Blog - Collections

Postiwyd - 12-04-2019

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Collections / Stori Cymru

Casglu Cyfoes: Celf o’r Casgliad Cenedlaethol

Hel Llwch’ gan Valériane Leblond, 2018 (Hawlfraint: Valériane Leblond)

 

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i gasgliad pwysig o gelf gyfoes Gymreig. O fewn yr arddangosfa ‘Casglu Cyfoes’ (6.4.19 – 21.3.20) sydd newydd agor yma yn y Llyfrgell ceir esiamplau o weithiau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau yn ddiweddar, o dorlun leino deinamig Paul Peter Piech i waith ciwbaidd Charles Byrd.

 

‘Abstraction’ gan Charles Byrd, 1964 (Hawlfraint: Ystâd Charles Byrd)

 

Rhodd bwysig a ddaeth i feddiant y Llyfrgell yn ddiweddar oedd y Casgliad Roese. sef casgliad gwerthfawr a chynhwysfawr o gelf gyfoes Gymreig. Dyma yw un o’r casgliadau celf gyfoes bwysicaf i ddod yn rhan o gasgliadau’r Llyfrgell, a gwelir eitemau o’r casgliad yn yr arddangosfa hon, gan gynnwys gweithiau gan Charles Byrd, Ernest Zobole, Ceri Richards, Mary Lloyd Jones, Ivor Davies, Glenys Cour, ac Iwan Bala.

 

‘View through a window’ gan Ivor Davies (Hawlfraint: Ivor Davies)

 

Eleni buom hefyd yn ffodus i dderbyn naw darn o waith eiconig yr artist pop Ken Elias o Lyn Nedd i fewn i’n casgliadau.

 

‘Check’ gan Ken Elias, ca.2008-2009 (Hawlfraint: Ken Elias)

 

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn casglu gweithiau artistiaid sydd yn denu sylw cynyddol yn y maes ar hyn o bryd, fel Seren Morgan Jones sy’n gweithio yn Llundain a Teresa Jenellen ym Machynlleth. Mae’r thema o ferched yn ganolog i’w gwaith. Artist lleol arall y mae ei gwaith i’w gweld o fewn yr arddangosfa ydy Valériane Le Blond ac mae ei paentiadau llawn dychymyg yn llwyddo i bortreadu cefn gwlad Cymru sydd yn gyfarwydd i ni gyd, tra bod tirluniau mynegiadol Sarah Carvell, ac haniaethol Lisa Eurgain Taylor ac Elfyn Lewis yn dangos ysbrydoliaeth ddiderfyn y tirlun Cymreig.

 

‘Blue Gloves, Orange Chair’ gan Seren Morgan Jones, 2016 (Hawlfraint: Seren Morgan Jones)

 

Mae ein casgliad yn tyfu gyda phryniadau cyson a rhoddion oddi wrth gymwynaswyr hael.

 

Morfudd Bevan, Curadur Celf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Postiwyd - 29-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Llythyr Pennal: Rôl bwysig Cymru yng ngwleidyddiaeth Ewrop

Dyma gofnod gwâdd fel rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.


Llythyr Pennal yw un o’r dogfennau mwyaf trawiadol a gynhyrchwyd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Rho ddarlun o Gymru hyderus oedd yn chwarae rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Ewropeaidd dechrau’r bymthegfed ganrif.

Erbyn mis Mawrth 1406, pan ysgrifennwyd y llythyr, roedd Glyndŵr wedi profi llwyddiannau aruthrol. Wedi dechreuadau siomedig ym 1400 ysgubodd y gwrthryfel trwy’r holl wlad gan ennill buddugoliaethau milwrol, cipio nifer o brif gestyll Edward I a denu cefnogaeth gan frenin Ffrainc. Coronwyd Glyndŵr yn dywysog Cymru ac fe gynhaliodd senedd gyda chynrychiolwyr o bob cwr o’r wlad. Roedd wedi llwyddo i greu tywysogaeth Gymreig oedd yn rhydd o reolaeth brenin Lloegr.

Ond roedd y rhod bellach wedi dechrau troi yn erbyn y gwrthryfel. Yn y misoedd cyn ysgrifennu’r llythyr profodd Glyndŵr golledion milwrol, lladdwyd ei frawd, cipiwyd ei fab a dechreuodd rhai rhannau o’r wlad simsanu yn eu cefnogaeth iddo. Rhaid oedd felly adennill y momentwm trwy sicrhau cefnogaeth bellach gan Ffrainc.

Digwyddai’r gwrthryfel yng nghanol digwyddiadau o bwys mawr yn hanes Ewrop. Rhannwyd brenhinoedd Ewrop gan y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr, a rhwygwyd yr Eglwys gan y Sgism Pabol pan etholwyd dau bab mewn gwrthwynebiad i’w gilydd. Cefnogai Ffrainc bab Avignon tra cefnogwyd pab Rhufain gan Loegr. Bwriad y llythyr oedd cadarnhau cynghreiriaeth Cymru a Ffrainc drwy newid teyrngarwch Cymru o bab Rhufain tuag at bab Avignon. Roedd y llythyr felly yn gwneud Cymru yn chwaraewr annibynnol yng ngemau gwleidyddol Ewrop ac yn gosod y genedl yng nghanol digwyddiadau mwyaf y dydd.

Beth welwn hefyd yn y llythyr yw Glyndŵr, fel mewn sawl agwedd arall o’r gwrthryfel, yn dilyn polisi oedd yr un pryd yn draddodiadol ac yn radical.

Roedd cynghreirio â Ffrainc yn gwneud synnwyr gwleidyddol, ond roedd Glyndŵr hefyd yn dilyn ôl troed eraill o brif reolwyr Cymru. Yn y 1160au bodolai gynghreiriaeth rhwng Owain Gwynedd a Louis VII ac ym 1212 gwelir yr un perthynas rhwng Llywelyn Fawr a Philip Augustus. Rai degawdau yn unig cyn Gwrthryfel Glyndŵr cefnogodd brenin Ffrainc ymgais Owain Lawgoch, disgynnydd o dywysogion Gwynedd, i ddod yn dywysog Cymru.

Yr hyn oedd yn newydd am y llythyr oedd y weledigaeth gynhwysfawr a geir ynddi. Wrth gefnogi pab Avignon amlinellodd Glyndŵr ei gynlluniau ar gyfer y wlad:

  • Eglwys Gymreig oedd yn rhydd o awdurdod Caergaint, o dan archesgob Tyddewi;
  • dwy brifysgol, un i’r gogledd a’r llall i’r de, i hyfforddi clerigwyr y dyfodol;
  • clerigwyr i allu siarad Cymraeg, yn lle’r Saeson di-Gymraeg a benodwyd yn aml i swyddi uchaf yr Eglwys;
  • arian yr Eglwys yng Nghymru i aros yng Nghymru yn lle, fel digwyddai’n aml, mynd dros y ffin i Loegr.

Ni gyflawnwyd y weledigaeth yn nyddiau Glyndŵr, ond bellach mae’r Gymru fodern – gyda’i senedd, prifysgolion, sefydliadau cenedlaethol a phwyslais ar bwysigrwydd y Gymraeg – yn ymdebygu i’r weledigaeth a amlinellai Glyndŵr yn Llythyr Pennal.

Dr Rhun Emlyn

Hanesydd yr Oesoedd Canol

Prifysgol Aberystwyth

Postiwyd - 24-03-2019

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Difa Twbercwlosis yng Nghymru: 1912 – 1948

Ar 24 Mawrth eleni cynhelir diwrnod rhyngwladol Twbercwlosis. Dydd i godi ymwybyddiaeth am effaith dinistriol yr aflwydd ar iechyd, cymdeithas ac economi. Dyma hanes sefydlu ymgyrch i ddifa’r darfodedigaeth yng Nghymru sef Cymdeithas Goffa Genedlaethol Gymreig Brenin Edward VII (King Edward VII Welsh National Memorial Association) WNMA.

 

 

Roedd Twbercwlosis (TB) yn broblem mawr yng Nghymru yn 1900. Yn 1910 roedd saith o’r pymtheg sir a effeithiwyd waethaf trwy Gymru a Lloegr yng Nghymru ac roedd y pum sir gyda chyfraddau marwolaeth uchaf yng Nghymru. Roedd wir angen cynllun i ddelio gyda’r afiechyd a chyda gweledigaeth un dyn David Davies, AS (1880-1944) daeth y WNMA i fodolaeth.

 

Yn Amwythig ar 30 Medi 1910 bu cyfarfod i benderfynu sut i goffau Brenin Edward VII a chytunwyd i gychwyn ymgyrch i ddileu TB yng Nghymru a Sir Fynwy. Casglwyd £300,000 gan y cyhoedd – rhoddwyd hanner y swm gan David Davies.  Cyfeiriodd y Brenin Edward VII at yr angen i atal TB rai blynyddoedd ynghynt: ‘If preventable, why not prevented?’ Davies oedd llywydd cyntaf y WNMA â ymgorfforwyd ar 17 Mai 1912.  Roedd pedwar prif nod gan yr Ymgyrch:

 

  • Ariannu fferyllfeydd ledled Cymru
  • Cynnal sefydliadau preswyl gan gynnwys sanatoria yn Ysbyty Sully, Caerdydd a Chraig-y-Nos yn Sir Frycheiniog
  • Creu adran addysgiadol i gynhyrchu deunydd addysgol a chynnal darlithoedd gwrth-dwbercwlosis
  • Ariannu adran ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru, gan gynnwys Cadeirydd Twbercwlosis David Davies.

 

Sefydlwyd swyddfa yn y Drenewydd a ffurfiwyd pwyllgor ymgynghorol o 6 arbenigwr meddygol i weithio ym meysydd addysg, darganfod y clefyd, triniaeth, gofal wedi’r driniaeth, ac ymchwil. Darparodd David Lloyd George, oedd yn Ganghellor y Drysorlys ar y pryd, gyllid ar gyfer sanatoria er lles y boblogaeth gyfan trwy Ddeddf Yswiriant Gwladol 1911.  Erbyn dyfodiad y Ddeddf Iechyd (Twberculosis) yn 1921 trosglwyddodd pob awdurdod lleol Cymru eu cyllid i’r WNMA. Bellach, roedd un corff cenedlaethol gyda chyfrifoldeb llwyr dros drin a rheoli twbercwlosis yng Nghymru.

 

Roedd yr ymgyrch addysgiadol yn hyfforddi unigolion sut i osgoi dal TB.  Rhwng Hydref 1911 a Mawrth 1913, caed 80 arddangosfa teithiol, prynwyd carafán i deithio i addysgu 11,500 o blant ysgolion gwledig Cymru a chaed darlithoedd ar ‘Gyfreithiau Iechyd ac Atal Twbercwlosis’. Trafodwyd cwsg, awyr iach yn y nos, golau yn y cartref, bwyd iachus, glanweithdra dannedd, dillad, corff a gwallt, a pherthynas llefrith a phoer gyda lledaeniad TB.

 

 

Adeiladodd yr Ymgyrch 2 Iechydfa newydd a phrynwyd ysbytai a phlasdai (megis Craig-y Nos, Abertawe). Dros yr ugain mlynedd nesaf crëwyd rhwydwaith o fferyllfeydd ac ysbytai:

 

  • 5 Sanitoria (Porthaethwy, Dinbych, Talgarth, Llanybydder a Llandrindod)
  • 12 Ysbyty (cyfanswm 1,600 o welyau)
  • 14 Fferyllfa
  • 85 Gorsafoedd Ymweld
  • 22 Gorsaf Pelydr-x.

 

Erbyn dechrau’r 1930au gwelwyd 11,000 o achosion newydd y flwyddyn. Bu nyrsys ac ymwelwyr iechyd yn ymweld â 40,000 o gartrefi’n flynyddol. Roedd Cymdeithas Goffa Genedlaethol y Brenin Edward VII wedi datblygu i fod yn un o’r cynlluniau mwyaf cynhwysfawr erioed i ddelio â thwbercwlosis. Gwelwyd ffrwyth yr ymgyrch yn gynnar gyda gostyngiadau cyson yn y cyfraddau marwolaeth o’r diciâu. Dywed yr awdur Glynne R. Jones:

 

‘There are few families in Wales without reason for gratitude to the WNMA, which had grown to be the foremost anti-tuberculosis organisation in the British Empire, if not the world – a fitting memorial to a king, which has ensured the WNMA a place of honour in Welsh History.’

 

Mae gan LlGC gasgliad cyflawn o adroddiadau blynyddol a chofnodion y WNMA sy’n rhan bwysig o’r Casgliad Meddygol. Bydd prosiect ‘Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG’ yn digido casgliad y WNMA a’i arddangos ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Branwen Rhys.

branwen.rhys(at)llgc.org.uk
01970 632996

Twitter   @PrintaMwyLLGC    #HanesMeddygCym  @NLWPrintandMore    #MedHistWales

 

 

Postiwyd - 01-03-2019

Casgliadau / Collections / Stori Cymru

Beth wyddom ni am Dewi Sant?

Dyma’r cofnod cyntaf o gyfres newydd, Stori Cymru. Cyfres sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio hanes ac yn ei siapio. Cyhoeddir cofnod bob yn ail ddydd Gwener, a gallwch eu dilyn trwy ddewis categori Stori Cymru ar yr ochr dde.

 

 

Mae hi bellach yn fil o flynyddoedd ers geni Sulien. Bu’n esgob Tyddewi ddwywaith, ond ei brif gyfraniad oedd sefydlu canolfan ddysg yn Llanbadarn Fawr, ar safle sydd bellach yng nghysgod y Llyfrgell Genedlaethol.

Yn Llanbadarn y lluniwyd rhai o’n llawysgrifau cynharaf, a hynny o waith dau o feibion Sulien, sef Ieuan a Rhygyfarch (?1056-99). Mae Sallwyr Rhygyfarch (a luniwyd tua 1079) bellach yng nghadw yn llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, ond ei waith creadigol enwocaf oedd y Vita Davidis, cofiant Lladin i Ddewi Sant a luniwyd tua 1094 i ddyrchafu statws ac annibyniaeth esgobaeth Tyddewi.

Mae mwyafrif yr hyn a gredir heddiw am Dewi, sant o’r chweched ganrif, yn seiliedig ar adroddiad Rhygyfarch, a luniwyd bum canrif yn ddiweddarach. Yn y Vita y ceir hanes ei addysgu gan Beulin, ei oruchafiaeth tros Boia, sefydlu’r fynachlog yng Nglyn Rhosyn, a’r bregeth yn senedd Llanddewibrefi. Cyfieithwyd a thalfyrrwyd y gwaith hwn i’r Gymraeg yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg gan fynach anhysbys. Ymysg y fersiynau cynharaf o Fuchedd Dewi y mae’r testun hwn yn Llyfr Coch Talgarth (llawysgrif Llanstephan 27), a ysgrifennwyd gan Hywel Fychan tua 1400 ar gyfer ei noddwr, yr uchelwr Rhys ap Thomas.

Bydd cenedlaethau o blant Cymru’n gallu ail-adrodd geiriau olaf y sant, a lefarwyd cyn ei farw ar y cyntaf o Fawrth: ‘Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i.’

Yn rhyfedd iawn, nid yw’r gair ‘bychain’ yn ymddangos yng ngwaith Lladin Rhygyfarch, a rhaid llongyfarch y cyfieithydd Cymraeg diweddarach ar lunio brawddeg gofiadwy!

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 25-02-2019

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio

Daniel Ddu o Fôn

Yn ddiweddar digwydd imi ddod ar draws cyfrol Amseroni o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. I’r rhai ohonoch sydd yn anghyfarwydd ag Almanaciau mynnwch gip ar y ddalen hon ar wefan y Llyfrgell lle cewch weld yr almanaciau mae’r Llyfrgell wedi’u digido. Nid yw cynnwys y gyfrol hon wedi ei ddigido.

 

Yn ogystal â’r wybodaeth am ffeiriau Cymru, ymddangosiad y lleuad a chalendrau mae almanaciau yn gallu cynnwys ambell gerdd. Yn Amseroni 1849 (Caergybi) ar y ddalen olaf ond un, mae cerdd gan Daniel Ddu o Fôn yn dwyn y teitl Bore Haf. Cerdd mewn cwpledi odledig o ddeuddeg sillaf. Bugeilgerdd yw hi – enghraifft arall o’r pastoral bondigrybwyll. Yn unol ag ysbryd yr oes, mae’n rhamantaidd iawn. Dyma fardd ifanc arall unwaith eto yn ymateb yn deimladol i fyd natur o’i gwmpas. Mae’r tirlun yn ir a ffrwythlon ac yn llawn dedwyddwch i ddyn ac anifail; paradwys yn wir – Sir Fôn wrth reswm. Mae’r bardd hefyd yn ymhyfrydu yn rhinwedd arall ei sir enedigol, sef yr olygfa ragorol a geir yno o fynyddoedd Eryri. Gall yr eirfa fod yn dreth weithiau. Yr haul yw’r ‘huan’ wrth gwrs. Doeddwn i erioed wedi clywed am ‘feiliau’ chwaith ond llestr yfed yw mail fel sy’n gwneud synnwyr o’r cyd-destun. Efallai bod pethau ychydig yn rhy ‘suddog’ ar adegau hefyd ond a derbyn hynny i gyd, roeddwn i o’r farn bod hon yn ddigon da i holi: pwy oedd Daniel Ddu ac ai Bore Haf oedd ei unig gerdd?

 

 

Da oedd gweld bod Enwogion Môn, Gwalchmai yn cytuno â fi: Daniel Ddu, o Langefni, oedd fardd gobeithiol iawn. Roedd Enwogion Môn R Môn Williams ag ychydig yn fwy o’i hanes. Yno roedd yn fardd o fri ac wedi dod i sylw Eben Fardd yn Eisteddfod Aberffraw 1849 lle cipiodd y wobr am bryddest ar y testun ‘Aelwyd fy Rhiaint’ mewn cystadleuaeth i rai o dan ugain oed. Beth oedd union oedran Daniel felly? Diolch i waith ymroddedig staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynegeio erthyglau cyfnodolion Cymru, roedd cyfeiriad ato yn ein catalog. Roedd yr erthygl yn Gwreiddiau Gwynedd, 2009 yn rhoi tipyn yn fwy o wybodaeth amdano. Yn ôl cyfrifiad 1841 roedd Daniel Hugh Evans yn 11. Tua 19 oedd ei oedran yn 1849 felly.

 

Union eiriau beirniadaeth Eben Fardd yn Eisteddfod Aberffraw oedd: “But the great master of this juvenile competition…is Glesyn Mai, by far the best of any of his competitors; nothing less than the poem itself can give us adequate idea of his brilliant genius”. Wrth gwrs, rhaid oedd mynd ar drywydd y gerdd yn y Cyfansoddiadau wedyn. Mae hon, yn unol â chwaeth yr oes, yn gerdd hir, 14 tudalen, ac â ninnau wedi glanio’n dwt yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg mae hi braidd yn sentimental hefyd ond mae rhagoriaethau yn ogystal â gwendidau.

 

Erbyn 1852 roedd Daniel wedi priodi Rachel Edwards o Fasaleg a’r ddau wedi hwylio i Awstralia bell. Cewch ddarllen hanes ei priodas yma.

Mae’r erthygl yn Gwreiddiau Gwynedd yn rhoi eu hanes i gyd.

 

Robert Lacey

Pennaeth Isadran Datblygu Casgliadau

Postiwyd - 28-01-2019

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio

Cyhoeddiad prin am farwolaeth Capten Cook

Mae’r Llyfrgell wedi prynu llyfr prin iawn gan Gymro oedd yn bresennol pan laddwyd yr arloeswr Capten James Cook.  Ganwyd David Samwell yn Sir Ddinbych yn 1751.  Roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg ac ym mudiadau diwylliannol Cymreig ei gyfnod, ac ysgrifennodd lawer o farddoniaeth Gymraeg a Saesneg.  Roedd yn Llywydd Cymdeithas y Gwyneddigion yn 1797.  Mae’r Llyfrgell yn berchen ar ei lawysgrifau, gan gynnwys gohebiaeth rhyngddo a Iolo Morganwg.

 

 

Hwyliodd Samwell gyda’r Capten Cook fel “surgeon’s first mate” ar y Resolution yn 1776 ac roedd yn llygad-dyst pan laddwyd Cook mewn ysgarmes gyda rhai o’r brodorion yn ynys Hawaii yn 1779.  Ysgrifennodd yr hanes yn llawn a’i gyhoeddi yn 1786 ar ôl iddo ddychwelyd i Loegr mewn cyfrol a deitlwyd A narrative of the death of Captain James Cook, ac mae’r Llyfrgell eisoes yn berchen ar ddau gopi o’r llyfr hwnnw.  Ond yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfieithiad o’r gwaith i’r Ffrangeg gyda’r teitl Détails nouveaux et circonstanciés sur la mort du Capitaine Cook.  Mae hwn yn gyhoeddiad prin iawn gyda dim ond tri chopi yn hysbys mewn llyfrgelloedd eraill trwy’r byd i gyd, felly pan ddaeth copi ar werth achubwyd ar y cyfle i ychwanegu’r eitem bwysig hon at gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Postiwyd - 07-01-2019

Casgliadau / Collections

Nofio yn y môr – mae’n iachusol!

Beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’ch meddwl wrth ystyried gwyliau’r Nadolig a Blwyddyn Newydd? Nofio yn y môr? Wel, dyna fydd llawer yn ei wneud ar Ddydd San Steffan neu 1 Ionawr. Ar draws y wlad, mae niferoedd yn heidio i’r traethau yn eu gwisgoedd ffansi gan fentro i’r môr -boed i godi arian at elusen, derbyn her neu brofi dewrder. Ond feddylioch chi erioed am nofio yn y môr er mwyn gwella eich iechyd?

Ers canrifoedd mae meddygon wedi nodi’r manteision corfforol o ymdrochi mewn d?r oer ac wedi cynghori ymweld â threfi glan y môr i wella afiechyd. Credir fod trochi yn n?r hallt y môr dros gyfnod o wythnosau neu fisoedd yn gwella afiechydon i’r ysgyfaint a’r croen, yn gwella chylchrediad y gwaed a chryfhau’r system imiwnedd. ’Slawer dydd roedd ymweliad â glan môr yn fwy o feddyginiaeth na gwyliau ac i feddygon y ddeunawfed ganrif roedd tywod, tonnau a’r traeth fel ein fferyllfa heddiw! 

Gelwir y feddyginiaeth hon yn ‘thalassotherapy’, gair a fathwyd gan Hippocrates yn gyntaf i ddisgrifio effeithiau iachusol d?r y môr. Daw o’r Groeg: thalassa sef ‘môr’ a therapeia sy’n golygu ‘therapi’ neu ‘iachad’.

Ymdrochwyr ar Draeth y De, Aberystwyth

Yn Remarks on Sea Air and Sea Bathing, llyfryn a gyhoeddwyd yn 1862, dywed y meddyg John Holt Elkes Stubbs:

‘A coldbath is a powerful tonic, particularly with children, and bathing in the open sea is the best form.’

Ynddo hefyd ceir disgrifiad y meddyg Erasmus Wilson o bwysigrwydd y croen wrth ymdrochi. Tybid bod croen unigolyn o faint a thaldra cyffredin gydag arwynebedd o dros 2,500 modfedd sgwar ac mae’n cynnwys dros 7,000,000 o groendyllau chwys. Mae’r ymateb o fywiogi a gaiff unigolyn wrth fynd i’r môr yn deillio o’r gronynnau hallt sy’n adfywio’r croen ac o’r sioc sy’n dod o brofi’r tonnau oer. Amsugnai’r croen y gronynnau hallt hyn a’r canlyniad oedd rhwystro afiechydion a gwella salwch.

Roedd y môr hefyd yn feddyginiaeth poblogaidd ar gyfer y Ddarfodedigaeth neu’r Diciâu hyd ddiwedd yr epidemig yn y 1860au. Aeth rhai meddygon gam ymhellach gan gynghori yfed d?r y môr fel moddion gan ychwanegu mêl neu lefrith i wella’r blas.  Bu Dr. Richard Russell yn argymell ymdrochi ac yfed d?r hallt i glaf gwahanglwyfus. Yn ei draethawd a gyhoeddwyd yn 1750, A Dissertation on the Use of Seawater in the Diseases of the Glands, Particularly, the Scurvy, Jaundice, King’s Evil, Leprosy and the Glandular Consumption, disgrifia glaf yn frech o’i gorun i’w sawdl gyda’r gwahanglwyf. Ei feddyginiaeth oedd ymdrochi’n ddyddiol yn y môr ac yfed peint o dd?r hallt bob bore am naw mis.

Ar y cyfan, nid yw tymheredd y môr yn codi dros 67°F (19.4° Celsiws). Felly os ydych yn ddigon dewr i fentro i’r môr er mwyn eich iechyd ar 1 Ionawr 2019, ewch amdani! Ond diolchwch nad yw’r arfer o yfed d?r hallt a llefrith yn parhau hyd heddiw!

Daw’r wybodaeth uchod o adran feddygaeth y Casgliad Print Cymreig. Mae’n gasgliad o adnoddau Cymraeg a Chymreig ym maes meddygaeth a iechyd sy’n dyddio o’r 1750au. Ceir 6,500 o eitemau boed yn lyfrau ar foddion cynnar, meddyginiaethau llysieuol, adroddiadau swyddogion iechyd trefol a gwladol ac adroddiadau ysbytai a chanolfannau iechyd meddwl. Hefyd ceir cyfres  lawn o adroddiadau a chofnodion y Welsh National Memorial Association (WNMA), Brenin Edward VII. Cymdeithas iechyd a ragflaenodd y GIG ac fe’i sefydlwyd yn 1911 i gynnig triniaeth rhad ac am ddim i’r Diciâu.

Prosiect newydd yn LlGC yw ‘Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol’ wedi’i hariannu gan yr Ymddiriedolaeth Wellcome. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn catalogio a digido’r casgliad pwysig hwn, trysorau a fu’n angof yn rhy hir, gan gynnig mynediad ar-lein i’r cyhoedd, myfyrwyr a haneswyr meddygaeth.

Branwen Rhys
Rheolwr Prosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG

Tagiau: ,

Postiwyd - 17-12-2018

Collections

Estyn allan yn Hwlffordd

Y mis hwn mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi agor y drysau i oriel newydd yn Glan-yr-afon yng nghalon tref Hwlffordd. Yr oriel yw canolbwynt canolfan ddiwylliannol a gelfyddydol o ansawdd uchel, gan gynnwys Llyfrgell fodern, ardal plant, gwybodaeth i dwristiaid, siop goffi a hyd yn oed ardal gemau i oedolion ifanc.

Nôd yr oriel yw estyn allan y tu hwnt i Aberystwyth a galluogi’r Llyfrgell i rannu trysorau gyda phobl leol ac ymwelwyr â’r ardal. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae ein tîm wedi bod yn gweithio ar y cyd â Chyngor Sir Penfro ar y prosiect. Bydd dwy arddangosfa unigryw newydd ynarddangos eitemau amrywiol o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Stori Sir Benfro a Kyffin Williams: Tir a Môr.

Williams, Kyffin; Sunset, Anglesey; Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales; http://www.artuk.org/artworks/sunset-anglesey-119720

Stori Sir Benfro Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld casgliad cyfoethog ac amrywiol o eitemau a ddewiswyd yn arbennig gan ein curadur i gynrychioli hanes, diwylliant a thirwedd Sir Benfro. Rhai o’n ffefrynnau yw llythyr gwreiddiol oddi wrth ‘Rebecca’ at Ficer Penbryn yn ystod Terfysgoedd Rebecca a darlun Vase of Flowers gan Gwen John, a gafodd ei geni yn Hwlffordd, sydd yn baentiad o harddwch cynnil ond hefyd â chyfansoddiad cryf.  Mae eitemau unigryw eraill yn cynnwys llawysgrif o sonedau a gyfansoddwyd gan T.E. Nicholas (Niclasy Glais) yn 1940 tra yn y carchar – wedi’u hysgrifennu ar bapur t? bach y carchar!

Ar wahân i’r holl eitemau ffisegol, gallwch hefyd bori delweddau o fapiau, ffotograffau, llawysgrifau a phaentiadau o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O’r llyfr Cymraeg cynharaf i baentiad olew nodedig J. M W. Turner o Gastell Dolbadarn, yn ogystal ag eitemau sy’n ymwneud â Sir Benfro, o brintiadau topograffig i ffotograffau a gweithiau celf.

Kyffin Williams: Tir a Môr Pa ffordd well o ddod â dathliadau’r canmlwyddiant a ‘Blwyddyn y Môr’ i ben nag ag arddangosfa sy’n cynnwys casgliad gwych o baentiadau a lluniadau gan artistiaid mwyaf adnabyddus ac amlycaf Cymru o’r ugeinfed ganrif.

Rhai o waith mwyaf eiconig Kyffin yw’r paentiadau olew o dirweddau Cymru, ac mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o’r gorau yn y genre hwn. Edrychwch am y Penygyrwyd – mae palet tywyll, cryf yr arlunydd yn dod â mynyddoedd dramatig Eryri i Hwlffordd. Mewn cyferbyniad, mae detholiad o ddarluniau’r Wladfa yn dilyn ei ymweliad â De America yn yr 1960au, yn dangos Kyffin ar ei hapusaf, lle mae’r palet lliw yn llawer ysgafnach ac yn adlewyrchu ei hwyliau ar y pryd.

Mae detholiad o’i forluniau gorau yn cael eu harddangos. Mae’r paentiad grymus Ton yn torri ar y Creigiau yn dangos sut mae’r paent wedi dod yn estyniad o emosiynau’r artist. Mae morluniau Kyffin yn amlygu ei dechneg y mae’n fwyaf adnabyddus amdani; arddull a nodweddir gan impasto trwchus, gyda’r paent olew wedi’i daenu bron yn gyfan gwbl â chyllell balet.

Ar y ffordd allan o’r oriel ni allwch fethu â sylwi ar y dawelwch cynnes Machlud, Ynys Môn – un o’r darluniau mwyaf myfyriol, a honnir mai hwn yw un o’r olaf a greodd yr artist cyn ei farwolaeth yn 2006.

Byddai’n hawdd iawn parhau i ganu canmoliaeth yr adeilad newydd gwych hwn, ond peidiwch â chymryd ein gair amdano – ewch i weld eich hun!

Mae Glan-yr-afon ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (10 am-5pm) a dydd Mawrth (10am-7pm).

 

Jaimie Thomas

Swyddog Arddangosfeydd

 

Postiwyd - 07-12-2018

#CaruMapiau / Collections

Dyfroedd Cymru, Dyfroedd y Byd

Yn y Blog hwn, yr olaf ar y thema ‘Blwyddyn y Môr’, rydym yn bwrw golwg dros gasgliad y Llyfrgell o siartiau morol sy’n dyddio o 1800.

Prif bwrpas siartiau yw hwyluso mordwyo a dylent gynnwys gwybodaeth glir, gywir a chyfoes a fyddai’n helpu i gynllunio, amlinellu a chanfod cwrs diogel.  Mae siartiau hefyd yn rhoi gwybodaeth i ymchwilwyr am yr amgylchedd morol ac arfordirol, boed naturiol neu o wneuthuriad dyn, fel yr oedd yn y gorffennol ac fel y mae heddiw.

O ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, y Prydeinwyr oedd yn arwain y ffordd fel gwneuthurwyr siartiau.  Dros amser, o ganlyniad i ddatblygiadau technolegol cafodd gwell siartiau eu cynhyrchu a oedd yn datgelu diofalwch a chamgymeriadau cynharach. Mae’r siart a ddangosir yma er enghraifft, sef siart Sir Benfro 1812 yn nodi cywiriadau i arolwg blaenorol Lewis Morris tra bod siart 1857-1859 yn gofnod manwl ac astrus o’r môr a’r arfordir fel ei gilydd.

O dipyn i beth, disodlwyd mentrau preifat Prydeinig gan waith Swyddfa Hydrograffeg y Morlys, yr UKHO, a gafodd ei sefydlu yn 1795 i ateb gofynion y Llynges Frenhinol yn anad dim.  Mae’r UKHO yn dal yn un o sefydliadau hydrograffeg bwysicaf y byd a’i siartiau’n cael eu cyflenwi’n helaeth i lyngesau, llongau masnach a’r cyhoedd.

Mae mwy na 15,750 o siartiau electronig UKHO ar gael ar hyn o bryd er mai dim ond copïau o’u 3,500 argraffiad dalen y mae’r Llyfrgell yn eu derbyn trwy adnau cyfreithiol.  Mae 12,000 o siartiau modern y Llyfrgell yn cwmpasu lleoliadau ledled y byd ac fe’u derbynnir yn bennaf oddi wrth yr UKHO, ynghyd â’u rhifynnau cysylltiedig gan gynnwys Notices to Mariners a’r Llyfrau Peilot.

 

 

O blith y casgliadau atodol y mae siartiau Fflyd y Morlys a oedd ond ar gael yn wreiddiol i’r Llynges Frenhinol, a rhai cyhoeddiadau diweddar o Awstralia, Seland Newydd, Unol Daleithiau’r America, Canada, Yr Ariannin ac ynysoedd y Philippines.

Er yn llai niferus, ceir siartiau a luniwyd yn wreiddiol gan gyhoeddwyr masnachol Prydeinig ac mae eu siartiau hwy o ddyfroedd y famwlad a thramor yn anelu at y byd hamdden a physgotwyr. Gellir cael mynediad i’r casgliad trwy gatalog ar-lein y Llyfrgell a chatalog yr UKHO.

Mae casglwyr mapiau byth a hefyd yn datgan nad yw siartiau modern mor esthetig ddeniadol â’u rhagflaenwyr hynafol lle’r oedd angenfilod a môr-forynion yn ymddangos yn rheolaidd. Serch hynny, y siartiau cyfoes sy’n cynnwys yr wybodaeth fwyaf perthnasol, cywir a diamwys am yr amgylchedd morol.  Maent yn hollbwysig i  warchod bywydau ar y môr ac mae angen talu sylw iddynt wrth hwylio’r moroedd. Defnyddiwch yr wybodaeth hon, sy’n ffrwyth profiad, yn ddoeth a pheidiwch byth ag anghofio’r dyfyniad morwrol ‘Gall gwrthdrawiad ar y môr ddifetha eich diwrnod cyfan’.

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

Postiwyd - 27-11-2018

Collections

Archif y Coleg ‘Ail-gyfle’

Am bron i 100 mlynedd roedd Coleg Harlech yn un o brif ganolfannau addysg i oedolion yng Nghymru. Sefydlwyd yn 1927 gan Thomas Jones CH (oedd yn ysgrifennydd y cabinet i David Lloyd George a Stanley Baldwin) bwriad y coleg oedd cynnig addysg i oedolion, yn arbennig y rhai oedd heb gael y cyfle i fanteisio ar addysg. Daeth myfyrwyr o bob rhan o Gymru, ac aeth nifer o gyn-fyfyrwyr y coleg ymlaen i chwarae rôl bwysig ym mywyd y genedl.

Yn dilyn cau’r coleg yn 2017, dechreuodd y Llyfrgell drafodaethau gydag Addysg Oedolion Cymru i sicrhau bod archifau’r sefydliad yn cael eu gwarchod. Mae’r archifau yn nodi hanes y sefydliad pwysig gyda dogfennau fel adroddiadau blynyddol, cofnodion y cyngor, gohebiaeth, ffotograffau, cofrestrau a phrosbectysau. Mae copïau o gynlluniau ar gyfer y safle, a chofnod o fywyd pob dydd y myfyrwyr trwy gyhoeddiadau a gohebiaeth corff y myfyrwyr. Er i lyfr ar 50 mlynyedd cyntaf y Coleg gael ei gyhoeddi yn 1977, rwy’n si?r bod digon o ddeunydd yn yr archif ar gyfer  astudiaethau pellach.

Mae’r archif yn un fawr a fydd mwy na thebyg yn llenwi dros 100 bocs archifol, felly buasai ei bacio a’i symud yn dipyn o her, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau gorau. Yn anffodus, roeddwn wedi trefnu i’w casglu ar ddydd Iau 20fed a dydd Gwener 21ain Medi – sef adeg Storm Bronagh! Roeddwn wedi ymweliad a’r safle o flaen llaw i wneud paratoadau ar gyfer symud y casgliad; cofnodi beth oedd yno, bocsio, rhoi mewn un lle ar gyfer casglu. Roedd hefyd yn gyfle i gasglu gwybodaeth am y safle – lle i gael y fan a sut byddwn yn symud y casgliad o’r adeilad, gan nodi unrhyw risiau er enghraifft.

Felly, yng nghanol y glaw trwm a’r gwyntoedd cryfion, dyna ni yn llwytho’r bocsys a’u symud i’r Llyfrgell. Roeddwn ni wedi mynd a gorchuddion i amddiffyn y bocsys rhag y glaw wrth symud i’r fan felly er bod yr archif wedi cadw’n sych, nid oedd hynny’n wir am y staff!

Roedd angen dwy daith i Harlech i gasglu’r archif i gyd, ac erbyn yr ail ddiwrnod, roedd llifogydd wedi cau’r bod dros Afon Dyfi ym Machynlleth felly aethom ar daith trwy Glantwymyn a Mallwyd. Erbyn y daith gartref roedd llifogydd ar y ffordd yna hefyd, ac er bod rhai cerbydau yn mynd trwy’r d?r, doeddwn ni ddim yn fodlon gwneud hynny rhagofn i ni droi’r archif yn slwsh! Felly, gwiriad arall – trwy Gaersws a Llangurig y tro hwn!

Roedd Coleg Harlech hefyd yn gartref i lyfrgell arbennig, yn cynnwys casgliad sylweddol o lyfrau gwleidyddol. Nid oedd modd i ni gymryd y llyfrgell gyda’r archif – mae copïau o’r llyfrau ar gael hefyd yn y Llyfrgell Genedlaethol eisoes – ond fel rhan o’r archif rydym wedi cadw copi o gatalog y llyfrgell. Felly, mae 120 llyfr bach sy’n nodi cynnwys y llyfrgell fesul awdur a fesul lleoliad nawr gyda’r archif ac yn galluogi ymchwilwyr i weld maint a chynnwys y llyfrgell arbennig.

Erbyn hyn mae’r archif yn ddiogel yn y Llyfrgell ac rydym yn bwriadu mynd ati i’w trefnu a’i chatalogio yn y flwyddyn newydd fel bod modd i fwy o waith ymchwil gael ei wneud ar hanes a chyfraniad ‘coleg ail-gyfle’ Cymru.

 

Rob Phillips
Pennaeth Archifau a Llawysgrifau

Tagiau: ,

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog