Blog

Cymru Speed : Atlas a brynwyd yn ddiweddar

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 14-08-2014

Mae’r enw Speed yn gyfystyr â mapiau hynafiaethol ac yn dra adnabyddus am hynny. John Speed ??(1552-1629) yw’r mwyaf blaenllaw o gartograffwyr Lloegr, bri a gafodd yn bennaf oherwydd ei atlas “The Theatre of the Empire of Great Britaine” a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1611/12. Roedd y “Theatr”, yr atlas cyntaf o Ynysoedd Prydain, yn llwyddiant mawr ac fe’i gyhoeddwyd gan nifer o gyhoeddwyr o’i gychwyn hyd at 1770. Ei fapiau sirol unigol ef yw’r mwyaf adnabyddus, a’r rhai sy’n cael eu chwennych yn bennaf, o blith mapiau hynafiaethol.

 

Picture 513

 

Ceisiodd Speed gynhyrchu ei fapiau o’r ffynonellau mwyaf dibynadwy a chyfoes oedd ar gael iddo. Roedd yn defnyddio, ond eto yn cydnabod ffrwyth llafur eraill. Ymgorfforodd nodweddion newydd, yn enwedig golygfeydd neu gynlluniau o drefi sy’n ymddangos fel mewnosodiadau bach ar lawer o’i fapiau, ynghyd â ffiniau’r siroedd a’r cantrefi ac arfbeisiau o aelodau’r teulu brenhinol ac o foneddigion lleol. Wrth wneud hynny creodd Speed fapiau sydd yn hynod o addysgiadol, addurnol, a deniaddol.
Ym mis Gorffennaf prynodd y Llyfrgell y rhan Gymreig o’r “Theatr”, a elwir y “Second Booke containing the Principality of Wales”. Mae’r gyfrol yn cynnwys map cyffredinol o Gymru, ac o bob tu i hwnnw mae mewnosodiadau sy’n dangos golygfeydd o’r trefi sirol a pedair eglwys gadeiriol. Mae hefyd yn cynnwys tri ar ddeg o fapiau unigol o siroedd Cymru, pob un gydag un neu ddau o fewnosodiadau trefol. Mae’r mapiau yn enwi ac yn lleoli trefi, pentrefi mawrion, ystadau, safleoedd o ddiddordeb hanesyddol ac afonydd. Cynrychiolwyd bryniau a mynyddoedd yn ddarluniadol. Mae pob map wedi’i liwio. Ar yr ochr ferso (cefn pob map) ceir disgrifiadau o’r ardal. Rhwymwyd yr atlas yn fedrus ac yn ddeniadol mewn croen llo.

 

Picture 512

 

Er bod y dyddiad 1662 ar yr wynebddalen, cafodd yr argraffiad hwn o’r “Ail Lyfr” ei gyhoeddi yn Llundain gan gwmni Roger Rea ym 1665, ar adeg a gyd-darodd, yn anffodus, â Thân Mawr Llundain. Collwyd llawer o gopïau ohono yn y dinistr ac o ganlyniad mae argraffiadau Rea ymhlith y rhai mwyaf prin o’r “Theatr”. Mae’r atlas felly yn enghraifft brin o gartograffeg Cymru. Mae’r Llyfrgell hefyd yn berchen ar argraffiadau eraill o’r “Ail Lyfr” gyda’i fapiau Cymreig yn dyddio o 1611 i 1713, yn ogystal ag enghreifftiau o’r “Theatr” gyda’i fapiau o siroedd ac o wledydd eraill Prydain.
Gwilym Tawy

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog