Blog

Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd

Collections - Postiwyd 03-11-2022

Mae hi’n Ddiwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd heddiw sy’n gyfle felly i dynnu sylw at y gwaith a wneir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru i sicrhau bod cynnwys digidol yn cael ei gadw ar gyfer y dyfodol. Er mwyn codi ymwybyddiaeth gyffredinol o faterion yn ymwneud â galluogi mynediad parhaus i gynnwys digidol, sy’n effeithio ar ddata personol yn ogystal â data sefydliadol, hoffwn eich cyflwyno i Wilff.

Er bod Wilff yn gyfarwydd â chasgliadau ffisegol (ar ôl eistedd ar silff yn gwylio catalogio archifol ers blynyddoedd lawer) yn ddiweddar mae wedi ymddiddori mewn cynnwys digidol a sut y bydd yn hygyrch yn y dyfodol. Er mwyn dysgu mwy am hyn aeth Wilff o amgylch y Llyfrgell yn ffilmio gweithgareddau cadwedigaeth ddigidol y Llyfrgell. Mae’r ffilm ar gael i’w gweld yma:

Yn dilyn ei daith o gwmpas y Llyfrgell, roedd eisiau Wilff darganfod mwy am sut y gallai sicrhau bod ei gynnwys ddgidol yn cael ei gadw. Darganfu fod y Llyrgell wedi enill wobr y Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol am ei rhaglen Dysgu trwy wneud: meithrin sgiliau cadwedigaeth ddigidol yng Nghymru. Cyflwynwyd y wobr gan Rwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd fel cydnabyddiaeth o werth gwaith y Llyfrgell wrth ddarparu hyfforddiant a gwella sgiliau i staff ledled Cymru. Trwy astudio’r adnoddau a oedd yn cefnogi’r rhaglen, mae Wilff wedi datblygu sgiliau newydd a gall wirio cynnwys am firysau, nodi fformatau ffeil, gwirio nad yw data wedi’i lygru a chreu metadata. Mae’r adnoddau i wneud y camau hyn ar gael i bawb eu gweld a’u defnyddio ar wefan Archifau Cymru.

Mwynhaodd Wilff ei anturiaethau yn y Llyfrgell ond mae bellach yn ôl ar ei silff arferol. Bellach mae’n gwybod na ellir gadael cynnwys digidol yn eistedd ar silff rithwir ond bod yn rhaid cymryd camau i’w gadw. Os hoffech unrhyw help neu gyngor am gadwedigaeth ddigidol, cysylltwch â gofyn@llyfrgell.cymru.

Sally McInnes, Pennaeth Cynnwys Unigryw a Chyfoes

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog