Blog

‘Handel with care’: gweddillion casgliad cerddorol Wynnstay

Casgliadau / Cerddoriaeth - Postiwyd 03-10-2022

Ar 6 Mawrth 1858 chwythodd tân dinistriol drwy blasty Wynnstay a ffodd y trigolion yn eu dillad nos. Ni chollwyd unrhyw fywydau ond dinistriwyd llawer o’r llyfrgell, ynghyd â dodrefn, paentiadau a phethau gwerthfawr eraill. Disgrifiodd adroddiad yn y North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality ar 13 Mawrth weddillion y llyfrau a’r llawysgrifau prin fel‘masses of black substance in the shape of books but hard and wet, mixed with scraps of black-letter books (some partially legible), music and engravings’.

Roedd y disgrifiad dramatig hwn yn gymhelliant i ymchwilio i dynged casgliad cerddoriaeth y pedwerydd barwnig. A aeth y cyfan i fyny mewn fflamau … ai peidio?

Roedd Sir Watkin Williams Wynn, 4ydd Barwnig, (1749-1789)   yn frwd dros y celfyddydau cain. Bu bron iddo fethdalu ystâd Wynnstay trwy ei wariant gormodol ar luniau, cerflunwaith, theatr a cherddoriaeth. Ar gost fawr creodd theatr breifat yn Wynnstay ar gyfer dramâu a chyngherddau. Roedd gan ei gartref moethus yn Llundain yn St James’s Square,1 a ddyluniwyd gan Robert Adam, ei hystafell gerddoriaeth ei hun wedi’i haddurno’n gain yn cynnwys organ Snetzler. Datblygodd diddordeb Syr Watkin mewn cerddoriaeth yn gynnar, efallai dan ddylanwad y telynor teuluol, John Parry, neu efallai yn ystod ei arddegau yn Ysgol Westminster. Yn ddyn ifanc ymunodd â’r  Noblemen and Gentlemen’s Catch Club ac yn gyflym daeth i gymryd rhan â’r sîn cerddorol cyfoes yn Llundain.2 Bu’n stiward yn yr ŵyl gerddorol flynyddol yn St Paul’s er budd Corfforaeth Meibion y Clerigwyr ac yn drysorydd y pwyllgor ar gyfer ‘Antient Concerts‘. Yn anochel roedd ar y pwyllgor ar gyfer trefnu Cyngerdd Coffa Handel yn Abaty Westminster yn 1784.

Mae’n debyg bod arferion casglu Syr Watkin wedi’u hysbrydoli gan ei Daith Fawr3 yn Ffrainc a’r Eidal, 1768-9. Daw’r dystiolaeth gyntaf o lyfr cyfrifon4 ei was hir-ddioddef (ei stiward yn ddiweddarach) Samuel Sidebotham. Roedd y costau’n cynnwys prynu lluniau, cerfluniau, dodrefn a llyfrau prin, cyngherddau gan Piantanida, Giovannini ac eraill, cerddoriaeth i’r corn Ffrengig i Mr Morris (gwas Wynnstay), tannau telyn ac yn Turin feioloncello i Syr Watkin, a oedd yn chwaraewr amatur medrus. Yn ôl adref roedd cyfrifon cerddoriaeth Wynnstay ar gyfer 1773 yn dangos pryniannau o bedwarawdau Haydn, pedwarawdau Boccherini, agorawdau dethol Hamal, sonatâu harpsicord Ebdon a deuawdau Noferi; yn ogystal â newidiadau i’r sielo, cyngherddau niferus, a gwersi cerdd i Syr Watkin ac i’r canwr bas, Mr Meredith. Yn 1774/5 cafwyd ychydig o gerddoriaeth gan Handel (amhenodol). Ym mis Ebrill 1779 mynychodd Syr Watkin arwerthiant tri diwrnod y ‘truly valuable and curious library of music late in the possession of Dr William Boyce5’ lle prynodd ddeg lot, yn cynnwys caneuon, madrigalau, motetau a gweithiau offerynnol gan Porpora, Bononcini, Orlando de Lassus, Caldara, Steffani, Gabrieli, Geminiani, Handel ac eraill. Yn naturiol, yr oedd teulu Williams Wynn yn tanysgrifio i weithiau John Parry, ei British Harmony being a collection of Antient Welsh Airs a gyhoeddwyd yn 1781, wedi ei chysegru i’w noddwr.

 

 

Wynnstay EH4/1, llyfr cyfrifon 1768-69

 

Nid yw’n syndod bod mwy o dystiolaeth o gasgliad cerddorol Wynnstay yn dod oddi wrth Charles Burney, efo ei Account of the Musical Performances in Westminster Abbey and the Pantheon May 26th, 27th, 29th; and June the 3rd, and 5th, 1784 in Commemoration of Handel6 yn disgrifio’r digwyddiad mawreddog mewn manylder yr un mor odidog. Yn ffodus, cynhwysodd Burney restr o weithiau Handel, yn y casgliad brenhinol ac yn nwylo unigolion preifat, gan gynnwys Syr Watkin Williams Wynn, a oedd yn berchen ar operâu printiedig, oratorios a Te Deums (sic); ac mewn llawysgrifau, y Te Deum in A, yr anthem Let God arise, I will magnify thee, As pants the Hart for five voices (‘with several alterations and additions by Handel himself….’), The King shall rejoice, Sing unto God, Blessed are they, fersiynau ar gyfer lleisiau heb offerynnau o Let God arise and As pants the Hart, ac Ode or Serenata for the Birthday of Queen Anne.

Ymhlith Llawysgrifau Trevor Owen (bellach NLW MS 2785C) y mae catalog o lyfrgell Wynnstay, 1840 (a oedd yn rhagflaenu’r tân) sy’n rhestru hanes cerddoriaeth Hawkins a Burney, The Welsh Harper gan John Parry a sgoriau eraill gan Haydn, Avison, Clark, Handel, Gay, Corfe ac Arnold, a gafodd eu storio yn y llyfrgell, ystafelloedd astudio ac ystafelloedd eraill yn Wynnstay. Mae’n debyg bod y rhain yn gydrannau o gasgliad cerddoriaeth y bedwerydd barwnig. Edrychodd Alexander Hyatt King ar weddillion trist eraill ym 1945, wedi’u difetha gan leithder a llwydni yn y stablau yn Wynnstay, a ddisgrifiwyd fel ‘…practically all unbound, mint, in wrappers, as issued. The bulk was English, back to the seventeen-thirties, but it also included many Hummel and Roger editions, beside some French and Austrian publications.7

Yn amlwg, roedd Syr Watkin wedi casglu casgliad o gerddoriaeth o bwys cenedlaethol. Yn anffodus, mae’r rhestr o lyfrau a dodrefn yn 20 St James’s Square, dyddiedig 1789, yn rhy fregus i gael mynediad ato.8 Nid yw maint llawn y casgliad yn hysbys ac mae’n anodd asesu pa gyfran yn union a gollwyd oherwydd tân neu leithder. Serch hynny, goroesodd peth ohono, yn y pen draw i’w werthu ynghyd â’r arian, y lluniau ac etifeddiaethau eraill Wynnstay, i dalu dyledion a galwadau treth yn y 1940au. Mae darnau dirdynnol wedi troi lan yn ddiweddarach, mewn ystorfeydd archifau, llyfrgelloedd a mannau annisgwyl.

 

 

Stâd Wynnstay gan John Ingleby (1749-1808)

 

Mae erthygl gan Martin Picker yn y Journal of the Rutgers University Libraries9 yn disgrifio un ar ddeg o gyfrolau o Handel, a brynwyd gan Lyfrgell Rutgers, New Brunswick, c. 1950, yr ymddengys ei fod yn tarddu o Wynnstay. Mae chwech o’r cyfrolau yn cyfateb yn union o ran cynnwys a threfn i’r rhai a restrwyd gan Charles Burney. Mae unffurfiaeth y rhwymiad a defnydd cyson yr un copïwyr yn awgrymu bod yr holl gyfrolau ar un adeg yn perthyn i Syr Watkin Williams Wynn. Mae Picker yn nodi lleoliadau sgoriau Handel eraill o’r casgliad, yn arbennig anthemau yng Nghasgliad Handel Gerald Coke yn y Foundling Museum10 a chantataau Eidalaidd a rhifynnau cynnar o operâu ym Mhrifysgol Sydney, Awstralia.11

Mae Donald Burrows, yn y Newsletter of the American Handel Society12 yn nodi’r darganfyddiad annisgwyl, mewn siop elusen anifeiliaid ym Manceinion, o sgôr Meseia mewn llawysgrifen John Matthews mae’n debyg o’r 1760au, oedd unwaith yn perthyn i Syr Watkin Williams Wynn. Roedd llawysgrifau eraill o Wynnstay, yn cynnwys dyfyniadau o operâu Pasquale Anfossi, Piccini, Monza, a Gassman gynt yn llyfrgell St Michael’s College, Tenbury Wells, Swydd Gaerwrangon, ac maent bellach yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Bodleian.13

Yn amlwg nid oedd diddordebau cerddorol Syr Watkin yn gyfyngedig i Handel. Mae’r Llyfrgell Brydeinig yn cadw saith llawysgrif o Purcell, yn cynnwys ‘dramatic music, odes, etc.’ [1683×1695], y mwyafrif wedi’u copïo c. 1771 gan Jos Fisher, Darwen, Swydd Gaerhirfryn.14 Mae enw Syr Watkin Williams Wynn wedi ei arysgrifio ar ddalen un gyfrol ac mae arfbais eryr Williams Wynn yn ymddangos ar feingefn sawl un yn y gyfres honno. Roedd cerddoriaeth theatr Purcell yn rhan o raglenni’r Catch Club a’r Concerts of Antient Music, a hyrwyddwyd gan Iarll Sandwich a Syr Watkin Williams Wynn. Gwyddys bod Syr Watkin yn berchen ar gopïau o King Arthur, The Indian Queen a The Tempest.15

 

 

NLW MS 14427B, cerddoriaeth yn cynnwys cyfansoddiadau Handel a John Parry, c.1764

 

Yn rhyfeddol, mae dau o’r offerynnau o gasgliad Wynnstay wedi goroesi. Y gyntaf ac amlycaf yw’r organ Snetzler godidog yn ei chas Adam, a leolwyd yn wreiddiol yn 20 St James’s Square, a symudwyd i Wynnstay ym 1864 ac a brynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1995. Yr ail yw’r sielo a brynodd Syr Watkin yn Turin ar y daith fawreddog yn 1768. Costiodd iddo 480 o livres Piedmont, ac yr oedd eisoes yn henbeth pan gafodd ef, yn dwyn y label Chiafredi Cappa, Mondovi 1697. Prynwyd yr offeryn oddi wrth Wynnstay gan Alfred Hill o W.E. Hill & Sons, Llundain, a chadarnhawyd ei darddiad gan Rudolph Wurlitzer Co., Cincinnati & Efrog Newydd, 1931, Alfred Hill, 1934, Adolph Hoffman (g.d.), Desmond Hill, 1962 a Kenneth Warren & Son, Chicago, IL, 1962 Fe’i cofnodwyd ar werth yn Christies, Efrog Newydd, 6 Mawrth 1986, lle methodd â chyflawni’r $60,00016 a ragwelwyd. Mae wedi ei adnabod fel y sielo sydd bellach yn cael ei chwarae gan Marc Coppey, ond mae diffyg cadarnhad.

Yn olaf, trochwch eich hun ym myd sain y ddeunawfed ganrif, wedi’i ail-greu o lawysgrifau cerdd a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Nodiadau

  1. LlGC, Cofnodion Stad Wynnstay, EH3/10.
  2. Gweler Blog LlGC 08-03-2021.
  1. Disgrifir y daith gan Paul Hernon, Sir Watkin’s tours : excursions to France, Italy and North Wales, 1768-71 (Wrecsam : Bridge Books, 2013).
  1. LlGC, Cofnodion Stad Wynnstay EH4/1. Mae llyfrau cyfrifon pellach y pedwerydd barwnig wedi’u rhifo EH4/2-10, a rhai yn rhydd yn EH3/2-12.
  1. Robert J. Bruce a H. Diack Johnstone, ‘A Catalogue of the truly valuable and curious library of music late in the possession of Dr William Boyce (1779): transcription and commentary’ mewn Royal Musical Association Research Chronicle rhif 43 (2010), tt. 111-171 (Taylor & Francis Ltd ar ran y Royal Musical Association)
  1. Charles Burney, ‘List of Handel’s Works’ mewn An Account of the Musical Performances in Westmisnster Abbey and the Pantheon May 26th, 27th, 29th; and June the 3rd, and 5th, 1784 in Commemoration of Handel (Llundain : T. Payne and son [etc.] 1785) tt. 45-6:
  1. Alexander Hyatt King, Some British Collectors of Music, c. 1600-1960 (Cambridge University Press, 1963), t. 18
  1. Archifau Sir Ddinbych, Llawysgrifau Wynnstay rhif DD/WY/7944.
  1. Martin Picker, ‘Sir Watkin Williams Wynn and the Rutgers Handel Collection’ mewn Journal of the Rutgers University Libraries Cyf. 53, Rhif 2 (1991) tt. 17-26.
  1. Gerald Coke Handel Collection: Let God arise and Te Deum Laudamus, rhif 2/B/LET GOD ARISE (Cyn rhif Catalog Coke HC415a/C1 HC479c/C2)
  2. Cyfeiriad heb ei ddarganfod.
  3. Donald Burrows, ‘Newly recovered Messiah Scores’ mewn Newsletter of the American Handel Society Cyf. IV, Rhif 3 (Rhagfyr 1989) tt. 1, 5.
  1. Llyfrgell Bodleian, MS. Tenbury 656 and MS. Tenbury 1153.
  2. Y Llyfrgell Brydeinig: Search Archives and Manuscripts, rhif Add. MS 62666-62672.
  3. S. Tuppen, ‘Purcell in the 18th century: music for the Quality, Gentry, and others’ mewn Early Music Cyf. 43; Rhif 2, 2015 (Oxford University Press) tt. 233-245.
  1. Catalog Christies New York, ‘Important Musical Instruments’ Dydd Iau 6 Mawrth 1986, tt. 36-7.

 

Hilary Peters

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog