Blog

Postiwyd - 10-05-2016

Gwasanaethau Darllenwyr

Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol

 

 

Hanes teulu 2

 

Wedi meddwl am ddechrau ymchwilio hanes eich teulu? Ddim yn gwybod ble i ddechrau? Beth am ymweld â Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth dydd Sadwrn 14 Mai. Mae’n le delfrydol i ddechreuwyr i ddod o hyd i wybodaeth ar sut i ddechrau ymchwilio, lle i fynd a beth sydd ar gael.

Hon fydd y drydedd Ffair yn y Llyfrgell ac eto bydd dros ugain o stondinau yn Oriel Gregynog. Ynghyd ag arbenigwyr o’r Llyfrgell, bydd cymdeithasau hanes teulu sirol yno i rannu eu gwybodaeth arbenigol lleol ac i werthu adysgrifau a mynegeion i gofrestri plwyf, cyfrifiad ac adysgrifau cerrig beddau. Bydd eraill yn arbenigo mewn hanes lleol a hefyd hanes Cymru. Bydd digon o lyfrau ar werth – rhai newydd ar ymchwilio hanes teulu a hanes lleol, ond hefyd dewis eang o rai ail-law a mapiau. Os byddwch angen help gyda ffotograffau mae hynny ar gael hefyd yn enwedig sut i’w adnewyddu os bod eich rhai chi wedi gweld dyddiau gwell.

 

Hanes teulu 1

 

Bydd dau gyflwyniad yn ystod y dydd, mynediad am ddim trwy docyn www.llgc.org.uk/drwm

‘Sources for local and family history in Wales’ gan Michael Freeman, bydd yn rhannu ei wybodaeth ac arbenigedd fel ymchwilydd.

‘Identifying and Interpreting Family Photographs’ gan William Troughton, ein Llyfrgellydd Delweddau Gweledol fydd yn eich tywys ar daith ryfeddol wrth chwilio am y cliwiau hollbwysig ar gyfer dyddio ac adnabod hen luniau.

 

Beryl Evans

Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog