Blog

Cwrs Bywyd Merched

Darganfod Sain - Postiwyd 18-05-2021

Mewn cydweithrediad â Phrosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Brydeinig Prydain, mae ein grŵp, myfyrwyr ôl-raddedig sy’n astudio ar gyfer MA mewn Rheoli Archifau a Chofnodion ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn catalogio casgliad o recordiadau hanes llafar digidol o Butetown, Cymru. Cafodd y recordiadau eu creu yn ystod yr 1980au gan academydd a oedd yn ymchwilio i Butetown, a elwir hefyd yn Tiger Bay, ac a oedd yn cyfweld â thrigolion am eu hatgofion o’r ugeinfed ganrif. Roedd Butetown yn un o’r cymdeithasau amlddiwylliannol cyntaf ym Mhrydain ac roedd ei dociau’n ddosbarthwr mawr o lo a nwyddau eraill yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif ac oherwydd hyn, roedd gan drigolion safbwyntiau unigryw.

Blynyddoedd yn ddiweddarach cynhaliwyd cyfweliadau a thrafodaethau pellach gyda’r nod o warchod hanes Butetown, gan fod yr ardal yn mynd trwy gyfres o ailddatblygu ac, o ganlyniad, roedd llawer o bobl wedi symud i ffwrdd, a rhai preswylwyr yn oedrannus neu wedi marw. Mae un rhan o’r casgliad yn cynnwys recordiadau o Gwrs Bywyd Merched, digwyddiad a fu’n parhau dros gyfnod o flwyddyn a gynhaliwyd yn Butetown ar ddiwedd yr 1980au a fynychwyd gan breswylwyr, cyn-breswylwyr, a phobl o’r ardaloedd cyfagos. Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol, lle bu trafodaethau gan ganolbwyntio ar bwnc gwahanol a effeithiodd ar fywydau menywod yn Butetown gan gynnwys addysg, crefydd, priodas, cyflogaeth, hiliaeth a dynameg teulu. Yn ystod y cwrs dysgwyd sgiliau gwerthfawr i’r cyfranogwyr fel sut i ddyfeisio cwestiynau cyfweliad, yr offer gorau i’w defnyddio ar gyfer cyfweliadau hanes llafar a sgiliau technegol, megis sut i ddefnyddio meicroffonau a recordwyr tâp.

Mae’r recordiadau’n ddiddorol iawn, maent yn cynnwys dyfyniadau o gyfweliadau blaenorol a’r trafodaethau yn canolbwyntio o amgylch bywyd yr unigolyn yn y recordiad gwreiddiol a oedd, ar brydiau, yn mynychu’r drafodaeth yn ogystal ag am brofiadau tebyg a gwahanol a gafodd mynychwyr. Ymfudodd rhieni rhai mynychwyr i Gymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, neu fe ymfudasant hwy eu hunain i Gymru ac o ganlyniad, maent yn adrodd straeon am dyfu i fyny mewn teuluoedd amlddiwylliannol, y gwahanol fwydydd yr oedd pobl yn eu bwyta, a byw mewn gwahanol wledydd, ymhlith eraill. Mae’r recordiadau yn cynnwys trafodaethau am ddiwylliant a chymdeithas Prydain, hunaniaeth gymunedol ac allfudo yn ogystal ag am Butetown a’i ailddatblygiad.

Mae’r recordiadau o’r Cwrs Bywydau Merched, o ganlyniad, yn rhoi goleuni amhrisiadwy i fywydau menywod yn Butetown yr ugeinfed ganrif, profiadau cymunedau amrywiol yng Nghymru, sut roedd cymdeithas yn newid wrth iddi agosáu at yr unfed ganrif ar hugain a sut roedd grwpiau cymunedol yn ceisio gwarchod eu hatgofion.

 

 

Cylchlythyr Llais y Teigr, (1) Medi 1994, Cyrchwyd: 15 Ebrill 2021. Ar gael:
https://www.peoplescollection.wales/items/728376
Trwydded Archifau Creadigol, c. Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown

 

Gall catalogio cyfweliadau hanes llafar fod yn broses hir sy’n gofyn am sylw mawr i fanylion. Pan gyflwynwyd ein recordiadau i’n grŵp, cyflwynwyd taenlen gychwynnol i ni yn cynnwys teitlau’r recordiadau a disgrifiadau cyffredinol o’u cynnwys. Cyn gwrando ar y recordiadau, gwnaethom ymgyfarwyddo â’r daenlen a chynnal ymchwil i pam y crëwyd y recordiadau. Wedi hynny dechreuon ni gynllunio sut y byddem ni’n mynd at y recordiadau, fe wnaethon ni eu rhannu rhyngom a dechrau gwrando arnynt.

Mae gwrando ar recordiadau at ddibenion catalogio yn wahanol i wrando ar gerddoriaeth neu bodlediad. Mae catalogwyr yn gwrando i benderfynu ar y prif bynciau a drafodir, i nodi pynciau y bydd gan ddefnyddwyr ddiddordeb ynddynt ac unrhyw ddeunydd na ddylid ei gyhoeddi. Yn ystod cyfweliadau, bydd pobl, ar brydiau, yn dweud pethau yn gyfrinachol nad ydyn nhw am gael eu cyhoeddi neu a allai fod yn ymwneud â mater sensitif. Felly, gellir tynnu’r deunydd hwn o’r recordiad neu gellir dosbarthu’r recordiad fel deunydd amhriodol i’w gyhoeddi ar-lein a bydd mynediad mewnol yn unig iddo. Ar ôl i ni wrando ar y recordiadau, mae ein tîm yn ysgrifennu disgrifiadau, crynodebau a meysydd eraill am yr hyn rydyn ni wedi’i glywed. Nid trawsgrifiadau yw disgrifiadau a chrynodebau, maent yn gyfrifon cryno ond eto manwl o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y deunydd fel y gall defnyddwyr benderfynu a ydynt am wrando ar y recordiadau. Gellir mewnbynnu’r wybodaeth hon i feddalwedd archif a llyfrgell neu raglen gyfrifiadurol arall fel Microsoft Excel.

Rhaid cynnal ymchwil deiliaid hawliau hefyd. Mae gan yr holl gyfranwyr, cyfwelwyr, cyfweleion, a phobl sy’n ymwneud â’r recordiadau fel peirianwyr sain, hawliau dros y deunydd ac felly, rhaid cysylltu â nhw, a rhaid sicrhau eu caniatâd cyn i’r recordiadau gael eu cyhoeddi ar-lein. Os na ellir sicrhau’r caniatâd hwn neu os yw’r deunydd yn cynnwys pynciau sy’n hynod sensitif, dim ond mynediad yn yr adeilad fydd yn bosib.

Ar ôl i’r recordiadau gael eu catalogio a’r gwaith ymchwil hawliau wedi cwblhau, amlyncir y wybodaeth hon i catalogau’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Llyfrgell Brydeinig. Mae rhai o’r recordiadau yng nghasgliad Tiger Bay, megis y recordiadau Cwrs Bywydau Merched, yn cynnwys deunydd sensitif. O ganlyniad, gall rhai recordiadau fod ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn unig. Er na fydd rhai recordiadau ar gael ar-lein, mae’r casgliad yn ddiddorol, ac mae’n werth gwrando ar y recordiadau yn bersonol.

 

Gan Evangeline Mills, Myfyriwr MA Archifau a Rheoli Cofnodion, Prifysgol Aberystwyth

 

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog