Blog - Ymchwil

Tips ar sut i wneud ymchwil hanes teulu

Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 26-10-2020

Am gyfnod rhyfedd! Yr ydym unwaith eto yn mynd mewn i gyfnod clo ac yn nesáu at dymor y Gaeaf, pryd yn aml iawn mae llawer yn troi at ymchwilio hanes eu teulu. Beth amdani? Ddim yn siŵr lle i ddechrau, darllenwch ymlaen.

5 cam i ddechrau ymchwil hanes teulu

Cam 1 – dechreuwch gyda’ch hunan a chofnodi digwyddiadau, dyddiadau a llefydd, yna gweithio’n ôl i’ch rhieni a’r cenedlaethol blaenorol hyd y medrwch.
Cam 2 – holwch i aelodau eraill o’r teulu am eu hatgofion, cofnodwch a/neu recordio’r wybodaeth.
Cam 3 – chwiliwch am dystiolaeth – tystysgrifau, ffotograffau, torion papur ayb, mae’r atig yn le da i chwilio.
Cam 4 – rhowch drefn ar y wybodaeth a gasglwyd hyd yma, creu coeden deulu ar bapur neu yn electronig mae digon o ddewis am ddim ar-lein.
Cam 5 – creu rhestr o’r hyn sydd angen ymchwil pellach, edrychwch ar wefan y Llyfrgell beth sydd ar gael ac os am help pellach cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymholiadau

Os ydych wedi gwneud ychydig o ymchwil yn barod dyma ychydig o tips i chi wrth ymchwilio ymhellach.

10 tip i symud ymlaen gyda’ch ymchwil

  1. Cofiwch nodi pa adnoddau chi wedi chwilio, hyd yn oed os na ddaethpwyd o hyd i unrhyw wybodaeth rhag mynd nôl i wneud hynny yn y dyfodol.
  2. Darllenwch yn eang am yr adnoddau sydd ar gael a sut i’w dadansoddi
  3. Wrth chwilio cofrestri plwyf cofiwch mai cofnodion bedydd, priodi a chladdu ydynt yn wahanol i dystysgrifau sy’n cofnodi geni, priodi a marw.
  4. Cofrestri plwyf yn anodd eu deall neu yn eisiau, yna defnyddiwch adysgrifau’r esgob i lenwi bylchau os ydynt wedi goroesi.
  5. Methu dod o hyd i aelodau o’r teulu yn y cofrestri plwyf, ewch i chwilio yng nghofrestri capeli anghydffurfiol cyfagos.
  6. Wrth edrych ar gofnodion o gyfrifiad 1841 cofiwch fod oedran rhai dros 15 mlwydd oed yn cael ei dynnu lawr i’r 5 agosaf, mae hyn yn helpu wrth chwilio cofnod geni/bedydd.
  7. Erbyn cyfrifiad 1911 mae llawer mwy o wybodaeth yn cael ei gynnwys – faint o flynyddoedd yn briod, faint o blant, faint o’r plant sy dal yn fyw.
  8. Wrth ddod o hyd i farwolaeth mae bob amser werth chwilio i weld os oes ewyllys wedi ei adael.
  9. Chwiliwch am eich cyndeidiau mewn papurau newydd maent bob amser yn frith o wybodaeth am bob math o bobl, lleoliadau, digwyddiadau yn enwedig os medrir chwilio ar-lein.
  10. Ar ôl edrych ar yr adnoddau cyffredinol, beth am fentro chwilio mewn casgliadau ystadau, cyfreithwyr, cofnodion maenorol, sesiwn fawr a’r llu o gasgliadau eraill sydd ar gael drwy wefan a chatalog y Llyfrgell.

Pob hwyl gyda’r chwilio a mwynhewch!

Beryl Evans, Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil

WiciPics

Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-10-2020

Prosiect torfol newydd sy’n anelu at gofnodi treftadaeth adeiladau Cymru trwy gyfrwng ffotograffiaeth ac erthyglau Wikipedia.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru unwaith eto yn cydweithio gyda Menter Iaith Môn, ynghyd ag arian oddi wrth uned iaith Llywodraeth Cymru, i gyflwyno a chyhoeddi’r prosiect gyffrous newydd yma.

Mae gan Gymru miloedd o adeiladau cofrestredig, sy’n amrywio o’r cestyll ysblennydd a adeiladwyd gan y Tywysogion Cymreig i eglwysi, plastai a thai teras.  Ar un adeg, roedd mwy o seddi yng nghapeli Cymru nag oedd o boblogaeth i eistedd arnynt ond bellach mae’r capeli hyn yn diflannu’n gyflym.  Mae gennym hefyd fel gwlad, adeiladau modern sydd angen eu cofnodi, er enghraifft, ysbytai a chanolfannau iechyd, ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau chwaraeon.

Ar gyfer y prosiect yma, rydym yn gofyn i chi weld beth ydych chi’n meddwl sydd angen cael ei gofnodi’n ffotograffig.  Os ydych yn cerdded y ci, rhedeg, seiclo neu’n mynd allan am dro ar ôl cinio dydd Sul blasus, jyst cydiwch yn eich ffôn neu gamera a chymerwch ambell ffotograff ar hyd y ffordd.

Bydd y delweddau hyn yn ffurfio rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd mynediad cyhoeddus ac am ddim iddynt wedyn i gael eu hail-ddefnyddio ar Wikimedia Commons, fel eu bod yn medru gwella erthyglau Wikipedia.  Mae Wikipedia yn llwyfan gwych inni gofnodi’n gymunedol a rhannu ein hanes lleol.  Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod erthyglau Wikipedia safonol yn help sylweddol i hybu twristiaeth.

Nid ydym yn disgwyl ffotograffau proffesiynol eu safon, na lluniau sydd wedi eu steilio mewn arddull neu ffordd arbennig.  Yr hyn sy’n bwysig yw delweddau sy’n cofnodi’n glir.  Medrwch dynnu llun ar unrhyw beth, o  gamera DSLR i ffôn symudol, felly mae pawb yn medru cyfrannu, o mamgu/nain a dadcu/taid i‘r wyrion.

Fel rhan o’r prosiect rydym yn bwriadu gweithio’n uniongyrchol (o bell) gydag ysgolion er mwyn annog disgyblion i dynnu ffotograff o’r adeiladau yn eu hardaloedd hwy ac yna byddwn yn eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r delweddau hyn i wella safonau erthyglau Wikipedia.

Mae cyfrannu i’r prosiect yn rhwydd.  Bydd map rhyngweithiol yn dangos I chi yr holl leoedd sydd angen eu cofnodi/tynnu ffotograff ohonynt yn eich ardal chi ac yna bydd ein tiwtorial fideo yn eich cyfarwyddo ar y camau syml ynghylch y broses llwytho’r ffotograffau.  Felly, cewch i weld beth sydd angen cael ffotograff ohono yn eich ardal chi a chofnodwch heddiw i sicrhau bod eich delweddau yn cael eu cynnwys yn ein harchif ddigidol newydd.

Tagiau: , , ,

Cyfieithathon Wicipedia

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 11-10-2019

I ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd cynhaliodd y Llyfrgell Genedlaethol Gyfieithathon Gymraeg i fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n gobeithio dilyn gyrfa fel cyfieithwyr. Y nod oedd cyfieithu erthyglau Wikipedia Saesneg presennol am awduron enwog i’r Gymraeg. Roedd y digwyddiad yn rhan o gwaith ehangach prosiect WiciLlên, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’i nod oedd gwella mynediad ar-lein i wybodaeth a data Cymraeg am lenyddiaeth a llyfryddiaeth Cymru.

Mae gan y Llyfrgell Wicimediwr Cenedlaethol sydd yn helpu’r sefydlaid gefnogi a chyfrannu at Wikipedia. Y Wikipedia Cymraeg fu’n canolbwynt y gwaith hwn ers i’r cydweithredu ddechrau yn 2015. Mae’r Llyfrgell a’i phrif gyllidwr, Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y hwb yma o wybodaeth Gymraeg wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i’r Gymraeg – Wicipedia eisoes yw’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd ac erbyn hyn mae ganddi dros 100,000 o erthyglau. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd er mwyn rhoi mynediad i wybodaeth y byd yn Gymraeg.

Mae’r Llyfrgell wedi bod yn gweithio gyda’r cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth ers sawl blwyddyn bellach. Wrth ddefnyddio’r Cymhorthydd Cyfieithu ar Wicipedia er mwyn perffeithio cyfieithu, gall myfyrwyr gyfrannu’n weithredol at wella cynnwys Cymraeg sydd ar gael i bawb wrth astudio, gan roi gwerth go iawn i’w aseiniadau.

Dywed arweinydd y cwrs Mandi Morse “Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i fanteisio ar gronfa Wicipedia wrth ddysgu’r cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Mae’n rhoi profiadau gwych i’n myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau cyfieithu a chael cyfle i ymarfer cyfieithu pob math o feysydd a chyd-destunau. Mae cronfa Wicipedia yn sicr yn ddefnyddiol tu hwnt ac yn cyfoethogi’n darpariaeth.”

Mynychodd 12 myfyriwr y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol, a chrëwyd 9 erthygl newydd. Mewn llawer o achosion mae hyn wedi sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf. Mae erthyglau newydd yn cynnwys y nofelydd Almaeneg Gerhart Hauptmann, a dderbyniodd y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ym 1912 a’r awdur plant Joan Aiken. Porwch y rhestr lawn o erthyglau a grëwyd.

Rydym yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol er mwyn gwella cynnwys Cymraeg ar-lein, ac annog Prifysgolion Cymru i feddwl sut y gallant gyfrannu at y broses.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , , ,

Y Bywgraffiadur Cymreig

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Stori Cymru / Ymchwil - Postiwyd 13-09-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Datblygu llinell amser ryngweithiol

Mae Cymru’n genedl fach ond un balch iawn, cenedl sydd wedi cyfrannu mwy na’i siâr o ddiwygwyr, dyfeiswyr ac arloeswyr i gymdeithas. O Wasanaeth Iechyd Aneurin Bevan, i ddatblygiad Radar gan Edward George Bowen, ni ddylid tanbrisio cyfraniad Cymru i dechnoleg a gwareiddiad yn ei gyfanrwydd. A pheidiwch anghofio, mae Cymru hefyd wedi ein diddanu gyda mawrion chwaraeon, actorion fel Richard Burton a llu o dalent gerddorol.

Mae’r Bywgraffiadur Cymreig wedi cofnodi bywydau ein henwogion ers blynyddoedd, fel na fyddwn yn anghofio eu cyfraniad i Gymru a’r byd. Ers 2004, mae’r holl gofiannau wedi bod ar gael yn ddwyieithog ar wefan y Bywgraffiadur Cymreig, ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda chofnodion newydd – dros 5000 erbyn hyn.

Er mwyn gwneud y wefan mor agored a defnyddiol â phosib, dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn rhannu’r data sy’n gyrru wefan gyda Wikidata. Dyma chwaer llai adnabyddus y Wikipedia enwog, ac fe’i dyluniwyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn agored fel data, yn hytrach na rhyddiaith. Fel efo Wikipedia gall unrhyw un olygu a gwella’r data yn Wikidata ac erbyn hyn mae gennym adnodd cyfoethog o ddata am ein 5000 o unigolion pwysig. Mae Wikidata yn caniatáu inni nodi lleoedd geni pawb ar fap, mae’n caniatáu inni gysylltu data am addysg pobl â data ar gyfer yr ysgolion a’r prifysgolion a fynychwyd, a gallwn weld pa sefydliadau eraill sydd â chofnodion perthnasol, fel portreadau neu archifau.

Mae ein tîm o wirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur yn defnyddio’r Bywgraffiadur i greu erthyglau Wikipedia ar gyfer y bobl, fel bod gennymi bob pwrpas, ddau fersiwn o bob erthygl – un yn gofnod hanesyddol wedi’i adolygu a’i reoli’n ofalus gan arbenigwyr, a’r llall yn gofnod cymunedol a reolir gan bawb, erthygl sy’n esblygu’n gyson y gall unrhyw un gyfrannu ati a’i hailddefnyddio at unrhyw bwrpas.

Yn dilyn lansiad gwefan newydd y Bywgraffiadur llynedd, llwyddom i sicrhau cyllid i weithio gyda datblygwyr i ychwanegu nodwedd newydd a chyffrous. Gan ddefnyddio’r data cyfoethog o Wikidata, a miloedd o ddelweddau digidol o gasgliadau’r Llyfrgell, rydym yn datblygu llinell amser rhyngweithiol fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio pob un o’r 5000 person yn y geiriadur yn gronolegol. Cliciwch ar berson yn y llinell amser a gallwch weld y cofnod Bywgraffiadur perthnasol a’r erthygl Wikipedia.

Yn fwy na hynny, bydd y llinell amser yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo’r cofnodion yn seiliedig ar ble cawsant eu geni, lle cawsant eu haddysgu, eu galwedigaeth a mwy. A gellir defnyddio’r hidlwyr yma mewn cyfuniad, felly os hoffech chi weld yr holl bêl-droedwyr a anwyd yn Aberdâr yn unig, mae hynny’n iawn! Mae’r Llyfrgell hefyd wedi curadu llinell amser o ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru y gellir ei gweld dros y linell amser i roi mwy o gyd-destun i fywydau’r bobl hyn.

Bydd y lefel hyn o ryngweithio ac addasu yn helpu i ddod â’r Bywgraffiadur Cymraeg yn fyw. Bydd yn haws nag erioed i chwilio a darganfod bywydau ein dinasyddion pwysicaf – y bobl a helpodd i lunio stori Cymru.

Dylai’r llinell amser fod yn fyw cyn diwedd y flwyddyn.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , ,

Prosiect WiciLlên

Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 10-09-2019

Rhannu data a gwybodaeth am lenyddiaeth Gymraeg gyda’r byd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Menter Iaith Môn am yr ail dro, wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect WiciLlên, er mwyn cyflwyno prosiect uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar rannu gwybodaeth yn agored am lenyddiaeth Cymru ar brosiectau Wikimedia.

Bydd y prosiect yn cynnwys dau brif linyn. Yn gyntaf, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau rhannu set data enfawr o’r holl lyfrau o ddiddordeb Cymreig a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru. Mae’r set data hwn yn cynnwys gwybodaeth am bron i hanner miliwn o lyfrau.

Fel rhan o brosiect WiciLlên bydd y 50,000 cyntaf o’r cofnodion hynny’n cael eu cyfoethogi a’u rhannu fel data agored cysylltiedig ar Wikidata. Bydd modd chwilio’r data a’i ailddefnyddio mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a’r gobaith yw y gellir defnyddio hwn i wella dyfyniadau ar Wicipedia a chreu cyfleoedd i ddatblygwyr ac ymchwilwyr sy’n dymuno ail defnyddio’r data.

Bydd ail linyn y prosiect yn canolbwyntio ar wella cynnwys ar y Wicipedia Cymraeg. Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno digwyddiad Hacathon a chyfres o olygathonau Wicipedia, tra bod Wicipediwr Preswyl Menter Iaith Môn yn cyflwyno digwyddiadau i blant ysgol o wahanol oedrannau.

Dywedodd Nia Wyn Thomas, sy’n arwain Menter Iaith Môn:  “Braint, fel pob tro, yw cael cydweithio gyda WiciMedia UK a’r Llyfrgell Genedlaethol i gyfoethogi cynnwys agored yn y Gymraeg a hynny drwy ddwylo medrus plant Ynys Môn. Dros gyfnod y cydweithio, rydym yn ymfalchio yn y gwaith sydd wedi ei gyflawni, ac effaith y gwaith ar ddatblygiad cymhwysedd digidol y plant drwy gyfrwng y Gymraeg, bod yn eu hiaith gyntaf, neu yn ail iaith. Gwych hefyd ydi dylanwad y gwaith ar ddatblygiad y Gymraeg mewn maes, lle nad ydy’r iaith yn cael ei gweld yn flaengar bob tro.”

Mae’r prosiect eisoes wedi cychwyn a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2020.

Jason Evans

Wicipediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , ,

Wikimedia a’r sector diwylliant – Astudiaeth effaith newydd

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 16-05-2019

Ym mis Rhagfyr 2017 dechreuodd Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell weithio ar brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd gwybodaeth am bobl sy’n gysylltiedig â Chymru ar y Wicipedia Cymraeg.

Cynlluniwyd y prosiect gan ddefnyddio’r ‘Impact Playbook’ newydd gan Europeana gyda’r nod o archwilio a dogfennu’r newidiadau (neu impacts), i wahanol grwpiau rhandaliad o gyflwyno ystod o weithgareddau Wikimedia yn seiliedig ar gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae adroddiad effaith llawn ar gyfer y prosiect bellach wedi’i gyhoeddi.

Mae’r Playbook yn gweithio trwy greu llwybrau newid sydd wedi’u diffinio’n glir yn ystod y broses gynllunio gyda chanlyniadau mesuradwy, gan sicrhau y gellir asesu a mesur ystod eang o ganlyniadau ac effeithiau dymunol ar ddiwedd y prosiect.

Dyma’r tro cyntaf i brosiect sy’n canolbwyntio ar weithgareddau Wikipedia gael ei asesu fel hyn, felly roedd hwn yn gyfle gwych i archwilio a dogfennu effaith gweithio gyda Wikimedia yn y sector diwylliant.

Canolbwyntiodd y prosiect ar ryddhau 4,862 o bortreadau o Gymru i Comin Wikimedia gyda phwyslais ar wella mynediad at gynnwys Cymraeg a darparu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Crëwyd Wikidata dwyieithog ar gyfer pob portread. Defnyddiwyd y data hwn i helpu i greu bron i 1,500 o erthyglau newydd ar y Wicipedia Cymraeg, gan ddefnyddio 25% o’r delweddau. Cynhyrchodd y delweddau 1.6 miliwn hit mewn 55 o ieithoedd o fewn mis, gan gynyddu mynediad at wybodaeth am bobl Cymru yn fawr.

Trwy weithio gyda Menter Iaith Môn, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau mewn ysgolion gan amlygu sut y gall dysgu gyda Wikipedia gyfrannu’n gadarnhaol at dargedau ysgolion ar gyfer yr iaith Gymraeg a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Dangosodd digwyddiad Hacathon y gwerth o ddata agored i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a chofnodwyd nifer o achosion defnydd.

Mae’r prosiect yn dangos sut y gall gweithio gyda Wikimedia helpu sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol i adeiladu a chefnogi cymunedau newydd a chyflawni canlyniadau sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd craidd wrth gynyddu mynediad i’w casgliadau digidol a’u defnydd ohonynt.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , ,

Difa Twbercwlosis yng Nghymru: 1912 – 1948

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 24-03-2019

Ar 24 Mawrth eleni cynhelir diwrnod rhyngwladol Twbercwlosis. Dydd i godi ymwybyddiaeth am effaith dinistriol yr aflwydd ar iechyd, cymdeithas ac economi. Dyma hanes sefydlu ymgyrch i ddifa’r darfodedigaeth yng Nghymru sef Cymdeithas Goffa Genedlaethol Gymreig Brenin Edward VII (King Edward VII Welsh National Memorial Association) WNMA.&

Roedd Twbercwlosis (TB) yn broblem mawr yng Nghymru yn 1900. Yn 1910 roedd saith o’r pymtheg sir a effeithiwyd waethaf trwy Gymru a Lloegr yng Nghymru ac roedd y pum sir gyda chyfraddau marwolaeth uchaf yng Nghymru. Roedd wir angen cynllun i ddelio gyda’r afiechyd a chyda gweledigaeth un dyn David Davies, AS (1880-1944) daeth y WNMA i fodolaeth.

Yn Amwythig ar 30 Medi 1910 bu cyfarfod i benderfynu sut i goffau Brenin Edward VII a chytunwyd i gychwyn ymgyrch i ddileu TB yng Nghymru a Sir Fynwy. Casglwyd £300,000 gan y cyhoedd – rhoddwyd hanner y swm gan David Davies.  Cyfeiriodd y Brenin Edward VII at yr angen i atal TB rai blynyddoedd ynghynt: ‘If preventable, why not prevented?’ Davies oedd llywydd cyntaf y WNMA â ymgorfforwyd ar 17 Mai 1912.  Roedd pedwar prif nod gan yr Ymgyrch:

  • Ariannu fferyllfeydd ledled Cymru
  • Cynnal sefydliadau preswyl gan gynnwys sanatoria yn Ysbyty Sully, Caerdydd a Chraig-y-Nos yn Sir Frycheiniog
  • Creu adran addysgiadol i gynhyrchu deunydd addysgol a chynnal darlithoedd gwrth-dwbercwlosis
  • Ariannu adran ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru, gan gynnwys Cadeirydd Twbercwlosis David Davies.

Sefydlwyd swyddfa yn y Drenewydd a ffurfiwyd pwyllgor ymgynghorol o 6 arbenigwr meddygol i weithio ym meysydd addysg, darganfod y clefyd, triniaeth, gofal wedi’r driniaeth, ac ymchwil. Darparodd David Lloyd George, oedd yn Ganghellor y Drysorlys ar y pryd, gyllid ar gyfer sanatoria er lles y boblogaeth gyfan trwy Ddeddf Yswiriant Gwladol 1911.  Erbyn dyfodiad y Ddeddf Iechyd (Twberculosis) yn 1921 trosglwyddodd pob awdurdod lleol Cymru eu cyllid i’r WNMA. Bellach, roedd un corff cenedlaethol gyda chyfrifoldeb llwyr dros drin a rheoli twbercwlosis yng Nghymru.

Roedd yr ymgyrch addysgiadol yn hyfforddi unigolion sut i osgoi dal TB.  Rhwng Hydref 1911 a Mawrth 1913, caed 80 arddangosfa teithiol, prynwyd carafán i deithio i addysgu 11,500 o blant ysgolion gwledig Cymru a chaed darlithoedd ar ‘Gyfreithiau Iechyd ac Atal Twbercwlosis’. Trafodwyd cwsg, awyr iach yn y nos, golau yn y cartref, bwyd iachus, glanweithdra dannedd, dillad, corff a gwallt, a pherthynas llefrith a phoer gyda lledaeniad TB.

Adeiladodd yr Ymgyrch 2 Iechydfa newydd a phrynwyd ysbytai a phlasdai (megis Craig-y Nos, Abertawe). Dros yr ugain mlynedd nesaf crëwyd rhwydwaith o fferyllfeydd ac ysbytai:

  • 5 Sanitoria (Porthaethwy, Dinbych, Talgarth, Llanybydder a Llandrindod)
  • 12 Ysbyty (cyfanswm 1,600 o welyau)
  • 14 Fferyllfa
  • 85 Gorsafoedd Ymweld
  • 22 Gorsaf Pelydr-x.

Erbyn dechrau’r 1930au gwelwyd 11,000 o achosion newydd y flwyddyn. Bu nyrsys ac ymwelwyr iechyd yn ymweld â 40,000 o gartrefi’n flynyddol. Roedd Cymdeithas Goffa Genedlaethol y Brenin Edward VII wedi datblygu i fod yn un o’r cynlluniau mwyaf cynhwysfawr erioed i ddelio â thwbercwlosis. Gwelwyd ffrwyth yr ymgyrch yn gynnar gyda gostyngiadau cyson yn y cyfraddau marwolaeth o’r diciâu. Dywed yr awdur Glynne R. Jones:

‘There are few families in Wales without reason for gratitude to the WNMA, which had grown to be the foremost anti-tuberculosis organisation in the British Empire, if not the world – a fitting memorial to a king, which has ensured the WNMA a place of honour in Welsh History.’

Mae gan LlGC gasgliad cyflawn o adroddiadau blynyddol a chofnodion y WNMA sy’n rhan bwysig o’r Casgliad Meddygol. Bydd prosiect ‘Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG’ yn digido casgliad y WNMA a’i arddangos ar-lein erbyn diwedd y flwyddyn.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Branwen Rhys.

branwen.rhys(at)llgc.org.uk
01970 632996

Twitter   @PrintaMwyLLGC    #HanesMeddygCym  @NLWPrintandMore    #MedHistWales

Llawysgrifau Peniarth: cynhaeaf cymysg

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 15-10-2018

Yn ôl ym mis Mawrth, cyhoeddwyd y grŵp cyntaf o Lawysgrifau Peniarth a ddigidwyd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i gyflwyno holl gynnwys y casgliad ar-lein.

Yr wythnos hon, gyda’r Llyfrgell yn dathlu eitemau a chasgliadau sydd wedi eu cynnwys ar Gofrestr Cof y Byd y Deyrnas Gyfunol, dan adain UNESCO, mae’n bleser cyhoeddi fod delweddau 25 llawysgrif arall o Gasgliad Peniarth newydd ymddangos ar ein gwefan. Dyma nhw, wedi eu dosbarthu fesul cyfnod:

O’r bedwaredd ganrif ar ddeg, fe groesawn lawysgrif Gymraeg 190, sy’n cynnwys testunau crefyddol megis Lucidar ac Ymborth yr Enaid, ynghyd â dwy lawysgrif gyfreithiol Seisnig, 328 a 329, yr ola’n cynnwys testun y Magna Carta.

O ddechrau’r bymthegfed ganrif, croesewir testunau crefyddol Lladin a Saesneg 334. O ganol y ganrif honno, wele, lawysgrif Ladin o Rydychen 336, sy’n cynnwys gwaith Petrarch, ynghyd â thestun pwysig  Gwassanaeth Meir yn 191. Mae’r cnwd yn fwy toreithiog yn ail hanner y ganrif, gyda llawysgrif 175 o Gyfraith Hywel  yn ymddangos am y tro cyntaf, ynghyd â chalendr yn llaw Gutun Owain (186), a cherddi yn llaw Huw Cae Llwyd (189).

Yn ofer y chwiliais am gynnyrch dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, ond fe gynrychiolir ail hanner y ganrif honno’n helaeth gan lawysgrifau Roger Morris, Coed-y-talwrn (169), Thomas Evans, Hendreforfudd (187), Thomas Wiliems y geiriadurwr (188), Simwnt Fychan (189), a thestun arall o Gwassanaeth Meir (192). Nac anghofier hefyd yr achau a geir yn 193, a’r testunau meddygol yn 184, 206 a 207.

Ni fyddai Robert Vaughan yn esgeuluso casglu llawysgrifau ei oes ei hunan, wrth reswm, ac o’r ail ganrif ar bymtheg, cyhoeddir  casgliad cywyddau ac englynion 184, gramadegau a geirfâu yn llaw John Jones, Gellilyfdy (295, 296, 302, 304 a 305), a llawysgrifau yn llaw Robert Vaughan ei hunan (180 a 185).

Ac yna, ar ei phen ei hun megis, un llawysgrif yn unig o’r ddeunawfed ganrif, sef  pregethau Cymraeg 324, efallai o sir Drefaldwyn.

Am restr gyflawn o holl lawysgrifau Peniarth sydd ar gael yn ddigidol, gweler y dudalen Casgliad Peniarth a neilltuir i’r casgliad ar ein gwefan. Ac mae’n braf gallu dweud fod y gwaith o ddigido’n parhau, diolch i’n digidwyr dyfal!

Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

Papurau Newydd Cymru Arlein – Ysgrifennu ‘Notorious’

Casgliadau / Digido / Heb ei gategoreiddio / Ymchwil - Postiwyd 26-06-2018

Dyma gofnod gwadd gan Anthony Rhys.

Mae croeso i chi gynnig cofnodion i’w hystyried yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’n rhaid i bob cofnod ymwneud â gwaith neu gasgliadau’r Llyfrgell, yr iaith Gymraeg neu Gymru. Rydym yn cadw pob hawl golygu dros unrhyw gofnodion a gyhoeddir. Danfonwch eich cofnodion trwy’r Gwasanaeth Ymholiadau os gwelwch yn dda.

Dwy flynedd yn ôl dechreuais y gwaith ymchwil ar gyfer ysgrifennu hanes dwy stryd yng Nghaerdydd, sef Stryd Charlotte a Lôn Whitmore, ardal enwog am ei phuteindai, ei thafarndai, a’i thai llety. Prosiect celf oedd y gwaith ar y dechrau, ond datblygodd yn gyflym i fod yn llyfr llawn o’r enw ‘Notorious’ sy’n dilyn bywydau tri deg o bobl ar y ddwy stryd hyn dros gyfnod o dri deg mlynedd.

Ni fyddai’r llyfr wedi bodoli oni bai fy mod wedi gallu defnyddio Papurau Newydd Cymru Ar-lein i chwilio am gynifer o enwau a lleoedd dros gyfnod mor eang. Rwy’n amcangyfrif bod 60% o’r ffynonellau a ddefnyddiais ar gyfer y llyfr wedi dod o’r wefan hon.

Ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi adrodd storïau bywydau’r bobl yn y llyfr heb ddefnyddio Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Byddai chwilio â llaw drwy gofnodion ar ficroffish wedi cymryd chwe mis o weithio 9 tan 5 yn ddyddiol. Amhosibl fyddai i rywun sydd hefyd yn gweithio’n feunyddiol ymroi cymaint o’i hamser. Allweddol hefyd oedd y gallu i ddychwelyd at y ffynonellau dro ar ôl tro i ymchwilio enwau a thrywyddion newydd fel y byddent yn dod i’r golwg. Heb fynediad parhaus i wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein ni fyddwn wedi medru adrodd hanesion y bobl hyn.

Anthony Rhys

Blog Anthony Rhys: Two Notorious Cardiff Streets: Charlotte Street and Whitmore Lane 1841-1870

Carto-Cymru Symposiwm Mapiau Cymru 2018: Crynodeb o “Siartio’r Moroedd …” 18fed Mai

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Ymchwil - Postiwyd 23-05-2018

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dynodi 2018 yn ‘Flwyddyn y Môr’ ac felly roedd yn  briodol fod siartiau morol a materion morwrol eraill yn cael eu cynnwys fel pynciau’r dydd yn Symposiwm Carto-Cymru a gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 18 Mai.

Thema’r symposiwm eleni oedd ‘Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r arfordir, a sut y defnyddir mapio o’r fath i ehangu’n dealltwriaeth o’r amgylcheddau hyn’.

 

Roedd y cyflwyniadau’n cynnwys:

 

From the Air, on Land and Sea: 21st century mapping of the seas and coast of Wales and Ireland – The CHERISH Project

James Barry, Geowyddonydd Morol, Arolwg Daearegol o Iwerddon, Rob Shaw, Uwch Geo-Arolygydd, Rhaglen Darganfod, Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon  a Daniel Hunt, Ymchwilydd – Prosiect CHERISH, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

 

Dewiswyd safleoedd treftadaeth ar y tir a’r arfordir y disgwylir iddynt gael eu heffeithio gan newid hinsawdd, a chynhelir arolwg ohonynt a’u mapio o fewn nifer o ardaloedd astudiaeth ar draws y ddwy wlad. Archwiliwyd y gwaith a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect ac edrychwyd ymlaen at y pedair blynedd nesaf.

 

Bureaucracy, Cartography and the Hydrographic Office of the British Admiralty: Marine Charts and Charting in the Nineteenth Century

Dr Megan Barford, Curadur Cartograffeg, Amgueddfeydd Brenhinol Greenwich

 

Cynhyrchu a defnyddio siartiau’r Llynges yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

The collections, history and work of the Hydrographic Office

Dr Adrian Webb, Pennaeth yr Archif, Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Unedig

 

Sut daeth y casgliad enfawr hwn i fod, sut y cafodd ei ddatblygu a pham ei fod wedi symud o’i leoliad di-nod yn y Llynges i archifdy pwrpasol yn Taunton.

 

 

Ffuglen a ffaith: mapio glannau ac aberoedd Cymru

Dr Hywel Griffiths, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

 

Trosolwg o’r mapio a wnaed o nodweddion geomorffolegol glannau Cymru a sut y mae glannau a moroedd Cymru wedi cael eu mapio ym marddoniaeth a rhyddiaith beirdd a nofelwyr Bae Ceredigion yn benodol.

 

Cist siartiau Cymreig: Casgliad siartiau morol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwilym Tawy, Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Arolwg o gasgliad y Llyfrgell yn canolbwyntio ar siartiau hanesyddol o ddyfroedd Cymru, tra hefyd yn ystyried siartiau o Brydain, Ewrop a thu hwnt, siartiau llyngesol, siartiau arbenigol,  cynlluniau datblygu porthladdoedd a’r anarferol. Hefyd talwyd teyrnged i Olwen Caradoc Evans, awdurdod ar fapiau a siartiau hynafiaethol Cymru.

 

Charting the Welsh Seas

Deanna Groom, Uwch Ymchwilydd (Arforol), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

 

Ymchwil y mae’r Comisiwn Brenhinol yn ei wneud i gofnodi archaeoleg yn yr ardaloedd arfordirol ac o dan y môr yng Nghymru a chyflwynwyd straeon safleoedd archeolegol lle mae siartiau hanesyddol wedi bod yn hollbwysig i sefydlu enwau llongddrylliadau a’r dyddiadau.  Edrychwyd hefyd ar y Prosiect Llongau Tanfor ar hyd Arfordir Cymru.

 

 

Eto symposiwm diddorol, llawn gwybodaeth a llwyddiannus arall yng nghyfres Carto-Cymru!
Diolch yn fawr i bawb a fynychodd a chyfrannodd, yn enwedig y siaradwyr a diolch arbennig, fel arfer, i’r prif drefnydd Huw Thomas a’r Pwyllgor Llywio dan gadeiryddiaeth Sally am eich gwaith caled a llywio cymwys dros y misoedd blaenorol ac ar y dydd.

 

Gwilym Tawy

Curadur Mapiau

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog