Blog

Cymru a’r fasnach gaethweision

Casgliadau - Postiwyd 23-08-2021

Ffynnodd y fasnach gaethweision drawsiwerydd rhwng y 17eg ganrif a’r 19eg ganrif, gan effeithio ar Gymru mewn ffyrdd nas gwerthfawrogir yn llawn o hyd. Gadawodd ei hôl nid yn unig ar y masnachwyr, y morwyr, perchnogion y planhigfeydd a’r gweithwyr ystad yr oedd ganddynt ran uniongyrchol ynddi, ond hefyd ar weddill diwydiant, masnach, cymdeithas a bywyd beunyddiol Cymru. Roedd Cymru’n enwog am ei haearn, ei gwlân a’i chopor, ac yn aml defnyddid y rhain i gyd i wneud nwyddau gâi eu cyfnewid am gaethweision neu eu defnyddio ar y llongau caethweision a’r planhigfeydd. Caethweision, hefyd, oedd cynhyrchwyr y cotwm a’r tybaco a ddefnyddid yn eang ar bob lefel o’r gymdeithas yng Nghymru.

Ceir tystiolaeth am y fasnach gaethweision a’i heffeithiau mewn ambell i gasgliad yn y Llyfrgell, yn arbennig yn archifau’r ystadau tir a fu’n berchen ar blanhigfeydd gyda chaethweision. Weithiau bydd y cyfeiriadau’n glir, ond yn aml mae angen i ni grafu’r wyneb er mwyn gweld y darlun llawn. Mae gwaith haneswyr fel yr Athro Chris Evans (Slave Wales: the Welsh and Atlantic slavery 1660-1850; Gwasg Prifysgol Cymru, 2010) wedi helpu i ddatgelu’r stori, ond mae llawer eto i’w ddarganfod yn yr archifau. Gyda Diwrnod Rhyngwladol UNESCO ar Awst 23 er Coffáu’r Fasnach Gaethweision a’i Diddymu, cymerwn gipolwg ar rywfaint o’r deunydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell sy’n ymwneud â’r fasnach gaethweision.

O fewn yr ymerodraeth Brydeinig, fe weithredid y fasnach gaethweision ar draws y byd o India’r Dwyrain hyd America, a chwaraeodd nifer fawr o Gymry ran ynddi. Mae UNESCO yn pwysleisio’r fasnach drawsiwerydd oherwydd ei heffaith pellgyrhaeddol ar gysylltiadau hiliol heddiw, felly mae’r blog yma yn ffocysu ar India’r Gorllewin. Mae ein casgliadau hefyd yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am y fasnach gaethweision yn rhannau eraill o’r byd.

O’r cychwyn, fe roddwyd llawer o’r cyfeiriadau cyfoes at y fasnach gaethweision mewn côd gan y rhai oedd â rhan ynddi. Ym 1692, er enghraifft, dim ond cyfeirio at ei ‘fuddiannau’ yn Affrica ac India’r Gorllewin wnaeth cwmni a fasnachai yno (Tredegar Estate Records MSS and Docs 122); dyma’r cyfnod pan oedd Cwmni Brenhinol Affrica (The Royal African Company) yn ei anterth a chyda monopoli dros fasnach Lloegr a Chymru mewn caethweision Affricanaidd – cafodd cerflun o’i Raglyw, Edward Colston, ei daflu i mewn i’r harbwr ym Mryste yn 2020, mewn gweithred a dderbyniodd gryn gyhoedusrwydd. Ar yr wyneb, a thrwy’r cyfnod, rhoddai gweithredoedd tir a thrafodion busnes yr argraff nad oedd unrhyw wahaniaeth rhwng y planhigfeydd yn llefydd fel Montserrat, St Kitts a Dominica â maenorau yn Sir Gaerloyw neu Sir Fynwy (Gogerddan Estate Records MC2/1; Penty Park Estate Records 28; Nassau Senior Papers E714), ac yn aml mewn gohebiaeth o’r planhigfeydd siwgwr yn Nevis a St Kitts ni soniwyd llawer os o gwbl am bresenoldeb caethweision yno (Bodrhyddan Estate Papers 58/1-143).

Yn yr un modd, ceir llythyrau gan swyddogion y Llynges at Charles Hayes, Rhaglyw Cwmni Brenhinol Affrica, yn crybwyll bod Ffrancwyr yn cwyno am Brydeinwyr yn ymyrryd â’u masnach yn Senegal yng nghanol y 18fed ganrif heb fod yn gwbl eglur am natur y fasnach honno (Gogerddan Estate Papers GCB1/1). Mae siartiau dyfrddarluniadol o India’r Gorllewin, fel yr un a luniwyd gan Joseph Smith Speer ym 1774, yn ymddangos yn ddigon diniwed hefyd, ond maen nhw’n cuddio byd tywyll caethwasiaeth y cawsant eu creu ynddo (Aston Hall Estate Records 3503). Ar yr un pryd, ymfalchïai gwladychiaethwyr fel teulu Ottley yn eu safle fel cynrychiolwyr y Gyfundrefn yn Antigua, St Vincent, Grenada a mannau eraill yn nhrefedigaethau Prydain yn India’r Gorllewin (Ottley Family (Additional) Papers 1).

Mae caethwasiaeth ymhell o fod yn anweladwy yn yr archifau, serch hynny. Mewn llythyr at Charles Hayes ym 1747 mae William Slawman yn ei wahodd yn agored i gymryd rhan yn y busnes o gludo caethweision o Gambia i Buenos Aires (Gogerddan Estate Papers GCB1/1), a fe gafodd arwerthiannau o gaethweision eu cofnodi (Nassau Senior Papers E732). Fel arfer, rhestrwyd caethweision fel eiddo mewn llechresi a chytundebau, ochr yn ochr â da byw a gwaddodion mwynau (Peniarth Estate Records DK2), a chaethweision oedd cyfran helaeth o ystad Richard Swarton yn Jamaica yn y 1760au (Slebech Estate Records 3328-33). Ym 1785, fe gymerodd William Knox o Slebech ran yn arwerthiant 100 o gaethweision am bris o £54 10s. (NLW Deeds 1948); roedd y caethweision yma eisoes wedi cael eu cludo o Georgia i Jamaica, ac yn awr roedden nhw ar eu ffordd i Dde Carolina. Cedwid dyddiaduron gan yr asiantau a weithredai’r busnes hwn (Nassau Senior Papers E814), ac weithiau bydden nhw’n cofnodi gwybodaeth am iechyd y caethweision, er dim ond yng nghyswllt pa mor dda y gallen nhw weithio (Slebech Estate Records 8342-440). Roedden nhw’n ystyried y caethweision fel asedau ariannol yn unig, gan gwyno am chwyddiant yn y prisiau a’u hanhawster yn cael gafael ar gaethweison oedd wedi cynefino â’u hamgylchiadau (‘seasoned slaves’) (Nassau Senior Papers E51, E64, E4).

Roedd y masnachwyr a meistri’r caethion yn gwbl ymwybodol mai trais oedd sylfaen eu rheolaeth, ac fe’i gwnaed yn gwbl eglur ganddynt eu bod yn disgwyl i ‘gaethweision ar ffo’ gael eu darostwng (Nassau Senior Papers E74). Aeth planhigwyr a masnachwyr India’r Gorllewin ati i ddeisebu llywodraeth Prydain gyda’u pryderon pan waethygodd tensiynau rhwng y caethweision a’r planhigwyr ym 1791 (Slebech Estate Records 11532-41) – cafwyd gwrthryfel llwyddiannus gan gaethweision yn nhrefedigaeth Ffrengig Saint-Domingue ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, a hynny’n arwain yn y pen draw at sefydlu gwladwriaeth rydd Haiti – ac fe dyfodd pryderon y perchnogion yn ystod rhyfeloedd Prydain gyda Ffrainc chwyldroadol (Glansevern Estate Records 1010). Pan ddaeth caethweision yn rhydd am y tro cyntaf yn India’r Gorllewin, trwy eu hymdrechion gwaedlyd eu hunain yn erbyn gwladychiaethwyr Ewropeaidd y cyflawnwyd hynny.

Roedd yna wastad wrthwynebiad wedi bod yng Nghymru i’r fasnach gaethweision, ond ni wnaeth lawer o wahaniaeth tan ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn hynny, roedd cyfarfodydd yn galw am ddiddymu’r fasnach yn dod yn fwy cyffredin, fel yr un ym Mrynbuga ym 1792 (Tredegar Estate Records 64/346). Roedd Edward Williams, neu Iolo Morganwg, yn adnabyddus am ei wrthwynebiad cryf i’r fasnach; yn ogystal â siarad, darllen ac ysgrifennu am y pwnc, byddai’n gwrthod gwerthu ei waith llenyddol i rai yr oedd e’n gwybod eu bod yn cefnogi’r fasnach ym Mryste (Iolo Morganwg and Taliesin ab Iolo Manuscripts and Papers NLW MS 21282E/359, NLW MS 21396E/17, NLW MS 21392F/29, NLW MS 21400C/24-24a ). Nid oedd pawb o’r un farn, fodd bynnag. Roedd llawer o’r boneddigion yng Nghymru a’u hasiantau wedi buddsoddi’n drwm yn y planhigfeydd, a’u dadl nhw oedd y byddai diddymu’r fasnach yn niweidio economi Lerpwl a phorthladdoedd eraill (Harpton Court Estate Records 2073).

Diddymwyd y fasnach gaethweision yn yr ymerodraeth Brydeinig ym 1807, ond roedd caethwasiaeth yn parhau o hyd, ac roedd hi’n dal i fod yn bosib i brynu a gwerthu caethweision mewn amgylchiadau arbennig. Ym mis Hydref 1810, er enghraifft, fe wnaeth yr Uwchfrigadydd Thomas Picton – a oedd yn ymladd ym Mhortiwgal gyda Wellington ar y pryd – gytundeb gydag aelodau teulu Delaforest i drosglwyddo planhigfeydd, adeiladau, offer, caethweision, ceffylau, mulod ac eiddo eraill yn Nhrinidad, a oedd wedi bod yn drefedigaeth Brydeinig ers 1797 (Picton Family Records 19). Roedd Picton, tirfeddianwr cefnog a ddaeth yn A.S. dros Fwrdeistrefi Penfro yn ddiweddarach, yn adnabyddus am ei greulondeb gormesol, yn arbennig tuag at gaethweision, a fe’i cafwyd yn euog o ganiatáu i ferch ifanc o’r enw Luisa Calderón (nad oedd yn gaeth) gael ei harteithio yn Nhrinidad ym 1801, ond apeliodd yn erbyn yr euogfarn ar bwynt technegol a ni chyrhaeddwyd benderfyniad terfynol. Am flynyddoedd maith cofid amdano yn bennaf oherwydd ei ran yn rhyfel Iberia a’i farwolaeth yn Waterloo, a chodwyd cofgolofn iddo yng Nghaerfyrddin. Mae ymgyrch wedi bod yn ddiweddar i’w symud ymaith.

Roedd triniaeth greulon caethweision yn Jamaica yn parhau i gael sylw ym 1815 (Nassau Senior Papers E136), a bu raid i Lynges Frenhinol yn India’r Gorllewin weithredu yn erbyn morladron a’r fasnach gaethweision – yr oedd cysylltiad agos rhyngddynt yn nhyb y llywodraeth erbyn hyn – am flynyddoedd ar ôl hynny (Penralley Papers 219). Roedd sylw’r diddymwyr yn awr yn troi tuag at gaethwasiaeth ei hun, nid yn unig yn ymerodraeth Prydain ond yn Unol Daleithiau America a mannau eraill. Ymhlith yr ymgyrchwyr yng Nghymru roedd y gweinidog Annibynnol Samuel Roberts (‘S.R.’) (NLW MS 9523A), ond yr unigolyn mwyaf blaenllaw yng nghasgliadau’r Llyfrgell yw Thomas Clarkson, a deithiai’n ddiflino dros y Gymdeithas Gwrthgaethwasiaeth (NLW MS 14984A) gan ymroi ei fywyd i’r achos a chan roi ei hun mewn perygl mawr ar adegau. Clarkson a ysgogodd y mudiad dros ddiddymu ym Mhrydain yn y 1780au trwy gasglu tystiolaethau gan forwyr; gwyddai y byddai hyn nid yn unig yn datgelu amodau byw a gweithio dychrynllyd y morwyr ar fwrdd y llongau caethweision, ond hefyd driniaeth y caethweision eu hunain. Roedd ambell i Gymro ymysg y morwyr hyn ym Mryste a Lerpwl.

Dim ond ychydig o’r eitemau mwyaf hygyrch yn ein casgliadau yw’r rhain. Mae llawer o straeon yn dal i fod ynghudd yn yr archifau ac yn aros i gael eu datgelu.

Nid gyda’r fasnach drawsiwerydd y dechreuodd ymwneud Cymru â chaethwasiaeth. Yn aml yng nghyfraith Gymreig yr Oesoedd Canol – y ceir nifer o lawysgrifau ohoni yn y Llyfrgell, yn cynnwys Peniarth MS 28 – fe gymerid caethweision yn ganiataol fel dosbarth o fewn y gymdeithas, tra soniai ffynnonellau traethiadol megis ‘Brut y Tywysogyon’ (Peniarth MS 20) a Vita Griffini filii Conani (Peniarth MS 434E) am Lychlynwyr o Iwerddon yn dwyn pobl yng Nghymru i mewn i gaethwasiaeth. Mae hyd yn oed yr hwiangerdd o’r seithfed ganrif ‘Pais Dinogad’, a ysgrifennwyd yn llais merch yn canu i’w phlentyn, yn cyfeirio at eu hwyth caethwas (‘wythgeith’) yn cydganu (NLW Llyfr Aneirin, Cardiff MS 2.81).

Nid rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol yn unig yw’r fasnach gaethweision ychwaith. Yn 2007 a 2008, fel rhan o gywaith cymunedol Everywhere In Chains, cynhaliodd Women in Jazz gyfres o weithdai yn ne Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth am gaethwasiaeth a’r fasnach gaethweision yn y byd modern yn ogystal â’r gorffennol (Jazz Heritage Wales / Archif Menywod Cymru 4/9). Gobeithiwn na fydd angen ychwanegiadau tebyg i’n casgliadau yn y dyfodol.

 

Dr David Moore (Archifydd)

 

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Tagiau:

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog