Dathlu’r Nadolig yn y Llyfrgell Genedlaethol
Collections - Postiwyd 01-12-2016
Beth sydd gennych chi ymlaen gyda’r hwyr nos Iau nesaf, 8fed o Ragfyr? Beth am ymuno â ni am noson o hwyl nadoligaidd? Mi fydd y Llyfrgell ar agor yn hwyr tan 19:00 gyda digon o ddigwyddiadau i ddiddannu’r teulu cyfan.
Delwedd y storm: © Iestyn HughesBydd siop y Llyfrgell, sydd bob amser yn le da i gael gafael ar anrhegion i bobl o bob oed, ar agor yn hwyr, felly cyfle i orffen eich siopa ‘dolig! Bydd criw o awduron ac artistiaid lleol yn ymuno â ni, yn cynnwys un o sêr Prynhawn Da a Heno, Lisa Fearn, er mwyn hyrwyddo ei llyfr newydd ‘Blas/Taste’. Bydd Lisa hefyd yn dangos sut i goginio rhai o’r ryseitiau o’r llyfr, felly cyfle i flasu rhai o’r danteithion o’r gyfrol.
Mae Lisa hefyd, yn garedig iawn, wedi rhoi gwobr gwych ar gyfer y raffl, sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Staff y Llyfrgell, gyda’r elw’n mynd i Apêl Anfonwch Anrheg Elusennau Iechyd Hywel Dda. Mae Lisa’n rhedeg ‘The Pumkin Patch Kitchen & Garden‘. ac wedi cynnig sesiwn 3 awr ar un o’i gweithdai, lle gall un oedolyn a 2 blentyn ddysgu am y berthynas rhwng tyfu a choginio bwyd, gan feithrin gwir ddealltwriaeth ynghylch lle mae bwyd yn dod o. Mae’r gwobrau raffl gwych eraill yn cynnwys taleb i Siop y Llyfrgell a delwedd gan gyn-aelod o staff ac awdur y gyfrol ‘Tywydd Mawr mewn lluniau’ (‘Extreme Weather in Wales’), Iestyn Hughes, a phrint gan yr artist lleol Wynne Melville Jones.
Wrth gwrs, mi fydd ymweliad gan ddyn arbennig iawn ar y noson, mi fydd Siôn Corn yn ei gwtch o 17:00 ymlaen, fell gwnewch yn siwr eich bod yn dod â’r plant gyda chi. Mae croeso i chi fwynhau’r gweithgareddau i blant yn Hafan tra’ch bod chi’n ymweld.
Ydych chi’n mwynhau Canu Carolau? Bydd cyfle i ymuno mewn canu cynulleidfaol gyda rhai o aelodau Côr ABC fydd yn ymuno â ni am garol neu ddwy.
Felly, rhowch nodyn yn y dyddiadur, ac ymunwch â ni am noson nadoligaidd hwyliog. Cofiwch rannu eich lluniau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #doligllgc
- Chwiliwch am Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Facebook
- Dilynwch @llgcymru ar Twitter
- Chwiliwch am @llgcymru ar Instagram
Siân Pugh
Mynediad Digidol
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English