Blog

Postiwyd - 14-05-2019

#CaruMapiau / Heb ei gategoreiddio

Datrys dirgelwch deugain mlwydd oed

Mae hon yn dipyn o stori dditectif. Yn 1979 derbyniodd y Llyfrgell lungopi o fap bychan o Sir Frycheiniog; ni wyddai’r perchennog ddim am y map a gofynnodd a fyddai modd i’r Llyfrgell ei adnabod. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff y Llyfrgell, a chymorth curaduron mapiau’r Llyfrgell Brydeinig, ni fu modd adnabod yr eitem. Ychwanegwyd y llungopi at y casgliad mapiau, ynghyd â nodyn i ddweud y dylid hysbysu’r perchennog os llwyddid i adnabod y map yn y dyfodol.

 

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yng ngwanwyn 2019, derbyniais neges oddi wrth werthwr mapiau o Sir Benfro o’r enw Berian Williams, a ddanfonodd sgan o fap bychan ataf yn gofyn i mi a fedrwn ei adnabod. Ar y dechrau, roeddwn mewn penbleth, gan nad oedd yn debyg i unrhyw fapiau sirol i mi eu gweld o’r blaen. Yn ôl Mr Williams, roedd y perchennog blaenorol wedi awgrymu y gallai fod wedi tarddu o “The Pocket Tourist & English Atlas” gan Orlando Hodgson a gyhoeddwyd yn 1820; ond nid oedd yr atlas hwnnw’n cynnwys unrhyw fapiau o siroedd Cymru, er bod yr arddull yn ymddangos yn debyg. Soniodd Mr Williams hefyd am erthygl sôn am becyn o gardiau chwarae gan John Allen oedd yn sail ar gyfer mapiau Hodgson, ond eto nid oedd yn cynnwys mapiau o siroedd Cymru.

Dyma pryd y deuthum ar draws y llungopi o 1979. Ar yr olwg gyntaf, ymddangosai mai’r un map ydoedd, ac yn wir wrth ei archwilio’n fanylach daeth yn glir mai yr un copi yn union ydoedd (roedd nifer o staeniau a marciau ar y ddelwedd electronig yn cyd-fynd â’r llungopi). Wedi i mi edrych drwy fy nghyfeirlnodau printiedig roeddwn yn dal mewn penbleth, felly ysgrifenais yn ôl at Mr Williams yn dweud hynny gan ychwanegu y gallai gymryd tipyn o amser i lwyddo i adnabod y map, os fyddai hynny’n bosibl o gwbl.

Yma y gallai’r stori fod wedi cyrraedd ei therfyn; ond dechreuais feddwl am y tebygrwydd i gardiau chwarae Allen, a oedd cysylltiad rhwng y map o Sir Frycheiniog â’r mapiau ym mhecyn cardiau Allen? Penderfynais edrych ar ffynonellau printiedig yn y maes i weld a wnaeth Allen gynhyrchu set arall o gardiau yn cynnwys siroedd Cymru, ond ni welais unrhyw gofnod o set o’r fath. Soniai’r erthygl am gardiau Allen hefyd am argraffiad gan Robert Rowe yr ysgythrwr felly penderfynais ymchwilio i’w waith yntau hefyd. Roedd un ffynhonnell yn nodi i Rowe ysgythru set arall o gardiau chwarae ar gyfer gŵr o’r enw John Fairburn yn 1798, tybed ai dyma darddle y cerdyn?

Penderfynais edrych am unrhyw gyfeirnodau arlein i’r set hon o gardiau gan nad oeddent wedi eu cofnodi yn unrhyw un o’r gweithiau cyfeiriol a welais. O’r diwedd, deuthum ar draws cyfeiriad at gardiau chwarae Fairburn 1798, yn nodi i’r set gynnwys siroedd Cymru ac yn bwysicach roedd modd gweld delweddau o rai o’r cardiau – roeddent yn cydweddu â’r map oedd ganddom. Roedd y dirgelwch wedi ei ddatrys o’r diwedd.

Ond mae tro yng nghynffon y stori dditectif hon. Ar ôl i mi hysbysu Mr Williams am fy narganfyddiad gofynais iddo a fyddai’n rhoi’r map ar werth, gyda’r bwriad o’i brynu ar gyfer ein casgliad. Er mawr syndod i mi, atebodd Mr Williams gan ddweud ei fod wedi penderfynnu rhoi’r map yn rhodd i’r Llyfrgell. Roedd hyn yn anrheg hael dros ben ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Williams am ei garedigrwydd. Mae’r map hwn nawr wedi ymuno â’r 1.5 miliwn o fapiau sydd yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn rhan o hanes diwylliannol cartograffig Cymru.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog