Eisteddfodau cenedlaethol Ceredigion ddoe a heddiw
Casgliadau - Postiwyd 01-08-2022
Arwydd ‘Croeso’ yn Nhregaron
Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 wedi cyrraedd! Dyma gipolwg ar rai o eisteddfodau’r gorffennol a gynhaliwyd yng Ngheredigion gyda rhai ffeithiau diddorol amdanynt:
Aberystwyth, 1916
Cynhaliwyd yr Eisteddfod ar Gaeau’r Ficerdy ar gyrion y dref.
Testun yr awdl oedd ‘Ystrad Fflur’. John Ellis Williams oedd y bardd buddugol ac roedd Hedd Wyn yn ail.
Ni chynigiwyd coron.
Aberteifi, 1942
Bwriadwyd ei chynnal yng Nghaerfyrddin ond oherwydd y Rhyfel fe’i cynhaliwyd yn Aberteifi.
Nid oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair.
Crwys oedd yr Archdderwydd.
Kate Roberts oedd beirniad y stori fer.
Aberystwyth, 1952
Cafwyd teilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair – ‘Lleisiau’r Greadigaeth’ neu ‘Dwylo’. Awdl John Evans ‘Dwylo’ oedd yn fuddugol.
Doedd neb yn deilwng yng nghystadleuaeth y goron. Y testun oedd ‘Y Creadur’ neu ‘Unrhyw Chwedl Gymreig’. Mae’r goron i’w gweld yn ein harddangosfa ‘A oes heddwch.’
Y goron, 1952
Yr Archdderwydd oedd Cynan.
Gallwch wylio cofnod o’r eisteddfod hon ar ffilm fud sy’n cynnwys rhai o bobl amlwg y dydd fel T. H. Parry-Williams ac Elfed.
Aberteifi a’r cylch, 1976
Roedd hon yn Eisteddfod gofiadwy iawn am sawl rheswm – dathlu wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, y llwch mawr yn dilyn deufis o dywydd tanbaid, saga’r ddwy awdl ‘Gwanwyn’ a nifer fawr o eisteddfotwyr yn heidio yno gan dorri record.
Enillodd Alan Llwyd y goron am ddilyniant o tua hanner cant o benillion ar y thema ‘Troeon Bywyd’ a’r gadair am ei awdl ‘Gwanwyn’.
Cyhoeddwyd stampiau arbennig gan y Post Brenhinol i nodi’r achlysur.
Rhai o’r rhaglenni swyddogol, 1916, 1952 a 1976
Llanbedr Pont Steffan a’r fro, 1984
Enillodd John Roderick Rees y goron am ei bryddest ‘Llygaid’ am ddirywiad cefn gwlad ac ail goron y flwyddyn ddilynol yn Rhyl. Bu‘n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Tregaron a chafodd rhai o’r disgyblion y fraint o weld y goron ar ei ymweliad â’r ysgol.
Cyflwynwyd y ddwy goron i Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ar ôl ei farwolaeth. Cynlluniwyd hwy gan Kathleen Makinson.
Yr Archdderwydd oedd W. J. Gruffydd (‘Elerydd’), un o feirdd niferus Ffair Rhos.
Ceredigion, Aberystwyth, 1992
Gelli Angharad ger Aberystwyth oedd lleoliad yr ŵyl.
Yr oedd yr Archdderwydd presennol Myrddin ap Dafydd yn un o feirniaid yr awdl ‘A Fo Ben …’. Idris Reynolds oedd yn fuddugol.
Rhoddwyd y goron gan Owen a Prys Edwards.
Yr Archdderwydd oedd ‘Ap Llysor’ (W. R. P. George), nai Lloyd George.
Robin Llywelyn (Portmeirion), a chyn fyfyriwr yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, oedd enillydd y fedal ryddiaith gyda’i nofel Seren wen ar gefndir gwyn. Cyfieithwyd y nofel ganddo yn 2004 fel White star.
GigioDigion oedd enw’r Babell Ieuenctid.
‘Sethgwenwyn a’r Gwyrddedigion’ oedd teitl Sioe Gerdd y Plant.
‘Tic Toc’ oedd yr opera roc.
Cynhaliwyd ‘Noson fawr yr Eisteddfod’ sef ‘Llais y lli’ gyda chynfyfyrwyr fel Dyfan Roberts, Geraint Lövgreen, Mynediad am ddim a Myrddin ap Dafydd yn diddanu.
‘Yr Orsedd, yr Eisteddfod a’r Llyfrgell’ oedd ein harddangosfa.
Ceredigion, Tregaron, 2022
Ar ôl cyfnod hir o ansicrwydd mae’r Eisteddfod yn ei hôl. Dewch draw i’n stondin ar y maes i ddysgu am hanes a diwylliant Tregaron.
Tybed pa uchafbwyntiau a straeon diddorol fydd yn rhan o’r eisteddfod hirddisgwyliedig hon?
Pabell ar y Maes, Tregaron
Cylch cerrig yr Orsedd, Tregaron
Ann Evans
Archifydd Cynorthwyol