Blog - Newyddion a Digwyddiadau

Adfywiad Enwau Lleoedd Cymreig?

#CaruMapiau / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 25-11-2022

Isadeiledd Digidol Democrataidd ar gyfer Enwau Lleoedd Cymru

 

Cyhoeddodd Parc Cenedlaethol Eryri yn ddiweddar na fyddent bellach yn defnyddio’r enwau Saesneg ar gyfer Yr Wyddfa neu Eryri fel rhan o bolisi ehangach o fabwysiadu a diogelu enwau lleoedd Cymraeg ar draws y parc.

 

Mae’r symudiad hwn wedi’i groesawu’n gyffredinol, yn enwedig yma yng Nghymru, a bydd ymgyrchwyr yn gobeithio y bydd y symudiad beiddgar hwn yn grymuso eraill i wneud yr un peth. Mae sôn eisoes o dîm pêl-droed Cymru yn mabwysiadu’r defnydd o ‘Cymru’ yn y ddwy iaith ar ôl Cwpan y Byd.

 

Mae symudiadau o’r fath nid yn unig yn helpu i ddiogelu’r Gymraeg ond hefyd i’w dathlu, ac i annog ymwelwyr i ymgysylltu â hi.

 

Mae penderfyniad Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn codi rhai cwestiynau diddorol. A fydd gweddill y sector twristiaeth yn dilyn eu hesiampl? Neu a fyddan nhw’n parhau i ddefnyddio’r enw Saesneg? A beth am addysg, y cyfryngau a’r llywodraeth? Gad i ni weld.

 

Fel ceidwaid gwybodaeth, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn naturiol wedi buddsoddi mewn archifo cofnodion swyddogol, ond o ran enwau lleoedd Cymraeg, nid yw’r cofnodion swyddogol hyn bob amser yn adlewyrchu diwylliant ac arferion poblogaidd ac yn sicr maent yn araf i ymateb i newidiadau yn nisgwyliadau’r cyhoedd.

 

O ran mapio, dim ond y fersiynau Saesneg o enwau lleoedd Cymraeg y mae llawer o fapiau swyddogol yn eu defnyddio. Er enghraifft, er gwaethaf ymdrech sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Arolwg Ordnans yn dal i fod yn brin o lawer o ddata am y Gymraeg. Mewn ymdrech i gefnogi’r galw cynyddol am fapio a data Cymraeg mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio ar ddatblygu data agored a datrysiadau mapio ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Mapio Cymru a Menter Iaith Môn rydym yn gweithio efo setiau data torfol a lywodraethir gan y gymuned, sef Wikidata a Open Street Map, i helpu i ddatblygu datrysiadau mapio Cymraeg. Rydym wedi defnyddio ein harbenigedd technegol i helpu i alinio’r ddwy ffynhonnell ddata enwau lleoedd Cymraeg, ac wedi gweithio gyda data agored Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg i gynyddu cyfoeth ac amrywiaeth y data.

 

 

Ac mae’r setiau data hyn yn caniatáu i’r gymuned benderfynu ar ffurf enwau lleoedd. Ar Wicipedia a Wikidata mae enwau yn cael eu newid neu eu mabwysiadu gan broses ddemocrataidd agored – eisoes mae trafodaeth fywiog ar Wicipedia Saesneg am newid teitl yr erthygl ar Yr Wyddfa. Ond mae’r setiau data hefyd yn cynnig hyblygrwydd, gall enw gael llawer o amrywiadau, gan gynnwys enwau ‘swyddogol’ lluosog, a gellir nodi enwau gwahanol ar gyfer cyfnodau amser gwahanol. Yna mae defnyddwyr y data yn cael dewis pa fersiwn y maent am ei gyflwyno ar eu map. Yn ddiweddar mae’r BBC a Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r data agored hwn i wasanaethu mapiau iaith Gymraeg i’r cyhoedd

 

 

Rydym hefyd wedi defnyddio’r data agored cyfoethog hwn i sicrhau bod gan Wicipedia Cymraeg erthyglau sylfaenol am (bron) holl drefi a phentrefi Cymru. Yn ddiweddar fe wnaethom greu dros 800 o’r rhain ac rydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i gyfoethogi cynnwys Cymraeg am ein lleoedd. Mae un o’n gwirfoddolwyr wedi creu dwsinau o erthyglau am strydoedd ac adeiladau hanesyddol Wrecsam ac rydym yn cynllunio digwyddiad golygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru i wella cynnwys Wicipedia ymhellach am enwau lleoedd Cymru, eu hanes a’u hystyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, gallwch ddarganfod mwy yma.

 

 

Byddwn hefyd yn gweithio gyda Menter Iaith Môn i ddysgu plant ysgol sut i ychwanegu gwybodaeth am eu cymuned at Wicipedia yn Gymraeg, ac i gasglu clipiau sain o blant yn ynganu eu henwau lleoedd lleol. Bydd y rhain hefyd ar gael am ddim i bawb ar Wiki.

 

Mae’r prosiect hwn yn ein galluogi i wneud mwy nag archifo a rhoi mynediad i gofnodion. Mae’n  ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd a chefnogi datblygiad seilwaith digidol ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg. Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i feddwl am sut allwn ni gyflwyno ein casgliadau yng nghyd-destun lle ac amser. Allbwn arall o’n gwaith eleni fydd map prototeip ar gyfer gweld ein casgliadau yn y Gymraeg a’r Saesneg, a fydd yn gam cadarnhaol tuag at ddatblygu datrysiad chwilio a darganfod gwirioneddol ddwyieithog, gyda’r hyblygrwydd i addasu’n gyflym i newidiadau positif megis yr ailenwi diweddar o’r Wyddfa.

 

Jason Evans

Rheolwr Data Agored

 

Tagiau: , , ,

Rhagenwau: pam mae nhw’n bwysig

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 20-07-2022

Yn ddiweddar, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Fforwm Rhywedd a LHDTC+ y Llyfrgell fel rhan o’n ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywedd a chynhwysiant. Mae’r ymrwymiad yma yn nodwedd allweddol o Gynllun Strategol y Llyfrgell ar gyfer 2021-2026, ynghyd â chefnogi amcanion llesiant Llywodraeth Cymru. Mae’r Llyfrgell yn bodoli er lles pawb.

Edrychwn ymlaen i rannu mwy o waith y Fforwm yn y dyfodol. Diolch i Llinos o’r Gwasanaeth Addysg am rannu eu profiad o weithio’n ddiweddar yn Eisteddfod yr Urdd ac am bwysigrwydd rhagenwau.

 

Dwi’n berson anneuaidd (non-binary), sy’n golygu nad ydw i’n uniaethu â’r rhyw a neilltuwyd i mi pan gefais fy ngeni. Gan nad yw fy hunaniaeth rhywedd yn perthyn i’r dewis traddodiadol deuaidd o ‘ddyn’ neu ‘dynes’, dwi’n defnyddio’r rhagenwau ‘nhw’ ac ‘eu’. Os ydych chi’n uniaethu â’r rhyw a neilltuwyd i chi ar eich genedigaeth, rydych yn berson cydryweddol (cisgender).

Mae’r diwylliant nawr fod pawb – pobl cydryweddol a traws – yn ychwanegu rhagenwau ar, er enghraifft, ebyst a bathodynnau yn dod yn fwyfwy cyffredin yn rhywbeth i’w gymeradwyo. Wrth wneud hyn, mae’n normaleiddio trafodaethau am rywedd, ac yn sicrhau fod cymunedau traws ac anneuaidd mewn gofodau diogel.

 

 

Aethom fel Isadran Addysg i’r Urdd eleni, ond am y tro cyntaf gyda bathodynnau’n datgan pa ragenwau rydym yn defnyddio wrth gyfeirio at ein hunain (fe/fo, hi/hon, nhw/eu). Dyma rywbeth syml a phwysig sy’n datgan ein bod yn ceisio creu gweithle, a chymdeithas ehangach, fwy cynhwysol. Gweithle sy’n dweud ‘na’ i drawsffobia.

O’m mhrofiad personol, mae’n gwneud byd o wahaniaeth gwybod fy mod yn gallu bod yn agored am bwy ydw i ym mhob agwedd o’m mywyd. Os ydych chi’n credu fod rhagenwau yn arwyddocaol neu beidio – cofiwch maen nhw’n bwysig, ac yn gwneud byd o wahaniaeth.

 

Termau

  • Rhyw (sex): caiff pobl eu gosod mewn category rhyw ar sail nodweddion rhyw sylfaenol
  • Rhywedd (gender): yn wahanol i rhyw, mae rhywedd yn cael ei benodi drwy ddiwylliant
  • Anneuaidd (non-binary): pobl nad ydynt yn gweld eu hunain yn ffitio i ddewis o ‘ddyn’ neu ‘fenyw’.
  • Traws (trans): term ymbarél sy’n cynrychioli pobl nad yw eu rhywedd yr un peth â’r categori rhyw y rhoddwyd iddynt pan gawsant eu geni (anneuaidd/genderqueer/trawsryweddol)

Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig 2021

Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 10-11-2021

Traddodwyd darlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig eleni ar nos Fawrth 2il Tachwedd. Roedd yn rhaid i ni ohirio’r ddarlith y llynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a chynnal panel trafodaeth ar-lein yn lle, felly roedd darlith yr Athro Paul O’Leary yn hir ddisgwyliedig.

2020 oedd y tro cyntaf yn ei hanes roedd yn rhaid ohirio’r ddarlith, ac eleni roedd y tro cyntaf iddi gael ei chynnal tu allan i Aberystwyth. Y Senedd ym Mae Caerdydd felly oedd lleoliad darlith 2021, a’r teitl oedd Lloyd George, Empire and the Making of Modern Ireland.

Fel nododd Paul O’Leary roedd Lloyd George wedi bod yn weithgar yn ystod ei yrfa cynnar mewn ymgyrchoedd dros ymreolaeth i Gymru ac fel Canghellor roedd wedi rhoi cymorth ariannol i’r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd yn addas iawn felly bod y Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal darlith ar Lloyd George yn Senedd Cymru.

Roedd Iwerddon wedi chwarae rôl yng ngyrfa Lloyd George ers iddo gael ei ethol i Senedd y DG 1890; roedd e’n frwd dros ymreolaeth a chafodd ei ysbrydoli gan ymgyrchwyr tir Iwerddon ond roedd ymerodraeth Prydain yn ganolog i’w fyd olwg. Dadlodd Paul O’Leary ei fod yn cydymdeimlo gydag unolaethwyr yn y gogledd ac er iddo credo bod y Deyrnas Unedig yn wlad o genhedloedd gwahanol nid oedd e’n gweld gwledydd Prydain, Cymru, Lloegr yr Alban ac Iwerddon yn yr un modd a gwledydd yr ymerodraeth fel Canada ac Awstralia. Roedd rhoi statws tebyg i Iwerddon yn gam rhy bell.

Roedd Dirpwry Lysgennad Iwerddon yng Nghymru yn gwylio o bell a roedd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones yn y gynulleidfa.

Cafwyd cwestiynau diddorol a thrafodaeth fuddiol iawn yn dilyn y ddarlith a chynigiwyd pleidlais o ddiolch gan Dr Sam Blaxland, aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Yr Archif Wleidyddol Gymreig.

Mae’n fwriad i gyhoeddi erbyn hyn ar dudalennau’r Archif Wleidyddol Gymreig (ynghyd â darlithoedd blaenorol) ar wefan y Llyfrgell yn y dyfodol agos.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Tagiau:

Trafod Dyfodol Archifau Gwleidyddol

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 09-11-2020

Mae Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig wedi bod yn rhan o galendr y Llyfrgell Genedlaethol ers 30 o flynyddoedd gyda chymysgedd o wleidyddion, academyddion a newyddiadurwyr yn cyfrannu dros y blynyddoedd. Ond, ohwerwydd cyfyngiadau pandemig Covid-19 nid oedd modd cynnal y ddarlith eleni a hynny ar ôl i’r trefniadau gael eu cwblhau.

Roedd y sefyllfa wedi rhoi’r cyfle i ni wneud rhywbeth gwahanol felly penderfynom i gynnal sesiwn panel trafod ar-lein gan ddefnyddio Zoom a gwahodd creuwyr a defnyddwyr archifau gwleidyddiol i drafod eu profiadau gydag archifau gwleidyddol a’u syniadau ar gyfer y dyfodol.

Ces i’r fraint o gadeirio’r sesiwn gyda’r newyddiadurwariag Elliw Gwawr,  y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones AS, Yr Athro Richard Wyn Jones a’r Aelod Seneddol Liz-Saville-Roberts. Cawsom drafodaeth ddidorol am awr ar nifer o gwestiynau a oedd wedi cael eu paratoi o flaen llaw a chwestiynau a gyfranwyd gan y gynulleidfa; rhai ohonynt yn faterion trwm, rhai yn fwy ysgafn. Trafodwn rôl archifau ym myd y cyfryngau cymdeithasol, sut i sicrhau bod pob rhan o gymdeithas yn cael ei gynrychioli yn yr archifau, beth yw’r mudiadau newydd sydd angen eu cofnodi a beth fyddai’n cynrychioli’r flwyddyn 2020 orau.

Mae’r sesiwn ar gael i’w weld ar dudalen Facebook y Llyfrgell a byddwn yn paratoi fideos i’w gosod ar wefan yr Archif Wleidyddol Gymreig gydag isdeitliau Cymraeg a Saesneg yn yr wythnosau nesaf.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

WiciPics

Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-10-2020

Prosiect torfol newydd sy’n anelu at gofnodi treftadaeth adeiladau Cymru trwy gyfrwng ffotograffiaeth ac erthyglau Wikipedia.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru unwaith eto yn cydweithio gyda Menter Iaith Môn, ynghyd ag arian oddi wrth uned iaith Llywodraeth Cymru, i gyflwyno a chyhoeddi’r prosiect gyffrous newydd yma.

Mae gan Gymru miloedd o adeiladau cofrestredig, sy’n amrywio o’r cestyll ysblennydd a adeiladwyd gan y Tywysogion Cymreig i eglwysi, plastai a thai teras.  Ar un adeg, roedd mwy o seddi yng nghapeli Cymru nag oedd o boblogaeth i eistedd arnynt ond bellach mae’r capeli hyn yn diflannu’n gyflym.  Mae gennym hefyd fel gwlad, adeiladau modern sydd angen eu cofnodi, er enghraifft, ysbytai a chanolfannau iechyd, ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau chwaraeon.

Ar gyfer y prosiect yma, rydym yn gofyn i chi weld beth ydych chi’n meddwl sydd angen cael ei gofnodi’n ffotograffig.  Os ydych yn cerdded y ci, rhedeg, seiclo neu’n mynd allan am dro ar ôl cinio dydd Sul blasus, jyst cydiwch yn eich ffôn neu gamera a chymerwch ambell ffotograff ar hyd y ffordd.

Bydd y delweddau hyn yn ffurfio rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd mynediad cyhoeddus ac am ddim iddynt wedyn i gael eu hail-ddefnyddio ar Wikimedia Commons, fel eu bod yn medru gwella erthyglau Wikipedia.  Mae Wikipedia yn llwyfan gwych inni gofnodi’n gymunedol a rhannu ein hanes lleol.  Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod erthyglau Wikipedia safonol yn help sylweddol i hybu twristiaeth.

Nid ydym yn disgwyl ffotograffau proffesiynol eu safon, na lluniau sydd wedi eu steilio mewn arddull neu ffordd arbennig.  Yr hyn sy’n bwysig yw delweddau sy’n cofnodi’n glir.  Medrwch dynnu llun ar unrhyw beth, o  gamera DSLR i ffôn symudol, felly mae pawb yn medru cyfrannu, o mamgu/nain a dadcu/taid i‘r wyrion.

Fel rhan o’r prosiect rydym yn bwriadu gweithio’n uniongyrchol (o bell) gydag ysgolion er mwyn annog disgyblion i dynnu ffotograff o’r adeiladau yn eu hardaloedd hwy ac yna byddwn yn eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r delweddau hyn i wella safonau erthyglau Wikipedia.

Mae cyfrannu i’r prosiect yn rhwydd.  Bydd map rhyngweithiol yn dangos I chi yr holl leoedd sydd angen eu cofnodi/tynnu ffotograff ohonynt yn eich ardal chi ac yna bydd ein tiwtorial fideo yn eich cyfarwyddo ar y camau syml ynghylch y broses llwytho’r ffotograffau.  Felly, cewch i weld beth sydd angen cael ffotograff ohono yn eich ardal chi a chofnodwch heddiw i sicrhau bod eich delweddau yn cael eu cynnwys yn ein harchif ddigidol newydd.

Tagiau: , , ,

Dathlu Bywyd Merêd

Arddangosfeydd / Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 02-12-2019

“Allai ddim meddwl am dad yn gant”, meddai ei ferch Eluned, ac yn wir wrth ymchwilio yn yr archif sydd yn y Llyfrgell nid hen ddyn sydd yn dod i’r meddwl, ond dyn egnïol, brwdfrydig, gweithgar a phenderfynol. Roedd Meredydd Evans, neu Merêd, yn ffigwr hollbwysig yn natblygiad cerddoriaeth yng Nghymru . Treuliodd ei fywyd yn cyfrannu at fywyd a diwylliant Cymru fel casglwr, hanesydd, cerddor, golygydd, cenedlaetholwr ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith. Cyfle i ddathlu bywyd llawn a chynhyrchiol yw’r canmlwyddiant a dyma flas o’r bwrlwm o weithgareddau yn y Llyfrgell Genedlaethol:

Ffilm: Canmlwyddiant Merêd – Clipiau o’r archif Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019

Ymunwch â ni i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd (9 Rhagfyr 1919 – 21 Chwefror 2015) ar ddiwrnod ei ben-blwydd gyda dangosiad arbennig o ddetholiad o glipiau o gasgliad yr Archif Sgrin a Sain, sy’n rhoi blas o fywyd a gwaith Merêd a Phyllis Kinney. Dewch gyda ni ar siwrne o’r Noson Lawen i Ryan a Ronnie, ac o’r caneuon gwerin i Heather Jones yn canu ‘Colli laith’.

Sesiwn Unnos Radio Cymru

Fis Medi 2019 gwahoddwyd y cerddorion Siân James, Gwenan Gibbard, Gareth Bonello, Gai Toms, Iestyn Tyne a Casi Wyn i greu trefniant newydd o rai o hen alawon gwerin Cymru o archif Meredydd Evans a Phyllis Kinney, sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Darlledwyd rhaglen Sesiwn Unnos Gwerin Radio Cymru ar 29 Medi o Gynhadledd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. I nodi canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, dyma gyfle prin i chi glywed y casgliad hwnnw o alawon yn cael eu canu eto, yn dilyn y ffilm Merêd, a ddangosir yn y Drwm ar y 9fed o Ragfyr.

Merêd yn gant – Darlith awr ginio gan Geraint H. Jenkins, Dydd Mercher 11 Rhagfyr

Cyfle i ddathlu canmlwyddiant geni Merêd – athronydd, llenor, cerddor a gweithredwr – yng nghwmni’r hanesydd Geraint H. Jenkins. Bydd ffotograff arbennig o Merêd gan Iestyn Hughes i’w weld yma yn ystod yr wythnos.

Rhaglen BBC Radio Cymru ‘Hela’r Hen Ganeuon’

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio yn archif Merêd a Phyllis yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd cerddorion yn ymateb i gerddoriaeth yn ymwneud â chyfnod y Nadolig a’r Calan. Al Lewis, Nia Morgan ac Arfon Gwilym sy’n ymuno â Georgia Ruth Williams, ac maen nhw’n perfformio caneuon sy’n perthyn i dymor y Nadolig a’r flwyddyn newydd e.e. Plygain, Calennig, Y Fari Lwyd. Darlledir dydd Sul 8 Rhagfyr am 19:05 ar BBC Radio Cymru, a bydd y rhaglen ‘Hela’r Hen Ganeuion’ ar gael wedyn i wrando eto ar wefan Radio Cymru neu ap BBC Sounds.

Rhaglen BBC Radio Wales. Frank Hennessy ‘Celtic Heartbeat’

Sgwrs am Merêd ar ‘Celtic Heartbeat’, Radio Wales (1 Rhagfyr 2019) gyda Nia Mai Daniel a Frank Hennessey yn trafod y modd y bu yn ysgogiad i gerddorion gwerin Cymru drwy ei fywyd o’r cyfnod fel pennaeth adloniant ysgafn yn y BBC (1963- 1973) i gynorthwyo cerddorion ifanc y Prosiect ‘10 mewn bws’. Roedd Merêd yn berfformiwr talentog, a recordiodd ddetholiad pwysig o ganeuon i label Folkway Records yn Efrog Newydd yn 1954, ac yn ddiweddarach i label recordio Sain.

Catalogio archif Merêd a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol

Fel rhan o waith yr Archif Gerddorol Gymreig rydym yn paratoi catalog o’r archif er mwyn rhoi mynediad hawdd at y drysorfa o archif sy’n cynnwys papurau cerddorol Merêd a Phyllis Kinney, gohebiaeth Merêd, a ffeiliau Merêd ar athroniaeth, llenyddiaeth, ymgyrchoedd dros yr iaith Gymraeg, a mwy.

Cardiau mynegai ar gael arlein

Mae miloedd o gardiau mynegai ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru wedi cael eu digido ac ar gael ar ein gwefan. Ceir naw grŵp sef Caneuon gwerin, Alawon Carolau, Geiriau Carolau, Hwiangerddi, ‘Alawon Fy Ngwlad’ Nicholas Bennett, Mari Lwyd, J. Lloyd Williams a Chylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bydd cyfle cyffrous i ymwneud â phrosiect gwirfoddoli ar yr Hwiangerddi yn y flwyddyn newydd.

PhD Cerddoriaeth werin

Gwenan Gibbard yw enillydd Ysgoloriaeth Ddoethurol i astudio cyfraniad Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru. Cynllun ar y cyd rhwng Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ysgol Cerddoriaeth a’r Cyfryngau, Prifysgol Bangor a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw hwn.

Arddangosfa gerddorol ‘Record: Gwerin, Protest a Phop’

Cyfle olaf i weld yr arddangosfa sy’n ymwneud â cherddoriaeth Cymru o’r Crwth i’r Cyrff. Sylwer fod yr arddangosfa yn cau ar 11 Rhagfyr (nid 1 Chwefror) oherwydd y gwaith adeiladu. Mae’r arddangosfa yn cynnwys adran ar Merêd gan edrych ar ei ddylanwad fel casglwr a pherfformiwr ac fel pennaeth rhaglenni adloniant ysgafn BBC Cymru.

Wrth ddathlu’r canmlwyddiant, diolchwn am gyfraniad enfawr Merêd i ddiwylliant Cymru.

Nia Mai Daniel,

Yr Archif Gerddorol Gymreig

@CerddLLGC

Cyfieithathon Wicipedia

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 11-10-2019

I ddathlu Wythnos Llyfrgelloedd cynhaliodd y Llyfrgell Genedlaethol Gyfieithathon Gymraeg i fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth sy’n gobeithio dilyn gyrfa fel cyfieithwyr. Y nod oedd cyfieithu erthyglau Wikipedia Saesneg presennol am awduron enwog i’r Gymraeg. Roedd y digwyddiad yn rhan o gwaith ehangach prosiect WiciLlên, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a’i nod oedd gwella mynediad ar-lein i wybodaeth a data Cymraeg am lenyddiaeth a llyfryddiaeth Cymru.

Mae gan y Llyfrgell Wicimediwr Cenedlaethol sydd yn helpu’r sefydlaid gefnogi a chyfrannu at Wikipedia. Y Wikipedia Cymraeg fu’n canolbwynt y gwaith hwn ers i’r cydweithredu ddechrau yn 2015. Mae’r Llyfrgell a’i phrif gyllidwr, Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y hwb yma o wybodaeth Gymraeg wrth adeiladu dyfodol cynaliadwy a llewyrchus i’r Gymraeg – Wicipedia eisoes yw’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd ac erbyn hyn mae ganddi dros 100,000 o erthyglau. Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud o hyd er mwyn rhoi mynediad i wybodaeth y byd yn Gymraeg.

Mae’r Llyfrgell wedi bod yn gweithio gyda’r cwrs Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth ers sawl blwyddyn bellach. Wrth ddefnyddio’r Cymhorthydd Cyfieithu ar Wicipedia er mwyn perffeithio cyfieithu, gall myfyrwyr gyfrannu’n weithredol at wella cynnwys Cymraeg sydd ar gael i bawb wrth astudio, gan roi gwerth go iawn i’w aseiniadau.

Dywed arweinydd y cwrs Mandi Morse “Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i fanteisio ar gronfa Wicipedia wrth ddysgu’r cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol. Mae’n rhoi profiadau gwych i’n myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau cyfieithu a chael cyfle i ymarfer cyfieithu pob math o feysydd a chyd-destunau. Mae cronfa Wicipedia yn sicr yn ddefnyddiol tu hwnt ac yn cyfoethogi’n darpariaeth.”

Mynychodd 12 myfyriwr y digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol, a chrëwyd 9 erthygl newydd. Mewn llawer o achosion mae hyn wedi sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn Gymraeg am y tro cyntaf. Mae erthyglau newydd yn cynnwys y nofelydd Almaeneg Gerhart Hauptmann, a dderbyniodd y Wobr Nobel mewn Llenyddiaeth ym 1912 a’r awdur plant Joan Aiken. Porwch y rhestr lawn o erthyglau a grëwyd.

Rydym yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol er mwyn gwella cynnwys Cymraeg ar-lein, ac annog Prifysgolion Cymru i feddwl sut y gallant gyfrannu at y broses.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , , , ,

Smartify yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 08-10-2019

Yn gynnar yn 2018, i gyd-fynd gyda lansiad arddangosfa Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm, dechreuodd y Llyfrgell gyd-weithio gyda Smartify, cwmni a oedd wedi datblygu ap celfyddydol ar gyfer ffonau clyfar, i’w ddefnyddio gydag arddangosfeydd mewn amgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd ledled y byd.

Ap ydyw sy’n galluogi ymwelwyr sganio eitemau sy’n cael eu harddangos yn y Llyfrgell gyda’u ffôn clyfar er mwyn derbyn gwybodaeth bellach amdano neu am grëwr y gwaith. Mae’r ap yn syml i’w ddefnyddio ac am ddim i’w lawrlwytho o siop iOS a Google Play.

Yr hyn sy’n arbennig am yr ap yw ei fod yn rhoi cyd-destun i chi am yr eitem ac o ganlyniad yn cyfoethogi profiad y defnyddiwr.

Ar ôl sganio eitem, mae’n bosibl ei chadw mewn oriel bersonol fel bod modd edrych ar y ddelwedd ddigidol neu ddarllen am yr eitem ar ôl mynd adref.

Un o eitemau’r Llyfrgell sydd wedi’i chynnwys ar yr ap yw’r copi gwreiddiol o Anthem Genedlaethol Cymru ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Ar ôl sganio agoriad yn y llawysgrif hon, nid yn unig y cewch chi wybodaeth ddeongliadol am yr eitem ond fe gewch chi hefyd y cyfle i wrando ar y recordiad sain Cymraeg cyntaf sy’n hysbys, pan recordiwyd y gantores Madge Breese, gan y Gramophone Company, yn canu’r anthem ar 11 Mawrth 1899.

Mae’r ap yn sicr yn cynnig profiad newydd a rhyngweithiol i’n hymwelwyr yn y byd digidol sydd ohoni!

Ers i’r Llyfrgell ddechrau cydweithio â Smartify bron i ddwy flynedd yn ôl bellach rydym yn parhau i gynyddu’r nifer o eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell sydd ar gael ar yr ap ac yn sicrhau bod y wybodaeth a geir amdanynt ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi’n ymweld â’r Llyfrgell cofiwch gadw llygad am eitemau sydd â’r logo Smartify wrth eu hymyl a rhowch gynnig arni!

Am ragor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r ap ewch i dudalen Smartify ar ein gwefan.

Bethan Rees

Mynediad Digidol

Tagiau: , , , ,

Y Bywgraffiadur Cymreig

Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Stori Cymru / Ymchwil - Postiwyd 13-09-2019

Mae’r cofnod hwn yn rhan o gyfres Stori Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o hanes Cymru, a sut mae’r Gymru fodern yn cofio ei hanes ac yn ei siapio. Tanysgrifiwch i’r blog ar y dde i osgoi colli unrhyw gofnodion.

Datblygu llinell amser ryngweithiol

Mae Cymru’n genedl fach ond un balch iawn, cenedl sydd wedi cyfrannu mwy na’i siâr o ddiwygwyr, dyfeiswyr ac arloeswyr i gymdeithas. O Wasanaeth Iechyd Aneurin Bevan, i ddatblygiad Radar gan Edward George Bowen, ni ddylid tanbrisio cyfraniad Cymru i dechnoleg a gwareiddiad yn ei gyfanrwydd. A pheidiwch anghofio, mae Cymru hefyd wedi ein diddanu gyda mawrion chwaraeon, actorion fel Richard Burton a llu o dalent gerddorol.

Mae’r Bywgraffiadur Cymreig wedi cofnodi bywydau ein henwogion ers blynyddoedd, fel na fyddwn yn anghofio eu cyfraniad i Gymru a’r byd. Ers 2004, mae’r holl gofiannau wedi bod ar gael yn ddwyieithog ar wefan y Bywgraffiadur Cymreig, ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda chofnodion newydd – dros 5000 erbyn hyn.

Er mwyn gwneud y wefan mor agored a defnyddiol â phosib, dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn rhannu’r data sy’n gyrru wefan gyda Wikidata. Dyma chwaer llai adnabyddus y Wikipedia enwog, ac fe’i dyluniwyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn agored fel data, yn hytrach na rhyddiaith. Fel efo Wikipedia gall unrhyw un olygu a gwella’r data yn Wikidata ac erbyn hyn mae gennym adnodd cyfoethog o ddata am ein 5000 o unigolion pwysig. Mae Wikidata yn caniatáu inni nodi lleoedd geni pawb ar fap, mae’n caniatáu inni gysylltu data am addysg pobl â data ar gyfer yr ysgolion a’r prifysgolion a fynychwyd, a gallwn weld pa sefydliadau eraill sydd â chofnodion perthnasol, fel portreadau neu archifau.

Mae ein tîm o wirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur yn defnyddio’r Bywgraffiadur i greu erthyglau Wikipedia ar gyfer y bobl, fel bod gennymi bob pwrpas, ddau fersiwn o bob erthygl – un yn gofnod hanesyddol wedi’i adolygu a’i reoli’n ofalus gan arbenigwyr, a’r llall yn gofnod cymunedol a reolir gan bawb, erthygl sy’n esblygu’n gyson y gall unrhyw un gyfrannu ati a’i hailddefnyddio at unrhyw bwrpas.

Yn dilyn lansiad gwefan newydd y Bywgraffiadur llynedd, llwyddom i sicrhau cyllid i weithio gyda datblygwyr i ychwanegu nodwedd newydd a chyffrous. Gan ddefnyddio’r data cyfoethog o Wikidata, a miloedd o ddelweddau digidol o gasgliadau’r Llyfrgell, rydym yn datblygu llinell amser rhyngweithiol fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio pob un o’r 5000 person yn y geiriadur yn gronolegol. Cliciwch ar berson yn y llinell amser a gallwch weld y cofnod Bywgraffiadur perthnasol a’r erthygl Wikipedia.

Yn fwy na hynny, bydd y llinell amser yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo’r cofnodion yn seiliedig ar ble cawsant eu geni, lle cawsant eu haddysgu, eu galwedigaeth a mwy. A gellir defnyddio’r hidlwyr yma mewn cyfuniad, felly os hoffech chi weld yr holl bêl-droedwyr a anwyd yn Aberdâr yn unig, mae hynny’n iawn! Mae’r Llyfrgell hefyd wedi curadu llinell amser o ddigwyddiadau pwysig yn hanes Cymru y gellir ei gweld dros y linell amser i roi mwy o gyd-destun i fywydau’r bobl hyn.

Bydd y lefel hyn o ryngweithio ac addasu yn helpu i ddod â’r Bywgraffiadur Cymraeg yn fyw. Bydd yn haws nag erioed i chwilio a darganfod bywydau ein dinasyddion pwysicaf – y bobl a helpodd i lunio stori Cymru.

Dylai’r llinell amser fod yn fyw cyn diwedd y flwyddyn.

Jason Evans

Wicimediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , ,

Prosiect WiciLlên

Collections / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 10-09-2019

Rhannu data a gwybodaeth am lenyddiaeth Gymraeg gyda’r byd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Menter Iaith Môn am yr ail dro, wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect WiciLlên, er mwyn cyflwyno prosiect uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar rannu gwybodaeth yn agored am lenyddiaeth Cymru ar brosiectau Wikimedia.

Bydd y prosiect yn cynnwys dau brif linyn. Yn gyntaf, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau rhannu set data enfawr o’r holl lyfrau o ddiddordeb Cymreig a gyhoeddwyd erioed yng Nghymru. Mae’r set data hwn yn cynnwys gwybodaeth am bron i hanner miliwn o lyfrau.

Fel rhan o brosiect WiciLlên bydd y 50,000 cyntaf o’r cofnodion hynny’n cael eu cyfoethogi a’u rhannu fel data agored cysylltiedig ar Wikidata. Bydd modd chwilio’r data a’i ailddefnyddio mewn nifer o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a’r gobaith yw y gellir defnyddio hwn i wella dyfyniadau ar Wicipedia a chreu cyfleoedd i ddatblygwyr ac ymchwilwyr sy’n dymuno ail defnyddio’r data.

Bydd ail linyn y prosiect yn canolbwyntio ar wella cynnwys ar y Wicipedia Cymraeg. Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cyflwyno digwyddiad Hacathon a chyfres o olygathonau Wicipedia, tra bod Wicipediwr Preswyl Menter Iaith Môn yn cyflwyno digwyddiadau i blant ysgol o wahanol oedrannau.

Dywedodd Nia Wyn Thomas, sy’n arwain Menter Iaith Môn:  “Braint, fel pob tro, yw cael cydweithio gyda WiciMedia UK a’r Llyfrgell Genedlaethol i gyfoethogi cynnwys agored yn y Gymraeg a hynny drwy ddwylo medrus plant Ynys Môn. Dros gyfnod y cydweithio, rydym yn ymfalchio yn y gwaith sydd wedi ei gyflawni, ac effaith y gwaith ar ddatblygiad cymhwysedd digidol y plant drwy gyfrwng y Gymraeg, bod yn eu hiaith gyntaf, neu yn ail iaith. Gwych hefyd ydi dylanwad y gwaith ar ddatblygiad y Gymraeg mewn maes, lle nad ydy’r iaith yn cael ei gweld yn flaengar bob tro.”

Mae’r prosiect eisoes wedi cychwyn a bydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2020.

Jason Evans

Wicipediwr Cenedlaethol

Tagiau: , , , , ,

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog