Blog

Cweyl yn Caracas

Casgliadau - Postiwyd 06-02-2023

Daeth papurau yr uwch was-sifil Sir Guildhaume Myrddin-Evans i’r Llyfrgell yn 2019, ond diolch i’r pandemig dim ond yr hâf ddiwetha ces i’r cyfle i fynd ati i’w trefnu a’i catalogio.

Cafodd Sir Guildhaume yrfa hynod ddiddorol a llwyddiannus. Ar ol iddo gael ei anafu yn y Rhyfel Byd Cyntaf aeth i weithio i Lloyd George a ddaeth yn arbennigwr ar faterion llafur, gan wasanaethu yn y Weinyddiaeth Llafur a Gwasanaeth Cenedlaethol, a chynrychioli Llywodraeth Prydain ar Sefydliad Lafur Ryngwladol. Swydd oedd wedi rhoi cyfle iddo deithio, gwneud cysylltiadau rhyngwladol diddorol a bod yn dyst i ambell helynt.

Roedd Sir Guildhaume yn rhan o gorff llywodraethu’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol adeg cynhadledd petrolewm yn Caracas, Venezuela, ym mis Ebrill 1955. Er bod cynrychiolwyr y cyflogwyr a llywodraethau wedi cefnogi’r cais i gynnal y gynhadledd yno, roedd cynrychiolwyr undebau llafur wedi gwerthwynebu oherwydd triniaeth swyddogion undeb, gan gynnwys carcharu nifer ohynt, gan y llywodraeth milwrol yno oedd wedi dod i rym mewn coup d’état yn 1948. Yn ystod y sesiwn agoriadol traddododd cynrychiolydd yr undebau o’r Iseldiroedd, Mr Vermeulen, araith yn tynnu sylw at hawliau gweithwyr yn y wlad a nifer o arweinwyr undebau oedd yn y carchar. Ymateb llywodraeth Venezuela oedd i anfon swyddogion y lluoedd diogelwch at ei westy i’w hebrwng i’r maes awyr ac i’w anfon o’r wlad.

 

 

 

Papurau Sir Guildhaume Myrddin-Evans, D3/4

 

Pan glywodd cynrychiolwyr eraill yr undebau am hyn, cytunon nhw i beidio cymryd rhan yn y brif gynhadledd nes iddo gael dod yn ol ac oherwydd cyfansoddiad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol, nid oedd modd i’r gynhadledd fynd yn ei flaen. Treuliodd Vermeulen dros wythnos yn Curacao tra roedd Sir Guildhaume a swyddogion eraill y Sefydliad Llafur Rhynglwadol ceisio dod o hyd i ryw fath o ddatrusiad ond methiant oedd canlyniad eu holl ymdrechion.

 

 

Papurau Sir Guildhaume Myrddin-Evans, D3/1

 

Tynnodd Venezuela allan o’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol dros dro er gwaethaf ymdrechion Sir Guildhaume i berswadio’r Llywodraeth yno i barhau fel aelod aelod ond mae’n ymddangos bod yr holl helynt wedi cael y canlyniad roedd Vermeulen a’r swyddogion undeb eisiau gweld, o leiaf yn rhannol ac yn anuniongyrchol. Daeth rhywbeth arall o’r trafodion yna. Mewn llythyr gan Sir Guildhaume i ddirprwyaeth Prydain yn Geneva ar 31 Mai roedd e’n gallu adrodd bod nifer o swyddogion undeb wedi cael eu rhyddhau o’r carchar gan ychwanegu;

I like to think that I might have some partial responsibility for this happy result”.

Ceir y stori i gyd yn Sir Guildhaume Myrddin-Evans Papers Cyfres D3.

 

Rob Phillips

Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog