Blog - Darganfod Sain

Postiwyd - 02-12-2019

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Dathlu Bywyd Merêd

“Allai ddim meddwl am dad yn gant”, meddai ei ferch Eluned, ac yn wir wrth ymchwilio yn yr archif sydd yn y Llyfrgell nid hen ddyn sydd yn dod i’r meddwl, ond dyn egnïol, brwdfrydig, gweithgar a phenderfynol. Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith. Cyfle i ddathlu bywyd llawn a chynhyrchiol yw’r canmlwyddiant a dyma flas o’r bwrlwm o weithgareddau yn y Llyfrgell Genedlaethol :

  • Ffilm: Canmlwyddiant Merêd – Clipiau o’r archif Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019

Ymunwch â ni i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd (9 Rhagfyr 1919 – 21 Chwefror 2015) ar ddiwrnod ei ben-blwydd gyda dangosiad arbennig o ddetholiad o glipiau o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain, sy’n rhoi blas o fywyd a gwaith Merêd a Phyllis Kinney. Dewch gyda ni ar siwrne o’r Noson Lawen i Ryan a Ronnie, ac o’r caneuon gwerin i Heather Jones yn canu ‘Colli laith’.

  • Sesiwn Unnos Radio Cymru

Fis Medi 2019 gwahoddwyd y cerddorion Siân James, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Gai Toms, Iestyn Tyne a Casi Wyn i greu trefniant newydd o rai o hen alawon gwerin Cymru o archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darlledwyd rhaglen Sesiwn Unnos Gwerin Radio Cymru ar 29 Medi o Gynhadledd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. I nodi canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, dyma gyfle prin i chi glywed y casgliad hwnnw o alawon yn cael eu canu eto, yn dilyn y ffilm Merêd, a ddangosir yn y Drwm ar y 9fed o Ragfyr.

  • Merêd yn gant – Darlith awr ginio gan Geraint H. Jenkins, Dydd Mercher 11 Rhagfyr.

Cyfle i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd – athronydd, llenor, cerddor a gweithredwr – yng nghwmni’r hanesydd Geraint H. Jenkins. Bydd ffotograff arbennig o Merêd gan Iestyn Hughes i’w weld yma yn ystod yr wythnos.

  • Rhaglen BBC Radio Cymru ‘Hela’r Hen Ganeuon’

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio yn archif Merêd a Phyllis yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd cerddorion yn ymateb i gerddoriaeth yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Calan. Al Lewis, Nia Morgan ac Arfon Gwilym sy’n ymuno â Georgia Ruth Williams, ac maen nhw’n perfformio caneuon sy’n perthyn i dymor y Nadolig a’r flwyddyn newydd e.e. Plygain, Calennig, Y Fari Lwyd. Darlledir dydd Sul 8 Rhagfyr am 19:05 ar BBC Radio Cymru, a bydd y rhaglen ‘Hela’r Hen Ganeuion’ ar gael wedyn i wrando eto ar wefan Radio Cymru neu ap BBC Sounds.

  • Rhaglen BBC Radio Wales. Frank Hennessy ‘Celtic Heartbeat’.

Sgwrs am Merêd ar ‘Celtic Heartbeat’, Radio Wales (1 Rhagfyr 2019) gyda Nia Mai Daniel a Frank Hennessey yn trafod y modd y bu yn ysgogiad i gerddorion gwerin Cymru drwy ei fywyd o’r cyfnod fel pennaeth adloniant ysgafn yn y BBC (1963- 1973) i gynorthwyo cerddorion ifanc y Prosiect ‘10 mewn bws’. Roedd Merêd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954, ac yn ddiweddarach i label recordio Sain.

  • Catalogio archif Merêd a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Fel rhan o waith yr Archif Gerddorol Gymreig rydym yn paratoi catalog o’r archif er mwyn rhoi mynediad hawdd at y drysorfa o archif sy’n cynnwys papurau cerddorol Merêd a Phyllis Kinney, gohebiaeth Merêd, a ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg, a mwy.

  • Cardiau mynegai ar gael ar-lein

Mae miloedd o gardiau mynegai ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi cael eu digido ac ar gael ar ein gwefan. Ceir naw grŵp sef Caneuon gwerin, Alawon Carolau, Geiriau Carolau, Hwiangerddi, ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett, Mari Lwyd, J. Lloyd Williams a Chylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bydd cyfle cyffrous i ymwneud â phrosiect gwirfoddoli ar yr Hwiangerddi yn y flwyddyn newydd.

  • PhD Cerddoriaeth werin

Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru. Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn.

  • Arddangosfa gerddorol ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru o’r Crwth i’r Cyrff. Sylwer fod yr arddangosfa yn cau ar 11 Rhagfyr (nid 1 Chwefror) oherwydd y gwaith adeiladu. Mae’r arddangosfa yn cynnwys adran ar Merêd gan edrych ar ei ddylanwad fel casglwr a pherfformiwr ac fel pennaeth rhaglenni adloniant ysgafn BBC Cymru.

Wrth ddathlu’r canmlwyddiant, diolchwn am gyfraniad enfawr Merêd i ddiwylliant Cymru.

Nia Mai Daniel, Yr Archif Gerddorol Gymreig @CerddLLGC

Postiwyd - 30-10-2019

Casgliadau / Collections

‘Gweld mewn Lliw’ gan James Clerk Maxwell

Ymhlith y casgliad o bamffledi Gladstone sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol mae cannoedd o bapurau o gasgliad y Parchedig Bartholomew Price, mathemategydd a ddaliodd gadair Athro Athroniaeth Naturiol Sedleian ym Mhrifysgol Rhydychen.  Pamffledi ydyn nhw yn bennaf a anfonwyd at Price gan wyddonwyr eraill ym Mhrydain Fawr.  Fe’u cyflwynwyd i’r Llyfrgell gan ei fab, W.A. Price, yn 1939.

Mae’n amlwg o’r nodiadau mewn llawysgrifen ar nifer o’r taflenni hyn fod gan y gymuned wyddonol feddwl uchel o Price ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Ymhlith awduron y pamffledi mae enwau nodedig fel James Clerk Maxwell, Charles Lutwidge Dodgson (Lewis Carroll), Sir George Stokes a William Thomson (yr Arglwydd Kelvin). Mae llawer o’r pamffledi hyn yn rhai prin, a rhai ohonynt yr unig gopiau sydd mewn bodolaeth.  Mae’r pamffledi, ynghyd â’r ysgrifen sydd arnynt, yn rhoi tystiolaeth o sut ‘roedd gwyddonwyr y cyfnod hwnnw yn cyfnewid eu syniadau.

Mae pamffled James Clerk Maxwell Gweld Mewn Lliw (On Colour Vision) yn ddiddorol. Ceir yma ddarlith arddangosiadol a gyflwynwyd gan yr awdur yn 1871 yn Sefydliad Brenhinol Prydain Fawr.  Mae’n arsylwi bod gwyddoniaeth lliw yn wyddoniaeth feddyliol, lle mae ein natur ni‘n pennu rheolau arsylwi lliw a hefyd yn wyddoniaeth ffisegol lle gellir cymhwyso deddfau clir natur.

 

 

Mae Maxwell yn dechrau drwy ddangos sut mae deddfau Newton yn cael eu cymhwyso i arsylwi lliw.  Wrth basio golau drwy brism, dangosodd Newton nad golau gwyn yw’r golau mwyaf pur, fel y tybiwyd yn wreiddiol, yn hytrach, ei fod yn cynnwys holl liwiau’r sbectrwm. Mae gwrthrychau rydyn ni’n eu galw’n lliw wrth gael eu goleuo â golau gwyn yn gwneud detholiad o’r pelydrau hyn ac mae ein llygaid yn canfod rhan yn unig o’r golau sy’n disgyn arnyn nhw. Er enghraifft, mae gwrthrych coch yn amsugno pob rhan o’r sbectrwm ar wahân i’r rhan goch y mae’n ei gwasgaru.  Fodd bynnag, os byddant yn derbyn pelydrau pur o un lliw o’r sbectrwm byddant yn ymddangos yn y lliw hwnnw. Er enghraifft, bydd unrhyw wrthrych yn ymddangos yn goch pan fydd golau coch yn cael ei ddisgleirio arno – oni bai ei fod yn amsugno coch, ac os felly, bydd yn ymddangos yn ddu.

Mae’n disgrifio sut mae cymysgu paent coch a phaent gwyrdd yn cynhyrchu lliw melyn budr, ond pan cymysgir golau coch a golau gwyrdd ceir lliw melyn disglair.  Mae’r paent coch, wrth ei wasgaru, yn colli ei ddisgleirdeb wrth gael ei gymysgu â gronynnau o baent gwyrdd ac i’r gwrthwyneb.  Fodd bynnag, mae’r golau melyn sydd wedi’i gynhyrchu gan olau gwyrdd a choch yn liw pur ac nid yw wedi ei rannu’n ddwy gyfran fel y cymysgedd.

Mae Maxwell yn cymharu ein canfyddiad o liw i’n canfyddiad o gordiau cerddorol.  Ymddengys i’n hymwybyddiaeth fod pob lliw yn unffurf ond gallwn yn hawdd glywed y cydrannau ar wahân sydd mewn cord cerddorol.

Mae’r pamffled hefyd yn disgrifio agweddau eraill o wyddoniaeth lliw, fel y cyflwr lliwddallineb a’r smotyn melyn ar y retina.  Er enghraifft, oeddech chi’n sylweddoli fod rhan eithafol y retina yn ansensitif i’r lliw coch?  Yn ôl Maxwell, os daliwch flodyn coch a blodyn glas yn eich llaw mor bell yn ôl ag y gallwch chi weld eich llaw, fe gollwch olwg ar y blodyn coch tra gallwch ddal i weld blodyn glas. Hefyd os yw’r golau’n lleihau, bydd gwrthrychau coch yn ymddangos yn dywyllach o’u cymharu â gwrthrychau glas.  Tybed a allwch chi, y darllenydd, gadarnhau a yw’r arsylwadau hyn yn wir?  Y trydydd sylw diddorol, na ddylid rhoi cynnig arno gartref, yw bod modd profi math o liwddallineb drwy gymryd y cyffur Santonin. Fel diweddglo i’r pamffled, mae Maxwell yn ymddiheuro i’r darllenwyr am beidio â chymryd y cyffur i gadarnhau a yw hyn yn wir!

 

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol

Postiwyd - 08-10-2019

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Smartify yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

 

Yn gynnar yn 2018, i gyd-fynd gyda lansiad arddangosfa Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm, dechreuodd y Llyfrgell gyd-weithio gyda Smartify, cwmni a oedd wedi datblygu ap celfyddydol ar gyfer ffonau clyfar, i’w ddefnyddio gydag arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd ledled y byd.

Ap ydyw sy’n galluogi ymwelwyr sganio eitemau sy’n cael eu harddangos yn y Llyfrgell gyda’u ffôn clyfar er mwyn derbyn gwybodaeth bellach amdano neu am grëwr y gwaith. Mae’r ap yn syml i’w ddefnyddio ac am ddim i’w lawrlwytho o siop iOS a Google Play.

Yr hyn sy’n arbennig am yr ap yw ei fod yn rhoi cyd-destun i chi am yr eitem ac o ganlyniad yn cyfoethogi profiad y defnyddiwr.

Ar ôl sganio eitem, mae’n bosibl ei chadw mewn oriel bersonol fel bod modd edrych ar y ddelwedd ddigidol neu ddarllen am yr eitem ar ôl mynd adref.

Un o eitemau’r Llyfrgell sydd wedi’i chynnwys ar yr ap yw’r copi gwreiddiol o Anthem Genedlaethol Cymru ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Ar ôl sganio agoriad yn y llawysgrif hon, nid yn unig y cewch chi wybodaeth ddeongliadol am yr eitem ond fe gewch chi hefyd y cyfle i wrando ar y recordiad sain Cymraeg cyntaf sy’n hysbys, pan recordiwyd y gantores Madge Breese, gan y Gramophone Company, yn canu’r anthem ar 11 Mawrth 1899.

Mae’r ap yn sicr yn cynnig profiad newydd a rhyngweithiol i’n hymwelwyr yn y byd digidol sydd ohoni!

Ers i’r Llyfrgell ddechrau cydweithio â Smartify bron i ddwy flynedd yn ôl bellach rydym yn parhau i gynyddu’r nifer o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell sydd ar gael ar yr ap ac yn sicrhau bod y wybodaeth a geir amdanynt ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld â’r Llyfrgell cofiwch gadw llygad am eitemau sydd â’r logo Smartify wrth eu hymyl a rhowch gynnig arni!

Am ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r ap ewch i: www.llyfrgell.cymru/smartify

Bethan Rees

Mynediad Digidol

Tagiau: , , , ,

Postiwyd - 07-10-2019

Casgliadau

Pam mae coeden ar ben Rhodri Morgan?

Mae nifer ohonom yn gyfarwydd gyda chyrraedd y pwynt yn fy mywyd pan mae’r rhywbeth cyffredin o’n plentyndod yn cael eu harddangos mewn amgueddfa. Mae’r teimlad o dderbyn archif o ddogfennau sy’n delio a digwyddiadau, ymgyrchoedd a phobl o’ch plentyndod yn debyg; dwi’n teimlo’n hen, ond mae rhywbeth arbennig mewn ail fyw stori, weithiau o safbwynt gwbl wahanol.

Roedd cartwnau Mumph wedi bwydo fy niddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru pan roeddwn i yn fy arddegau. Pob dydd Sadwrn roeddwn i’n edrych ymlaen at weld y cartŵn yn dilyn hanes Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i Weinidogion, Just William yn y Western Mail. Roedd portread William Hague fel bachgen ysgol yn gwisgo shorts a gyda map o Gymru ben i weired ar wal y swyddfa braidd yn annheg efallai, ond roedd yn ffordd effeithiol o ddangos y teimlad cyffredin bod gan swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru statws isel iawn yn y cabinet, a’r anfodlonrwydd am arfer Llywodraeth Prydain i benodi Aelod Seneddol o Loegr, heb unrhyw gysylltiad â Chymru i’r swydd. Roedd Syr Wyn Roberts yn ymddangos pob hyn a hyn i geisio addysgu’r Ysgrifennydd Gwladol am faterion y dydd ond heb ryw lawer o lwyddiant!

Roedd Mumph yn portreadu ei olynydd, Ron Davies yn dra gwahanol. Er bod enw’r cartŵn The one Ronnie yn cyfeirio at gyfres comedi, roedd Davies yn gwisgo siwt wen a sbectol dywyll ac yn ymddwyn fel gansgter gyda Jon Owen Jones fel Frankenstein’s Monster. Yn 1998, tro Alun Michael oedd hi i gael sylw Mumph yn y gyfres St Michael. Roedd Mumph wedi gwneud yn fawr o’r son mai dyn Tony Blair oedd Alun Michael roedd e wastad yn gwisgo parachute, ac weithiau yn anweladwy ar wahân i’w sbectol. Roedd Peter Hain wastad yn gwisgo rollers yn e wallt, tra roedd Rhodri Morgan yn ymddangos gyda choeden yn tyfu o’i ben! Cafodd y goeden ei dorri ar ôl i Rhodri gael torri gwallt, ond roedd y boncyff dal yno. Roedd hyn wedi drysu un ffrind prifysgol yn llwyr ac roedd yn rhaid i fi ffinio ffotograff o Rhodri cyn bod y ddelwedd yn gwneud synnwyr iddo!

Gyda dyfodiad y Cynulliad Cenedlaethol, roedd mwy o wleidyddion o’r gwrthbleidiau yn ymddangos; Dafydd Wigley, Mike German a Rod Richards – fel arfer gyda baner Lloegr yn ei het.

Mae cartwnau fel yn hyn ysgafn eu naws ar un olwg ac yn gor-bwysleisio golwg, cymeriad neu ymddygiad, ond mae nhw yn adlewyrchu’r zeitgeist gwleidyddol ac roedd portread pob un o’r gwleidyddion hyn yn adlewyrchu’r ffordd roedden nhw’n cael eu gweld, gan ganran o’r boblogaeth o leiaf. Mae nhw’n cofnodi digwyddiadau gwleidyddol bwysig; fel y trafodaethau dros Dŷ Opera Bae Caerdydd, arfau, addysg, iechyd ac etholiadau ac yn gwneud hynny mewn modd gweledol a doniol.

Mae derbyn y casgliad hwn i’r Llyfrgell yn deimlad hynod gyffrous. Mae cartwnau Mumph yn rhannol gyfrifol o leiaf o godi fy ymwybyddiaeth yng ngwleidyddiaeth, ac mewn ffordd anuniongyrchol, y diddordeb hwnnw sy’n gyfrifol am fy mod yn gweithio gydag archifau gwleidyddol. Gobeithio yn fawr bydd digido a rhannu nhw yn eang yn sbarduno diddordeb eraill yn y maes er bod e braidd yn rhyfedd i feddwl amdanynt fel cofnod hanesyddol. Mae’r broses hwn yn un gostus, felly buaswn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau tuag ar y costau trwy roddion i’r Gronfa Casgliadau. Mae boreau Sadwrn yn darllen Just William yn teimlo yn bell yn ôl.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

 

Tagiau: ,

Postiwyd - 13-09-2019

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Stori Cymru / Ymchwil

Y Bywgraffiadur Cymreig

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Datblygu llinell amser ryngweithiol

Mae Cymru’n genedl fach ond un balch iawn, cenedl sydd wedi cyfrannu mwy na’i siâr o ddiwygwyr, dyfeiswyr ac arloeswyr i gymdeithas. O Wasanaeth Iechyd Aneurin Bevan, i ddatblygiad Radar gan Edward George Bowen, ni ddylid tanbrisio cyfraniad Cymru i dechnoleg a gwareiddiad yn ei gyfanrwydd. A pheidiwch anghofio, mae Cymru hefyd wedi ein diddanu gyda mawrion chwaraeon, actorion fel Richard Burton a llu o dalent gerddorol.

Mae’r Bywgraffiadur Cymreig wedi cofnodi bywydau ein henwogion ers blynyddoedd, fel na fyddwn yn anghofio eu cyfraniad i Gymru a’r byd. Ers 2004, mae’r holl gofiannau wedi bod ar gael yn ddwyieithog ar wefan y Bywgraffiadur Cymreig, ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda chofnodion newydd – dros 5000 erbyn hyn.

Portreadau o bobl yn y Bywgraffiadur  o Wikidata

Er mwyn gwneud y wefan mor agored a defnyddiol â phosib, dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn rhannu’r data sy’n gyrru wefan gyda Wikidata. Dyma chwaer llai adnabyddus y Wikipedia enwog, ac fe’i dyluniwyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn agored fel data, yn hytrach na rhyddiaith. Fel efo Wikipedia gall unrhyw un olygu a gwella’r data yn Wikidata ac erbyn hyn mae gennym adnodd cyfoethog o ddata am ein 5000 o unigolion pwysig. Mae Wikidata yn caniatáu inni nodi lleoedd geni pawb ar fap, mae’n caniatáu inni gysylltu data am addysg pobl â data ar gyfer yr ysgolion a’r prifysgolion a fynychwyd, a gallwn weld pa sefydliadau eraill sydd â chofnodion perthnasol, fel portreadau neu archifau.

Lleoliad geni pawb yn y Bywgraffiadur. Archwilio      –      Map yndangos teithiau a gymerwyd gan genhadon Cymreig. Crëwyd efo Wikidata.

 

Mae ein tîm o wirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur yn defnyddio’r Bywgraffiadur i greu erthyglau Wikipedia ar gyfer y bobl, fel bod gennymi bob pwrpas, ddau fersiwn o bob erthygl – un yn gofnod hanesyddol wedi’i adolygu a’i reoli’n ofalus gan arbenigwyr, a’r llall yn gofnod cymunedol a reolir gan bawb, erthygl sy’n esblygu’n gyson y gall unrhyw un gyfrannu ati a’i hailddefnyddio at unrhyw bwrpas.

Yn dilyn lansiad gwefan newydd y Bywgraffiadur llynedd, llwyddom i sicrhau cyllid i weithio gyda datblygwyr i ychwanegu nodwedd newydd a chyffrous. Gan ddefnyddio’r data cyfoethog o Wikidata, a miloedd o ddelweddau digidol o gasgliadau’r Llyfrgell, rydym yn datblygu llinell amser rhyngweithiol fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio pob un o’r 5000 person yn y geiriadur yn gronolegol. Cliciwch ar berson yn y llinell amser a gallwch weld y cofnod Bywgraffiadur perthnasol a’r erthygl Wikipedia.

Fersiwn cynnar o’r llinell amser sy’n cael ei ddatblygu

Yn fwy na hynny, bydd y llinell amser yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo’r cofnodion yn seiliedig ar ble cawsant eu geni, lle cawsant eu haddysgu, eu galwedigaeth a mwy. A gellir defnyddio’r hidlwyr yma mewn cyfuniad, felly os hoffech chi weld yr holl bêl-droedwyr a anwyd yn Aberdâr yn unig, mae hynny’n iawn! Mae’r Llyfrgell hefyd wedi curadu llinell amser o ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru y gellir ei gweld dros y linell amser i roi mwy o gyd-destun i fywydau’r bobl hyn.

Bydd y lefel hyn o ryngweithio ac addasu yn helpu i ddod â’r Bywgraffiadur Cymraeg yn fyw. Bydd yn haws nag erioed i chwilio a darganfod bywydau ein dinasyddion pwysicaf – y bobl a helpodd i lunio stori Cymru.

Dylai’r llinell amser fod yn fyw cyn diwedd y flwyddyn.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , ,

Postiwyd - 06-08-2019

Casgliadau

Hanes Plas Tirion: maes Prifwyl 2019

A hithau’n wythnos yr Eisteddfod a’r cystadlu bellach yn ei anterth, a wyddoch unrhywbeth am leoliad maes y brifwyl eleni? Mae maes Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 wedi ei leoli nid nepell i’r de o Lanrwst yn rhannol ar diroedd un o dai bonedd yr ardal, Plas Tirion (neu Plastirion).

Yn 1839, dengys map degwm plwyf Llanrwst bod Plas Tirion a’i thiroedd ym meddiant Charles Wynne Griffith-Wynne (1780-1865), etifedd stadau Voelas a Chefnamlwch ac AS Sir Gaernarfon rhwng 1830 a 1832. Yr oedd yn fab i Jane Wynne, merch Watkin Wynne o Voelas, a Charles Finch (1752-1819), mab ieuengaf y 3ydd Iarll Aylesford ac AS Maidstone. Disgynodd stad Cefnamlwch i Jane drwy ei chefnder, John Griffith (marw 1794), yr olaf o deulu’r Griffith i fyw yno. Newidiodd Charles Wynne ei enw i Griffith-Wynne yn lle Finch yn 1804 i adlewyrchu ei etifeddiaeth drwy ochr ei fam ac efe wnaeth ariannu adeiladu’r eglwys bresennol ym Mhentrefoelas.

 

 

Yn ôl y rhestr pennu, roedd y tŷ a’r 82 erw o dir fferm yn cael ei rhenti gan John Evans a oedd, yn ôl cyfrifiad 1841, yn byw yno gyda’i wraig a’u pedwar o blant, ynghyd â dau gwas fferm a dwy morwyn. Ymddengys bod rhannau hynaf y tŷ ei hun yn dyddio o’r 16eg a’r 17eg ganrif tra bod rhannau o adeiladau’r fferm islaw’r tŷ yn dyddio o’r canrif blaenorol (ceir rhagor o fanylion am yr adeiladau ar Coflein).

Ymysg papurau stadau Voelas a Chefnamlwch sydd yma yn y Llyfrgell ceir arolwg o demên ‘Plastirrion’. Nid oes dyddiad pendant i’r arolwg [tybier 1778-1811] ond amcangyfrifir mai gwerth blynyddol y tŷ a’i diroedd cysylltiol oedd 84 punt a 4 swllt. Yno, ceir hefyd rhestr o enwau’r caeau, sy’n cynnwys rhai disgrifiadol megis ‘Caeua Suchion’, ‘Yscallen Bach’ (a ‘Mawr’) a ‘Nid Gwag ei char’.

Mae’n syndod y toreth o wybodaeth gallwch ddod o hyd iddo am eich milltir sgwâr yn defnyddio gwefan Lleodd Cymru y Llyfrgell fel man cychwyn! Dyma rhestr gyflawn o’r adnoddau ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim drwy wefan y Llyfrgell.

Os byddwch yn teithio i faes yr Eisteddfod Genedlaethol a thiroedd Plas Tirion yr wythnos hon, cofiwch alw heibio stondin y Llyfrgell. Yno, bydd cyfle i chi weld arddangosfa arbennig yn adrodd hanesion tref Llanrwst a’r ardal gyfagos, i bori’r nwyddau arbennig yn Siop y Llyfrgell, ac i gymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau cyffrous. Ewch i Rhaglen Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019 am fwy o wybodaeth.

Postiwyd - 01-08-2019

Casgliadau / Darganfod Sain

David Lloyd George ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ganwyd David Lloyd George ym Manceinion ar 17 Ionawr 1863 ac fe’i magwyd yng Nghymru, lle daeth yn un o radicaliaid enwocaf y ganrif. Rhwng 1890 a 1945 etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Gaernarfon.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys dan arweinyddiaeth Herbert Henry Asquith. Yn 1916 daeth yn Ysgrifennydd y Wladwriaeth Ryfel ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ef oedd y siaradwr Cymraeg cyntaf i fod yn Brif Weinidog.

 

 

Yn 1916 cyhoeddodd ‘The Times’ lythyr lle’r oedd yr awdur yn gwrthwynebu cynnal yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel. Mewn ymateb i’r erthygl hon cyflwynodd Lloyd George araith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth a ddechreuodd:

“Pam na ddylem ni ganu yn ystod y rhyfel? Pam na ddylem yn arbennig ganu ar y cam hwn o’r rhyfel? ”

Mae’n parhau i feirniadu’r llythyr gan dynnu sylw at y ffaith fod Prydain yn dal i fod yn fyw, heb ei chwalu na’i thorri ac felly “pam na ddylai ei phlant ganu?”

Trwy gydol ei araith, mae Lloyd George yn amddiffyn yn frwd y modd y cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod y rhyfel:

“Mae cannoedd o ryfeloedd wedi ysgubo dros y bryniau hyn, ond nid yw telyn Cymru erioed wedi cael ei thawelu gan un ohonynt, a dylwn i fod yn falch pe bawn i’n cyfrannu rhywbeth i’w chadw mewn tiwn yn ystod y rhyfel hwn, trwy gynnal yr Eisteddfod hon heddiw. ”

Yn ôl yr ‘Abergavenny Chronicle’ dywed Lloyd George, “mae ein milwyr yn canu caneuon Cymru yn y ffosydd, ac maen nhw’n cynnal eu heisteddfodau bach tu ôl i’r ffosydd” ac yna parhaodd i ddarllen telegram a anfonwyd o’r rheng flaen:

“Cyfarchion a dymuniadau gorau am lwyddiant i’r Eisteddfod; gan Gymry yn y Gad. Yn yr Eisteddfod nesaf, byddwn ni gyda chi. ”

Ar 22 Awst 1916 adroddodd y papur newydd Y Genedl fod dros 7,000 yn gwrando ar Lloyd George yn amddiffyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Adroddodd y papurau newydd ei fod wedi aros yn yr ŵyl am beth amser ar ôl cyflwyno ei araith ac yna gadael y dref yng nghanol golygfeydd o frwdfrydedd aruthrol.

Ar 15 Chwefror 1934, recordiodd Lloyd George ran o’i araith enwog ‘Pam na ddylem ni ganu?’ yn stiwdio’r BBC, yn barod i’w darlledu ar y radio, er mwyn i’r byd ei chlywed.

 

Gallwch wrando ar glip sain:

 

Cedwir copi o’r araith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a diolch i brosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain, mae wedi’i digido a’i storio’n ddiogel yn ystorfa ddigidol y Llyfrgell Brydeinig. Gallwch wrando ar y recordiad yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell ac mi fydd ar gael yn fuan ar-lein.

 

Alison Lloyd Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain

Postiwyd - 18-07-2019

Casgliadau / Darganfod Sain

Mainc Gwrando

Nod prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yw diogelu casgliadau sain unigryw a phrin y Deyrnas Unedig. Bydd y Llyfrgell Brydeinig a’r 10 hwb cenedlaethol yn digido 160,000 o eitemau sain, catalogio 470,000 o recordiadau, gan edrych ar hawliau 100,000 o eitemau.

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn digido casgliadau sain o Gymru er mwyn eu hamddiffyn a chreu mynediad iddynt. Defnyddir y recordiadau sain mewn gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu, gan godi proffil casgliadau Archifau Sain y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd 2021 bydd mwy o bobl wedi ymgysylltu â deunydd sain a bydd gwefan newydd yn galluogi gwrandawyr i wrando ac archwilio detholiad o recordiadau ar lein.

Drwy haelioni a charedigrwydd Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru rydym wedi derbyn rhodd o fainc gwrando a fydd yn ein galluogi i fynd a’r recordiadau digidol hyn ar daith o amgylch Cymru. Bydd detholiad o glipiau gwahanol yn cael eu chwarae ar y fainc mewn nifer o leoliadau yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

 

Dywedodd Y Parchedig Ganon Enid Morgan, Cadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

Mae’r Cyfeillion yn hynod o falch o gyflwyno’r Fainc Sain hyfryd yma fel rhodd i’r Llyfrgell. Rydym yn ymfalchïo ein bod dros y blynyddoedd wedi gallu helpu’r Llyfrgell mewn amryfal ffyrdd i ychwanegu a gofalu am ei chasgliadau ac mae’r prosiect hwn sy’n digido casgliadau sain o Gymru er mwyn eu hamddiffyn a chreu mynediad iddynt yn rhan allweddol bwysig o’n hanes ni fel Cymry.

Cyn i’r fainc ddechrau ar ei thaith bydd modd ei gweld yma ar lawnt blaen y Llyfrgell Genedlaethol. Chwaraeir clipiau o gyfweliadau a cherddoriaeth gan Dylan Baines, Ectogram, Malcolm Gwyon, Meibion Mwnt, Tecwyn Ifan, y Blew a Plethyn. Recordiwyd yr artistiaid hyn yn wreiddiol ar gyfer sesiynau Radio Cymru, gyda’r mwyafrif nas clywyd ers yr 80au cynnar.

“Carwn ddiolch o galon i Gyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gefnogi’r prosiect ac am eu rhodd caredig. Mae hyn yn gyfle gwych i ryddhau clipiau o gasgliadau sain Cymru a fyddai fel arall wedi aros yn gudd. Bydd cyfle i bobl wrando ac ymgysylltu gyda’r recordiadau hyn yn eu cymunedau lleol.” Alison Smith, Rheolwr Hwb Prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain (DETS).

Postiwyd - 08-07-2019

Blas ar waith / Casgliadau / Heb ei gategoreiddio

Ach Eisteddfodol

Mae cart achau’r Parch. John Bowen (1747-1835), Caerfaddon (sef NLW MS 24111G), yn bryniad diweddar gan y Llyfrgell Genedlaethol sydd o ddiddordeb ar sawl cyfrif.

Mae’r ach yn gopi wedi ei ddiweddaru, yn llaw John Bowen ei hun, o ach gynharach a luniwyd ym 1608 gan Thomas Jones o Borth-y-Ffynnon, Tregaron, yr enwog Twm Siôn Cati. Fe gomisiynwyd honno gan Robert Bowen o Ballyadams, Swydd Laois, Iwerddon, gor-ŵyr i Owein ap Jenkyn, Ynyspenllwch. Roedd John Bowen yntau yn ddisgynydd o’r un llinach ac wedi ei fagu yng Nghasllwchwr.

Mae saith deg pump o arfbeisiau wedi eu paentio ar yr ach, nid gan Bowen ei hun, mae’n debyg, ond yn hytrach gan arlunydd a gomisiynwyd ganddo. Mae’r arfbeisiau unigol yn hardd ond gyda’i gilydd maent yn creu argraff hynod o drawiadol.

 

 

Nodwedd arall sydd yn arbennig o amserol yw’r nodyn a ganlyn ar gychwyn y siart: ‘Examined and confirmed at the Carmarthen Gorsedd July 11th 1819. The Lord Bishop of St Davids President’. Dyma gyfeiriad felly at y cyntaf o’r Eisteddfodau Taleithiol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 8-10 Gorffennaf 1819, union ddwy ganrif yn ôl. Hon oedd yr eisteddfod gyntaf i’w chysylltu gyda dyfeisiad enwocaf Iolo Morganwg, sef Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Sonier i’r Orsedd gyfarfod yng ngardd Gwesty’r Llwyn Iorwg ar fore Sadwrn, 10 Gorffennaf, er mwyn urddo beirdd, derwyddon ac ofyddion. Roedd John Bowen yn bresennol, a chafodd ei urddo yn ofydd.

Hyd y gwyddom, cart achau John Bowen yw’r unig un i gael ei ardystio gan yr Orsedd yn y fath ffordd. Dogfen unigryw felly.

 

Rhys M. Jones

Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Postiwyd - 05-07-2019

Casgliadau / Stori Cymru

Game of Thrones a chwedloniaeth Gymreig – beth yw’r cysylltiad?

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i rai o’r llawysgrifau allweddol sy’n cynnwys rhai o destunau mwyaf dylanwadol chwedloniaeth Gymreig ac sydd wedi goroseu hyd heddiw.

Yn ei plith mae Llyfr Gwyn Rhydderch, sy’n cynnwys y fersiwn gynharaf o’r Mabinogi – y storïau mwyaf adnabyddus yn chwedloniaeth Cymru.

 

Nid peth newydd yw bod awduron yn troi at hanes a chwedloniaeth Gymreig am ysbrydoliaeth. Roedd glo Cymru yn dannwydd i’r chwyldro diwydiannol, ac felly hefyd mae awduron wedi cloddio ein mytholeg am dannwydd i yrru boelerdai rhai o gyfresi ffantasi mwyaf poblogaidd y byd.

Y gyfres uchaf ei phroffil o’r rhain yw The Lord of the Rings, ac ynddi mae Cymru wedi dylanwadu popeth o iaith yr ‘Elves’ i briodasau rhwng rhyfelwyr a merched teg arallfydol, ac o gleddyfau tynghedus i deithiau niferus i leoedd tanddaearol tebyg i Annwn.

Mae cyfres Harry Potter hefyd yn llawn tebygrwydd i chwedloniaeth Gymreig. Sylwais yn arbennig ar yr olygfa lle mae’r anfad Arglwydd Voldemort yn cael ei atgyfodi  o grochan mewn rhediad stori sydd yn ddigon tebyg i un y Pair Dadeni yn Ail Gainc y Mabinogi.

 

Mae dylanwad chwedloniaeth Gymreig wedi ymestyn ymhell tu hwnt i’r byd gorllewinol hefyd – mae tua 500,000 o chwaraewyr gan Mabinogi, gêm amlchwaraewr anferth o Corea sydd wedi ei seilio ar y chwedlau o’r un enw.

Y gyfres ffantasi uchaf ei phroffil a’r mwyaf proffidiol ar hyn o bryd yw Game of Thrones. Mae’r olaf o wyth cyfres deledu newydd orffen gyda mwy na 38 miliwn yn gwylio’r bennod gyntaf. Mae dau lyfr arall i ddod, sef The Winds of Winter ac A Dream of Spring, ac mae’n siwr y bydd nifer o ffilmiau a chyfresi deilliedig yn dilyn hefyd.

Mae nifer o gyffelybiaethau rhwng cyfres Game of Thrones a chwedloniaeth a hanes Cymru, ond dyma rai a sylwais arnynt tra’n gwylio a darllen.

Cweryla

Un o’r themâu amlycaf yn y gyfres yw bod o dan warchae gan ‘eraill’ bygythiol – yn achos Game of Thrones, y Cerddwyr Gwyn o ‘du hwnt i’r Wal’.

Efallai mai’r gymhariaeth agosaf i’r stori hon yw’r waliau a adeiladwyd gan y Rhufeiniaid i gadw allan y Pictiaid. Ond mae tebygrwydd hefyd i ddyfodiad yr Eingl-Sacsoniaid i Brydain, a ddisgrifiwyd gan Sieffre o Fynwy ym Mrut y Brenhinoedd fel cosb gan Dduw.

 

Yn bennaf, mae’r Prydeinwyr yn hanes Sieffre yn gadael ei hunain yn ddiamddiffyn i oresgynnwyr drwy ymddwyn yn anfoesol a chweryla ymysg ei gilydd.

Adlewyrchir hyn yn y modd mae’r gwahanol Deuluoedd yng nghyfres George RR Martin yn gwanhau ei hunain yn ystod Rhyfel y Pum Brenin, yn treisio ac yn ysbeilio, heb sylweddoli fod bygythiad llawer mwy ar drothwy Westeros.

Mae tebygrwydd i hanes Prydain hefyd yn y ffaith bod y ‘Dynion Cyntaf’, sy’n siarad yr ‘Hen Iaith’ ac yn addoli’r Hen Dduwiau, yn poblogi ardaloedd ymylol Westeros.

Yn y cyfamser, mae’r Andaliaid o Essos, a ddaeth a’r ‘Iaith Gyffredin’ gyda nhw, wedi goresgyn y rhan fwyaf o’r tiroedd ffrwythlon, heulog a llewyrchus.

‘Fy nheyrnas am ddraig!’

Cadarnhaodd George RR Martin hefyd bod cyffelybiaethau cryf rhwng Game of Thrones a Rhyfeloedd y Rhosod yn y 15fed ganrif, lle chwaraeodd Cymru rhan fawr.

Yn debyg i Joffrey Baratheon yn Game of Thrones, roedd etifeddion ifanc yn Rhyfeloedd y Rhosod – y Tywysogion yn y Tŵr – y credir iddynt gael eu llofruddio i alluogi rhywun arall – Richard III – i gymryd yr orsedd.

Mae rhan Harri VII, a anwyd yn Sir Benfro ond a alltudiwyd dros y môr, ac sydd yn parhau i gynllwynio i gymryd yr orsedd, yn cael ei gymryd gan Daenerys Targaryen.

Yn ogystal â bod o dras Cymreig, glaniodd Harri VII yng Nghymru gan recriwtio lluoedd milwrol yn y wlad cyn eu harwain i fuddugoliaeth ar Faes Bosworth.

 

Coed sanctaidd

Roedd coed megis derw ac yw yn sanctaidd i’r Celtiaid, fel ag y maent i’r ‘Dynion Cyntaf’ sydd dal i ddilyn yr ‘Hen Dduwiau’ yn Game of Thrones.

Nid cyd-ddigwyddiad chwaith yw pren gwyn a dail coch y coed Weirwood sydd yn Godswood yn Game of Thrones. Dyma luwiau’r goruwchnaturiol yn chwedloniaeth Cymru.

Pan ddaw Pwyll ar draws cnud o gŵn ar ddechrau’r Mabinogi – Cŵn Annwn – maent yn wyn â chlustiau coch.

Mae sôn hefyd yn Game of Thrones am Blant y Goedwig, sydd yn addoli anifeiliaid a choed, ac mae tebygrwydd clir rhyngddynt a’r Tylwyth Teg yn chwedloniaeth Cymru.

Anifeiliaid

Llosgach, trais a phobl yn troi i mewn i anifeiliaid – mae gan Game of Thrones ddigonedd o’r tri.

Ond mae’n anodd i George RR Martin wneud hyn yn well na Phedwaredd Cainc Y Mabinogi.

Wedi i Gilfaethwy dreisio morwyn ei ewythr, mae dewin pwerus yn ei droi ef a’i frawd Gwydion yn bâr cyplysol o anifeiliaid; yn gyntaf yn hydd ac ewig, yna yn faedd a hwch, ac yn olaf yn flaidd a bleiddast.

Mae’r ddau frawd yn cymharu tra’u bod yn eu ffurfiau anifeilaidd ac yn cael tri o feibion; Hyddwn, Hychddwn a Bleiddwn.

Yn Game of Thrones mae Joffrey wedi ei eni o berthynas losgachaidd rhwng ei fam a’i brawd.  Mae nifer o gymeriadau hefyd sydd yn medru meddiannu cyrff anifieiliaid cyfagos.

Camdriniaeth

Mae cyfeiriadau cyson yn llyfrau a chyfresi teledu Game of Thrones at ryfel a ddigwyddodd yn y gorffennol a arweiniodd at orseddu Robert Baratheon yn frenin.

Y gwreichionyn a daniodd y rhyfel oedd pan herwgipiodd Rhaegar Targaryen (brawd Daenerys) chwaer Edward Stark a darpar wraig Robert, Lyanna.

Mae Robert a Ned yn mynd ar ei hôl, ac mae hyn yn arwain at ryfel cartref sydd yn dymchwel y Teulu Targaryen. Mae rhai wedi cyfeirio at Helen o Gaerdroia fel ysbrydoliaeth amlwg – yr wyneb a lansiodd fil o longau.

Ond mae yma debygrwydd cryf iawn i stori Branwen ferch Llŷr yn Ail Gainc y Mabinogi.

 

Mae camdriniaeth Branwen gan y brenin Gwyddelig Matholwch yn dechrau rhyfel gyda Phrydain. Mae ei brodyr, Bendigeidfran, Brenin y Prydeinwyr, ac Efnisien, yn mynd ati i’w hachub.

Fel yn Game of Thrones, mae’r cyrff yn pentyrru. Mae’r prif gymeriadau i gyd wedi marw erbyn diwedd y rhyfel rhwng Prydain ac Iwerddon, gan gynnwys Matholwch, Bendigeidfran, Efnisien a Branwen.

Enwau

Mae gan nifer o gymeriadau Game of Thrones enwau Cymreig sydd yn rhoi syniad i ni o’u cymeriad neu eu ffawd.

Un o’r rhai mwyaf amlwg yw ‘Tyrion’ – enw sydd yn agos iawn i’r gair Cymraeg ‘tirion’.

Mae’r corrach, er ei fod yn gallu bod yn greulon, yn un o gymeriadau mwyaf hoffus y gyfres oherwydd y gamdriniaeth mae ef ei hun yn ei ddioddef.

Ond cymeriad Bran Stark yw’r enghraifft fwyaf amlwg o George RR Martin yn cael ysbrydoliaeth o chwedloniaeth Gymreig.

Mae tebygrwydd amlwg rhyngddo a’r cymeriad chwedlonol Bran, neu Bendigeidfran fel y gelwir ef yn y Mabinogi.

 

Mae Bran yn Game of Thrones yn datblygu pwerau arbennig wedi iddo golli defnydd ei goesau ar ôl cael ei daflu o ffenestr uchel mewn castell.

Mae ei goesau hefyd yn fan gwan i Bendigeidfran, ac mae ei bwerau yn cynyddu wedi iddo gael ei ‘ladd’ gan waywffon yn ei droed.

Fel y Bran sy’n cael ei gario o gwmpas Westeros gan Hodor, mae Bran y Mabinogi yn cael ei gario o gwmpas Prydain cyn cael ei gladdu ar y Gwynfryn (safle Tŵr Llundain heddiw).

Gwaed

Mae Game of Thrones yn adnabyddus iawn am fod yn arbennnig o waedlyd, ac mae hynny yn deillio o ddylanwad mytholeg Cymreig hefyd.

Mae gan Ramsey Bolton (sy’n cael ei chwarae gan y Cymro Iwan Rheon) hoffder o ddatgymalu cyrff sydd yn debyg iawn i hanner brawd drygionus Bendigeidfran, Efnisien.

Mae’r Efnisien gwallgof yn mwynhau torri clustiau a gwefusau, gwasgu pennau pobl gyda’i ddwylo, a llosgi plant bychain yn fyw.

Mae hanes Cymru hefyd yn llawn trais. Mae rhai pobl wedi tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng y Briodas Goch, ble mae’r teuluoedd Stark a Tully yn cael eu llofruddio yn ystod priodas a gynhalwyd gan yr Arglwydd Walder Frey, a’r lladdfa yng Nghastell Y Fenni ar Ddydd Nadolig 1175.

Yno, gwahoddodd y barwn Normanaidd, William de Braose, un o benaethiaid y Cymry, Seisyll ap Dyfnwal, i wledd yn y castell, cyn cloi’r drysau a’i lofruddio ef a’i ddynion i gyd.

Gwreiddiau

Mae’n drawiadol faint o bobl yng Nghymru sydd yn gyfarwydd â’r hanesion hyn yn ail-law drwy storïau Tolkien, Martin a Rowling, ond nad ydynt yn ymwybodol fod iddynt wreiddiau Cymreig.

Mae llawer o waith i’w wneud yng Nghymru i ddod i wybod am ein hanes a’n chwedloniaeth ni ein hunain. Dyna pam yr ysgrifennais fy nhrydedd nofel, Dadeni,  er mwyn cyflwyno nifer o bobl newydd yng Nghymru i’n chwedloniaeth ni ein hunain.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisioes, beth am ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol neu ddewis llyfr am hanes neu chwedloniaeth Cymru.

Efallai y cewch eich ysbrydoli i ysgrifennu y Game of Thrones nesaf!

Ifan Morgan Jones

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog