Blog

Cymru & Mis Hanes LHDT+

Collections - Postiwyd 28-02-2018

Dyma gofnod gwadd gan Mair Jones.

Mae croeso i chi gynnig cofnodion i’w hystyried yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’n rhaid i bob cofnod ymwneud â gwaith neu gasgliadau’r Llyfrgell, yr iaith Gymraeg neu Gymru. Rydym yn cadw pob hawl golygu dros unrhyw gofnodion a gyhoeddir. Danfonwch eich cofnodion trwy’r Gwasanaeth Ymholiadau os gewlwch yn dda.

Cymru & Mis Hanes LHDT+

Am bymtheg mlynedd, ystyriwyd mis Chwefror fel mis i ddathlu hanes pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol a queer, ac unrhyw un arall gall ffitio i’r ambarél LHDT +. Mae Mis Hanes LHDT + 2018 wedi gweld y mwyaf o ddigwyddiadau yng Nghymru eto – fel digwyddiad Pride Cymru yn y Senedd.

O astudio Hanes LHDT+ Cymru, rwyf wedi darganfod bod y Llyfrgell Genedlaethol yn llawn adnoddau cynradd ac eilradd Hanes LHDT+ Cymru. Bydd unrhyw un sydd wedi defnyddio eu archifau yn gwybod ei fod yn adnodd gwych i ddatgelu hanesion personol – fel hanesion menywod yng Nghymru. Mae hanesion pobl LHDT+ Cymru hefyd yn dal i gael eu datgelu. Mis yma, neu yn unrhyw fis arall, darllenwch darllen hanes person LHDT + Cymraeg, dathlwch, ac efallai helpwch i ddatgelu hanes pobl LHDT+ Cymru.

Dyma bedwar ar ddeg o ffigurau allweddol mewn hanes LHDT+ Cymru y gellir eu hymchwilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – i’w ddathlu’r mis hwn, a gobeithio o fewn hanes Cymru.

1. ‘Ladies of Llangollen.’ Rhain yw’r ffigyrau LHDT+ mwyaf adnabyddus o Gymru. Yr oeddent yn Sarah Ponsonby [1755-1831] ac Eleanor Butler [1739-1829], dwy fenyw Gwyddelig a wnaeth ddianc o’u teuluoedd i fyw eu bywydau gyda’i gilydd ym Mhlas Newydd yn Llangollen. Ysgrifennwyd llawer amdanynt y gellir eu darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae archifau sy’n gysylltiedig iddynt yn cynnwys portreadau, llythyrau, ffacsimilïau o’u llyfrau cyfrif, adnoddau electronig a phapurau eraill.
NLW MS 21682C – Letters from Ladies of Llangollen
NLW MS 23699E, ff. 135-137. – Letters of the Ladies of Llangollen
NLW MS 23980F, ff. 24-25. – Ladies of Llangollen letters
NLW MS 22768D. – Ladies of Llangollen letters
Cardiff MS 2.908. – Ladies of Llangollen
Bodrhyddan Estate Papers, Deeds and Documents 57 – Letter: Sarah Ponsonby [one of ‘The Ladies of Llangollen’] to Miss Williams Wynn. Endorsed ‘Last Letter from Miss Ponsonby’
NLW Facs 18. – ‘Ladies of Llangollen’ account book
NLW Facs 19. – ‘Ladies of Llangollen’ account book
NLW MS 19697B. – A personal and household account book of the ‘Ladies of Llangollen’ in the hand of Sarah Ponsonby
Mae ysgrifau eraill arnynt yn cynnwys cyfrifon ohonynt o’r amser, Papers of the ‘Ladies of Llangollen’ gan Ceridwen Lloyd-Morgan ac erthygl Susan Valladares arnynt yn gyfarfod Anne Lister.

2. Roedd Katherine Philips [1631-1664] yn fardd Anglo-Gymreig y mae Norena Shopland wedi darganfod fel y ‘Welsh Sappho.’ Mae Philips yn un o’r enghreifftiau cynharaf o farddoniaeth o gwmpas ‘gyfeillgarwch rhamantus’.
NLW MS 775B. – Katherine Philips poetry
NLW MS 776B. – Katherine Philips poetry
NLW Facs 739. – Katherine Philips poem
NLW Films 943-6 – Katherine Philips Microfilms
NLW MS 21702E. – Barddoniaeth amrywiol

3. Roedd Frances Power Cobbe [1822-1904] a Mary Charlotte Lloyd [1819-1896], fel Ponsonby a Butler, yn byw yng Nghymru gyda’i gilydd. Roedd Cobbe yn swffraget adnabyddus, ac awdur – roedd Mary Lloyd yn gerflunydd o Gymru a oedd yn byw gyda’i fel ei phartner. Mae’r ffynonellau ar Lloyd yn bennaf o ysgrifau Cobbe.
Minor Deposit 1309-15. – Manuscripts of Frances Power Cobbe of Hengwrt, Dolgellau, religious philosopher, &c
NLW ex 1865-7 – Frances Power Cobbe Bequest

4. Roedd Sarah Jane Rees (Cranogwen) [1839-1916] yn awdur, golygydd, morwr, darlithydd, a golygydd Y Frythones, ac roedd mewn perthynas lesbiaidd gydol oes, fel y ysgrifennwyd gan Jane Aaron yn Queer Wales.
Sarah Jane Rees (‘Cranogwen’)
Cerddi i Maggie Eurona gan Cranogwen
NLW MS 23895A. – Anerchiad gan Cranogwen
Sarah Jane Rees (‘Cranogwen’) poetry

5. Roedd Amy Dillwyn [1845-1935] yn ddiwydiannydd a ffeminist a gyhoeddodd nofelau â themâu lesbiaidd a chroes-wisgo. Gellir darllen y nofelau a gyhoeddwyd gan Honno, ei chofiad gan David Painting ac ysgrifenniadau eraill amdani gan Kirsti Bohata yn y Llyfrgell.
Amy Dillwyn papers

6. Mae’n debyg mai Gwen John [1876-1939] yw’r artist benywaidd mwyaf adnabyddus yng Nghymru – llai adnabyddus yw ei pherthynas â merched, fel Véra Oumançoff.
Gwen John manuscripts

7. Cafodd Margaret Haig Mackworth, 2il Is-iarll Rhondda, [1883-1958] hefyd berthnasoedd â dynion a merched ac mae’n adnabyddus fel swffraget. Gellir dod o hyd i lyfrau amdani (h.y. gan Angela John) a ganddi yn y Llyfrgell.

8. Mae George Powell o Nanteos [1842-82] a’i rhywioldeb wedi cael ei ysgrifennu amdano gan Harry Heuser yn Queer Wales ac mae nifer o’i ysgrifau i’w darllen yn y Llyfrgell.
NLW Facs 417. – Letters to George E. J. Powell, Nanteos
Minor Deposits 1394-97. – Letters to George E. J. Powell from A.C. Swinburne

9. Nina Hamnett [1890-1956] oedd y ‘Queen of Bohemia,’ artist deurhywiol o Gymru oedd yn gysylltiedig a’r Grwp Bloomsbury.

10. Ivor Novello [1893-1951]
NLW MS 23204D. – Ivor Novello papers
NLW MS 23696E. – Ivor Novello letters

11. Rhys Davies [1901-1978]
Rhys Davies Papers

12. Roedd Kate Roberts [1891-1985], a elwir yn Frenhines ein Llên, yn briod â Morris T. Williams [1900-1946], tra bu ganddo berthynas ag Edward Prosser Rhys [1901-1945]. Mae E. Prosser Rhys yn adnabyddus am ei gerdd fuddugol ‘Atgof’ yn Eisteddfod 1924, amdano ei berthnasoedd ddeurywiol. Teimlai Alan Llwyd, yn ei hunangofiant Roberts, ei bod hi hefyd wedi bod yn ddeurywiol.
Papurau Kate Roberts

13. Roedd Margiad Evans [1909-1958] yn nofelydd a oedd eto’n briod, ond mae’n fwy adnabyddus bod ganddi berthynas â Ruth Farr, tra bod ei nofelau yn archwilio themâu rhywioldeb. Mae ei nofelau, ei lawysgrifau a’i hunangofiant yn y Llyfrgell, yn ogystal ag ysgrifennu arni, fel gan Ceridwen Lloyd-Morgan, a’i phapurau a’i llythyrau archif.
NLW Facs 870 – Margiad Evans Diary
NLW ex 2790 (i & ii) – Margiad Evans family papers
Margiad Evans Papers
Margiad Evans Manuscripts
NLW MS 23893E. – Margiad Evans Letters
NLW MS 23994F. – Poems by Margiad Evans

14. Mae Jan Morris [1926-] yn awdur a hanesydd Cymreig. Ysgrifennodd lyfr ar ei phrofiadau yn bod yn trawsryweddol yn ogystal â hanesion Cymru, ac mae’n ffigwr pwysig a dylanwadol LHDT+ Cymru.
Jan Morris Papers

Mae yna llawer mwy o bobl LHDT + o Gymru yn cael eu hysgrifennu’n gynyddol mewn hanes queer a hanes Cymru. Roedd John Davies yn hanesydd blaenllaw yng Nghymru a oedd yn LHDT ac mae Jeffrey Weeks yn hanesydd rhywioldeb blaenllaw o’r Rhondda. Mae ffynonellau eraill a ddefnyddiwyd gan haneswyr LHDTCymru, megis Shopland, yn erthyglau papur newydd, fel y rhai sydd ar gael trwy Bapurau Newydd Cymru Arlein.

Mair Jones,
MA Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth.

Darllen pellach:
Osborne, Huw. Queer Wales.
Shopland, Norena. Forbidden Lives.
Tate, Tim. Pride.
Weeks, Jeffrey.

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog