodion cerrig beddau a gwybodaeth na cheir yn aml yn unlle arall.

3. Beth am chwilio ein casgliadau i weld os oes ymysg ein rholiau achau un yn ymwneud â’ch teulu neu os oes rhywun wedi ymchwilio ac ysgrifennu am eich cyndeidiau efallai mewn erthygl, mewn papur newydd neu lyfr?

4. Does dim rhaid bod yn gyfoethog i adael ewyllys, ydych chi wedi ystyried chwilio ein cronfa ewyllysiau ar-lein hyd at 1858 i weld os oes aelodau o’r teulu wedi gadael un?  Cofiwch fod gyda ni gopïau o ewyllysiau o 1858 hyd at 1940 mewn rhai achosion nad oes mynediad ar-lein iddynt.

5. Os ydych wedi bod yn ymchwilio ac wedi dod lan yn erbyn wal a methu mynd ymhellach neu am ddechrau ymchwilio a ddim yn gwybod lle i ddechrau, beth am ddod i un o Sesiynau Gwybodaeth ar Hanes Teulu? Gellir arbed lle arlein, sesiwn hanner awr gydag aelod o staff i helpu chi ymhellach ac i roi chi ar ben ffordd. Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Ymholiadau am gymorth pellach.

Postiwyd - 04-12-2017

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio

Cell Angel: Trosglwyddo archif Menna Elfyn i’r Llyfrgell

O’r bywyd cyhoeddus i’r bywyd preifat, mae archif llenor yn gyfuniad o ddau begwn. Ar un llaw mae gwaith beirdd a llenorion yn gyhoeddus iawn, yn cael eu hargraffu a’u cyhoeddi, eu darllen yn gyhoeddus, a’u darlledu. Yn achos Menna Elfyn maent yn cael eu cyfieithu i nifer o ieithoedd, a hithau yn rhoi darlleniadau ac yn siarad am ei gwaith ar draws y byd. Ond ar y llaw arall ceir hefyd dystiolaeth o’r preifat a’r personol, y nodiadau cychwynnol ar gyfer drama neu gantata, drafft cyntaf o gerdd yn blaguro, a gohebiaeth rhwng teulu a chyfoedion am eu bywyd a’u gwaith.


Braf yw adrodd fod archif Menna Elfyn  wedi ei diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol. Mae’n archif sy’n adlewyrchu nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol ein cyfnod diweddar yng Nghymru, am i’r bardd fod yn rhan o ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg, yn erbyn apartheid a gyda merched Comin Greenham.   Ac wrth yrru nôl o Gaerfyrddin i Aberystwyth, roeddwn yn ymwybodol wrth basio mast Blaenplwyf fod llythyrau rhyngddi a’i g?r Wynford James a garcharwyd am ei ran yn yr ymgyrch ddarlledu yn un o’r bocsys lliwgar yng nghefn y car.

Mae’r archif yn cynnwys llyfrau nodiadau, gohebiaeth, drafftiau o sgriptiau, ffeiliau yn ymwneud â chomisiynau a phrosiectau amrywiol, adolygiadau a nifer o weithdai ysgrifennu creadigol. Ymhlith y gohebwyr mae nifer o feirdd a llenorion amlwg Cymru a thu hwnt (R. S. Thomas, Emyr Humphreys, Iwan Llwyd, Hywel Teifi Edwards, Bobi Jones a Meredydd Evans..). Mae’n ategu’r casgliad ardderchog o archifau llenorion sydd yma gan ychwanegu cangen arall at y ‘teulu’ o archifau sydd yma yn adlewyrchu’r gwead difyr rhwng beirdd a llenorion megis Gillian Clarke, Gwyneth Lewis, Nigel Jenkins ac eraill. Gwir werth archif lenyddol yw medru gweld tu hwnt i’r rhes o gyfrolau cyhoeddedig ar silff i ddeall y broses greadigol, ac i ddod ar draws yr annisgwyl. Yn yr achos yma i weld perthynas arbennig Menna Elfyn gyda’i chyfieithwyr (e.e. Tony Conran, Joseph Clancy a Nigel Jenkins ), ei diddordeb ers dyddiau ysgol mewn gosod geiriau i gerddoriaeth, a’r holl lenorion ac artistiaid y bu hi’n cydweithio mor greadigol gyda hwy dros y blynyddoedd.

Nia Mai Daniel

Postiwyd - 29-09-2017

Heb ei gategoreiddio

Prosiect newydd i olrhain hanes llythrennedd yn Ewrop

Sut mae testun ysgrifenedig wedi siapio ein byd dros y canrifoedd? Dyma’r thema fydd yn cael ei thrin a’i thrafod gan brosiect newydd Europeana ‘The Rise of Literacy’, gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) ymhlith y partneriaid fydd yn cydweithio i’w gyflawni. Gyda chymorth ariannol gan y Comisiwn Ewropeaidd, bydd ‘The Rise of Literacy’ yn adrodd hanes esgyniad llythrennedd trwy lygad traws-Ewropeaidd.

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i ym mhrif swyddfa Sefydliad Europeana yn Koninklijke Bibliotheek, sef llyfrgell genedlaethol yr Iseldiroedd yn yr Hâg, i ddechrau ar y prosiect newydd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 13 partner o wledydd ar draws Ewrop fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddigido, rhannu a churadu deunydd digidol sy’n berthnasol i’r thema ar lwyfan Europeana Collections.

Europeana yw llwyfan diwylliant digidol Ewrop, a’r flwyddyn nesaf bydd yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed. Ers ei lawnsio yn 2008, mae nifer y gwrthrychau sydd ar gael ar y llwyfan wedi cynyddu ddengwaith o 4.5 miliwn i 50 miliwn. Mae LlGC wedi gweithio gydag Europeana ar brosiectau eraill dros y blynyddoedd, gan roi mynediad trwy’r llwyfan i rai o’n casgliadau digidol mwyaf adnabyddus, gan gynnwys casgliadau ffotograffig Geoff Charles a John Thomas a chasgliad tirluniau Cymru. Rydym hefyd wedi cyfrannu i brosiectau EuropeanaTravel, EuropeanaCloud a Europeana280.

Daeth y cyfarfod yn yr Hâg â phartneriaid y prosiect ynghyd am y tro cyntaf, ac yn eu plith roedd sefydliadau diwylliannol o’r Alban, Latfia, yr Eidal, Slofenia, Groeg, Portiwgal, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Serbia, yn ogystal â thîm Europeana. Hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn, gallwn weld sawl trywydd y gellid ei ddilyn a’r straeon a allai ddod i’r amlwg trwy’r prosiect.

Nod y prosiect hwn yw creu, datblygu a hyrwyddo cynnwys golygyddol perthnasol i thema esgyniad llythrennedd yn Ewrop.

Fel partner yn y prosiect, bydd LlGC yn rhannu cannoedd o wrthrychau perthnasol, yn amrywio o lawysgrifau canoloesol i weithiau argraffiedig cynnar a phapurau newydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y gellid eu darganfod a’u harddangos ochr yn ochr â deunyddiau tebyg o rannau eraill o Ewrop.

Bydd y gwrthrychau digidol hyn yn cael eu defnyddio i ddehongli’r thema, gan arwain at greu casgliadau, arddangosfeydd, orielau a chofnodion blog, a thrwy hynny yn cael eu gweld yng nghyd-destun ehangach diwylliant Ewrop a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd.

Y cam nesaf fydd cynllunio, dethol a churadu casgliadau digidol a fydd ar gael i’r cyhoedd o wanwyn 2018 ymlaen.

Am ragor o wybodaeth ynghylch prosiect ‘The Rise of Literacy’ a’r cyfarfod cychwynnol yn yr Hâg, darllenwch y cofnod blog hwn gan Nicole McNeilly, Golygydd Casgliadau i Sefydliad Europeana.

Dr Dafydd Tudur

Pennaeth Isadran Mynediad Digidol

Postiwyd - 22-09-2017

Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Edrych nôl ar Refferendwm ’97 drwy ddefnyddio adnoddau electronig y Llyfrgell

Yr wythnos hon, mae ugain mlynedd ers refferendwm Cymru, a arweiniodd at ddatganoli a chreu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Penderfynais ymchwilio yn nhanysgrifiadau ar-lein amrywiol y Llyfrgell am yr achlysur hanesyddol hwn (*Er mwyn cael mynediad i’r adnoddau hyn o’r tu allan i adeilad y Llyfrgell bydd rhaid defnyddio eich tocyn darllen. Os nad oes gennych docyn darllen gallwch gofrestru ar-lein yn hawdd iawn yma).

.
Er bod cefnogaeth i ddatganoli yn isel pan gynhaliwyd y refferendwm gyntaf yn 1979, dros y degawd a hanner nesaf arweiniodd y tirwedd gwleidyddol ac economaidd at alwadau am ail refferendwm. O ganlyniad, addawodd y blaid Lafur ail refferendwm yn eu maniffesto yn 1992, ac ar ôl eu buddugoliaeth yn etholiad cyffredinol 1997, dechreuodd y gwaith paratoi.

.

Drwy’r Ddeddf Refferenda (Yr Alban a Chymru) gofynnwyd i bleidleiswyr os oeddent o blaid datganoli ar gyfer yr Alban a Chymru. Dadansoddodd lawer o sylwebwyr beth fyddai datganoli yn ei olygu i ddyfodol y Deyrnas Unedig, fel y gwelir yn yr erthygl hon o The World Today:

 

Cynhaliwyd y refferendwm ar y 18fed o Fedi 1997, ac yn wahanol i’r refferendwm yn 1979, roedd y canlyniad yn hynod o agos. Mewn gwirionedd, gan fod y pleidleisiau mor agos, roedd y canlyniad yn dibynnu ar y cyhoeddiad o Sir Gaerfyrddin. Wrth i’r canlyniad gyrraedd, bu dathliadau gwyllt ymysg yr ymgyrch ‘Ie’ wrth i ddatganoli gael ei sicrhau o 6,721 o bleidleisiau.

.

Gellir darllen enghreifftiau o adroddiadau’r Guardian am y dyddiau ar ôl refferenda Cymru yma ac yma.

 

O ganlyniad i’r fuddugoliaeth gul hon, pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 gan y llywodraeth Lafur i greu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru:

 

Roedd pryder bod y nifer isel o bleidleisiwr yn golygu bod y cyhoedd yn teimlo’n ddifater tuag at y syniad o gynulliad cenedlaethol, ond yn ôl yr astudiaeth hon gan Roger Scully, Richard Wyn Jones a Dafydd Trystan, nid oedd hyn yn wir:

 

Fodd bynnag, er bod y canlyniad mor agos, roedd Richard Wyn Jones a Bethan Lewis yn awyddus i nodi bod y canlyniad yn gamp sylweddol i’r rheiny yn yr ymgyrch ‘Ie’:

 

Yn dilyn newid mor fawr i dirwedd gwleidyddol y wlad, ac yn dilyn refferendwm pellach yn 2006 a 2011, mae’n naturiol bod sylwebwyr ac ysgolheigion wedi ceisio trafod a gwerthuso effaith datganoli ar wahanol agweddau o fywyd Cymru:

 

Evaluating Devolution in Wales by Adrian Kay

Serving the Nation: Devolution and the Civil Service in Wales by Alistair Cole

New Labour, Education and Wales: the devolution decade by David Reynolds

Devolution and the shifting political economic geographies of the United Kingdom

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

 

 

 

 

Postiwyd - 07-08-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Digido / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau

Y Lle Hanes

Eleni bydd stondin Y Lle Hanes yn canolbwyntio ar 4 thema sy’n berthnasol i ardal yr Eisteddfod, sef Y Mabinogi ac Ynys Môn, Llys Rhosyr a’r Tywysogion Cymreig, Llyn Cerrig Bach ac Oes yr Haearn a Hwfa Môn a’r Eisteddfod Genedlaethol.

 


Mae prif bartneriaid Y Lle Hanes – Amgueddfa Cymru, Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru – wedi bod yn gweithio gyda 15 o gymdeithasau a mudiadau lleol ar Ynys Môn i greu cynnwys, arddangosfa a rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer y stondin yn Eisteddfod 2017.

Bydd llawer o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell yn rhan o arddangosfa Y Lle Hanes yr wythnos hon, gan gynnwys copiau o bapurau newydd o’r 19eg ganrif, ffotograffau John Thomas o Hwfa Môn, mapiau o Ynys Môn, darluniau eiconig Margaret Jones o’r Mabinogi a darluniau Kyffin Williams. Yn ganolbwynt i’r cyfan mae ffacsimili Llyfr Gwyn Rhydderch, llawysgrif o’r 14eg ganrif sy’n cynnwys y copi cyflawn cynharaf ar glawr o chwedlau’r Mabinogi.

Mae gennym wythnos lawn o weithgareddau wedi eu trefnu ar eich cyfer, o waith llaw yn trin casgliadau, pwytho a chloddio, i weithdai addysg i deuluoedd. Byddwn hefyd yn cyflwyno sioeau Mewn Cymeriad deirgwaith y dydd ar themâu megis Hedd Wyn, Buddug a’r Mimosa, felly galwch draw i’n gweld.

 

Owen Llywelyn

Rheolwr Estyn Allan a Chyfranogiad

Postiwyd - 09-12-2016

Heb ei gategoreiddio

Ydi’r Nadolig yn rhy fasnachol? 1960.

Yn y clip hwn o’r rhaglen gylchgrawn ‘In The News’ mae pobol Caerdydd a Phontypridd yn ateb yr cwestiwn tymhorol hwnnw ‘A yw Nadolig yn rhy fasnachol’

 

 

 

 

 

Mae Archif ITV Cymru / Wales wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Twitter:  http://www.twitter.com/nssaw
Facebook – ‘Archif Sgrin a Sain Cymru’

Postiwyd - 13-09-2016

Heb ei gategoreiddio

Y Coliseum – Porthmadog, 1984

Eitem fer o rhaglen ‘Pobol Port’ yn 1984 ar y sinema adnabyddus y ‘Coliseum’  ym Mhorthmadog. Dymchwelwyd yr adeilad ym mis Mawrth eleni.

A short item from the ‘Pobol Port’ programme in 1984, on the iconic ‘Coliseum’ cinema in Porthmadog. The building was demolished in March this year.

Postiwyd - 17-08-2016

Heb ei gategoreiddio

Cwrt Pel-llaw, Nelson

Mae Pel-llaw Americanaidd wedi ei gynnwys yn yr Olympics yn Rio, ond a wyddech chi fod yna fersiwn llawer hyn o Pel-llaw yn dal i gael ei chwarae yng Nghwm Rhymni. Yn Nelson mae’r cwrt pel-llaw triochrog hynaf ym Mhrydain. Lle ardderchog i dim Pel-llaw Cymru hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd y dyfodol.

Handball

Mae Archif ITV Cymru / Wales wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Twitter: http://www.twitter.com/agssc
Facebook – ‘Archif Sgrin a Sain Cymru’

 

Postiwyd - 09-06-2016

Heb ei gategoreiddio

Agor yr archifau: dathlu archifau yng Nghymru

Mae archifau yn helpu i adrodd hanes ein gorffennol a diogelu cof cenedl a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae’r sector archifau yng Nghymru yn cynnwys:

  • 13 gwasanaeth archif awdurdodau lleol (archifdai) gan gynnwys 3 cydwasanaeth, gyda 15 man gwasanaeth
  • 5 gwasanaeth archif addysg uwch
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (RCAHMW)

Mae’r sefydliadau hyn yn cydweithio trwy’r corff partneriaeth strategol Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW) i gyflwyno prosiectau datblygu Cymru gyfan. I ddod o hyd i’ch archif agosaf a mwy am y gwaith y maent yn ei wneud, mae croeso i chi lawrlwytho copi o’n cyhoeddiad newydd – Agor yr Archifau oddi wrth archifaucymru.org (http://www.archiveswales.org.uk/cy/agor-yr-archifau/)

Meddai Helen Palmer, Cadeirydd, Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru, “Mae Prosiect Cynefin yn un o lawer o enghreifftiau gwych o dimau archifau a chofnodion ledled Cymru yn cydweithio i ddarparu’r dogfennau gwerthfawr sy’n cynrychioli ein hanes ni oll, a hanes ein cenedl.”

Rhyddhau ffilmiau sy’n dangos hanes a threftadaeth tirwedd Cymru

 Mae dwy ffilm newydd sy’n archwilio trawsffurfio tirwedd Cymru ac effaith hynny ar fywydau pobl, newydd eu rhyddhau gan Brosiect Cynefin i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Archifau ar 9 Mehefin.

 Yn y 1840au fe gomisiynwyd cyfres o fapiau i gynorthwyo gyda’r dasg o drefnu taliadau degymau. Mae Mapiau’r Degwm yn crisialu darlun o Gymru gyfan, fwy neu lai, gan roi cipolwg ar ein cenedl oedd ar fin ei thrawsnewid. Mae Prosiect Cynefin, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, yn mynd ati i warchod, digideiddio ac archwilio’r mapiau hyn er mwyn sicrhau bod y drysorfa o wybodaeth sydd ynddynt ar gael i unrhyw un, ar lein, am ddim.

Mae un o’r ffilmiau yn canolbwyntio ar rwydwaith y rheilffyrdd. Mae mapiau’r degwm yn dangos rhwydwaith y rheilffyrdd yn dechrau ymlwybro ar draws y dirwedd, ond roedd yn wahanol iawn i’n rhwydwaith ni ar gyfer teithwyr, sydd mor gyfarwydd heddiw. Arweiniodd y cysylltiadau newydd hyn at newidiadau yn hanes llawer o drefi. Ymhen amser byddai’r rheilffyrdd sy’n dechrau ymddangos ar y mapiau hyn yn cysylltu dociau Caerdydd â diwydiannau glo a dur Merthyr. Maes o law byddai’r berthynas hon yn trawsnewid Caerdydd o fod yn dref fach yn y 1880au i fod yn brifddinas Cymru.

 Mae pobl a diwylliant Cymru wedi’u plethu’n dynn â’n tirwedd, ond mae ein perthynas â’r tir a’r ffordd rydym yn ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig ar draws y canrifoedd. Mae’r ffilm arall yn adrodd hanes newid ein diwylliant trwy gyfrwng enwau lleoedd a gallwn deithio’n ôl mewn amser i ddeall bywydau a phryderon pobl oedd yn byw ganrifoedd yn ôl.

Dywedodd Einion Gruffudd, Rheolwr Prosiect Cynefin: “Rydym wedi’n cyffroi wrth ryddhau’r fideos hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Archifau.  Mae’n ddiwrnod delfrydol i ddathlu treftadaeth ein cenedl a’r casgliadau hanesyddol bendigedig sydd i’w cael mewn archifau ar hyd a lled Cymru. Mae mapiau’r degwm yn adrodd hanes ein hynafiaid, ac yn eu tro’n cyfrannu at ein hunaniaeth bersonol ac ar y cyd yma yng Nghymru.”

Mae Prosiect Cynefin yn awyddus i gael pobl Cymru i gymryd rhan yn y dasg o drawsgrifio mapiau’r degwm a dogfennau dosrannu’r degwm sy’n enwi perchnogion tir, meddianwyr tir, defnydd tir ac enwau caeau. Bydd hyn o gymorth i greu dull arloesol a chynhwysfawr o chwilio ar y we, fel y gall pobl ei gyrchu a’i ddefnyddio i chwilio.  I weld ffilmiau Cynefin a dysgu mwy am y prosiect a chyfleoedd i wirfoddoli, ewch i cynefin.cymru

Nia Mai Daniel

Pennaeth Isadran Archifau a Llawysgrifau

(Ysgrifennydd ARCW)

Postiwyd - 28-04-2016

Gwasanaethau Darllenwyr / Heb ei gategoreiddio

“Mae Jones yn codi arswyd…”

Yng ngeiriau cân y Manic Street Preachers, rhoddodd llyfrgelloedd bwer i ni, ond beth sy’n digwydd go iawnl tu ôl i’r silffoedd llyfrau ym mhwerdy diwylliannol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru?O nofelwyr i achyddion, myfyrwyr PhD a beirdd, siaradom â rhai o ddarllenwyr niferus ac amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gael gwybod beth a wnânt y tu ôl i’r silffoedd llyfrau.

Jacqui Kenton, achydd llawrydd, a’i chartref yn Aberystwyth.

 

“Mae fy agosrwydd at Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ddeniadol iawn i’m cleientiaid, gyda’i chyfoeth o adnoddau hanesyddol sydd ddim ar gael ar-lein. Mae llawer ohonynt o’r Unol Daleithiau neu Awstralia – yn aml yn chwilfrydig ac angerddol am eu gwreiddiau Cymreig ac am nad yw Aberystwyth y lle hawddaf i’w gyrraedd mae’n rhatach o lawer i fy nhalu i ymchwilio ar eu rhan.

“Gan fy mod yn byw dim ond deng munud o’r llyfrgell rydw i yma o leiaf 3 neu 4 gwaith yr wythnos. Dw i’n tueddu i ddefnyddio Ystafell Ddarllen y De lle y cedwir y cofrestrau plwyf ac archifau. Mae’n ganolbwynt gwirioneddol i hanes Cymru ac fe deimlwch yn freintiedig i weithio o’r fath gyfleuster gwych. Mae tri achydd arall cyfarwydd i mi sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru, Sir Benfro a Chaerdydd, ond sy’n gofyn i mi geisio gwybodaeth gan fod cymaint o’r ffynonellau gwirioneddol ddefnyddiol yn cael eu cadw yma.

Yn aml gwelaf ymchwilwyr eraill wrthi’n ddygn yn yr ystafelloedd darllen, ond fel y disgwyliech mae tawelwch llwyr. Pob hyn a hyn fe glywch sgwrsio cyffrous pan ddarganfyddir rhywbeth ond yn gyffredinol nid oes croeso i s?n.

“Derbyniaf bob math o gomisiynau – gan fwynwr aur o Awstralia a roddodd ychydig enwau a lleoliadau i mi a dweud ‘ewch’, i bobl sydd wedi dechrau ar eu hymchwil ond wedi taro wal. Fy ngobaith pob amser yw eu helpu ond gweithiaf yn fforensig – gyda thystiolaeth absoliwt yn unig, felly os na fedraf fod yn siwr bod y person cywir gennyf fe ddywedaf wrthynt. Y broblem fwyaf a wynebaf fel ymchwilydd hanes teulu Cymreig yw amlder. Gall cael yr enw Jones godi arswyd gan fod y rhwyd yn cael ei thaenu mor eang ac mae’r un peth yn wir am Davies, Hughes a Richards. Ymhellach yn ôl yn hanes Cymru, gall y tadenw hefyd fod yn broblem.  Yn gyffredinol, os oedd eich teulu’n gefnog, mae’n weddol hawdd i ganfod cofnodion o ewyllysiau, gweithredoedd tir ac ati i helpu’r ymchwil, ond mae’r un peth yn wir am droseddwyr, gyda llawer o gofnodion am y rhai oedd yn camymddwyn.

“Weithiau, derbyniaf geisiadau am rywbeth gwahanol i achau. Fe’m comisiynwyd yn ddiweddar gan Christie’s yn Efrog Newydd i ymchwilio i darddle dau fwrdd ganddynt ar ocsiwn. Credwyd y gallent fod yn eiddo i’r uchelwr Cymreig Syr Watkins Williams-Wynn ac roeddent yn awyddus i mi brofi’r cysylltiad. Yn anffodus, nid oeddwn yn gallu gwneud hynny ond wrth ymchwilio i hyn mewn llyfrau cyfrifon a llythyrau yn y llyfrgell, darganfyddais hanesyn diddorol am was a grogwyd yn y pen draw am ei droseddau. Dwi’n ystyried ysgrifennu llyfr am y stori a ddarganfyddais yno.”

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog