Blog

Curaduron yn Cyflwyno: Defnyddio cofnodion Llys y Sesiwn Fawr (Rhan 1)

Casgliadau / Collections - Postiwyd 16-07-2020

Mae cofnodion Llys y Sesiwn Fawr yn adnodd eithriadol o werthfawr ar gyfer hanes cymdeithasol, economaidd a chyfreithiol Cymru o 1542 hyd 1830, a maen nhw’n llawnach na chofnodion cyffelyb yn Lloegr. Maen nhw wedi cael eu tanddefnyddio gan ymchwilwyr, er eu bod nhw’n un o archifau pwysicaf y Llyfrgell. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod defnyddio cofnodion llys yn gallu bod yn anodd, ond bydd y blog hwn yn ceisio rhoi cymorth i ddarllenwyr i ddarganfod eu ffordd i mewn i’r cofnodion. Ceir brasolwg yn Rhan 1 ar waith y Sesiwn Fawr a’r cymhorthion chwilio eilaidd sydd ar gael, a bydd Rhan 2 yn edrych yn fanylach ar y cofnodion llys eu hunain, beth sydd ynddyn nhw, a sut y gallen nhw eich helpu chi i chwilio’r archif.

Y llys a’i waith

Sefydlwyd Llys y Sesiwn Fawr yng Nghymru ym 1542 fel rhan o’r ‘Deddfau Uno’, a estynnodd cyfraith gyffredin Lloegr i Gymru gyfan am y tro cyntaf. Rhoddwyd hawl i’r llys newydd glywed yr achosion mwyaf difrifol, a trefnwyd deuddeg o’r llysoedd sirol yng Nghymru yn bedair cylchdaith o dair sir yr un, sef Caer (Sir Ddinbych, Sir Fflint a Sir Drefaldwyn), Gogledd Cymru (Sir Fôn, Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd), Aberhonddu (Sir Frycheiniog, Sir Forgannwg a Sir Faesyfed) a Chaerfyrddin (Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro). Byddai barnwyr crwydrol yn ymweld â phob cylchdaith dwywaith bob blwyddyn, gan eistedd mewn sesiynau chwech diwrnod yn y gwanwyn ac yn hwyr yn yr haf, er mwyn clywed achosion sifil, achosion y Goron, ac achosion ecwiti.

  • Achosion sifil oedd y rhai rhwng ddeiliaid lle nad oedd buddiant gan y Goron. Rhain oedd asgwrn cefn gwaith y llys, yn ymwneud yn bennaf ag anghydfodau ynghylch eiddo (yn cynnwys eiddo tiriog, nwyddau a chelfi) a dyledion, yn ogystâl â,thorri cytundebau, athrodion, tresbasiadau, talu dirwyon, adferiadau cyffredin, rhai iawndaliadau yn deillio o ymosodiadau corfforol, a materion eraill. Gellir cymharu gallu’r Sesiwn Fawr mewn achosion sifil ag eiddo’r Llys Pledion Cyffredin yn San Steffan.
  • Achosion y Goron oedd y rhai a gyffyrddai â buddiannau’r Goron. Achosion troseddol oedd y rhan fwyaf ohonynt, a mae’r cofnodion yn arbennig o gyfoethog. Mae’r achosion yn cynnwys ffeloniaethau (troseddau dihenydd) – llofruddiaeth, dynladdiad, bradwriaeth, llosgi bwriadol, trais rhywiol, lladrata, lladrad o nwyddau yn werth mwy nag un swllt (lladrad mawr), dewiniaeth a throseddau difrifol eraill – a chamymddygiadau megis tresbasu, terfysga, codi cynnwrf, ymgynnull yn anghyfreithlon, mynediadau, dadfeddiannu, cribddail, dirmyg, reciwsantiaeth, a lladrad o nwyddau yn werth llai nag un swllt (mân-ladrad), y gellid eu cosbi trwy ddirwy, carchar, chwipio, y stociau neu anafu. Ymgymerwyd â rhai materion anhroseddol hefyd, yn cynnwys cynnal y ffordd fawr a chwestau’r Crwner, er nad oedd rhain i gyd yn perthyn i fusnes y llys yn swyddogol. Gellir cymharu gallu’r Sesiwn Fawr mewn achosion y Goron ag eiddo brawdlysoedd Lloegr a llys Mainc y Brenin/Frenhines yn San Steffan.
  • Achosion ecwiti oedd y rhai na ellid eu hateb gan lys y gyfraith gyffredin, naill ai oherwydd nad oedd y gyfraith gyffredin yn adnabod y fater wrth law (megis buddiannau ecwitïol mewn tir), neu oherwydd nad oedd gan y llys awdurdodaeth (mewn anghydfodau a godai ar y môr, er enghraifft), neu oherwydd nad oedd cynsail ar gael. Dilynid egwyddorion ecwiti a chydwybod, felly, yn hytrach na’r rheolau caeth arferol. Dyma oedd gwaith lleiaf pwysig y Sesiwn Fawr, ond mae’r cofnodion yn werthfawr i achyddion oherwydd bod y rhan fwyaf o achosion ecwiti yn ymwneud â materion o ymddiried a chytundeb, megis cytundebau priodas, cytundebau ar lafar, ewyllysiau, morgeisi ac ymddiriedolaethau, y codai llawer ohonynt o drefniadau teuluol. Gellir cymharu gallu’r Sesiwn Fawr mewn achosion ecwiti ag eiddo’r Canghellys yn San Steffan; ymddengys mai dyma oedd y drefn trwy gydol bodolaeth y llys, er na soniwyd am ecwiti yn benodol yn statud 1542.

Parhaodd y trefniadau hyn nes i’r llys gael ei ddiddymu ym 1830, a fe’u hadlewyrchir yn y cofnodion a strwythur catalog y Llyfrgell. Dosbarthwyd Sir Fynwy i gylch brawdlysoedd Rhydychen, a mae ei chofnodion hi yn yr Archifdy Gwladol.

Clywid achosion llai yn Llysoedd Chwarter y siroedd, a hefyd mewn llysoedd maenorol, yn ogystâl â’r Sesiwn Fach o’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Nid oedd gan y Sesiwn Fawr fonopoli dros yr achosion mwy difrifol, ychwaith. Bu raid iddi fyw ar y cyd gyda nifer o lysoedd eraill ag awdurdodaethau tebyg, yn enwedig llys Cyngor Cymru a’r Gororau (llys uchelfraint a eisteddai yn Llwydlo tan 1689), yn ogystâl â llysoedd eglwysig, llys Mainc y Brenin, y Canghellys, brawdlysoedd Lloegr, ac eraill; ni ddaeth y rhan fwyaf o achosion ecwiti yng Nghymru erioed o flaen y Sesiwn Fawr, er enghraifft. Dros amser, sefydlwyd cynseiliau bod mwy o achosion yn gallu cael eu clywed mewn llysoedd yn Lloegr, ac yn raddol fe danseiliwyd y Sesiwn Fawr. Beirniedid gymhlethdodau, anghysonderau a chyfyngiadau’r llys yn eang, yn ogystâl â safon ei farnwyr. Y tyb ym 1830 oedd bod y llys yn ddarfodedig ac yn ddianghenraid, er iddo gael ei ystyried gan lawer yn sefydliad cenedlaethol Cymreig.

Dechrau ymchwil yng nghofnodion y Sesiwn Fawr – cymhorthion chwilio eilaidd

Ffordd syml a buddiol i mewn i’r Sesiwn Fawr yw cronfa ddata’r Llyfrgell o’r enw Trosedd a Chosb, sydd yn chwiladwy ac yn cynnwys cofnodion troseddol am y cyfnod 1730-1830.

Hefyd, mae Murray Chapman wedi calendro a mynegeio Ffeiliau Carchar cynnar Sir Drefaldwyn, gan ddarparu ffordd lawer rhwyddach i mewn i’r cofnodion hyn ar gyfer ymchwilwyr. Cyhoeddwyd wyth gyfrol gan y Llyfrgell hyd yn hyn, yn cwmpasu’r cyfnodau 1541-1613 a 1650-1660.

Os ydy darllenwyr am ddarganfod mwy, bydd angen iddynt wneud eu chwiliadau eu hunain. Mae’r Llyfrgell wedi cynhyrchu nifer o gymhorthion chwilio i gynorthwyo gyda hyn, yn cynnwys:

  • catalog llawn a rhwydd i’w bori arlein o gofnodion y Sesiwn Fawr
  • Arweinlyfr Glyn Parry, A guide to the records of Great Sessions in Wales, sef y gwaith mwya gynhwysfawr dan un clawr am gofnodion, gweithdrefnau a datblygiad y llys; mae e hefyd yn cynnwys nodiadau llyfryddol helaeth
  • Taflen i ddarllenwyr, ‘Cofnodion Llys y Sesiwn Fawr’, ar gael yn yr Ystafell Ddarllen

Bydd Rhan 2 o’r blog hwn yn edrych ar sut y gall y cofnodion llys eu hunain fod yn gymorth i’ch hymchwil.

Dr David Moore
Archifydd Cynorthwyol

Mae'r cofnod hwn hefyd ar gael yn: English

Comments are closed.

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog