Blog - Gwasanaethau Darllenwyr

5 Adnodd i Chwilio Hanes Tŷ

Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 06-08-2018

Bydd y ffynonellau a rhestrir yma o bosib yn cynnwys tystiolaeth o fodolaeth adeilad ac nid o reidrwydd dyddiad yr adeiladwaith gwreiddiol nac ychwaith newidiadau dilynol. Cofiwch yr ail-adeiladwyd tai yn aml ar safle cyfagos gan ddefnyddio’r un enw neu gall adeiladau dilynol ar yr un safle cael ei hail-enwi neu ail-rifo.

1. Mapiau
Cartref i’r casgliad cartograffeg fwyaf yng Nghymru ac un o’r rhai mwyaf ym Mhrydain, mae gan y Llyfrgell ystod eang o fapiau a chynlluniau – Arolwg Ordnans, mapiau hynafiaethol, mapiau ystâd, catalogau arwerthiant, dyluniadau pensaernïol a mapiau a rhestrau pennu degwm. Ceir copïau digidol o’r mapiau a rhestrau pennu degwm a mapiau mwy modern ar wefan Lleoedd Cymru  Gellir chwilio am y mwyafrif drwy ein catalog

2. Cyfrifiad a Chofrestr 1939
Ceir cyfrifiad bob 10 mlynedd ers 1841, heblaw 1941, gan roi ciplun o bwy oedd yn byw mewn adeilad ar adeg y cyfrifiad. Cyfrifiad 1911 yw’r un diweddaraf sydd ar gael, mae Cofrestr 1939 yn rhoi gwybodaeth am drigolion ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Ceir mynediad am ddim i rain o fewn y Llyfrgell trwy Findmypast ag Ancestry.

3. Cofnodion Ystâd
Gall adeilad fod yn haws i’w olrhain os yn rhan o ystâd gan luniwyd cofnodion wrth weinyddu’r ystâd – llyfrau rhent, arolygon, gweithredoedd, morgeisi a phrydlesi. Dylid chwilio’r catalog am wybodaeth ar gyfer daliadau’r Llyfrgell.

4. Gweithiau Print
Ceir manylion pellach am drigolion adeiladau mewn llyfrau hanes lleol, cyfarwyddiaduron, llyfrau tywys a chofrestri etholiadol yn dyddio yn ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan roi cliwiau pwy oedd yn byw ymhle, gellir defnyddio’r wybodaeth ar y cyd â thystiolaeth ddogfennol arall i ddarganfod mwy am y trigolion. Gellir chwilio’r catalog i ddod o hyd i ddaliadau’r Llyfrgell.

5. Papurau Newydd
Mae gan y Llyfrgell gasgliad digidol o bapurau newydd Cymreig ar-lein yn rhad ac am ddim hyd 1919, gall y tudalennau cynnwys mwy o fanylion am drigolion, hanes adeilad ynghyd a hysbysebion a manylion gwerthu eiddo. I ddechrau chwilio ewch i wefan Papurau Newydd Cymru Arlein

Dim ond ychydig o adnoddau yw’r rhain sydd ar gael i’ch helpu i chwilio am hanes t?. Am fwy o wybodaeth cymrwch olwg ar ein taflen Ffynonellau Olrhain Hanes Tai

Beryl Evans
Rheolwr Gwasanaethau Ymchwil ac Ymgysylltu

Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol

Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 07-05-2018

Dydd Sadwrn yma 12fed o Fai cynhelir y pumed Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol yma yn y Llyfrgell. Bydd hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd â diddordeb i ddechrau ar y daith o ymchwilio’u cyndeidiau neu efallai i ymchwilio i hanes t? neu ardal o bwys iddynt. Bydd rhywbeth at ddant pawb yma, gan gynnwys dau siaradwr brwd yn eu meysydd arbenigol – sef Dr Reg Davies, sydd yn cynnal y wefan Morwyr Cymru a Richard Suggett arbenigwr ar hen adeiladau sy’n gweithio i’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru – cofiwch archebu tocyn sydd yn rhad ac am ddim.

Bydd cyfle hefyd i siarad â achyddwyr profiadol o’r Llyfrgell a hefyd y Cymdeithasau Hanes Teulu sirol, fydd yn medru rhoi chi ar ben ffordd. Yr ydym i gyd mwy na thebyg wedi etifeddu casgliadau o ffotograffau dros y blynyddoedd, bydd yna stondin lle allwch gael cyngor ar sut i gadw’r rhain a sut i’w hadfer os mewn cyflwr gwael.

Ceir nifer o gymdeithasau hanes lleol yn bresennol hefyd, gan gynnwys Fforwm Hanes Cymru a Fforwm Hanes Lleol Ceredigion. I gyd-fynd â dathliadau 200 mlynedd ymfudwyr o Geredigion i Ohio, bydd Cymdeithas Cymru-Ohio yma i rannu mwy o wybodaeth am y dathliadau ddiwedd mis Mehefin.

Wrth gwrs mi fydd yn gyfle i rai dod i ymweld â’r Ystafelloedd Darllen hefyd i ehangu eu hymchwil a chael cipolwg ar arddangosfa Kyffin Williams yn Oriel Gregynog. Felly digon i wneud am y diwrnod cyfan.

Llawysgrifau Peniarth bellach ar gael yn ddigidol

Casgliadau / Collections / Digido / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 26-03-2018

Heddiw, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn lansio nifer o Lawysgrifau Peniarth mewn ffurf ddigidol: maent ar gael yma.

Beth sy’n mynd ymlaen?
I nodi 350 mlynedd ers marw Robert Vaughan yn 2017, dechreuodd y Llyfrgell ddigido, o dipyn i beth, bob un o’r 560 llawysgrif sydd yng nghasgliad Peniarth. Dyma’n teyrnged i sefydlydd llyfrgell Hengwrt, a chydnabyddiaeth i’r hyn sydd, wedi’r cyfan, yn cael ei ystyried yn ‘garreg sylfaen’ y Llyfrgell.

Ym mha drefn y byddwch yn digido’r llawysgrifau?
I hwyluso’r sganio, bydd y llawysgrifau’n cael eu digido yn ôl eu maint, gan ddechrau gyda’r cyfrolau lleiaf. Byddant yn cael eu sganio, a’u rhyddhau, mewn grwpiau. Yn y gr?p cyntaf, a ryddheir heddiw (26 Mawrth 2018) y mae
(1) llawysgrifau a ddigidwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf fel ‘trysorau’
(2) ymddangosiad newydd y llawysgrifau lleiaf (‘maint A’), yn nhrefn rifyddol 1-70.

A fydd modd i mi weld pethau a fu, hyd yn hyn, yn guddiedig ar y dail memrwn?
Na fydd. Digidwyd y llawysgrifau i gydraniad uchel, ‘fel ag y maent’, heb addasu’r delweddau, ac wrth wneud hynny, ni wnaethpwyd darganfyddiadau newydd. Mae technegau dadansoddol newydd, megis digido RTI, yn ddibynnol ar adnoddau ychwanegol nad ydynt ar gael yn y Llyfrgell ar hyn o bryd. Felly, rhybuddir darllenwyr llawysgrifau Peniarth y gall testunau fod yn fwy dealladwy a darllenadwy wrth ymgynghori â delweddau meicroffilm (sydd WEDI eu haddasu) yn Ystafell Ddarllen y Llyfrgell!

Beth yw amserlen y digido?
Gan na sicrhawyd cyllid ychwanegol i wneud y gwaith, bydd llawysgrifau’n cael eu digido fel ag y bydd adnoddau yn caniatáu, h.y. o amgylch gwaith prosiect a cheisiadau taledig. Golyga hyn na allwn gynllunio amserlen bendant ar gyfer y prosiect, ac na allwn ddweud pa bryd y bydd delweddau o lawysgrifau penodol yn debygol o ymddangos.

Sut y caf wybod pa bryd y bydd llawysgrif sydd o ddiddordeb i mi ar gael?
Cwestiwn da! Dilynwch drefn rhyddhau delweddau, ac mae’n bosibl y daw patrwm i’r amlwg. Mae croeso i chi hefyd ‘ddangos diddordeb’ trwy gysylltu â’r Llyfrgell. Fe geisiwn wedyn adael i chwi wybod pan fydd eich llawysgrif ar fin cael ei chyhoeddi. Cofiwch y bydd yn rhaid i chi roi caniatâd i ni gadw eich data personol (gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost) wrth wneud hyn.

Oes modd i mi ‘achub y blaen’ trwy ofyn i chi ddigido llawysgrif arbennig ymlaen llaw?
Mae croeso i chi ofyn, ond er tegwch i bawb, mae’n debyg y byddwn yn gofyn i chi dalu am ddigido llawysgrif benodol! Y cyngor gorau gyda’r prosiect hwn yw – ‘byddwch yn amyneddgar. Bydd eich llawysgrif yn si?r o ymddangos yn y man’.

Pa lawysgrifau fydd yn cael eu digido ar ôl casgliad Peniarth?
Newydd da – nid ydym yn debygol o redeg allan o lawysgrifau! Fe ddaw tro casgliadau Llanstephan, Cwrtmawr, Bodewryd ac eraill.

Beth arall sy’n digwydd gyda Llawysgrifau Peniarth?
Catalogir llawer ohonynt o’r newydd gan Dr Daniel Huws ar gyfer ei gyfrol arfaethedig A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes (sydd i ymddangos yn 2019-20). Bydd yr adnodd newydd hwn yn disodli llawer o’n disgrifiadau catalog cyfredol, a golyga y bydd yn rhaid i ni ‘ail-ystyried ein metadata’. Yn y cyfamser, mae ein disgrifiadau catalog cyfredol ar gael yma. Mae croeso i chi gysylltu â ni i rannu eich darganfyddiadau diweddaraf yngl?n â’r llawysgrifau, wrth iddynt ddeillio o’ch ymchwil.

Beth arall sy’n digwydd i lawysgrifau’r Llyfrgell?
Byddwch barod ar gyfer ein tymor Mostyn yn 2018, ac ar gyfer cyfres newydd o ddalennau ar wefan y Llyfrgell ar ein llawysgrifau canol-oesol. Cyhoeddir y rheiny yn ystod y flwyddyn. Cadwch lygaid ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf.

Dr Maredudd ap Huw
Curadur Llawysgrifau

Merched y Wawr yn 50

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 04-09-2017

Eleni, mae pum deg mlynedd wedi pasio ers sefydlu cangen cyntaf Merched Y Wawr yn Y Parc, ger Y Bala. Dros 280 cangen yn ddiweddarach, mae Merched y Wawr bellach yn un o brif fudiadau Cymraeg ei iaith Cymru.

 

Y mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad o bapurau Zonia Bowen, Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf a chyn-Lywydd Anrhydeddus y Mudiad. Roedd Zonia Bowen yn ffigwr blaenllaw yn sefydlu Merched y Wawr ac yng ngweithgaredd y Mudiad hyd at ganol yr 1970au. Mae ei harchif yn cynnwys gohebiaeth a phapurau gweinyddol amrywiol sy’n olrhain hanes a thwf y Mudiad yn ystod y cyfnod cyffrous hwn.

 

Sefydlwyd Merched y Wawr yn Y Parc yn 1967 yn dilyn anfodlonrwydd ymysg aelodau Sefydliad y Merched Y Parc gyda natur uniaith Saesneg y sefydliad ar lefel sirol yng Nghymru. Mae copïau o lythyrau gan Zonia Bowen, Ysgrifennydd y gangen ar y pryd, at y swyddogion sirol yn 1966 yn sôn am siom yr aelodau yn y mater. Wedi ychydig fisoedd, awgrymodd Zonia Bowen wrth aelodau’r Parc y dylid cychwyn Mudiad newydd i ferched Cymru oedd yn rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg. Arweiniodd hyn at sefydliad swyddogol Merched y Wawr ym mis Mai 1967. Aeth y Mudiad o nerth i nerth wedi hyn. O fewn wythnos yr oedd cangen arall wedi’i sefydlu yn Y Ganllwyd, ger Dolgellau a chynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Eisteddfod Y Bala ychydig yn ddiweddarach.

 

Mae olion gweithgaredd y Mudiad yn treiddio nifer o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ceir amryw o ffotograffau o weithgareddau’r Mudiad yng ngogledd Cymru yng nghasgliad y ffotograffydd toreithiog, Geoff Charles. Mae hefyd deunydd ffilm a recordiadau sain ar gael yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhoi cip o rai o gymeriadau’r Mudiad yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Hoffai’r Llyfrgell Genedlaethol ddymuno’n dda i’r Mudiad ar flwyddyn dathlu’r aur. Yr ydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau’r Mudiad yma i’r Llyfrgell ym mis Medi fel rhan o weithgaredd y penwythnos preswyl yn Aberystwyth.

 

Rhian James

 

Casgliadau Unigryw

Codau mewn Cerddoriaeth

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 29-05-2017

Mae defnydd helaeth o godau, symbolau a seiffrau wedi ei wneud gan gerddorion ar hyd y blynyddoedd.

 

Mae’n hysbys bod rhai o weithiau Mozart yn llawn symbolaeth o fyd y Seiri Rhyddion (gweler The Masonic thread in Mozart gan K. Thomson). Mae’r tair cnoc gan aelod newydd ar ddrws y gyfrinfa i’w clywed yn nodau’r ‘Ffliwt Hud’, er enghraifft. Efallai eich bod hefyd wedi sylwi ar y negeseuon mewn Côd Morse yng ngherddoriaeth Barrington Pheloung yn y gyfres deledu enwog, Inspector Morse.

 

Enghraifft arall o’r defnydd o godau ym myd cerddoriaeth yw’r Parsons Code. Os byddwch yn clywed alaw ddieithr ac yn dymuno darganfod ei theitl, troswch ei nodau cyntaf i Gôd Parsons ac efallai y dowch o hyd i’w theitl yn llyfr Parsons, The directory of tunes and musical themes. Mae’r Cymry’n sefyll i ganu *UDDUD DURDU fel arfer.

 

Mae’r e-adnodd, Oxford Music Online*, yn cynnwys yr erthygl, Cryptography, Musical sy’n sôn am ddiddordeb a gallu sawl cerddor ym maes cryptograffeg, e.e. Schumann ac Elgar, ac yn cyfeirio hefyd at y defnydd a wnaed o allu cerddorion i ddatrys codau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

 

Beth neu bwy yw’r ehedydd yn y gân werin Marwnad yr ehedydd? Os cysylltwch â’r Archif Sgrin a Sain, gallwch drefnu clywed recordiad o drafodaeth ddiddorol rhwng Meredydd Evans a Dei Tomos (30 Ebrill) ar y pwnc. Cofier hefyd bod archif gyfoethog Phyllis a Merêd bellach yng ngofal y Llyfrgell Genedlaethol.

 

Cafwyd sawl enghraifft mewn hanes o godau cerddorol yn cael eu defnyddio i wrthsefyll anghyfiawnder a gormes. Cafodd cloch Eglwys Llangyndeyrn ei defnyddio fel dull o gyfathrebu yn y frwydr i atal y pentref rhag cael ei foddi, â’i sain yn arwydd pwerus i’r trigolion i weithredu. (Gweler llyfr diddorol W.M. Rees, Sefyll yn y Bwlch: brwydr Llangyndeyrn 1960-1965).

 

Defnyddiodd y cyn-gaethferch, Harriet Tubman o Maryland, ganeuon côd a chaneuon mapio i drosglwyddo negeseuon cudd i gaethweision eraill pan oedd yn eu cynorthwyo i ddianc. Gweler Songs of the Underground Railroad.

 

Yn y caneuon hyn, gallai Canaan olygu Canada; Jordan olygu Ohio; a station olygu t? diogel. Roedd y gân, Follow the Drinkin’ Gourd, yn cyfeirio at y ‘Sosban’ sef clwstwr o sêr sy’n eich galluogi i ganfod Seren y Gogledd. Y seren hon fyddai’n cyfeirio’r caethweision i daleithiau’r Gogledd, i Ganada ac i ryddid. (Cliciwch ar y map isod a phwyswch “i” am fwy o wybodaeth).

 

Pan oedd yn amser rhybuddio caethwas i fod yn barod i ddianc, y gân a genid oedd Sweet chariot – un o hoff ganeuon Harriet.

 

Am fwy o fanylion, gweler llyfr gafaelgar E. Olwen Jones, Caneuon y caethwas.

 

Heini Davies

Llyfrgellydd Cynorthwyol

 

 

*Gellir cael mynediad i ‘Oxford Music Online’ os oes gennych docyn darllen, neu os nad oes gennych un gallwch gofrestru yma.

Taith sinematig Gymreig drwy bapurau newydd ar-lein y Llyfrgell

Casgliadau / Collections / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 24-04-2017

Wrth ddarllen y rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Empire, darllenais erthygl ar sut collodd “Citizen Kane” allan i “How Green Was My Valley” ar gyfer y wobr ffilm orau yn seremoni’r Oscars 1942. Wrth ddarllen yr erthygl, dechreuais feddwl am ffilmiau Cymreig eraill, a penderfynais chwilio am rhagor o erthyglau diddorol yng nghasgliad papurau newydd ar-lein y Llyfrgell. (*Er mwyn cael mynediad i’r adnoddau hyn o’r tu allan i adeilad y Llyfrgell bydd rhaid defnyddio eich tocyn darllen. Os nad oes gennych docyn darllen gallwch gofrestru ar-lein yn hawdd iawn yma).

 

Dechreuais drwy chwilio am adroddiad i seremoni’r Oscars yn 1942, a darganfyddais hwn yn y Telegraph Historical Archive:

 

The Telegraph Historical Archive, 1855-2000

 

Fel y gwelwch, mae’n wahanol iawn i’r hysteria a welir yn ystod y seremoniau y dyddiau hyn. I fod yn deg, roedd materion pwysicach ganddynt i adrodd amdanynt ar y pryd!

Ar ôl darllen am yr Academi, penderfynais chwilio nesaf am “Hedd Wyn”, y ffilm iaith Gymraeg gyntaf i’w henwebu. Darganfyddais drwy ddarllen yr erthygl hon yn Y Guardian fod bwrdd yr Academi yn hollol anwybodol o fodolaeth yr iaith Gymraeg. Dewiswyd y ffilm, ond dim ond ar ôl anfon geiriadur Cymraeg-Saesneg iddynt fel prawf fod Cymraeg yn bodoli!

ProQuest Historical Newspapers (Guardian & The Observer)

 

 

Gofynnwch i unrhyw un a oedd yn ei arddegau yng Nghymru yn niwedd y 90au i enwi ffilm Gymreig, a dwi’n si?r yr un ateb byddai pawb yn rhoi: Twin Town. Mae siwrne ddinistriol yr efeilliaid Lewis ar draws Abertawe yn parhau i fod yn ffefryn, ond nid oedd pawb yn hoff o’r ffilm. Er syndod i mi, darganfyddais yr erthygl hon yn y Sunday Times lle mae’n rhoi sylw i bobl oedd am wahardd y ffilm gan y teimlont ei fod yn anfoesol.

 

The Sunday Times Digital Archive 1822-2006

 

Daeth “Twin Town” allan yn ystod cyfnod Cool Cymru . Yn aros gyda’r thema honno, yn ddiweddar, mae’r cerddor aml dalentog Gruff Rhys o’r Super Furry Animals wedi ychwanegu ffilmiau i’w ‘repertoire’. Mae ei ffilm ddiweddaraf, “American Interior”, yn olrhain hanes gwas fferm 22 mlwydd oed o Eryri a deithiodd i America yn 1792 i chwilio am lwyth Americanaidd Brodorol chwedlonol o’r enw Madogwys a oedd yn siarad Cymraeg. Mae’n stori ddiddorol tu hwnt, ac roedd yn wych i ddarganfod bod Gruff wedi defnyddio archifau’r Llyfrgell Genedlaethol wrth ymchwilio ar gyfer y ffilm.

Newsbank

 

 

Wrth gwrs, ni allwn i ysgrifennu’r blog yma heb sôn am ffilm “Y Llyfrgell”!

Newsbank

 

 

Fel y gwelwch, mae’r papurau newydd ar-lein yn cynnig ystod eang o wybodaeth i ddefnyddwyr. Hefyd, os ydw i wedi rhoi’r awydd i chi wylio unrhyw un o’r ffilmiau Cymreig gwych yma, cofiwch eu bod nhw ar gael i’w gweld gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ac hefyd i’w prynu o siop y Llyfrgell.

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Statista: o drenau hwyr i lefydd gwyliau!

Casgliadau / Gwasanaethau Darllenwyr / Ymchwil - Postiwyd 24-10-2016

Ydych chi wedi danto’n llwyr ar drenau sy’n hwyr neu wedi’u canslo? A pa mor aml mae hynny’n digwydd i chi? Mae nifer o setiau diddorol o ystadegau i’w cael ar Statista. (*Er mwyn cael mynediad i Statista tu allan adeilad y Llyfrgell bydd rhaid defnyddio eich tocyn darllen. Os nad oes gennych docyn darllen gallwch gofrestru ar-lein yn hawdd iawn yma. Ar ôl dewis Statista cliciwch ar Login ac i lawr i Campus access a dewis National Library of Wales er mwyn logio i fewn am y tro cyntaf).

 

Gallwch weld sut mae Arriva Trains Wales yn gwneud o ran cadw at eu hamseroedd:

 

Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am Drenau Arriva Cymru tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

A tybed sut mae Arriva yn cymharu â chwmniau eraill yn y DG?

Ddim yn ffôl o gwbl!

Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am gwmniau trenau tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

 

Wel mae’n bosib bod trenau Arriva braidd yn hen ond ydyn nhw’n heneiddio?

 

Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am oedran stoc Trenau Arriva Cymru tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

Efallai mai dyna pam bod mwy o bobl yn berchen ar un o’r rhain yng Nghymru nag erioed o’r blaen:

 

Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am berchnogaeth ceir yng Nghymru tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

I’r rhai ohonoch sydd wedi meddwl cyrraedd pen eich taith ar gefn beic:

 

Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am ddwyn beiciau yng Nghymru a Lloegr tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

Gofalwch rag twrisiaid! Maen nhw ar gynnydd yng Nghymru hefyd.

 

Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am ymweliadau twristiaid â Chymru tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

Sydd ddim yn beth gwael i’r economi:

 


Er mwyn gweld y graff yma ar Statista am wariant gan dwristiaid yng Nghymru tu allan adeilad y Llyfrgell cofrestwch am docyn darllen (gweler * uchod).

 

 

Robert Lacey

Pennaeth Isadran Datblygu Casgliadau

E-Adnoddau’r Llyfrgell

Casgliadau / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 26-09-2016

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn prynu mynediad i e-adnoddau ers mwy na phymtheg mlynedd bellach. Un o’r cynharaf inni gynnig oedd Early English Books Online sydd, er gwaetha’r enw, hefyd yn cynnwys pob llyfr Cymraeg o Yny lhyvyr hwnn  yn 1546 hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.

 

Mae casgliadau papurau newydd yn boblogaidd, ac yn cael defnydd uchel gan ddefnyddwyr i  wneud ymchwil ar hanes, cymdeithas, hanes teulu a nifer o bynciau eraill. Ym mhlith y teitlau gwahanol sydd gan y Llyfrgell mae Y Faner, The Guardian, The Daily Mail a The Times.

 

Adnodd poblogaidd arall yw JSTOR sydd yn cynnwys rhediadau o gyfnodolion ysgolheigaidd ar bob pwnc dan haul.

 

Un o’r ystyriaethau wrth gynnig adnoddau fel hyn i ddefnyddwyr yw bod digon o amrywiaeth o ran pwnc a lefel diddordeb. Mae rhai o’r adnoddau fel CREDO a Encylopedia Britannica yn cyflwyno gwybodaeth gyffredinol sydd yn addas i lawer iawn o bobl. Mae eraill fel British Standards Online yn cynnig gwybodaeth arbenigol i rai ym myd busnes, adeiladu, diwydiant a llywodraeth ganolog a lleol. Adnodd tebyg ei rychwant yw Statista sydd yn cynnig pob math o ystadegau rhyngwladol ym mhob math o sectorau. Mae’n bwysig bod y Llyfrgell yn cynnig mynediad o bell i gymaint o’r adnoddau hyn â phosibl er mwyn cyrraedd cyfran uchel o boblogaeth Cymru. Nid yw’r adnoddau hyn yn rhad ac mae cyfyngu mynediad i boblogaeth Cymru yn unig yn ffordd o gadw’r gost yn fforddadwy. Er gwaethaf hynny, mae rhai adnoddau penodol y mae rhaid i’r defnyddwyr ddod i’r Llyfrgell i’w gweld. Mae’r rhain yn cynnwys Ancestry a Find My Past.

 

Mae’n bwysig bod yr adnoddau hyn yn cael eu defnyddio, felly os oes gennych gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch, da chi!

 

 

Robert Lacey

Pennaeth Isadran Datblygu Casgliadau.

 

140 o flynyddoedd o wybodaeth . . . Tîm Ymholiadau y Llyfrgell

Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 12-09-2016

Mae lleoliad y Llyfrgell yn Aberystwyth yn golygu nad yw pawb yn gallu ymweld â ni i gael mynediad i’r casgliadau, felly mae cynnig Gwasanaeth Ymholiadau safonol ar gyfer y rheiny sydd am gysylltu o bell yn hanfodol.  Fel rheolwr Gwasanaeth Ymholiadau’r Llyfrgell rwy’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod i a’r tîm yn cynnig llwybr gwerthfawr i ddefnyddwyr darganfod gwybodaeth am gasgliadau’r Llyfrgell a’r cyfoeth anhygoel o wybodaeth sydd yn y casgliadau, boed rheiny’n bobl sy’n byw ar ochr arall y byd neu lawr y ffordd yn Aberystwyth.

 

Y tîm ymholiadau yw asgwrn cefn y gwasanaeth ac maent yn ateb tua thri chwarter o’r ymholiadau sy’n cyrraedd y Llyfrgell. Mae yna gyfoeth o wybodaeth ymysg y tîm – yn eu plith mae arbenigwyr archifau, llawysgrifau, mapiau, ffotograffau a phapurau newydd – ac mae cyfanswm o 140 o flynyddoedd o brofiad ganddynt.

 

image2

 

Mewn mis, rydym yn derbyn  350 o ymholiadau ar gyfartaledd, ar amrywiaeth helaeth o bynciau megis hanes teulu, hanes lleol a gwybodaeth fywgraffyddol, yn ogystal â cheisiadau am ddelweddau ar gyfer defnydd masnachol.  Mae’r Gwasanaeth yn gallu darparu’r copïau hyn, mewn amryw o fformatau, a’u trwyddedu, ynghyd â darparu copïau i ymchwilwyr ar gyfer defnydd personol.

 

Daw ein hymholiadau o bedwar ban byd, mae nifer helaeth yn ein cyrraedd o Gymru a gweddill Ynysoedd Prydain, ond rydym yn aml yn derbyn ymholiadau o wledydd Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada, Seland Newydd, Awstralia, Tsiena, Siapan, Iran, Irac, yr Aifft a Brasil.  Bu hyd yn oed achlysur pan ddaeth ymholiad o Alaska!  Cysylltodd teulu oedd methu gadael eu t? am wythnos oherwydd eira mawr ac wedi penderfynu anfon ymholiad am ein casgliadau er mwyn pasio’r amser! Rydym wir yn gyswllt rhwng y Llyfrgell a’r Byd!

 

Mae croeso i chi gysylltu â thîm y Gwasanaeth Ymholiadau trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein, ar ebost (gofyn@llgc.org.uk), dros y ffôn (01970 632933) neu trwy lythyr.

 

Iwan ap Dafydd (Rheolwr Ymholiadau a Chydlynydd e-adnoddau)

“Mae digideiddio wedi gwneud gwahaniaeth mawr…byddai darllen cannoedd o bapurau newydd yn cymryd llawer o amser”

Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 26-05-2016

Yng ngeiriau cân y Manic Street Preachers, rhoddodd llyfrgelloedd bwer i ni, ond beth sy’n digwydd yn wirioneddol y tu ôl i’r silffoedd llyfrau ym mhwerdy diwylliannol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

O nofelwyr i achyddion, myfyrwyr PhD a beirdd, siaradom â rhai o ddarllenwyr niferus ac amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gael gwybod beth a wnânt y tu ôl i’r silffoedd llyfrau.

Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru a chynhyrchydd, cyfarwyddwr a chyflwynydd teledu.

“Ar hyn o bryd dw i’n gweithio ar lyfr seiliedig ar adnodd unigryw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; casgliad helaethaf y byd o lythyrau yn Gymraeg,  wedi’u hysgrifennu yn rhan gynta’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae casgliad diddorol iawn o tua 60 o lythyrau wedi’u hysgrifennu gan Gapten Dafydd Jones o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ladd yng Nghoedwig Mametz.

Mae’r llyfr a ysgrifennaf yn rhannol ffeithiol, hanesyddol ac yn rhannol fel ymateb personol a llyfr taith, gan fy mod yn ymweld â’r holl leoedd yr aeth Capten Jones iddynt a’u disgrifio yn ei lythyrau, gan ddechrau mewn gwesty yn y Rhyl, un o’r lleoedd y codwyd bataliynau Cymreig a’u hyfforddi. Yn ei lythyrau cyntaf mae’n ymddiheuro i’w rieni am adael ei radd ym Mhrifysgol Aberystwyth i ymuno â’r Fyddin, ond dyna wnaeth y rhan fwyaf o’i gyfoeswyr ar y pryd. Dw i tua hanner ffordd trwy’r daith a’r ail hanner fydd y daith i’r Somme. Nid yw ymchwilio i’r lleoliadau yn dasg gwbl hawdd gan fod sensoriaeth i’r llythyrau yn golygu bod llawer o’r union leoliadau wedi cael eu tynnu allan.

“Y tro cyntaf i mi ddod ar draws y llythyrau oedd pan oeddwn yn gweithio ar raglen i S4C yn 2008 o’r enw ‘Lleisiau o’r rhyfel mawr’” a gwelais bod y llythyrau hyn yn un o gasgliadau helaethaf y cyfnod.

“Mae ymchwilio a galw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth wastad yn ddiddorol, a dw i wedi gwneud llawer o waith yno yn y gorffennol gan ddefnyddio’r archif sgrîn wrth ymchwilio i’r ffilm gyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr. Fodd bynnag mae’n rhaid i mi ddweud ers digideiddio a chael yr adnoddau yno ar-lein yn ddiweddar, mae’r broses fynediad yn haws o lawer. Nid yn unig mae’n golygu nad oes rhaid i mi deithio i lawr o Gaernarfon, ond mae’r cyfleuster chwilotair yn golygu nad oes rhaid i mi dyrchu’n gorfforol trwy gannoedd o gopïau o’r Carmarthen Journal yno i ddod o hyd i enw’r Capten Jones, a fyddai’n cymryd llawer iawn o amser.”

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog