Blog

Postiwyd - 19-07-2019

Collections / Stori Cymru

Gosod troed ym Mhatagonia

Mae’r cofnod hwn yn rhan o raglen Stori Cymru. Cliciwch ar Stori Cymru o dan y categorïau i weld gweddill y cofnodion. Gallwch hefyd danysgrifio i’r blog i dderbyn ebyst am yr holl gofnodion.

Safai torf o dros 150 o bobl, yn oedolion a phlant, ar fwrdd llong yn craffu ar y wlad a fyddai’n gartref newydd iddyn nhw. Dydd Iau 27 Gorffennaf 1865 oedd hi. Roedd y Mimosa wedi bwrw ei hangor o’r diwedd a’r ymfudwyr yn disgwyl yn eiddgar i osod troed ar dir Patagonia.

Aeth bron i ddeufis union heibio ers iddynt gychwyn eu mordaith o ddociau Lerpwl, ac roedd yn rhyfeddod i’r fenter ddod mor bell â hyn. Wedi blynyddoedd o drafodaethau gyda Llywodraeth Buenos Aires, y bwriad gwreiddiol oedd iddyn nhw deithio i Batagonia ar fwrdd yr Halton Castle, llong ddwywaith maint y Mimosa. Methodd honno ddychwelyd yn brydlon o’i mordaith flaenorol a bu’n rhaid gwneud trefniadau newydd. Bu’r ymfudwyr – unigolion, cyplau a theuluoedd o leoedd fel Aberpennar, Aberdâr, Rhosllanerchrugog, Ffestiniog yn ogystal â Lerpwl a Phenbedw – yn aros am fis tra oedd y Mimosa yn cael ei haddasu ar gyfer y daith.

O ran y fordaith ei hun, dechreuodd gyda thywydd stormus wrth adael Lerpwl, cafwyd gwyntoedd cryfion ar y ffordd a dyddiau eraill pan oedd y môr yn dawel a’r haul yn grasboeth. Bu farw tri o blant ar y llong a ganwyd dau, a chafwyd priodas hefyd. Roedd cyrddau gweddi yn cael eu cynnal yn ddyddiol.

Roedden nhw wedi cyrraedd Patagonia er gwaethaf popeth, a dau o arweinwyr y fenter, Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts, yno i’w cyfarch. Mae Joseph Seth Jones, argraffydd i20 oed o Ddinbych oedd ar fwrdd y llong, yn nodi yn ei ddyddiadur bod Lewis Jones wedi dod atynt mewn cwch a’i fod wedi’i groesawu â llawenydd mawr. ‘Yr oedd ei adroddiad yn bodloni yn gyffredinol a thu hwnt i’n disgwyliadau o lawer.’ ysgrifennodd, ‘Dywedai mai trwy rwystrau anghyffredin yr oedd wedi llwyddo.’ Mae’r dyddiadur yn gofnod gwerthfawr o’r fordaith trwy lygaid un o’r teithwyr, ac mae ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dechreuodd pennod newydd yn hanes y fenter gyda’r glanio ar dir Patagonia; byddai’n rhaid iddynt wynebu taith arall o tua 40 milltir i gyrraedd dyffryn yr afon Chupat (a ddaeth i’w adnabod wedyn fel Dyffryn Camwy), heb sôn am yr her fawr o wneud cartref newydd i’w hunain ar dir mor sych a diffaith. Bu adegau wedyn pan y bu bron iawn i’r fenter ddod i ben yn llwyr, ond, er syndod i lawer, mae’r iaith Gymraeg yn dal i gael ei siarad ym Mhatagonia heddiw.

O ran y nifer y Cymry a aeth yno (cyfanswm o tua 4,000 erbyn 1900), darn bach yn unig yw’r Wladfa yn holl hanes yr ymfudo o Gymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Aeth llawer mwy i’r Unol Daleithiau ac Awstralia, er enghraifft, a symudodd rhai o’r bobl hynny eto er mwyn ymuno â’r Wladfa. Ond mae’r swyn sy’n perthyn i Batagonia yn parhau hyd heddiw ac wedi rhoi amlygrwydd i’r bennod hon yn hanes y genedl. Mae’n deillio o’r darlun rhamantus o’r wlad a’i thirwedd, o ddewrder a dyfalbarhad yr ymfudwyr eu hunain, ac wrth gwrs o’r freuddwyd a ysgogodd y fenter: y dyhead i sefydlu gwladwriaeth annibynnol ble byddai’r iaith Gymraeg yn brif gyfrwng i bob agwedd o fywyd, gan gynnwys cyfraith, gwleidyddiaeth, addysg a masnach. Roedd uchelgais y fenter, yn ymarferol ac yn ideolegol, yn ddadleuol a rhyfeddol bryd hynny fel ag y mae heddiw.

Mae gan y Llyfrgell nifer o ddeunyddiau amrywiol ar-lein i’ch helpu i ddarganfod mwy am hanes y Cymry ym Mhatagonia. Ceir detholiad o’r 25 llawysgrif bwysicaf a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n ymwneud â Phatagonia, gyda dyddiadur Joseph Seth Jones yn eu plith. Mae hefyd rhestr o lyfrau ac erthyglau am Y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America.

Dafydd Tudur, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog