Dylan Ar-lein
Arddangosfeydd - Postiwyd 05-08-2014
Heddiw rydyn ni’n lansio arddangosfa ar-lein o lawysgrifau Dylan Thomas, sy’n cyfateb â’r arddangosfa ffisegol sydd i’w gweld yn y Llyfrgell tan 20 Rhagfyr 2014.
Bydd dros 150 o ddelweddau digidol i’w gweld ar y wefan, a bydd rhain yn amrywio o basbort Dylan, llythyrau personol at ffrindiau a theulu a nodiadau’n ymwneud â rhai o’i gerddi enwocaf i ddrafftiau o storïau, darllediadau a sgriptiau, ei fap ei hun o Llareggub a chyfres o’i ddwdyls.
Gan y Llyfrgell Genedlaethol mae’r archif fwyaf yn y byd o ddeunydd yn ymwneud â’r bardd roc-a-rôl, ac er bod nifer helaeth o’i lawysgrifau i’w gweld yn yr arddangosfa ffisegol, bydd hyd yn oed mwy i’w gweld ar y wefan, ac yn cael eu hychwanegu ati dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf fel etifeddiaeth barhaol i ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas.
Mae’r deunydd ar gael i bawb o bedwar ban byd yn rhad ac am ddim, felly ewch ati i dwrio drwy’r casgliad gwerthfawr yma o bapurau’r llenor eiconig Cymreig.
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English