Blog

Dewin y Bêl: Cwpan y Byd 2018/1958

Collections - Postiwyd 11-06-2018

Gyda Chwpan y Byd 2018 yn cychwyn Dydd Iau mae cefnogwyr pêl-droed o 32 wlad yn gobeithio bydd ei breuddwydion yn cael ei wireddu. Bydd y gweddill ohonom yn ysu i weld beth fydd yr ateb i sawl cwestiwn tyngedfennol. Pwy neith ennill y gystadleuaeth – Yr Almaen, Ffrainc, Sbaen, Brasil neu’r Ariannin neu un o adar y nos fel Wrwgwái, Colombia neu Portiwgal? Pwy fydd chwaraewr y gystadleuaeth – Salah, Neymar, Messi, Firmino neu Ronaldo? A pha dîm bydd yn rhoi ysgytwad i’r gystadleuaeth?

 

Yn anffodus, ar ôl eu campau yn gystadleuaeth Ewro 2016, ni fydd tîm Cymru yn cymryd rhan yn Rwsia wedi ymgyrch rhagbrofol siomedig. Ond 60 mlynedd yn ôl roedd Cymru ar fin chwarae eu hail gêm yng Nghwpan y Byd 1958, gem gyfartal 1-1 yn erbyn Mecsico yn Stadiwm Råsunda, Solna. Mae gweddill y stori yn gyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed Cymru – aeth Cymru ymlaen i gyrraedd y gêm gogynderfynol gyda gôl gan Pelé yn torri calonnau’r Cymry.

 

Ond beth mae fel chwarae yn gêm ryngwladol i’ch cenedl? Rydym yn medru cael ryw syniad o ragair John Charles i’r nofel Dewin y Bêl, gafodd ei chyhoeddi yn 1957 wrth i’r cyffro cynyddu o gwmpas tîm Cymru a Chwpan y Byd 1958. Roedd y nofel gan Alun Owen, un o daliadau Casgliad Print Hanesyddol Cymreig y Llyfrgell, yn un arloesol, yr un gyntaf yn ôl y cyhoeddwr i bortreadu ‘gyrfa bachgen ifanc o Gymro fel chwaraewr pêl-droed.’ Mae’r nofel yn dilyn helyntion Gwyn Ellis o chwarae pêl-droed i’w tîm ysgol lan at sgorio ‘hat-trick’ i dîm amatur Cymru. Un o atyniadau arall y nofel oedd y rhagair a’r cymeradwyaeth ohoni gan John Charles, prif arwr pêl-droed Cymru’r cyfnod.

 

 

Yn ei rhagair mae John Charles yn rhoi blas ar brofiad bydd rhan helaeth o gefnogwyr Cymru byth yn cael y fraint o’i brofi – gwisgo crys Cymru yn gêm pêl-droed ryngwladol. Yn ôl Charles:

Cefais lawer o brofiadau rhyfeddol yng nghwrs fy ngyrfa broffesiynol fel chwaraewr pêl-droed. Ond, yn sicr, ni ellir cael yr un profiad mwy dymunol na myned allan wedi gwisgo crys coch Cymru gyda chyd-chwaraewyr Cymreig talentog ar y cae Cymreig yng ng?ydd tyrfa o bobl Cymru a fo’n hoff o chwaraeon. Fy mraint i ar achlysuron o’r fath oedd cael gwerthfawrogi’r tân a’r eiddgarwch a ddangosid gan fy nghyfeillion Cymreig o’n cwmpas er budd pêl-droed rhyngwladol.

 

Dros y mis nesaf dyma’r fath o deimladau bydd yn llifo trwy chwaraewyr pêl-droed o 32 wlad wrth iddynt gynrychioli ei wlad ar y cae pêl-droed. Yr unig biti yw na fydd Cymru yn ei phlith.

 

Dr Doug Jones

Rheolwr Prosiectau Casgliadau Cyhoeddedig

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog