Blog

Datgloi cyfweliadau hanes llafar Cymru

Darganfod Sain - Postiwyd 03-06-2020

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 10 hwb ar draws Prydain sydd yn cyd-weithio gyda’r Llyfrgell Brydeinig ar y prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain. Bwriad y prosiect, sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw diogelu recordiadau sain prin ac unigryw’r genedl.

Rydym wrthi yn digido, catalogio ac yn asesu hawliau 5,000 o recordiadau sain ledled Cymru er mwyn eu hamddiffyn a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cyfansoddwyr yn mynd ati i gyfansoddi gwaith newydd yn seiliedig ar rai o hanesion llafar Cymru. Comisiynwyd 25 artist i ymgymryd â’r her hon. Byddant yn gwrando ar nifer o gyfweliadau a recordiwyd un ai yng Nghymru neu gan bobl o Gymru ac yn eu defnyddio i’w hysbrydoli i greu gwaith newydd.

Yn ystod yr haf bydd y Llyfrgell yn datgloi’r gweithiau hyn, gan ddangos sut y gellir defnyddio archif sain i greu gwaith creadigol.

 

 

 

Rhestrir isod y cyfansoddwyr a ddewiswyd:

 

  • Ailsa Hughes a Sianed Jones: deuawd ‘Tinc y Tannau’ sy’n gweithio gyda cherddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg hanesyddol
  • Alan Chamberlain: cyfansoddwr sy’n gweithio’n bennaf gyda chynnwys archifol
  • Angharad Davies: feiolinydd, cyfansoddwraig a pherfformwraig ac aelod o sawl deuawd
  • Ben McManus: cerddor a chyfansoddwr sydd â diddordeb mewn caneuon gwerin a llên gwerin
  • Bonello, Ruth and Hay: triawd cerddorol, yn cynnwys cyfansoddwyr amlwg o Gymru a ddechreuodd berfformio gyda’i gilydd yn 2019
  • Branwen Williams: cerddor, cyfansoddwraig ac aelod o sawl grŵp o Gymru
  • David Roche: cyfansoddwr o Dredegar sydd wedi derbyn dros 30 o wobrau academaidd a phroffesiynol
  • Derri Joseph Lewis: cerddor a chyfansoddwr gyda phrofiad o ysgrifennu cerddoriaeth acwstig ac electronig
  • Gareth Bonello: cerddor a chyfansoddwr sy’n defnyddio alawon a barddoniaeth gwerin Gymreig yn ei waith
  • Georgia Ruth Williams: cerddor a chyfansoddwraig sydd wedi’i ysbrydoli gan hanes Cymru a thraddodiad gwerin
  • Geraint Rhys: cerddor annibynnol a gwneuthurwr ffilm o Abertawe
  • Gwen Mairi: telynores broffesiynol sy’n canu caneuon gwerin Gymraeg
  • Gwenan Gibbard: cantores a thelynores sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth gwerin
  • Gwilym Bowen Rhys: canwr gwerin o Gymru sydd wedi datblygu cysylltiad dwfn â chaneuon traddodiadol Cymru
  • Gwydion Rhys: disgybl 6ed dosbarth yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda sy’n cyfansoddi a chwarae’r piano
  • Luciano Williamson: cyfansoddwr ar fin graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
  • Neil Rosser: yn hanu o Dreforys gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel cyfansoddwr a pherfformiwr
  • Owen Shiers: cerddor a chyfansoddwr sy’n perfformio cerddoriaeth gwerin yn y Gymraeg
  • Pierce Joyce: myfyriwr cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn hanu o Iwerddon
  • Sally Crosby: cantores, cyfansoddwraig gyda gradd mewn Cerddoriaeth ac Ysgrifennu creadigol
  • Sam Humphreys: cerddor sy’n chwarae’r gitâr ac aelod o’r band Calan
  • Seth Alexander: cyfansoddwr sy’n hoffi cyfuno offerynnau cyfrifiadurol â recordiadau sain
  • Stacey Blythe: cyfansoddwraig, cerddor a pherfformwraig sydd hefyd yn perfformio fel rhan o ddeuawdau amrywiol
  • Steff Rees: cerddor a chyfansoddwr sydd yn aelod o’r grŵp Bwca ac yn rhan o gerddorfa ukulele Iwcadwli
  • Toby Hay: cyfansoddwr a pherfformiwr gyda’i waith yn cael ei ysbrydoli gan hanes, tirwedd a straeon

 

Alison Lloyd Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog