Blog - Collections

Postiwyd - 24-01-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Valériane Leblond

Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis Llyfr lluniadu DV56 gan Arlunydd Cyntefig Cymreig fel ei hail ddewis.


Mae’r lluniau yma yn ddiddorol iawn ac rwyf yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell am adael i mi weld y gwaith gwreiddiol. Mae yna elfen o ddirgelwch yn perthyn iddynt – pwy oedd yr artist? Dyn neu ddynes? Faint oed? Pa gefndir? Gallwn ond dychmygu. Mae’r dechneg yn bell o fod yn berffaith ond mae’n cyfleu teimlad unigryw iawn. Mae’r llefydd sy’n ymddangos yn y peintiadau yn lleol i ardal Aberystwyth, ac mae’r pynciau yn rai pob dydd ( casglu d?r o’r ffynnon, pysgota, gweithio mewn melin…) Mae yna blant yn chwarae, mamau gyda babanod, anifeiliaid fferm ac mae’r lluniau yn llawn bywyd ond yn heddychlon hefyd.

Llyfr lluniadu DV56 gan Arlunydd Cyntefig Cymreig

Valériane Leblond

 

Postiwyd - 17-01-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Valériane Leblond

Mis yma, yr artist Valériane Leblond sydd yn cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis ‘Bara wedi coginio mewn ffwrn hynafol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant’ gan Geoff Charles, January 5, 1955 fel ei dewis cyntaf.


Rwyf wrth fy modd gyda’r ffordd y mae Geoff Charles yn ein galluogi ni i fynd i mewn i gartrefi pobl a dysgu mwy am eu bywydau dyddiol. Mae’n dalent aruthrol i wneud i bobl fod yn gyfforddus yn eu cartrefi eu hunain yn enwedig os ydynt o dras werinol.
Rwyf wedi dewis y ffotograff hwn ble mae Miss E Hughes yn falch iawn o ddangos sut mae pobi torth o fara – mae bara yn bwysig! – ond mae yna lawer mwy gan Geoff Charles o deuluoedd, ceginau ac aelwydydd sydd hefyd yn ddiddorol iawn.

‘Bara wedi coginio mewn ffwrn hynafol yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant’

Casgliad Cenedlaethol Ffotograffau Cymreig

Valériane Leblond

Postiwyd - 10-01-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Tegwen Morris

Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf y mis hwn. Mae wedi dewis View of Aberystwyth Harbour 1944 gan Eric Beardsworth 1881 – 1961 fel ei thrydydd dewis.

Dwi wir yn hoffi’r darlun hyfryd yma, sy’n dangos cynifer o wahanol elfennau.  Prin fod y darlun wedi newid hyd heddiw – y cychod, y mynyddoedd a’r harbwr hyfryd yn Aberystwyth.  Dyma le dwi’n cerdded iddo yn aml – ac mae yna rhywbeth gwahanol i’w weld bob dydd – y cychod pysgota yn dod i’r lan, y stormydd mawrion yn hyrddio’r d?r  dros bob man a’r teuluoedd yn ceisio dal crancod.  Beth dwi wir yn hoffi yn y darlun yma ydyw’r dillad gwynion yn sychu ym mlaen y llun ar y lein ddillad.  Fel merch y mynydd sydd bellach yn byw ger y môr mae’r llun yma yn dangos y cyfuniad perffaith.

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

 

Postiwyd - 03-01-2018

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Tegwen Morris

Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf y mis hwn. Mae wedi dewis ‘Lady Megan Lloyd George’ gan Henry Lamb, 1952 fel ei hail ddewis.

Mae paentiadau o ferched yn reit brin i gymharu gyda dynion. Mae’r darlun yma yn un hyfryd, yn naturiol gyda’r Fonesig Megan Lloyd George yn eistedd yn hamddenol ac urddasol ar gadair gyfforddus. Mae ganddi ffrog hyfryd mewn lliw glas ac yn goron ar y cyfan mae ganddi froets hyfryd, sy’n fy atgoffa am un o gasgliadau Merched y Wawr “Ategolion at y Galon”. Mae’n rhyfedd i feddwl fod y fonesig Megan Lloyd George wedi marw ym 1966, flwyddyn cyn i Ferched y Wawr gael ei sefydlu, gallwn ddychmygu y byddai wedi bod yn aelod petai wedi byw yn hirach. Mae angen i gelf yn dylunio menywod, ffasiwn ac yn enwedig gwisgoedd gan gynnwys yr ategolion gael fwy o sylw yn ein casgliadau Cenedlaethol.

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

Cofnod Catalog

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Postiwyd - 27-12-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Tegwen Morris

Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf y mis hwn. Mae wedi dewis ‘Ysbryd Erwau Gleision’ gan Elwyn Ioan fel ei dewis cyntaf.

Dyma lun lliwgar a bywiog sy’n apelio ataf yn fawr. Mae’n dynodi cegin draddodiadol Gymreig gydag elfen gref o hiwmor. Dwi yn berson sy’n hoff iawn o gelfi traddodiadol, yn ferch fferm o ardal Ffaldybrenin yn Sir Gaerfyrddin ac yn hoff iawn o hwyl. Mae llun Salem, y cloc derw, y fegin, y ddresel a’r llestri gleision ynghyd â’r gadair bren ar y llawr traddodiadol coch a du (fel sydd yng nghegin ein t? Fictorianaidd) yn creu darlun cynnes a thraddodiadol gyda thanllwyth o dân ac yna’r ddwy lygoden hwyliog (er nad wyf yn hoffi llygod!). Mae yno ysbryd hefyd a gan fy mod wedi cael fy ngeni ar ddydd Calan Gaeaf mae hyn yn ei wneud yn ddarlun perthnasol iawn.

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

Cofnod Catalog

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Postiwyd - 20-12-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – David Meredith

David Meredith, Cadeirydd Ymddirideolaeth Kyffin Williams sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf

Gareth Parry (1951)

Brodor o Flaenau Ffestiniog, Gwynedd. Mae ei beintiadau llawn swyn yn dangos ei gariad at ei fro enedigol. Am gyfnod bu’n arbenigo ar beintio peintiadau manwl, manwl iawn o adar, peintiadau bendigedig – pob pluen yn eu lle.
I mi mae’n bencampwr dal golygfa o ddiwrnod glawog ar stryd brysur yn llawn dynoliaeth yn dioddef yr elfennau – mae’r person sy’n edrych ar y llun yno yn teimlo gwlybter y glaw!
Gwledd i’r llygad yw ei beintiadau llawn ‘mood’ o draethau, ac mae ei beintiadau o long ar las li mor real nes fod dyn yn teimlo tynfa’r tonnau a dawns y tonnau hynny o dan y llong.
Mae Gareth wedi dal lliw wyneb craig yn berffaith – y llwydni cyfareddol yn syml iawn. Rwyf wrth fy modd yn ‘mynd i mewn’ i’w beintiadau . Rwy’n ymhyfrydu yn ei waith – darluniau sydd yn wledd i’r llygad â’r synhwyrau.
Nid bob amser mae dyn yn barod i stelcian yn y lleoliadau hynny y mae arlunwyr yn eich gwahodd i stelcian ynddynt, ond mae gwahoddiad paentyddol Gareth mor daer fel mai ‘yno’ y dymunith dyn fod – ni fedrwch wrthod y gwahoddiad!

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

 

Postiwyd - 15-12-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – David Meredith

David Meredith, Cadeirydd Ymddirideolaeth Kyffin Williams sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf

Syr Kyffin Williams 1918-2006

Yma yn y Llyfrgell Genedlaethol mae’r casgliad mwyaf yn y byd o waith Syr Kyffin, John Kyffin Williams neu Kyffin fel yr hoffai gael ei alw.

Doedd dim pall ar ei greadigrwydd, bu’n peintio yn ddi-dor am 60 o flynyddoedd – tirluniau, portreadau, roedd pobl yn bwysig iawn iddo, peintiadau godidog a’r môr a’i donnau nerthol (fel y dywedodd Jan Morris – ‘roedd y môr yn ei waed’), cartwnau profoclyd a gwaith torriadau leino penigamp.

Dewch i’r Llyfrgell Genedlaethol i ddotio at ei waith. I mi does neb tebyg i Kyffin Williams am ‘ddal y foment’ niwlen mewn cwm unig, niwl mynyddig all glirio yn sydyn, ci defaid yn neidio dros wal garreg, ewyn ton yn taro ar draethell unig neu olwg arbennig edrychiad y foment ar wyneb plentyn neu oedolyn.

Un elfen wyrthiol ynglyn â pheintiadau Kyffin yw eu bod yn newid yn gyson fel mae goleuni yn eu taro. Ef i mi yw pencampwr ein celfyddyd, llysgennad dros y gorau o fyd celf Cymru. Rhoddodd fynyddoedd Cymru a’i phobl ar bedastl ac mae ei beintiadau o Batagonia (casgliad rwyf mor hoff ohono) yn drysor i’n atgoffa am ein cyd Gymry yn y wladfa heb sôn am ein haddysgu am y gwanacos, â’r adar â’r paith!

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Cymynrodd Kyffin Williams

Postiwyd - 08-12-2017

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Casgliadau

Ymgyrch Fframio’r Dyfodol – Kyffin Williams

Mae cadw, diogelu, catalogio a dehongli ein casgliadau yn elfen hanfodol o waith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd. Fel cartref i nifer sylweddol o baentiadau amlycaf Kyffin Williams ac wrth inni ddathlu ei fywyd yn 2018, mae cadw a diogelu rhain a sicrhau eu bod yn cael eu fframio’n gywir yn rhan anatod o’r broses gadwraeth.

Nid yn unig y mae ffrâm yn diogelu paentiad rhag difrod, ond mae hefyd yn effeithio ar olwg y gwaith gorffenedig. Yn wir gall ffrâm dda ychwanegu’n fawr at unrhyw waith celf gan ddyrchafu profiad y sawl sy’n edrych ar y cynnwys. Mae dewis y ffrâm gywir ar gyfer darn o gelf heb os yn grefft ynddi’i hun. Roedd gan Kyffin syniadau pendant yngl?n â sut i fframio’i baentiadau, ac mae’r Llyfrgell wedi cychwyn prosiect cadwraeth newydd i ail-fframio rhai o’i weithiau gyda’r bwriad o anrhydeddu gweledigaeth gwreiddiol yr artist.

Bydd Ymgyrch Codi Arian Fframio’r Dyfodol yn ariannu’r prosiect cadwraeth allweddol hwn er mwyn galluogi bod gweithiau Kyffin yn cael eu gofalu amdanynt a’u gwerthfawrogi gan genedlaethau’r dyfodol.

Bydd fframio un darn o waith yn costio o gwmpas £2,000 a bydd cael cefnogaeth hael ein cefnogwyr yn ein galluogi ni i wneud mwy o’r gwaith. Bydd pob cyfraniad wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth ac yn diogelu gweithiau eiconig i’r dyfodol.

 

Rhian Haf Evans, Swyddog Codi Arian

Postiwyd - 06-12-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – David Meredith

David Meredith, Cadeirydd Ymddirideolaeth Kyffin Williams sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf

Thomas Jones, Pencerrig 1743 – 1803

Ganed Thomas Jones yn Nhrefonnen,Llandrindod Sir Faesyfed.
Roedd Thomas Jones yn ddisgybl i’r enwog Richard Wilson, Machynlleth ac yn beintiwr a sylwebydd pwysig a difyr am fyd celf.
Bu’n peintio yn yr Eidal. Yn 1954 yr ymddangosodd ei beintiadau olew o Sir Faesyfed ar y farchnad gelf. ‘Rwyf wrth fy modd gyda’i beintiadau a’i frasluniau e.e creigleoedd ger Pen Cerrig, mynyddoedd y Carnedde, peintiadau o wartheg, caeau a choed.
Ymddiddorais ynddo yn arbennig gan i mi fyw am gyfnod yn Llandrindod a gweld y golygfeydd a welodd yntau wrth i mi grwydro ei sir enedigol, Sir Faesyfed.
Yr Eidal a Sir Faesyfed
Cafodd Thomas Jones lecynau hyfryd i fyw a gweithio ynddynt. Perthyn rhyw lonyddwch a thawelwch – rhyw rîn arbennig i waith Thomas Jones – cewch wledd o’i weld. A lliwiau peintiadau Thomas Jones? Ni ellir cael cyferbyniaeth mwy llachar rhwng waliau gwyngalch adeiladau Napoli yr Eidal a gwyrddni caeau a choed stâd Pencerrig Sir Faesyfed.

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Postiwyd - 29-11-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – David Meredith

David Meredith, Cadeirydd Ymddirideolaeth Kyffin Williams sy’n cymryd rhan yn ymgyrch #CaruCelf

Y Parchedig John Parker 1798 – 1860


Un o’r ychydig arlunwyr sydd wedi peintio Aran Benllyn ac Aran Fawddwy ym Meirionnydd ( i mi wybod).

Ymddiddorai mewn peintio tirluniau gan arbenigo yn fy nhyb i mewn peintio creigleoedd e.e gweler ei beintiadau hyfryd o dir creigiog top Aran Fawddwy sydd yn y Llyfrgell. Ymddiddorai hefyd mewn eglwysi o bensaerniaeth Gothig. Mae ei ddarlun o ‘screen’ dderw gain yn Eglwys Sant Crwst yn Llanrwst yn ardderchog ac yn ogystal a’r Aran, yn wledd i’r llygad. Brodor o ardal Croesoswallt oedd John Parker. Bu’n Rheithor Llanmerewig yn Sir Drefaldwyn a Llanblodwel Sir Amwythig. Roedd hefyd yn peintio cestyll a blodau a phlanhigion a bu’n peintio yn Lloegr, Iwerddon a thir mawr Ewrop.

Fel un sy’n byw rownd y gornel i Aran Benllyn ac Aran Fawddwy mae gwaith John Parker yn golygu llawer i mi.

Peintiad gafaelgar arall gan John Parker yw’r peintiad o Ffermdy Talardd, Cwm Cynllwyd Llanuwchllyn gyda’r ddwy Aran yn gefndir. Yn Ffermdy Talardd y bu Howel Harris y diwygiwr yn aros tra’n ymweld â’r Cwm yn y ddeunawfed ganrif. 25 o flynyddoedd wedi marw Howel Harris ganwyd John Parker.

 

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

 

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog