Blog

Datganiad Y Cyfrifiad 1921

Casgliadau - Postiwyd 14-02-2022

Mae’n gyfnod cyffrous i haneswyr teulu gyda datganiad y Cyfrifiad 1921 ar gyfer Cymru a Lloegr yn ddiweddar gan Findmypast. Dyma’r cyfrifiad mwyaf manwl hyd yn hyn a’r un olaf i’w ryddhau tan 2052, oherwydd bod cyfrifiad 1931 wedi’i golli oherwydd tân a dim cyfrifiad ym 1941 oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Mae’n rhoi cipolwg ar fywyd ar ddechrau’r 1920au yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a phandemig ffliw Sbaen ac ar adeg streic y glowyr. Arweiniodd y bygythiad o streiciau at y Llywodraeth yn symud y cyfrifiad o 24 Ebrill i 19 Mehefin.

Gyda newid y dyddiad i fis Mehefin, golygai hyn na fyddai llawer i’w cael gartref adeg y cyfrifiad, ond ar wyliau lle byddent yn cael eu rhifo. Gwelodd rhai cyrchfannau gwyliau cynnydd yn y boblogaeth o gymharu â chyfrifiad 1911. Roedd hyn yn wir yn Aberystwyth lle cynyddodd y boblogaeth o 21,482 yn 1911 i 23,508 yn 1921. Roedd ein Llyfrgellydd ein hunain, Syr John Ballinger a’i wraig ar wyliau yn Llandrindod ar y pryd.

 

© Hawlfraint y Goron wedi’i atgynhyrchu gyda chaniatâd The National Archives, Llundain a Findmypast

 

Pa wybodaeth sydd i’w chael ar y ffurflen? Er mwyn denu pobl i roi oedrannau cywirach gofynnwyd hyn ymhen blynyddoedd a misoedd am y tro cyntaf. Gofynnwyd hefyd i’r rhai dan 15 oed a oedd y ddau riant yn fyw ac os nad i nodi a oedd y tad neu’r fam wedi marw neu’r ddau.

O dan ‘Man Geni a Chenedligrwydd’ gofynnwyd i’r plwyf a’r sir enedigol o hyd, ond os cawsant eu geni y tu allan i’r DU i nodi a oedd yn ymwelydd neu’n breswylydd a pha genedligrwydd. Dyma’r tro cyntaf i wybodaeth am addysg gael ei chasglu, gan ofyn ai addysg amser llawn neu ran amser.

Casglwyd y wybodaeth ynglŷn â nifer y plant o fewn teulu yn wahanol y tro hwn, nid gofyn am ba hyd y bu’r wraig yn briod, ond gofyn am nifer ac oedran y plant a’r llysblant dan 15 oed, boed yn byw yn yr un tŷ neu ddim.

Ac wrth gwrs mae colofn olaf Cymru yn cyfeirio at yr iaith a siaredir boed Gymraeg, Saesneg neu’r ddau. Mae llawer o gartrefi wedi dychwelyd yr atodlenni Cymraeg ond mae llawer o’r fersiynau Saesneg yn rhestru aelwydydd a oedd yn siarad Cymraeg a Saesneg.

Mae mynediad am ddim i gyfrifiad 1921 ar gael yn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel un o’r tri hwb rhanbarthol dynodedig sy’n cynnig mynediad am ddim, fel arall gallwch dalu i gael mynediad drwy wefan Findmypast. Bydd angen i chi gofrestru am docyn darllenwr i gael mynediad.

 

Beryl Evans

Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog