Blog

Datblygiad adeiladu ym Mae Colwyn

Casgliadau / Collections - Postiwyd 06-01-2020

Ydych chi’n hanesydd tai ym Mae Colwyn? Wel, heddiw yw eich diwrnod lwcus! Yr wyf wedi darganfod bwndel o ddogfennau yng nghasgliad y cyfreithwyr Longueville sy’n ymwneud â datblygiad adeiladu ar stad Cefn, 1891-1921. Perchennog y tir oedd Capten Robert William Herbert Watkin Williams Wynn a gwelwyd datblygiadau ym Mae Colwyn, Hen Golwyn a Llysfaen. Defnyddiwyd contractwyr lleol: Robert Evans ar gyfer adeiladu’r tai, Robert and Ellis ar gyfer y ffyrdd cefn, a Fred J. Tucker i wneud y gwaith ar y carthffosydd. Lleolwyd y safleoedd adeiladu ar Heol Meiriadog, Heol Cadwgan, Heol Llanelian, Heol Wellington, Heol Peulwys, Heol Abergele, Rhodfa Bodelwyddan, Heol Berthglyd a Heol Cefn Coch. Prynwyd y prydlesi gan unigolion preifat a busnesau megis Clwb Golff Hen Golwyn a Black’s Advertising Agency.

Mae’r ffeil yma yn adnodd hanesyddol arbennig. Mae rhai o’r eitemau mwyaf dethol yn cynnwys cynllun a golwg o dŷ ar brydles gyda saith ystafell wely ar gyfer Mrs Liddell yn 1908. Cafodd y tŷ yma ei adeiladu i fanyleb uchel gyda ffenestri crom mawr, llawr bloc pren yn y cyntedd, llawr parquet yn yr ystafell groeso, rheiliau pictiwr ym mhob un o’r prif ystafelloedd, a seler a phantri i’w bwtler. Ceir hefyd cynlluniau Wyndcliffe ar Heol Abergele, 1910, rhan o stad Cefn, 1910, Heol Wellington [c.1916] a garej arfaethedig ar gyfer Dr Leeming, yn ffinio â gardd Mohrcroft, 1921.

 

 

Bu’n rhaid i’r adeiladwr fenthyg symiau sylweddol o arian i ariannu’r gwaith adeiladu a pheidiodd y llif arian erbyn 1911. Ceir rhybudd ymysg y dogfennau i Robert Evans o giliad ei gytundeb a llythyrau gan Robert William Herbert Watkin Williams Wynn yn gorchymyn y tenantiaid i dalu eu rhenti iddo ef yn uniongyrchol. Efallai achubodd Robert Evans yr ieuengach y busnes pan lwyddodd i ennill cytundeb ar gyfer estyn Rhodfa Bodelwyddan yn 1912. Roedd y fanyleb yn cynnwys: 2 gullies, one each side with iron grating….Talacre stone neatly dresssed on top and side and closely jointed… channelling of Buckley Firebricks, same laid on a concrete bed and flushed with Portland cement….

 Mae’n anhygoel faint o wybodaeth sydd ymysg yr oddeutu 70 dogfen yn y bwndel yma. Medrwch adnabod lleoliadau’r datblygiad tai Edwardaidd ym Mae Colwyn a safon uchel yr adeiladau oedd i’w disgwyl. Ceir enwau perchennog y tiroedd, yr adeiladwyr a’r prydleswyr. Gallwch hyd yn oed proffwydo dyfodiad y car modur yng nghais cynllunio Dr Leeming ar gyfer y garej a hefyd olrhain ffortiynau amrywiol y cwmni adeiladu. Efallai na ddylid barnu gyrfa Robert Evans yn ô lei problemau ariannol yn 1911 ond, yn hytrach, yn ôl safon uchel y tai newydd oedd yn sefyll ar hyd strydoedd Bae Colwyn a Llysfaen.

 

Hilary Peters
Archifydd Cynorthwyol

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog