Blog

‘Gwŷr a aeth Gatraeth’: eicon cenedlaethol ar-lein

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 10-12-2013

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi delweddau o un o brif drysorau llenyddol Cymru ar-lein, a hynny am y tro cyntaf erioed.

Mae Llyfr Aneirin, cyfrol o’r drydedd ganrif ar ddeg sy’n eiddo i Gyngor Caerdydd, ond a gedwir bellach yn Aberystwyth, yn un o lyfrau pwysicaf Cymru. Fe’i lluniwyd ar groen anifail gan fynaich yn ystod blynyddoedd olaf Oes y Tywysogion, ac mae’n cynnwys ‘Y Gododdin’, cyfres o benillion a gyfansoddwyd gan Aneirin ar ddiwedd y 6ed ganrif.
Llyfr Aneirin
Ar y pryd, llywodraethid rhannau o Ogledd Lloegr a De’r Alban gan deyrnasoedd Brythonig a ymdrechai i warchod eu ffiniau rhag ymosodiadau carfannau o Saeson. Yn dilyn gwledda yng Nghaeredin am flwyddyn, teithiodd 300 o filwyr teyrnas Manaw Gododdin o Gaeredin i wrthsefyll y Saeson mewn man strategol yng Nghatraeth, swydd Efrog. Bu’r frwydr yn ffyrnig, a 3 yn unig o’r Brythoniaid a ddihangodd o faes y gad, yn eu plith y bardd Aneirin. Cyfansoddodd yntau gyfres o awdlau, mewn ffurf gynnar o Gymraeg, i goffáu’r g?yr ieuainc a gollwyd.

Mae awdlau Aneirin yn gignoeth yn eu portread o erchylltra rhyfel. Gwell oedd gan y gw?r ieuainc hyn ymladd na mynychu gwledd briodas, a lladdent y gelyn mor rhwydd â phe byddent yn medi brwyn. Y nod oedd atseinio sain cleddyfau ym mhennau mamau’r gwrthwynebwyr, a thalu am eu medd trwy ildio eu bywydau eu hunain.

Yn Llyfr Aneirin y ceir y geiriau enwog:
Gw?r a aeth Gatraeth, oedd ffraeth eu llu,
Glasfedd eu hancwyn a gwenwyn fu,
Trichant trwy beiriant yn catáu,
A gwedi elwch, tawelwch fu.
Cyd elwynt i lannau i benydu,
Dadl diau angau i eu treiddu.

Cyhoeddir y delweddau o Lyfr Aneirin i gyd-fynd ag arddangosfa boblogaidd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, sef 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd.

Am y tro cyntaf erioed, dangosir pob un o brif lawysgrifau cynnar y Gymraeg dan yr unto, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, sydd ar fenthyciad o Goleg Iesu Rhydychen.

Dyma’r tro cyntaf erioed i brif drysorau llenyddol Cymru fod ynghyd ar gyfer ymwelwyr, ac mae’r tyrfaoedd eisoes yn pererindota i Aberystwyth i’w gweld. I rannu’r wefr o’u gweld, rydym yn rhoi’r olaf o lyfrau hynafol Cymru ar-lein, i ymuno â thrysorau megis Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest ar y we fyd-eang.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog