Blog - Ymchwil

Merched y Wawr yn 50

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 04-09-2017

Eleni, mae pum deg mlynedd wedi pasio ers sefydlu cangen cyntaf Merched Y Wawr yn Y Parc, ger Y Bala. Dros 280 cangen yn ddiweddarach, mae Merched y Wawr bellach yn un o brif fudiadau Cymraeg ei iaith Cymru.

 

Y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad o bapurau Zonia Bowen, Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf a chyn-Lywydd Anrhydeddus y Mudiad. Roedd Zonia Bowen yn ffigwr blaenllaw yn sefydlu Merched y Wawr ac yng ngweithgaredd y Mudiad hyd at ganol yr 1970au. Mae ei harchif yn cynnwys gohebiaeth a phapurau gweinyddol amrywiol sy’n olrhain hanes a thwf y Mudiad yn ystod y cyfnod cyffrous hwn.

 

Sefydlwyd Merched y Wawr yn Y Parc yn 1967 yn dilyn anfodlonrwydd ymysg aelodau Sefydliad y Merched Y Parc gyda natur uniaith Saesneg y sefydliad ar lefel sirol yng Nghymru. Mae copïau o lythyrau gan Zonia Bowen, Ysgrifennydd y gangen ar y pryd, at y swyddogion sirol yn 1966 yn sôn am siom yr aelodau yn y mater. Wedi ychydig fisoedd, awgrymodd Zonia Bowen wrth aelodau’r Parc y dylid cychwyn Mudiad newydd i ferched Cymru oedd yn rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg. Arweiniodd hyn at sefydliad swyddogol Merched y Wawr ym mis Mai 1967. Aeth y Mudiad o nerth i nerth wedi hyn. O fewn wythnos yr oedd cangen arall wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd, ger Dolgellau a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Eisteddfod Y Bala ychydig yn ddiweddarach.

 

Mae olion gweithgaredd y Mudiad yn treiddio nifer o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ceir amryw o ffotograffau o weithgareddau’r Mudiad yng ngogledd Cymru yng nghasgliad y ffotograffydd toreithiog, Geoff Charles. Mae hefyd deunydd ffilm a recordiadau sain ar gael yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhoi cip o rai o gymeriadau’r Mudiad yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol ddymuno’n dda i’r Mudiad ar flwyddyn dathlu’r aur. Yr ydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau’r Mudiad yma i’r Llyfrgell ym mis Medi fel rhan o weithgaredd y penwythnos preswyl yn Aberystwyth.

 

Rhian James

 

Casgliadau Unigryw

Codau mewn Cerddoriaeth

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 29-05-2017

Mae defnydd helaeth o godau, symbolau a seiffrau wedi ei wneud gan gerddorion ar hyd y blynyddoedd.

 

Mae’n hysbys bod rhai o weithiau Mozart yn llawn symbolaeth o fyd y Seiri Rhyddion (gweler The Masonic thread in Mozart gan K. Thomson). Mae’r tair cnoc gan aelod newydd ar ddrws y gyfrinfa i’w clywed yn nodau’r ‘Ffliwt Hud’, er enghraifft. Efallai eich bod hefyd wedi sylwi ar y negeseuon mewn Côd Morse yng ngherddoriaeth Barrington Pheloung yn y gyfres deledu enwog, Inspector Morse.

 

Enghraifft arall o’r defnydd o godau ym myd cerddoriaeth yw’r Parsons Code. Os byddwch yn clywed alaw ddieithr ac yn dymuno darganfod ei theitl, troswch ei nodau cyntaf i Gôd Parsons ac efallai y dowch o hyd i’w theitl yn llyfr Parsons, The directory of tunes and musical themes. Mae’r Cymry’n sefyll i ganu *UDDUD DURDU fel arfer.

 

Mae’r e-adnodd, Oxford Music Online*, yn cynnwys yr erthygl, Cryptography, Musical sy’n sôn am ddiddordeb a gallu sawl cerddor ym maes cryptograffeg, e.e. Schumann ac Elgar, ac yn cyfeirio hefyd at y defnydd a wnaed o allu cerddorion i ddatrys codau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Beth neu bwy yw’r ehedydd yn y gân werin Marwnad yr ehedydd? Os cysylltwch â’r Archif Sgrin a Sain, gallwch drefnu clywed recordiad o drafodaeth ddiddorol rhwng Meredydd Evans a Dei Tomos (30 Ebrill) ar y pwnc. Cofier hefyd bod archif gyfoethog Phyllis a Merêd bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

 

Cafwyd sawl enghraifft mewn hanes o godau cerddorol yn cael eu defnyddio i wrthsefyll anghyfiawnder a gormes. Cafodd cloch Eglwys Llangyndeyrn ei defnyddio fel dull o gyfathrebu yn y frwydr i atal y pentref rhag cael ei foddi, â’i sain yn arwydd pwerus i’r trigolion i weithredu. (Gweler llyfr diddorol W.M. Rees, Sefyll yn y Bwlch: brwydr Llangyndeyrn 1960-1965).

 

Defnyddiodd y cyn-gaethferch, Harriet Tubman o Maryland, ganeuon côd a chaneuon mapio i drosglwyddo negeseuon cudd i gaethweision eraill pan oedd yn eu cynorthwyo i ddianc. Gweler Songs of the Underground Railroad.

 

Yn y caneuon hyn, gallai Canaan olygu Canada; Jordan olygu Ohio; a station olygu t? diogel. Roedd y gân, Follow the Drinkin’ Gourd, yn cyfeirio at y ‘Sosban’ sef clwstwr o sêr sy’n eich galluogi i ganfod Seren y Gogledd. Y seren hon fyddai’n cyfeirio’r caethweision i daleithiau’r Gogledd, i Ganada ac i ryddid. (Cliciwch ar y map isod a phwyswch “i” am fwy o wybodaeth).

 

Pan oedd yn amser rhybuddio caethwas i fod yn barod i ddianc, y gân a genid oedd Sweet chariot – un o hoff ganeuon Harriet.

 

Am fwy o fanylion, gweler llyfr gafaelgar E. Olwen Jones, Caneuon y caethwas.

 

Heini Davies

Llyfrgellydd Cynorthwyol

 

 

*Gellir cael mynediad i ‘Oxford Music Online’ os oes gennych docyn darllen, neu os nad oes gennych un gallwch gofrestru yma.

Taith sinematig Gymreig drwy bapurau newydd ar-lein y Llyfrgell

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 24-04-2017

Wrth ddarllen y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Empire, darllenais erthygl ar sut collodd “Citizen Kane” allan i “How Green Was My Valley” ar gyfer y wobr ffilm orau yn seremoni’r Oscars 1942. Wrth ddarllen yr erthygl, dechreuais feddwl am ffilmiau Cymreig eraill, a penderfynais chwilio am rhagor o erthyglau diddorol yng nghasgliad papurau newydd ar-lein y Llyfrgell. (*Er mwyn cael mynediad i’r adnoddau hyn o’r tu allan i adeilad y Llyfrgell bydd rhaid defnyddio eich tocyn darllen. Os nad oes gennych docyn darllen gallwch gofrestru ar-lein yn hawdd iawn yma).

 

Dechreuais drwy chwilio am adroddiad i seremoni’r Oscars yn 1942, a darganfyddais hwn yn y Telegraph Historical Archive:

 

The Telegraph Historical Archive, 1855-2000

 

Fel y gwelwch, mae’n wahanol iawn i’r hysteria a welir yn ystod y seremoniau y dyddiau hyn. I fod yn deg, roedd materion pwysicach ganddynt i adrodd amdanynt ar y pryd!

Ar ôl darllen am yr Academi, penderfynais chwilio nesaf am “Hedd Wyn”, y ffilm iaith Gymraeg gyntaf i’w henwebu. Darganfyddais drwy ddarllen yr erthygl hon yn Y Guardian fod bwrdd yr Academi yn hollol anwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg. Dewiswyd y ffilm, ond dim ond ar ôl anfon geiriadur Cymraeg-Saesneg iddynt fel prawf fod Cymraeg yn bodoli!

ProQuest Historical Newspapers (Guardian & The Observer)

 

 

Gofynnwch i unrhyw un a oedd yn ei arddegau yng Nghymru yn niwedd y 90au i enwi ffilm Gymreig, a dwi’n si?r yr un ateb byddai pawb yn rhoi: Twin Town. Mae siwrne ddinistriol yr efeilliaid Lewis ar draws Abertawe yn parhau i fod yn ffefryn, ond nid oedd pawb yn hoff o’r ffilm. Er syndod i mi, darganfyddais yr erthygl hon yn y Sunday Times lle mae’n rhoi sylw i bobl oedd am wahardd y ffilm gan y teimlont ei fod yn anfoesol.

 

The Sunday Times Digital Archive 1822-2006

 

Daeth “Twin Town” allan yn ystod cyfnod Cool Cymru . Yn aros gyda’r thema honno, yn ddiweddar, mae’r cerddor aml dalentog Gruff Rhys o’r Super Furry Animals wedi ychwanegu ffilmiau i’w ‘repertoire’. Mae ei ffilm ddiweddaraf, “American Interior”, yn olrhain hanes gwas fferm 22 mlwydd oed o Eryri a deithiodd i America yn 1792 i chwilio am lwyth Americanaidd Brodorol chwedlonol o’r enw Madogwys a oedd yn siarad Cymraeg. Mae’n stori ddiddorol tu hwnt, ac roedd yn wych i ddarganfod bod Gruff wedi defnyddio archifau’r Llyfrgell Genedlaethol wrth ymchwilio ar gyfer y ffilm.

Newsbank

 

 

Wrth gwrs, ni allwn i ysgrifennu’r blog yma heb sôn am ffilm “Y Llyfrgell”!

Newsbank

 

 

Fel y gwelwch, mae’r papurau newydd ar-lein yn cynnig ystod eang o wybodaeth i ddefnyddwyr. Hefyd, os ydw i wedi rhoi’r awydd i chi wylio unrhyw un o’r ffilmiau Cymreig gwych yma, cofiwch eu bod nhw ar gael i’w gweld gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ac hefyd i’w prynu o siop y Llyfrgell.

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Disgrifiad o Lundain gan Thomas Pennant

Casgliadau / Collections / Ymchwil - Postiwyd 20-03-2017

Mae gan y Llyfrgell gasgliad helaeth o weithiau Thomas Pennant (1726-1798), y naturiaethwr, hynafiaethydd a theithiwr a anwyd yn y Downing yn Sir y Fflint.  Cyhoeddwyd cyfrol gyntaf ei Tours in Wales yn 1778, a’r ail (y rhan gyntaf dan y teitl A journey in Snowdonia) yn 1781. Ymddangosodd ei brif waith ar swoleg (British zoology) mewn pedair cyfrol rhwng 1761 ac 1777, gydag argraffiad newydd yn cael ei gyhoeddi yn 1812.

 

Teithiodd Pennant yn helaeth yn Ynysoedd Prydain a Chyfandir Ewrop.  Cyhoeddwyd ei ddisgrifiad o Lundain yn 1790 yn wreiddiol, gydag argraffiad newydd yn ymddangos yn 1814 o dan y teitl Some account of London, Westminster, and Southwark.  Mae’r argraffiad hwn yn cynnwys nifer o luniau ychwanegol.  Prynais gopi ohono yn ddiweddar i’w ychwanegu at ein casgliadau.

 

Mae’r lluniau yn dangos faint mae’r brifddinas wedi newid mewn dwy ganrif.  Mae’r golygfa gyffredinol o’r ddinas yn dal yn edrych yn eithaf gwledig.  Yn y llun o Westminster mae’r Abaty yn edrych yn gyfarwydd ond nid yw adeilad eiconig San Steffan yn ymddangos, gan fod y rhan fwyaf o’r adeilad presennol wedi’i godi ar ôl tân yn 1834.

 

Mae’r copi hwn mewn pedair cyfrol wedi’u rhwymo mewn lledr moroco glas gydag addurniadau aur.  Mae’r plât llyfr gyda’r enw Gyrn yn dangos bod y cyfrolau wedi bod mewn casgliad preifat yng Nghymru cyn ymddangos mewn catalog llyfrwerthwr yn Llundain.

 


Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Cydbwysedd rhwng y rhywiau

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 09-03-2017

Mae’r Wicipedia Cymraeg wedi sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Y Wicipedia Cymraeg yw un o’r Wicipedias cyntaf yn y byd i gynnig cymaint o erthyglau am fenywod ag y mae am ddynion.

 

Yn hanesyddol mae Wicipedia wedi cael trafferth denu golygyddion benywaidd, sy’n gyfrifol am tua 15% o gyfranwyr Wicipedia ar draws y byd ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr anghydbwysedd a geir yn y cynnwys a grëir.

Mae mynd i’r afael â’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau wedi bod yn flaenoriaeth strategol ar gyfer Wikimedia ers peth amser ac mae  Wikimedia UK wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru i helpu unioni pethau.

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi bod yn cydweithio â Wikimedia UK am nifer o flynyddoedd ac wedi bod yn gwneud eu rhan i annog rhagor o ferched i olygu Wicipedia.

 

Y llynedd cymerodd y Llyfrgell ran mewn  Golygathon byd-eang ar Gelf a Ffeministiaeth, a gynhaliwyd mewn cannoedd o leoliadau o amgylch y byd. Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru.

Eleni bydd Wikimediwr Preswyl y Llyfrgell yn helpu gr?p cymunedol o Fachynlleth i redeg eu digwyddiad Celf a Ffeministiaeth Wicipedia ei hunain.

Mae tîm gwirfoddoli’r llyfrgell hefyd wedi bod yn gweithio’n ddiwyd, a bellach ceir 10 gwirfoddolwr benywaidd sy’n cyfrannu’n wythnosol i brosiectau Wicipedia.

 

Mae’r ffaith bod Wicipedia’r iaith Gymraeg yn bodoli o gwbl yn dyst o benderfynoldeb y Cymry, nid yn unig i warchod yr iaith Gymraeg ond i’w gweld yn ffynnu, ond tydi  gwaith Wicipedwyr byth yn dod i  ben! Beth am roi cynnig ar olygu?

Tagiau: , , , , , ,

Brwydr Abergwaun

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Ymchwil - Postiwyd 20-02-2017

Mae’r 22ain o Chwefror 2017 yn nodi 220 o flynyddoedd ers Brwydr Abergwaun, neu “Goresgyniad Olaf Prydain”, fel y’i gelwir hefyd.  Mae’r map anarferol hwn yn cofnodi cyrch milwrol y Ffrancod o’r 22ain – 24ain o Chwefror 1797 gan ddangos safleoedd, trefniadau milwrol a gweithredoedd y lluoedd gelyniaethus o’r 22ain hyd nes i’r Ffrancod ildio ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.  Cafodd y map, a baratowyd gan dirfesurydd lleol, Thomas Propert, ei gyflwyno i’r Arglwydd Cawdor sef cadlywydd byddin Prydain.

 

 

Cyhoeddwyd map arall llai manwl gan Laurie & Whittle.

 

Roedd ymosodiad y Ffrancod a gefnogai Cymdeithas y Gwyddelod Unedig yn cynnwys prif fyddin o 15,000 o ddynion a oedd â’u bryd ar fynd i Iwerddon a dwy fyddin arall dargyfeiriol, llai eu maint, a fwriadai lanio yng Nghymru a gogledd ddwyrain Lloegr.  Rhoddodd y tywydd garw ac ymddygiad afreolus y milwyr derfyn ar y cyfan ar wahân i’r glaniad yng Nghymru, a’r bwriad wedyn oedd ymosod ar Fryste.  Y bwriad yn gyffredinol oedd cychwyn gwrthryfel yn erbyn y Saeson a fyddai’n cyrraedd ei benllanw yn Llundain.

Dan arweiniad y Cyrnol William Tate, Americanwr o dras Wyddelig, glaniodd oddeutu 1,400 o filwyr fin nos ar unigeddau Carregwastad, ger Abergwaun.  Yn fuan iawn, diffygiodd disgyblaeth, ffodd nifer o’r milwyr ‘afreolaidd’ ac aeth eraill ati’n awchus i ysbeilio.  Wynebodd gweddill y milwyr garfan Brydeinig o oddeutu 500 o filwyr-wrth-gefn, milisia, a morwyr, y cyfan wedi’u casglu ynghyd yn frysiog dan arweiniad John Campbell, Barwn 1af Cawdor, capten yn Iwmoniaeth Penfro.  Gan wneud eu harfau eu hunain, aeth llawer o drigolion lleol ati hefyd i arfogi eu hunain gan ymgynnull yn Abergwaun.

Oherwydd diffyg disgyblaeth a milwyr yn ffoi, collwyd pob hyder ac fe gollodd y goresgyniad pob momentwm.  Yn ogystal, profodd y Cymry yn elyniaethus gan fethu â chroesawu’r goresgynwyr fel roeddent wedi’i obeithio, a mwy na hynny, trodd eu siawns o ddianc yn amhosibl gydag ymadawiad llongau rhyfel y Ffrancwyr.  Felly, cyrhaeddodd dau swyddog Ffrengig yn Abergwaun i drafod ildio a chawsant yr wltimatwm fod ganddynt tan 10yb ar y 24ain i wneud hynny.  Diarfogodd y goresgynwyr yn Wdig gerllaw a chawsant eu gorymdeithio ymaith i’r carchar i’w dychwelyd i Ffrainc trwy’r cynllun cyfnewid carcharorion yn 1798.

Yn ôl y chwedl nodedig, Jemima Nicholas oedd arwres y dydd pan ddaliodd hi hyd at ddeuddeg o filwyr Ffrengig gyda dim ond picfforch.  Y goel yw bod y goresgynwyr wedi tybio mai gw?r traed Prydeinig oedd y merched gan fod eu hetiau duon uchel a’u clogynnau cochion wedi peri iddynt gredu bod eu gwrthwynebwyr yn fwy o ran corffolaeth.

 

Gwilym Tawy

Curadur mapiau

Platfform Cyfrannu Torfol i Gymru

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 15-02-2017

Mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am noddi’r prosiect arloesol yma ac yn enwedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates AC, am ei weledigaeth a’i gefnogaeth i’r platfform.

Yn ystod y misoedd nesaf bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dechrau prosiect newydd cyffroes i ddatblygu platfform cyfrannu torfol i Gymru. Bydd y platfform yn galluogi i’r Llyfrgell ymgysylltu â gwirfoddolwyr ar-lein dros Gymru a thu hwnt i wella mynediad i ystod eang o’n casgliadau mwyaf diddorol.

Mae Rhaglen Gwirfoddoli’r Llyfrgell yn mynd o nerth i nerth. Yn ddiweddar, enillodd y Rhaglen Wobr Gwirfoddoli Archifau 2016 y Gymdeithas Archifau a Chofnodion (DU ac Iwerddon). Yn sgil y llwyddiant yma, yr ydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd i gynyddu cyfleoedd gwirfoddoli ac, yn enwedig, cyfleoedd i wirfoddoli o bell, tu hwnt i’r adeilad ei hun. Mae’r Llyfrgell wedi bod yn rhan o sawl prosiect cyfrannu torfol arloesol yn ddiweddar ble mae cannoedd o wirfoddolwyr digidol wedi ein helpu i wella mynediad i ddeunydd ar-lein. Gwelodd prosiect Cymru1900Wales gwirfoddolwyr ar-lein yn trawsgrifio enwau lleoedd ar fapiau OS hanesyddol, tra bod dros 900 o wirfoddolwyr ar y safle ac o bell wedi geo-leoli a thrawsgrifio mapiau degwm Cymru ar gyfer prosiect Cynefin. Yr ydym hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth gyda phrosiectau fel Cymru Dros Heddwch i drawsgrifio Llyfr y Cofio Cenedlaethol y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd y Llyfrgell yn gweithio gyda Digirati i ddatblygu platfform dwyieithog gellir ei addasu a’i ddefnyddio gydag amrywiaeth o’n casgliadau. Yr ydym yn gobeithio creu platfform sy’ mor hyblyg â phosib sy’n medru cefnogi nifer o wahanol dasgau a mathau o ddeunydd. Er enghraifft, mae’n bosib y byddwn eisiau holi i wirfoddolwyr adnabod pobol, lleoedd a digwyddiadau mewn casgliad ffotograffig, neu i drawsgrifio a thagio gwybodaeth allweddol mewn llawysgrif, archif neu gyfrol brintiedig. Yr ydym yn gobeithio creu prosiect i drawsgrifio cofnodion Tribiwnlys y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi. Mae’r cofnodion yma yn cynnwys gwybodaeth hynod o ddiddorol am resymau dynion y Sir oedd am gael eu heithrio o wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Byddai gweithio gyda gwirfoddolwyr i dagio, adnabod a thrawsgrifio’r fath ddeunydd yn rhoi mynediad gwell i’r casgliadau i ddarllenwyr, yn eu gwneud yn haws i chwilio ac yn fwy defnyddiol ar gyfer ymchwil.

Byddwn yn adeiladu’r platfform yn defnyddio safonau agored, sef yr International Image Interoperability Framework (IIIF) a’r W3C Web Annotation Data Model, er mwyn hwyluso rhannu ac ailddefnydd. Yr ydym yn gobeithio gall y platfform gorffenedig cael ei gynnig i sefydliadau arall dros Gymru ac yn ryngwladol sydd â diddordeb i redeg prosiectau tebyg eu hun.

Cadwch lygad ar flog a chyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell am y newyddion diweddaraf dros y misoedd nesaf. Ceir mwy o wybodaeth hefyd ar wefan Digirati (Saesneg yn unig).

Rhian James

Rheolwr Prosiect

WICIPOP

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-01-2017

Bydd prosiect newydd yn canolbwyntio ar wella cynnwys Wicipedia ar  y Sîn Gerddoriaeth Bop Gymraeg.

Mae’r  Wicipedia Cymraeg yn cynnwys tua 90,000 o erthyglau Cymraeg a bwriad prosiect Wikipop yw  ychwanegu 500 o erthyglau mewn ymgais i gofnodi a chyfoethogi hanes ysgrifenedig y sîn gerddoriaeth Gymraeg bywiog.

Ffynhonnell: Wikimedia Commons CC_BY. Attribution Silvio Tanaka, 2009.

Mae Ionawr yn nodi dwy flynedd ers i Lyfrgell Genedlaethol Cymru benodi Wicipediwr Preswyl. Yn ystod y ddwy flynedd hynny mae’r Llyfrgell wedi helpu hyfforddi golygyddion Wicipedia newydd sydd wedi creu cannoedd o erthyglau newydd, ac mae’r llyfrgell wedi arwain y ffordd wrth hyrwyddo mynediad agored at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Rhannwyd 15,000 o ddelweddau digidol o gasgliadau’r llyfrgell ar drwydded agored drwy Comin Wikimedia ac mae’r delweddau a ddefnyddir mewn erthyglau Wicipedia wedi cael eu gweld bron i 200 miliwn o weithiau.

Yn awr, gyda cymorth grant gan Llywodraeth Cymru a mewn  cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect,  3 mis o hyd, i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth bop Cymraeg.

Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan cynnwys rhaglen estyn allan a chyfres o ‘Olygathonau’ a fydd yn annog pobl i ysgrifennu cynnwys newydd.

Bydd aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau yn cael eu hannog i rannu gwybodaeth a allai fod ar gael eisoes, a bydd staff technegol y Llyfrgell Genedlaethol yn treialu awtomeiddio’r broses o greu erthyglau Wikipedia gan ddefnyddio data.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni.

 

Jason Evans

Wikipediwr Preswyl, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Tagiau: , , , , , , ,

Josef Herman – ‘Blynyddoedd Yr Ystrad’

Casgliadau / Ymchwil - Postiwyd 06-12-2016

Daeth Josef Herman, yr arlunydd mynegiadol o Warsaw, Gwlad Pwyl, yn fyd enwog am y portreadau o’r glowyr a’u cymuned yn Ystradgynlais a greodd yn yr 1940au.  Yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol mae gennym oddeutu 50 o’r gweithiau pwysig yma. Yr hyn a wnai gwaith celf Herman yn eiconig oedd ei allu i weld prydferthwch lle’r oedd eraill yn gweld duwch. Ei nod trwy ei gelf oedd cyfleu profiad newydd o ddynoliaeth.

 

 

Ganed Herman yn ardal Iddewig a thlawd Warsaw, Gwlad Pwyl yn 1911. Yn ystod ei arddegau dechreuodd weithio fel cysodydd prentis ac yna fel dylunydd graffeg tra ar yr un adeg yn astudio yn Ysgol Gelf ac Addurn Warsaw. Yn ystod y cyfnod hwn dylanwadwyd yn gryf arno gan arlunwyr megis Edvard Munch a Gustave Courbet ac fe ymunodd â’r ‘Frigian Bonnet’ sef gr?p o arlunwyr mynegiadol adain chwith a oedd yn paentio’r werin bobl mewn dull mynegiadol a realistig.

 

Er i Wlad Pwyl ennill annibyniaeth wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf fe waethygodd gwrth-semitiaeth dan unbennaeth Josef Pilsudski. Yn 1938 gadawodd Herman am Wlad Belg. Yma dechreuodd astudio yn yr Academi Gelfyddyd Gain gan ddod o dan ddylanwad yr arlunydd mynegiadol Ffleminaidd Constant Permeke a’i luniau o’r dosbarth gweithiol. Gyda’r Natsïaid yn ennill tir bu raid i Herman ffoi i Ffrainc ac oddi yno fe ddarganfyddodd ei hun ar long i Lerpwl. Oddi yno teithiodd i Glasgow lle dysgodd trwy’r Groes Goch fod ei deulu cyfan gan gynnwys holl boblogaeth y geto bychan lle magwyd ef wedi cael eu llofruddio yn yr holocost Natsiaidd.  Dioddefodd o iselder dwys o ganlyniad i hyn. Yn 1942 symudodd i Lundain ond roedd dal yn ysu i ddarganfod cymuned fel yr un roedd wedi ei hadnabod pan yn blentyn yn Warsaw, ac felly yn ystod Haf 1944 ymwelodd Herman ag Ystradgynlais am y tro gyntaf.

 

 

Byddai’r hyn a welodd Herman y noson honno – sef gr?p o lowyr yn croesi pont ar eu ffordd nôl o’u gwaith a’u hamlinelliad yn erbyn yr awyr gopr gyda’i gymysgedd o dristwch a mawredd – yn aros gydag ef am byth. Treuliodd Herman yr un mlynedd ar ddeg ddilynol fel rhan o gymuned Ystradgynlais yn darlunio ac yn paentio’r glowyr ar ben ac oddi tan y ddaear. Cyfeiriai’r bobl leol ato fel ‘Joe Bach’.

 

Dywedodd Herman: ‘I want my study of the miners to be more real than portraits. I am not trying to convey…the abstractation of derelict pits  and the wasted face of an industralized landscape, but a synthesis of the pride of human labour and of the fortitude, the calm force, that promise to guard its dignity. In their warm humanity and their expressive occupational poses…I find the embodiment of labour as a human rather than a merely industrial force, in fact the basic humanity that I have always sought and tried to express’.

 

 

Cyn 1951 roedd Herman yn dadlau bod ei arddull wedi bod yn debycach i’r arlunydd Iseldiraidd enwog Rembrandt tra yn Ystradgynlais teimlai iddo arbenigo’i arddull, gyda’r gwrthgyferbyniadau yn ei luniau yn dod yn gryfach a’i ddefnydd o’r llinell yn colli pob agwedd o brydferthwch. Roedd eisiau gwaredu ar bob agwedd  o ffurfiau academaidd neu ffurfiau rhagdybiol dadansoddol yn ei waith. Roedd eisiau i’r profiad o ddarlunio’r glöwr fod yn un organig a oedd yn llifo o’i law.  Edrychai am wirionedd newydd am ddynoliaeth trwy ei luniau.

 

Yn ymgais Herman i ddarganfod dynoliaeth newydd trwy ei waith roedd modd iddo fodoli. Mewn canrif sydd eisoes wedi ei tharneisio â phynciau torcalonnus megis tranc ffoaduriaid mae gwaith Herman heddiw yn fwy perthnasol nag erioed.

 

Byddaf yn rhoi darlith ar yr arlunydd Josef Herman a’r gweithiau sydd gennym yma o fewn casgliadau’r Llyfrgell ddydd Mercher hyn, Ragfyr 7fed am 1-15pm yn y Drwm. Tocynnau ar gael o siop y Llyfrgell.

 

 

Morfudd Bevan, Curadur Celf Cynorthwyol

Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Flickr

Arddangosfeydd / Casgliadau / Digido / Ymchwil - Postiwyd 03-11-2016

Ganfod miloedd o ddelweddau o’r archifau ar Gomin Flickr

Gall defnyddwyr gwefan y Llyfrgell Genedlaethol pori drwy filoedd o ddelweddau digidol o gasgliadau helaeth y llyfrgell.

Ond rydym hefyd yn credu mewn rhannu ein cynnwys digidol mor eang â phosibl, ac mae rhannu ein cynnwys gyda chymuned boblogaidd Flickr yn gyfle gwych i ymgysylltu â defnyddwyr newydd a rhannu hanes gweledol cyfoethog Cymru.

Dros y blynyddoedd mae’r delweddau rydym wedi eu rhannu gyda Flickr wedi cael eu gweld filiynau o weithiau, ac mae’n ymddangos bod rhai ffefrynnau clir, megis ‘Ci gyda phibell’ a aeth yn feiral, gan ddenu dros 25,000 o hits.

Bob mis mae o leiaf 20 o luniau newydd yn cael eu dewis â llaw a’u llwytho i fyny i Flickr a’r mis hwn rydym wedi cadw pethau’n amserol trwy lwytho hen ffotograffau o adeiladwyr Tân Gwyllt a nosweithiau tân gwyllt.

Mae cynnwys newydd yn cael ei ychwanegu drwy’r amser felly beth am ein dilyn ni ar Flickr i weld y cynnwys diweddaraf?

 

Jason Evans, Mynediad Digidol

Tagiau: , , , , , ,

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog