Postiwyd - 13-07-2018
Casgliadau / Collections / Digido
Datgelu’r Gwrthrychau: Baledi
Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.
Yr wythnos hon, baledi sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu cyfrannu yn sgil y prosiect.
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, argraffwyd baledi ar raddfa eang iawn gan y gweisg newydd yng Nghymru. Fe’i gwerthwyd i’r cyhoedd yn aml mewn ffeiri a marchnadoedd, lle y canwyd hwy gan eu gwerthwyr. Roedd cynnwys y faled Gymreig yn medru amrywio. Ymdriniodd rhai â themâu crefyddol a moesol; adroddodd eraill newyddion cyfoes, megis troseddau lleol a chenedlaethol, terfysgoedd neu ddamweiniau diwydiannol; bu hanesion a chwedloniaeth yn destunau poblogaidd ar gyfer baledi hefyd.
Chwaraeodd y faled rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd baledi’n cael eu hargraffu ledled Cymru: mewn 96 o drefi a phentrefi. Prynwyd hwy yn eu miloedd, yn aml iawn gan haenau is y gymdeithas. Denwyd a recriwtiwyd darllenwyr Cymraeg newydd gan faledi oherwydd natur boblogaidd eu cynnwys.
Alban Thomas, ‘Cân o senn iw hên feistr Tobacco’, 1718
‘Cân o senn iw hên feistr Tobacco’ oedd y faled cyntaf i’w chyhoeddi gan wasg swyddogol yng Nghymru. Fe’i cyhoeddwyd gan Wasg Isaac Carter yn Nhrefhedyn ym 1718. Trafoda’r faled natur anfoesol tybaco.
Lewis Davies, ‘Pennillion a wnaeth Lewis Davies o Lanrwst, i ffarwelio a’i wlad wrth gychwyn i America’, 18??
Ffarwelio â’i gyd-wladwyr a wna Lewis Llanrwst Davies yn y faled hon, wrth iddo gychwyn ar ei daith i’r Amerig.
Ywain Meirion, ‘Rhyfel-gan, am wrthryfel yr India, a gorchfygu y gelynion, a meddiannau Delhi’, 18??
Cân rhyfel yw’r faled hon. Trafoda Ywain Meirion ymosodiad y Prydeinwyr ar India, wrth iddynt drechu’r ‘gelyn’ gan feddiannu Delhi.
Di-enw, ‘Ymweliad y cholera, ynghyd â galwad ar bawb i ymofyn am gymod â Duw cyn eu symud i’r byd tragwyddol’, 18??
Mae’r faled hon yn cyflwyno dau rybudd i’w darllenwyr ynghylch epidemig y colera yng Nghymru. Fe drafodir perygl y clefyd ei hun ar yr un llaw, ond gelwir hefyd ar bob dioddefwr i gymodi â Duw cyn iddynt symud i’r byd tragwyddol.
Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:
- Cyhoeddiadau Crefyddol
- Cyfrolau Barddoniaeth
- Dramâu ac Anterliwtiau
- Cyhoeddiadau Cymreig tu hwnt i Gymru
- Llenyddiaeth Plant
- Llyfrau Teithio
- Llyfrau Hanes
- Cerddoriaeth
- Cyhoeddiadau Gwleidyddol a Radicalaidd
- Y Llyfrau Gleision
- Llyfrau Gwyddonol a Mathemategol
- Llyfrau Coginio a Ffordd o Fyw
Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol
Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana
Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English