Blog

Darganfod Aberystwyth Canoloesol

Casgliadau - Postiwyd 03-05-2023

 

Dros y misoedd diwethaf mae nifer o sefydliadau lleol gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifdy Ceredigion, Amgueddfa Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi dod at ei gilydd i ddathlu byd Aberystwyth yr Oesoedd Canol. Yn ogystal â’i daliadau niferus yn ymwneud ag Aberystwyth a’r Oesoedd Canol, mae’r Llyfrgell ei hun wrth gwrs wedi’i lleoli yma ers dros 100 mlynedd ar ôl ei sefydlu ym 1906.

Mae’r prosiect ‘Darganfod Aberystwyth Canoloesol’ wedi bod yn llwyddiant mawr, gyda sgyrsiau, teithiau tywys o amgylch y dref, a gweithgareddau i gyd wedi’u cynllunio i’n helpu i ddeall sut beth oedd bywyd yn Aberystwyth ganrifoedd yn ôl. Ar 20 Ebrill daeth y rhaglen o ddigwyddiadau i ben gyda digwyddiad ‘Darganfod Aberystwyth Ganoloesol mewn Llawysgrifau’, ynghyd ag arddangosfa dros dro o lawysgrifau o gasgliadau’r Llyfrgell.

 

 

Bu’r digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda sgyrsiau a chyflwyniadau gwych gan staff y Llyfrgell a Phrifysgol Aberystwyth. Aeth un o’n harchifyddion, Dr David Moore â ni ar daith rithwir trwy gasgliadau’r Llyfrgell yn cynnwys llawysgrifau a dogfennau canoloesol yn ymwneud ag Aberystwyth, a chafwyd cyflwyniadau hynod ddiddorol gan Dr Rhun Emlyn a Dr Louisa Taylor, darlithwyr o adran Hanes y Brifysgol, o ganlyniadau eu hymchwil diweddar mewn i fywyd yn Aberystwyth yn y ganoloesau ac ar ddogfennau a sêliau Casgliad Ystâd Gogerddan. Daeth y digwyddiad i ben gyda darlleniad barddoniaeth o waith un o feirdd canoloesol mwyaf adnabyddus Aberystwyth, Dafydd ap Gwilym, a berfformiwyd gan Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol. Daeth Eurig â dwy o gerddi enwocaf Dafydd yn fyw – ‘Merched Llanbadarn’ a ‘Dewis Un o Bedair’.

 

 

Roedd yr arddangosfa a oedd yn cyd-fynd yn cynnwys detholiad o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell, ac y mae pob un ohonynt wedi’u disgrifio yn ein catalog ac ar gael i’w gweld naill ai’n ddigidol neu yn ein Hystafell Ddarllen. Beth am gael cipolwg eich hun – pwy a ŵyr beth allech chi ei ddarganfod am Aberystwyth ganoloesol?

 

 

Roedd yr eitemau yn yr arddangosfa yn cynnwys:

Peniarth MS 540: De natura rerum Bede (12fedG, Llanbadarn Fawr)

Peniarth MS 20: Brut y Tywysogion: Brwydr Aberystwyth 1116 (c.1330, Ystrad Fflur)

NLW MS 9429E: Siarter Bwrdeistref Aberystwyth (1277 (copi))

Peniarth MS 28: Cyfreithiau Hywel Dda (13egG, Deheubarth)

Cofnodion Ystâd Gogerddan, cyfres GAB: Gweithredoedd Bwrdeisiaid Aberystwyth (14egG, Llanbadarn & Aberystwyth)

Peniarth MS 22: Brut y Brenhinedd gan Dafydd ap Maredudd Glais (1444, Aberystwyth)

Peniarth MS 54i: Dafydd ap Gwilym: Merched Llanbadarn (cyfansoddwyd yn y 14egG, plwyf Llanbadarn/Brogynin)

Peniarth MS 49: Dafydd ap Gwilym: Dewis Un o Bedair (cyfansoddwyd yn y 14egG, plwyf Llanbadarn/Brogynin)

 

Lucie Hobson

Archifydd Cynorthwyol

 

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog