Blog - Heb ei gategoreiddio

Postiwyd - 08-07-2019

Blas ar waith / Casgliadau / Heb ei gategoreiddio

Ach Eisteddfodol

Mae cart achau’r Parch. John Bowen (1747-1835), Caerfaddon (sef NLW MS 24111G), yn bryniad diweddar gan y Llyfrgell Genedlaethol sydd o ddiddordeb ar sawl cyfrif.

Mae’r ach yn gopi wedi ei ddiweddaru, yn llaw John Bowen ei hun, o ach gynharach a luniwyd ym 1608 gan Thomas Jones o Borth-y-Ffynnon, Tregaron, yr enwog Twm Siôn Cati. Fe gomisiynwyd honno gan Robert Bowen o Ballyadams, Swydd Laois, Iwerddon, gor-ŵyr i Owein ap Jenkyn, Ynyspenllwch. Roedd John Bowen yntau yn ddisgynydd o’r un llinach ac wedi ei fagu yng Nghasllwchwr.

Mae saith deg pump o arfbeisiau wedi eu paentio ar yr ach, nid gan Bowen ei hun, mae’n debyg, ond yn hytrach gan arlunydd a gomisiynwyd ganddo. Mae’r arfbeisiau unigol yn hardd ond gyda’i gilydd maent yn creu argraff hynod o drawiadol.

 

 

Nodwedd arall sydd yn arbennig o amserol yw’r nodyn a ganlyn ar gychwyn y siart: ‘Examined and confirmed at the Carmarthen Gorsedd July 11th 1819. The Lord Bishop of St Davids President’. Dyma gyfeiriad felly at y cyntaf o’r Eisteddfodau Taleithiol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 8-10 Gorffennaf 1819, union ddwy ganrif yn ôl. Hon oedd yr eisteddfod gyntaf i’w chysylltu gyda dyfeisiad enwocaf Iolo Morganwg, sef Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Sonier i’r Orsedd gyfarfod yng ngardd Gwesty’r Llwyn Iorwg ar fore Sadwrn, 10 Gorffennaf, er mwyn urddo beirdd, derwyddon ac ofyddion. Roedd John Bowen yn bresennol, a chafodd ei urddo yn ofydd.

Hyd y gwyddom, cart achau John Bowen yw’r unig un i gael ei ardystio gan yr Orsedd yn y fath ffordd. Dogfen unigryw felly.

 

Rhys M. Jones

Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Postiwyd - 29-04-2019

Blas ar waith / Casgliadau

Pythefnos yn y Llyfrgell Genedlaethol: darganfod, digido a chatalogio

Rhai wythnosau’n ôl, croesawodd y Llyfrgell Myra Booth-Cockcroft, myfyrwraig ymchwil PhD o Brifysgol Glasgow, yma ar bythefnos o brofiad gwaith yn yr Isadran Archifau a Llawysgrifau. Diolchwn i Myra am ysgrifennu blog am ei hamser yma gyda ni ac am ei gwaith yn catalogio rhai o ysgriflechi Ystrad Fflur.

***

Dros y bythefnos ddiwethaf, rydw i wedi bod yn Isadran Archifau a Llawysgrifau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael dipyn bach o brofiad o’r gwaith amrywiol sydd yn mynd ymlaen yna. Cefais gyflwyniadau gan staff amrywiol ar eu gwaith, gan gynnwys: y prosesau ar gyfer catalogio llawysgrifau; catalogio archifau mawrion; digido llawysgrifau; cadwraeth ataliol, triniaeth cadwraeth a chwarantin; llyfrau cynnar; creu ffacsimilïau; archifau electroneg a chadwraeth ddigidol. Cefais hefyd y cyfle i arsyllu ar waith y staff tu ôl i’r ddesg yn Ystafell Darllen y De, sydd yn ymateb i ymholiadau ac yn hwyluso profiad darllenwyr sydd yn defnyddio’r casgliadau. Wnes i fwynhau, yn arbennig, y cyfle i baratoi MS Peniarth 6 i’w digido (a chael gweld y nodiadau yn llaw J. Gwenogvryn Evans ynddo!), a hefyd tynnu lluniau o un o lawysgrifau arall o’r casgliad Peniarth gyda’r staff sydd yn gweithio ar ddigido’r holl gasgliad. Oeddwn i wrth fy modd, hefyd, efo’r cyfle i weithio gyda Dr Daniel Huws, Dr Ann Parry Owen, Dr Maredudd ap Huw a Gruffudd Antur yn paratoi Cyfrol 3 o’r cyhoeddiad sydd i ddod, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes.

 

Cefais brofiad o gatalogio nifer o wahanol bethau: casgliad o lythyrau’r bardd ac arlunydd David Jones i Louis Bonnerot; rholyn achyddol Francis Vaughan, o 1591, wedi ei greu yng ngweithdy Twm Sion Cati; casgliad o bapurau’r hynafiaethydd 19eg ganrif, Owen Williams (Owain Gwyrfai); dalen o lawysgrif o’r 13eg ganrif oedd yn cynnwys y testun Lladin o Salm 87 o’r Beibl Fwlgat; a dalen o lawysgrif arall o’r 13eg ganrif oedd wedi’i defnyddio fel ‘pastedown’ i lawysgrif hwyrach. Un o uchafbwyntiau’r pythefnos, yn bendant, oedd cael dechrau catalogio’r Ysgriflechi Ystrad Fflur.

 

 

Mae’r casgliad o 35 ysgriflechi wedi bod yn y Llyfrgell ers 1946, pryd oedant wedi eu darganfod ar safle’r Mynachdy yn Ystrad Fflur. Oedd o’n gyffroes iawn cael edrych ar y llechi, sydd efo arysgrifau o luniau o bobl ac anifeiliaid, barddoniaeth Cymraeg, ac ysgrifennu arall mewn Cymraeg, Lladin a Saesneg. Maent yn gwbl unigryw yng nghyd-destun Cymraeg, ond mae yna esiamplau o ysgriflechi o ddyddiad tebyg wedi’u darganfod yn 1959 yn Smarmore, Iwerddon ac yn 1991 yn Abaty Paisley, Yr Alban. Mae’r llechi yn rhoi cipolwg i ni ar fywyd yn y Mynachdy yn y 15fed ganrif: mae un gyda rhestr o enwau tenantiad Hafodwen Grange ac yn nodi faint oeddynt angen talu am eu rhent (SF1); mae yna tair gyda barddoniaeth yn y mesurau cyhydedd nawban a’r cywydd (SF2, SF3, SF4); mae tair arall wedi’u defnyddio fel ymarfer ar gyfer beddargraffiaeth (SF11, SF12, SF13); ac mae yna sawl gyda lluniau o bobl, anifeiliaid, neu batrymau geometrig. Wrth arsyllu ar y llechi, darganfyddais bod dau ohonynt yn rhan o’r un llech yn wreiddiol (SF23 a SF25) ac yn dangos portread llawn o ddyn moel yn gwisgo tiwnig – un o fynachod Ystrad Fflur o bosib? Yn sicr mae yna mwy i ddarganfod am y llechi difir yma ac rwyf yn edrych ymlaen at fwy o waith yn cael ei wneud efo nhw!

 

Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i’r Llyfrgell am bythefnos ardderchog. Yn enwedig, dwi eisio diolch i Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau, am drefnu rhaglen mor llawn a diddorol i mi, i bawb yn yr isadran Archifau a Llawysgrifau am fod yn fodlon i ddangos eu gwaith ac am fod hynod o groesawgar, a hefyd i’r Canolfan Hyfforddiant Doethurol yr Ieithoedd Celtaidd yr AHRC am noddi fy amser yno.

 

Myra Booth-Cockcroft
Myfyriwr PhD, Prifysgol Glasgow

Tagiau: , ,

Postiwyd - 01-04-2019

Blas ar waith / Casgliadau

Blas ar waith… Cynorthwyydd Cadwraeth dan hyfforddiant

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn dilyn amryw o aelodau staff y Llyfrgell wrth eu gwaith i roi syniad i chi o beth sy’n digwydd y tu hwnt i ddesgiau’r Ystafelloedd Ddarllen. Wythnos hon, fe fyddwn yn clywed gan Julian Evans, Cynorthwyydd Cadwraeth dan hyfforddiant…

 

Gwariais i fis Chwefror ym Mhenarlâg yn gwneud fy modiwl rhwymo llyfrau efo Mark Allen, cadwraethwr Archifdy Sir y Fflint. Roedd e’n fis dwys iawn, ond mi ddysgais i lawer am yr hanes tu ôl i rwymiadau gwahanol a hefyd sut mae gwahanol rwymiadau yn gweithio. Dechreuon ni efo rhwymiadau syml fel rhwymiad adran sengl (single section binding) ac wedyn creu amrywiad o rwymiadau eraill fel rhwymiad cês, steil llyfrgell (library style) a steil hyblyg. Mae pob rhwymiad yn ddefnyddiol mewn achosion gwahanol, fel pwysigrwydd y llyfr, cyllideb ac amser.  I grynhoi’r gwahanol rwymiadau yn fras, mae’r rhwymiad cês yn llawer mwy cloi i greu ac mae’n rhatach. Mae’r steil llyfrgell yn canolbwyntio ar gryfder i sicrhau bod y llyfr yn gallu delio efo defnydd o ddydd i ddydd. Yn olaf mae’r rhwymiad hyblyg yn canolbwyntio ar edrych yn ddeniadol. Gweler isod am enghreifftiau o rai o’r rhwymiadau: yn mynd o’r chwith i’r dde mae rhwymiad cês, steil llyfrgell a steil hyblyg.

Dysgais sut i wneud llawer o elfennau yn ymwneud â rhwymo llyfrau, fel gwnïo llyfr mewn ffyrdd gwahanol, creu gwahanol fathau o ddalennau clawr (end-papers), pario lledr, gorchuddio llyfr efo lledr ac offeru aur. Ceir esiamplau o rhai o’r pwythau gwahanol sy’n cael eu defnyddio ar lyfrau isod: 1) Rhwymyn clymog, 2) Gwnïo Ffrengig, 3) Gwnïo “ar hyd” (yr un mwyaf cyffredin),  4) Cordiau ymwthiol, 5) Cordiau dwbl ymwthiol, 6) Cordiau suddedig, 7) Pwyth cadwyn (y ffordd chi’n clymu un cydiad i’r llall).

 

 

Roedd pob un o’r llyfrau wedi cael eu rhwymo gennyf i yn defnyddio nodwydd ac edau. Mae hyn yn cymryd amser ond mae’n gwneud y llyfr llawer cryfach. Fel gwelwch chi yn y llun isod, dyma’r offer yr ydych yn defnyddio i wnïo’r llyfr. Mae’n dal y tapiau/cordiau yn dynn tra eich bod yn gwnïo o’u cwmpas. Gweler isod hefyd am esiampl o sut mae steil llyfrgell yn edrych. Sylwch bod y tri cydiad ar y dechrau a’r diwedd gyda rhwymyn clymog (rhif 1 uchod). Mae’r tri cydiad cyntaf/olaf yn dueddol i dorri os yw’r llyfr yn cael lot o ddefnydd, felly mae gwneud hyn yn cryfhau’r strwythur.

 

 

Gwariais yr wythnos gyntaf yn dysgu am hanes y gwahanol bapurau a llyfrau, a dysgu sut mae Mark yn gofalu am yr amodau amgylcheddol a’r casgliadau.  Yn ystod yr wythnos olaf cefais ymweld ag archifdy Sir Dinbych, a hefyd gwneud bach o waith ar rhai llyfrau o gasgliad Archifdy Fflint. Dyma enghraifft fach o dasg eithaf syml lle’r oedd meingefn y llyfr wedi dod yn rhydd, a’r uniad wedi cael niwed. Roeddwn i wedi codi’r meingefn o’r llyfr a rhoi defnydd newydd i gryfhau’r meingefn cyn rhoi lliain newydd i gysylltu’r ddau fwrdd nôl i’r meingefn i gryfhau’r uniadau.

 

Julian Evans
Cynorthwyydd Cadwraeth dan hyfforddiant

Tagiau:

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog