Blog - Heb ei gategoreiddio

Ie neu Na?

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 28-02-2022

Mae’n anodd credu bod 1997 yn 25 mlynedd yn ol, ond roedd sgwrs y llynedd wedi fy atgoffa bod hi’n agosau i chwarter canrif ers refferendwm datganoli Cymru ar 18 Medi 1997, a dylai’r Archif Wleidyddol Gymreig wneud rhywbeth i nodi’r digwyddiad hanesyddol hwnnw.

Trafodwyd nifer o syniadau, gan gynnwys arddangosfa deithiol ond yn y pen draw, y penderfyniad oedd i ddigido rhan o’n casgliad effemera gwleidyddol yn ymwneud a’r refferenda yn 1979 ac 1997 fel bod y deunydd ar gael yn barahol ar draws Cymru. Yr wythnos diwethaf, aethom ati i baratoi’r deunydd i’w digido.

Roedd mynd twy’r ffeiliau yn dod a nifer o atgofion yn ol ac roedd gweld negeseuon a dadleuon y rhai o blaid ac yn erbyn datganoli yn hynod diddorol.Yn 1979 roedd rhai undebau llafur dylanwadol fel NALGO yn ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau – ond am resymau diddorol iawn. Cred yr undeb oedd bod angen datganoli Loegr yr un pryd a bod angen gwasanaeth sifil annibynnol ar Gymru. Roedd taflen arall yn codi pryderon am derfysgaeth gan ddweud “Bu gan Gogledd Iwerddol Gynulliad ers 1921. A ydych chi am weld hynny yn digwydd yma?” Ar yr un pryd, roedd taflenni’r Comiwmyddion a’r Blaid Lafur yn annog pleidlias Ie (er bod y Blaid Lafur yn rhanedig ar y pwnc), tra roedd y Rhyddfrydwyr wedi atgyfodi David Lloyd George i fod yn rhan o’u hymgyrch o blaid!

 

 

Yn 1997 roedd llawer o’r un dadleuon i’w gweld ond roedd ymgyrch y Blaid Llafur yn llawer mwy unedig gyda Phrif Weinidog Prydain, Tony Blair, yn cymryd rol canolog. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar ddemocratiaeth, y Cynulliad yn arbed arian a gwrthwynebiad y Ceidwadwyr. Aeth yr ymgyrch Na ar ol y costau a’r peryglon o fynd lawr y ffordd tuag at annibynniaeth.

 

 

Dwi ddim yn cofio refferendwm 1979 – roedd mwy o ddiddordeb ‘da fi yn Duplo pryd hynny – ond roedd amgylchiadau a naws yr ymgyrchoedd yn dra gwahanol. Yn 1979 roedd Llywodraeth gwan ar fin colli etholiad wedi cynnal y bleidlais, gyda’r ateb Na yn glir. Yn 1997 roedd llywodraeth Tony Blair yn hynod boblogaidd yng Nghymru, yn meddu ar fwyafrif sylweddol yn Senedd y DU ac yn symud gyda thipyn o fomentwm.

Fodd bynnag, roedd y ganlyniad yn agos iawn, ond y tro hwn yr ymgyrch Ie oedd yn fuddygol. Roedd pennod newydd a chyffrous wedi agor yn hanes Cymru.

Rob Phillips
Yr Archif Wleidyddol Gymreig

Cadwraethwyr yn derbyn hyfforddiant yn Wakefield

Casgliadau / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 21-02-2022

Dros bythefnos ym mis Ionawr teithiodd Rhydian Davies a minnau, cadwraethwyr o dan hyfforddiant y Llyfrgell, i Wakefield. Yno, mynychom fodiwl cadwraeth papur yng Nghanolfan Hanes Gorllewin Swydd Efrog. Rydym hanner ffordd drwy’r hyfforddiant, a dyma flas ar beth a ddysgom yn hanner cyntaf y modiwl.

Trwsio dogfennau gwlyb

Mae gwlychu papur yn ffordd ddefnyddiol iawn i’w ymlacio a golchi baw sy’n gynhenid tu fewn i’r ffibrau er mwyn paratoi i drwsio’r ddogfen. Ond cyn golchi’r ddogfen, rhaid glanhau’r arwyneb. Os na wneir hyn, mae perygl symud baw tu fewn i ffibrau’r papur. Rydym yn defnyddio brwsh meddal i lanhau’r llwch a sbwng latecs awyrog (smoke sponge, aerated latex sponge) i waredu baw mwy styfnig. Fe ddefnyddir dilëwr Staedtler weithiau hefyd.

 

Ar ôl glanhau’r arwyneb mae’r ddogfen yn barod i’w wlychu. Y risg mwyaf gyda gwlychu unrhyw ddogfen yw fod yr inc/cyfryngau’n rhedeg pan mae’n cyffwrdd â’r dŵr. I osgoi trychineb, rydym yn arbrofi’r inc gyda diferyn o ddŵr ac alcohol. Gwelir uchod llun o Rhydian yn gwneud hynny.

 

Mae rhan fwyaf o’r llawysgrifau yn defnyddio inc “iron gall” sydd ddim yn doddadwy mewn dŵr nag alcohol. Mae sêl yn bresennol ar y ddogfen, a gan fod sielac yn doddadwy mewn alcohol ond ddim mewn dŵr, felly fe wlychom y ddogfen mewn dŵr yn unig.

 

Ar ôl ei olchi mewn dŵr, fe drosglwyddom y ddogfen i fwrdd gwydr i ddechrau trwsio. Gan fod y ddogfen mor frau penderfynwyd rhoi papur sidan Japaneaidd (2gsm) dros y cefn i gyd; mae’r papur sidan mor ysgafn a thenau fel nad yw’n cuddio unrhyw eiriau sydd ar y ddogfen.

 

Dyma lun ohonof uchod yn dal y papur sidan Japaneaidd. Gellir ei weld trwyddo’n hawdd, ac ar ôl ei osod ar y ddogfen, mi fydd bron yn anweladwy!

 

Dyma’r ddogfen ar ôl derbyn y papur sidan Japaneaidd dros y cefn, fel y gwelwch o’r llun, mae’r ddogfen llawer mwy sefydlog. Ond nid yw’r papur sidan ar ben ei hun yn ddigon cryf i amddiffyn y ddogfen o niwed mecanyddol. Mae’n ddigon hawdd i’r ddogfen gael ei niwedio yn bellach.

Felly, yn y cam nesaf cawsom gyfle i ddysgu a defnyddio’r dull “leaf casting”. Mae’r dull yma yn defnyddio’r cysyniad o sut mae papur yn cael eu creu yn y lle gyntaf, gan ddefnyddio pwlp papur i lenwi’r ardaloedd sydd ar goll. Mae’r ddogfen yn cael ei roi o dan ddŵr, ac wedi tynnu’r plwg, mae disgyrchiant yn tynnu’r pwlp lawr i’r llefydd sydd angen eu llenwi.

D’oes dim llun gyda ni o’r canlyniad terfynol, gan fod hanner cyntaf y modiwl wedi gorffen ar ôl i ni wneud y cam hyn. Rydym yn dechrau’r ail hanner ar 7 Chwefror, felly bydd llawer mwy i ddweud ar ôl i ni orffen! Ond am y tro, gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen yr erthygl hon.

 

Julian Evans,

Cynorthwyydd Cadwraeth dan Hyfforddiant

E-adnoddau o Lyfrgelloedd Cymru yn y Gymraeg

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 10-01-2022

A oeddech yn gwybod y gallwch fenthyg e-lyfrau, e-lyfrau llafar a chylchgronau yn y Gymraeg drwy aelodaeth eich llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru? Diolch i gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru mae’n bosib cael mynediad i gyfoeth o adnoddau digidol 24/7.

Mae gan y gwasanaeth BorrowBox dros 750 o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar yn y Gymraeg i chi eu lawrlwytho a darllen a gwrando ar eich cyfrifiadur neu’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol. Mae llyfrau ffuglen a ffeithiol ar gael i oedolion a plant, yn cynnwys teitlau buddugol Lleucu Roberts Eisteddfod AmGen 2021, Y Stori Orau a Hannah-Jane; ffuglen drosedd Y Daith Olaf gan Alun Davies a Dan Gamsyniad gan John Alwyn Roberts; a theitlau cyfres Twm Clwyd gan Liz Pichon i blant a phobl ifanc.

 

 

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth yma mae’n rhaid i chi fod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru. Gallwch wedyn bori a benthyg e-lyfrau ac e-lyfrau llafar poblogaidd ar unrhyw ddyfais Apple iOS a Android Google am gyfnodau cyfyngedig. Lawrlwythwch ap Borrowbox o’r App Store neu Google Play.

Mae gwefan ac ap BorrowBox eich llyfrgell bellach ar gael yn y Gymraeg. I newid i’r fersiwn Gymraeg o wefan BorrowBox, ewch i wefan Llyfrgelloedd Cymru ble mae cyfarwyddiadau i’ch helpu. https://llyfrgelloedd.cymru/my-digital-library/borrowbox/

Gallwch hefyd fenthyg cylchgronau digidol yn y Gymraeg drwy wasanaeth Overdrive / Ap Libby eich llyfrgell cyhoeddus. Yn gyfredol, gallwch ddarllen rhifynnau lliw o CARA, Y WAWR a Lingo Newydd yn y Gymraeg. Mae dros 3,000 o gylchgronau poblogaidd bellach ar gael i’w lawrlwytho a’u darllen ar unrhyw ddyfais 24/7.

Y newyddion da yw nad oes gan cylchgronau digidol trwy Libby unrhyw restrau aros neu geisiadau, ac nid ydynt yn cyfrif tuag at nifer eich benthyciadau llyfrgell. Gallwch hefyd eu hadnewyddu’n hawdd. Gall darllenwyr bori a benthyg teitlau yn syth ac yna dechrau darllen am ddim gyda cherdyn llyfrgell dilys. Mae’r gwasanaeth hwn yn gydnaws â’r holl brif gyfrifiaduron a dyfeisiau – iPhone®, iPad®, ffonau a thabledi Android ™ a Chromebook ™.

I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol , lawrlwythwch Libby neu ewch i wefan eich llyfrgell awdurdod lleol. Mwynhewch!

https://llyfrgelloedd.cymru/gwasanaeth-egylchgronau-rb-digital-yn-symud-i-overdrive/

 

Jayne Hughes

Rhaglen Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol

Thomas Jones yr Almanacydd

Casgliadau / Digido / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 27-12-2021

Dyma flwyddyn newydd arall ar y gorwel! Gadewch i ni edrych nôl ar gasgliad y Llyfrgell o almanaciau a’u defnydd gan y Cymry yn y gorffennol. Roedd yr almanaciau hyn yn cynnwys y prif ddyddiadau sioeau a ffeiriau a fyddai’n berthnasol i’r werin i gynllunio eu blwyddyn.

 

 

Thomas Jones (1648?-1713) oedd un o’r ffigyrau amlycaf a fu’n gyfrifol am gyhoeddi ac ysgrifennu almanaciau. Ganwyd ef yn Sir Feirionydd, yn fab i deiliwr. Ar ôl symud i Lundain yn ddyn ifanc i geisio sefydlu ei grefft yno, newidiodd gyrfa i fod yn argraffydd a chyhoeddwr. Erbyn 1693 roedd wedi symud i’r Amwythig a sefydlu yno y wasg Gymraeg gyntaf erioed. Cyhoeddi llyfrau oedd prif waith y wasg ond enillodd enwogrwydd drwy Gymru am gyhoeddi almanaciau. Enillodd Thomas Jones batent brenhinol i’r wasg yn 1679 i gyhoeddi almanac Cymraeg blynyddol, a gwnaeth hynny yn ddi-dor o 1680 tan flwyddyn ei farwolaeth yn 1713. Roedd yr almanaciau yn boblogaidd iawn gyda’r werin a ddefnyddiodd hwy i bwrpas tebyg i’r hyn a wnawn ni heddiw gyda chalendrau a chynllunwyr blynyddol.

Yn yr enghraifft a welir o almanac Thomas Jones, yn ogystal â chalendr, cawn ddisgrifiad byr o dywydd nodweddiadol pob diwrnod o bob mis. Roedd Thomas Jones fel pe bai am rybuddio a diddanu ei ddarllenwyr yr un pryd. Disgrifir rhai o’r diwrnodau yn Ionawr fel rhai gwyntog, eraill yn rhewllyd ac eraill yn lawiog. Mwy o gelfyddyd a ffrwyth dychymyg na gwyddoniaeth hinsawdd! Ond mae Thomas Jones hefyd yn cynnwys proffwydoliaethau niwlog eraill yn yr almanaciau gyda chyfeiriadau at rai o’r cyflyrau dyrys yr oedd yn dioddef ohonynt (dywedir ei fod yn dipyn o “hyperchondriac”!). Roedd yn amlwg fod ei ddarllenwyr wrth eu bodd yn darllen yr almanaciau at ddefnydd ymarferol ond hefyd roedd y cynnwys yn ddihangfa o realiti caled eu bywydau.

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Charlotte Guest a diwylliant y Dwyrain

Casgliadau / Derbynion newydd / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 15-11-2021

Ychydig wythnosau nôl prynodd y Llyfrgell argraffiad cyntaf o “Ta’rikh al-rusul wa’l-maluk” gan Muhammad ibn-Jarir al-Tabari, un o lyfrau hanesyddol mwyaf nodedig y byd Arabaidd clasurol yn ôl yr Encyclopedia Iranica.  Y prif reswm dros brynu’r llyfr oedd bod tudalen gyflwyno i’r Arglwyddes Charlotte Guest oddi wrth yr “Oriental Translation Fund” wedi ei atodi ar dudalen flaen y llyfr.  Dengys hyn y parch a’r edmygedd oedd iddi yng nghylchoedd ysgolheictod ieithoedd y Dwyrain.

 

 

Priododd yr Arglwyddes Charlotte Guest â Josiah John Guest, aelod seneddol Merthyr Tydfil a Meistr Gwaith haearn Dowlais.  Roedd y gwaith haearn yn llewyrchus iawn a thyfodd mewn maint i gyflogi saith mil o bobl – y gwaith haearn mwyaf yn y byd.  Dangosodd yr Arglwyddes Charlotte ddiddordeb mawr yn y gwaith a’r modd roedd y busnes yn cael ei weinyddu o ddydd i ddydd. Cyhoeddodd bamffled yn egluro manylion technegol y defnydd o ffrwydrad poeth. Teithiodd gyda’i gŵr i bob cwr o Brydain ac Ewrop gyda’r busnes gan gyfrannu i gyfarfodydd gyda gwyddonwyr fel Charles Babbage. ‘Roedd ganddi ei hystafell ei hun yn swyddfa’r cwmni yn Llundain. Ar ôl dyddiau ei gŵr, hi fu’n gyfrifol am y gwaith.

Ar ôl dysgu Cymraeg Canol ac astudio hanes Cymru yn y Canol Oesoedd o dan y Parchedigion Evan Jenkin, Thomas Price (Carnhuanawc) a John Jones (“Tegid Jones”) daeth yr Arglwyddes Charlotte yn enwog am gopïo a chyfieithu unarddeg o lyfrau o Lyfr Coch Hergest. Roedd y rhain yn cynnwys pedair cainc y Mabinogi, tair chwedl ramantaidd o gyfnod y Brenin Arthur a phedair stori arall. Cyfieithodd waith y bardd Taliesin o lawysgrif Cymraeg Canol. Ysbrydolwyd hi wrth iddi astudio gweithiau’r cyfnod Rhamantaidd a gwaith William Owen Pughe. Wrth iddi ymchwilio, sylwodd ar ddylanwadau ac ar syniadau mytholegol oedd wedi eu gweu i storiâu’r Mabinogi.

‘Roedd Charlotte Guest yn wraig alluog a medrus.  Meistrolodd Arabeg, Hebraeg a Perseg heb gymorth athro i’w harwain.  Mae’r cyfnod yr ysgrifennir amdano yn “Ta’rik al-rusul wa’l-muluk” yn ymestyn o greu’r byd i gyfnod y Proffwyd Shu’ayb yn Y Corân. Mae’n ddigon posib iddi ddefnyddio delweddau o’r stori i ysbrydoli ei chyfieithiadau o’r Mabinogi a llyfrau eraill. Dyma un o’r gweithiau cyntaf i’w gyhoeddi gan “The Oriental Translation Fund”. Mae’r dudalen gyflwyno yn brawf sicr o’r edmygedd o waith yr Arglwyddes Charlotte Guest.

 

Llyfryddiaeth

1.     John, A., Parry-Wiliams, T. Guest (Schreiber), Lady Charlotte Elizabeth Bertrie (1812-1895), translator, businesswoman and collector. Ar gael ar https://biography.wales/article/s-GUES-ELI-1812#?c=0&m=0&s=0&cv=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F4674585%2Fmanifest.json&xywh=2285%2C1762%2C2101%2C1695 (Edrychwyd 16 Hydref 2021)

2. Bromwich, R. The Mabinogion and Lady Charlotte Guest <https://journals.library.wales/view/1386666/1422443/128>, Trafodion Anrhydeddus Cymdeithas y Cymrodorion, 1986, 127-41

3. John, A. Schreiber [née Bertie; other married name Guest], Lady Charlotte Elizabeth. Ar gael ar  https://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-24832?rskey=aApn10&result=2 (Edrychwyd 16 Hydref 2021)

 

Hywel Lloyd,

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Tachwedd 2021

Y Llyfr Addysgol Cyntaf o’r Môr Tawel

Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 26-04-2021

Tra’n gweithio o adref, mae staff Isadran Datblygu Casgliadau wedi parhau i ychwanegu at gasgliadau’r Llyfrgell.  Un o’r llyfrau mwyaf anarferol a brynwyd yn ddiweddar yw Aritemeti: oia te haapaoraaotetaio e te faa au raa o te numera.  Er gwaethaf ei deitl hir, llyfr bach o 16 tudalen yw hwn, wedi’i rwymo mewn cloriau lledr brith.

 

 

Mae’n debyg taw hwn yw’r testun addysgol cyntaf i’w gyhoeddi yn y Môr Tawel.  Fe’i argraffwyd gan wasg y Windward Mission yn Tahiti yn 1822.  Yr awdur oedd John Davies o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn (1772-1855), a wasanaethodd fel cenhadwr o dan Gymdeithas Genhadol Llundain yn Ynysoedd Môr y Deau am 54 mlynedd.  Mae ei weithiau eraill yn cynnwys gramadeg a geiriadur o iaith Tahiti a chyfieithiadau o Taith y pererin, rhannau helaeth o’r Testament Newydd a’r Salmau, a chatecism Westminster.

Mae’r llyfr yn destun mathemategol sylfaenol sy’n rhestru’r rhifau yn Tahitïeg ac yn dysgu sut i adio, tynnu ymaith, lluosi a rhannu.  Ar y diwedd ceir rhestr o ddigwyddiadau pwysig yn Tahiti o 1606 hyd at 1822.  Mae’r testun yn seiliedig ar argraffiad cynharach a gyhoeddwyd ar ynys Huahine yn yr Ynysoedd Cyferwyntol yn 1819.  Symudwyd gwasg y Windward Mission i Wilk’s Harbour, Papeete, yn Ebrill 1818, a hwn yw un o’r llyfrau cyntaf i’w argraffu yno.  Mae’r Llyfrgell eisoes yn berchen ar gopi o Efengyl Mathew yn Tahitïeg a argraffwyd gan y wasg yn 1820.

Mae’r llyfr bach hwn yn dystiolaeth o ddylanwad cenhadwyr o Gymru ar ochr arall y byd.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Phyllis Kinney. Y gantores o Michigan

Casgliadau / Cerddoriaeth / Collections / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 23-03-2020

Mae bywyd Phyllis Kinney yn daith o America i Aberystwyth, ac o fod yn gantores operatig i fod yn un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Ganed Phyllis Kinney (sydd bellach yn 97 mlwydd oed) ym Mhontiac, Michigan ger Detroit ar 4 Gorffennaf 1922 – diwrnod Annibyniaeth yr UDA. Addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Pontiac ac yna yng Ngholeg Talaith Michigan, East Lansing lle bu’n arbenigo mewn cerddoriaeth gan raddio ym 1943. Cymaint oedd ei thalent lleisiol fel iddi sicrhau cymrodoriaeth yn Ysgol Gerdd Juilliard, Efrog Newydd lle bu’n astudio am dair blynedd. Yn 1947 daeth yn brif soprano gyda chwmni opera Carl Rosa, ac wrth deithio ym Mangor cyfarfu â Meredydd Evans (1919-2015) a ddaeth yn ŵr iddi. Priododd ar 10 Ebrill 1948 a ganed eu merch Eluned yn ystod haf 1949. Treuliwyd eu bywyd priodasol yng Nghymru yn bennaf, ar wahân i gyfnod o wyth mlynedd rhwng 1952 a 1960 a dreuliasant yn America – gyda’i rhieni ym Mhontiac, yn Princeton ac yn Cambridge Mass. Parhaodd â’i gyrfa gerddorol, gan berfformio mewn opera gan y cyfansoddwr Americanaidd Roger Sessions yn Princeton ym 1955, a bu’n dysgu cerddoriaeth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Ar ôl dychwelyd i Gymru cyfrannodd at raglenni adloniant ysgafn y BBC fel cantores, a daeth hefyd yn gyflwynydd ac ymchwilydd arbenigol ar gyfer rhaglenni teledu. Mae ei diddordeb cerddorol yn amrywio o sioeau cerdd Americanaidd i ganeuon gwerin Cymraeg ac mae hi wedi treulio’r ychydig ddegawdau diwethaf yn ymchwilio i lawysgrifau a chyhoeddiadau cerddorol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan a Phrifysgol Bangor. Dyma oedd cefndir ei gwaith nodedig, Welsh Traditional Music (Gwasg Prifysgol Cymru, 2011), sef y llyfr awdurdodol ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru o’r dechrau hyd heddiw. Mae hi hefyd wedi cyfrannu nifer o erthyglau i gyfnodolion (yn enwedig yn ‘Canu Gwerin’ a Hanes Cerddoriaeth Cymru: Welsh Music History) ac wedi cyhoeddi sawl llyfr ar gerddoriaeth werin Gymraeg, a llyfrau caneuon i blant, rhai wedi’u hysgrifennu ar y cyd â Meredydd Evans. Dyfarnwyd gradd M Mus anrhydeddus iddi gan Brifysgol Cymru ym 1991 a daeth yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Bangor ochr yn ochr â’i gŵr ym 1997.

Ceir trysorfa o wybodaeth am gerddoriaeth draddodiadol Cymru ymysg archifau Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a gyflwynwyd fel rhodd hael i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae ffeiliau Phyllis Kinney (dros 30 bocs) yn cynnwys nodiadau manwl, rhestrau a dadansoddiad o alawon, gyda gwybodaeth am gerddorion a chasglwyr cerddoriaeth. Roedd ei dull systematig o weithio, wrth edrych ar rythm, diweddeb, ffurf, harmoni a moddau yn golygu y gallai hi nodi’n hyderus mewn llythyr at y bardd Keith Bosley mai’r mesur gwerin mwyaf poblogaidd yng nghân werin Cymru yw’r ‘trochaic tetrameter quatrain’; ac ysgrifennu erthygl ar y cysylltiad rhwng ‘Migldi Magldi’ a theulu o alawon Gwyddelig / Cymraeg penodol. Dengys ei gohebiaeth ei haelioni wrth ateb ymholiadau a darparu cefnogaeth i fyfyrwyr, ymchwilwyr a cherddorion ledled y byd. Mae’r archif yn adlewyrchu’r modd y cofleidiodd Gymru, ei phobl a’i diwylliant, gan ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl a dyrchafu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig trwy ei hastudiaethau cerddolegol.

Nia Mai Daniel
Rheolwr Rhaglen | Programme Manager
Yr Archif Gerddorol Gymreig | The Welsh Music Archive
@cerddllgc | @MusicNLW

Ach Eisteddfodol

Blas ar waith / Casgliadau / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 08-07-2019

Mae cart achau’r Parch. John Bowen (1747-1835), Caerfaddon (sef NLW MS 24111G), yn bryniad diweddar gan y Llyfrgell Genedlaethol sydd o ddiddordeb ar sawl cyfrif.

Mae’r ach yn gopi wedi ei ddiweddaru, yn llaw John Bowen ei hun, o ach gynharach a luniwyd ym 1608 gan Thomas Jones o Borth-y-Ffynnon, Tregaron, yr enwog Twm Siôn Cati. Fe gomisiynwyd honno gan Robert Bowen o Ballyadams, Swydd Laois, Iwerddon, gor-ŵyr i Owein ap Jenkyn, Ynyspenllwch. Roedd John Bowen yntau yn ddisgynydd o’r un llinach ac wedi ei fagu yng Nghasllwchwr.

Mae saith deg pump o arfbeisiau wedi eu paentio ar yr ach, nid gan Bowen ei hun, mae’n debyg, ond yn hytrach gan arlunydd a gomisiynwyd ganddo. Mae’r arfbeisiau unigol yn hardd ond gyda’i gilydd maent yn creu argraff hynod o drawiadol.

Nodwedd arall sydd yn arbennig o amserol yw’r nodyn a ganlyn ar gychwyn y siart: ‘Examined and confirmed at the Carmarthen Gorsedd July 11th 1819. The Lord Bishop of St Davids President’. Dyma gyfeiriad felly at y cyntaf o’r Eisteddfodau Taleithiol a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 8-10 Gorffennaf 1819, union ddwy ganrif yn ôl. Hon oedd yr eisteddfod gyntaf i’w chysylltu gyda dyfeisiad enwocaf Iolo Morganwg, sef Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Sonier i’r Orsedd gyfarfod yng ngardd Gwesty’r Llwyn Iorwg ar fore Sadwrn, 10 Gorffennaf, er mwyn urddo beirdd, derwyddon ac ofyddion. Roedd John Bowen yn bresennol, a chafodd ei urddo yn ofydd.

Hyd y gwyddom, cart achau John Bowen yw’r unig un i gael ei ardystio gan yr Orsedd yn y fath ffordd. Dogfen unigryw felly.

Rhys M. Jones

Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Sgrin a Sain - Postiwyd 15-05-2019

Gan fod Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn digwydd ar draws y byd heddiw – 15fed Mai – mae Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i dynnu eich sylw at ffilm fer sydd ar gael ar y BFI Player dan y teitl ‘Defending This Country Only Means Attacking Another’. Daw’r teitl o blacard yr Undeb Llw Heddwch a welir yn y ffilm gan Mr J. Fred Phillips, a redai sinema ym Mrynmawr o 1923 hyd 1958. Roedd yn gapten Clwb Golff Sir Fynwy yn Y Fenni, ac roedd yn ŵr i Pollto Williams, a chwaraeodd mewn sawl rownd derfynol cystadlaethau cenedlaethol golff merched yn Llandrindod. Mae placardiau eraill yn nodi credoau’r Undeb: ‘Nid yw Llofruddiaeth Dorfol yn Amddiffyn Rhyddid’ a ‘Mae Heddwch yn Annatod – Rydym yn Ceisio Heddwch ar y Ddaear, Ewyllys Da i BAWB’. Mae placardiau a wnaed â llaw yn dangos tasgiad gwaed ynghyd â’r geiriau ‘Arfau Rhyfel Glyn Ebwy’ yn awgrymu y gallai hon fod yn brotest yn erbyn agor neu weithredu ffatri arfau rhyfel yn yr ardal. Yn ystod yr 1930au bu Cymdeithas y Cyfeillion yn gyfrifol am sefydlu prosiectau i bobl ddi-waith yn ardal Brynmawr (e.e. gwneud esgidiau a chelfi – gweler hefyd y ffilm ‘Eastern Valley’ ar y BFI Player), ond aeth llawer ohonynt i weithio yn ffatrïoedd arfau Glyn Ebwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Neu, o gofio i’r  Undeb fynd ar ymgyrch heddwch o Gaerliwelydd i Lundain yn 1938, tybed ai ymweliad yr ymgyrch honno â Glyn Ebwy a welir yma?

Cliciwch yma i wylio’r ffilm: Defending This Country Only Means Attacking Another (1938)

Sefydlwyd yr Undeb Llw Heddwch yn 1934 gan y Canon Dick Sheppard a fu’n gaplan yn y fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ysgrifennodd lythyr i’r papurau newydd at ddynion (gan fod merched yn gweithredu yn y mudiad heddwch y  barod) yn gofyn iddynt arwyddo llw os oeddent yn gwrthwynebu yr hyn a ymddangosai fel cyffroi rhyfel arall: ‘Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac ni fyddaf yn cefnogi na goddef un arall.’ Roedd wrth ei fodd gyda’r ymateb. Roedd y mudiad yn cynnwys merched ers 1936. Heddiw, yr Undeb Llw Heddwch sy’n cyflenwi’r Pabïau Gwyn a wisgir ar Ddydd y Coffa. Gwisgwyd pabïau o’r fath am y tro cyntaf ar anogiad Urdd Cydweithredol y Merched ar Ddydd y Cadoediad, 1933 (newidiodd Dydd y Cadoediad yn Ddydd y Coffa yn dilyn yr Ail Ryfel Byd). Roedd llawer o’r merched wedi colli eu ceraint yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn anobeithio wrth weld paratoadau at ryfel pellach. Teimlwyd hefyd y dylai’r coffa gynnwys y rhai a ddioddefodd yn y rhyfel y tu allan i’r gwasanaethau milwrol. Mae’r llw heddiw fel a ganlyn: ‘Mae rhyfel yn drosedd yn erbyn dynoliaeth. Rwy’n ymwrthod â rhyfel, ac felly yn benderfynol o beidio a chefnogi rhyfel o unrhyw fath. Rwyf hefyd yn benderfynol o weithio i gael gwared o bob achos dechrau rhyfel’.

Mary Moylett, Catalogydd (Ffilm) Archif Sgrin a Sain

Datrys dirgelwch deugain mlwydd oed

#CaruMapiau / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 14-05-2019

Mae hon yn dipyn o stori dditectif. Yn 1979 derbyniodd y Llyfrgell lungopi o fap bychan o Sir Frycheiniog; ni wyddai’r perchennog ddim am y map a gofynnodd a fyddai modd i’r Llyfrgell ei adnabod. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff y Llyfrgell, a chymorth curaduron mapiau’r Llyfrgell Brydeinig, ni fu modd adnabod yr eitem. Ychwanegwyd y llungopi at y casgliad mapiau, ynghyd â nodyn i ddweud y dylid hysbysu’r perchennog os llwyddid i adnabod y map yn y dyfodol.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yng ngwanwyn 2019, derbyniais neges oddi wrth werthwr mapiau o Sir Benfro o’r enw Berian Williams, a ddanfonodd sgan o fap bychan ataf yn gofyn i mi a fedrwn ei adnabod. Ar y dechrau, roeddwn mewn penbleth, gan nad oedd yn debyg i unrhyw fapiau sirol i mi eu gweld o’r blaen. Yn ôl Mr Williams, roedd y perchennog blaenorol wedi awgrymu y gallai fod wedi tarddu o “The Pocket Tourist & English Atlas” gan Orlando Hodgson a gyhoeddwyd yn 1820; ond nid oedd yr atlas hwnnw’n cynnwys unrhyw fapiau o siroedd Cymru, er bod yr arddull yn ymddangos yn debyg. Soniodd Mr Williams hefyd am erthygl sôn am becyn o gardiau chwarae gan John Allen oedd yn sail ar gyfer mapiau Hodgson, ond eto nid oedd yn cynnwys mapiau o siroedd Cymru.

Dyma pryd y deuthum ar draws y llungopi o 1979. Ar yr olwg gyntaf, ymddangosai mai’r un map ydoedd, ac yn wir wrth ei archwilio’n fanylach daeth yn glir mai yr un copi yn union ydoedd (roedd nifer o staeniau a marciau ar y ddelwedd electronig yn cyd-fynd â’r llungopi). Wedi i mi edrych drwy fy nghyfeirlnodau printiedig roeddwn yn dal mewn penbleth, felly ysgrifenais yn ôl at Mr Williams yn dweud hynny gan ychwanegu y gallai gymryd tipyn o amser i lwyddo i adnabod y map, os fyddai hynny’n bosibl o gwbl.

Yma y gallai’r stori fod wedi cyrraedd ei therfyn; ond dechreuais feddwl am y tebygrwydd i gardiau chwarae Allen, a oedd cysylltiad rhwng y map o Sir Frycheiniog â’r mapiau ym mhecyn cardiau Allen? Penderfynais edrych ar ffynonellau printiedig yn y maes i weld a wnaeth Allen gynhyrchu set arall o gardiau yn cynnwys siroedd Cymru, ond ni welais unrhyw gofnod o set o’r fath. Soniai’r erthygl am gardiau Allen hefyd am argraffiad gan Robert Rowe yr ysgythrwr felly penderfynais ymchwilio i’w waith yntau hefyd. Roedd un ffynhonnell yn nodi i Rowe ysgythru set arall o gardiau chwarae ar gyfer gŵr o’r enw John Fairburn yn 1798, tybed ai dyma darddle y cerdyn?

Penderfynais edrych am unrhyw gyfeirnodau arlein i’r set hon o gardiau gan nad oeddent wedi eu cofnodi yn unrhyw un o’r gweithiau cyfeiriol a welais. O’r diwedd, deuthum ar draws cyfeiriad at gardiau chwarae Fairburn 1798, yn nodi i’r set gynnwys siroedd Cymru ac yn bwysicach roedd modd gweld delweddau o rai o’r cardiau – roeddent yn cydweddu â’r map oedd ganddom. Roedd y dirgelwch wedi ei ddatrys o’r diwedd.

Ond mae tro yng nghynffon y stori dditectif hon. Ar ôl i mi hysbysu Mr Williams am fy narganfyddiad gofynais iddo a fyddai’n rhoi’r map ar werth, gyda’r bwriad o’i brynu ar gyfer ein casgliad. Er mawr syndod i mi, atebodd Mr Williams gan ddweud ei fod wedi penderfynnu rhoi’r map yn rhodd i’r Llyfrgell. Roedd hyn yn anrheg hael dros ben ac rydym yn ddiolchgar iawn i Mr Williams am ei garedigrwydd. Mae’r map hwn nawr wedi ymuno â’r 1.5 miliwn o fapiau sydd yn y Casgliad Mapiau Cenedlaethol yn y Llyfrgell yn rhan o hanes diwylliannol cartograffig Cymru.

Huw Thomas
Curadur Mapiau

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog