Blog - Digido

Datgelu’r Gwrthrychau: Cerddoriaeth

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 17-08-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cerddoriaeth wedi’i gyhoeddi sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Ann Griffiths (golygwyd gan Thomas Charles) – Casgliad o Hymnau: gan mwyaf heb erioed eu hargraffu o’r blaen (1806)

Cofir am Ann Griffiths fel bardd a lluniwr emynau. Mae ei chyfansoddiadau’n garreg filltiroedd pwysig yn hanes llenyddiaeth menywod. Yn y gyfrol hon ceir cofnod o’i gwaith cynharaf. Roedd Griffiths yn aelod ymroddgar o’r Gymdeithas Fethodistaidd a cheir cofnod o’i phrofiadau ysbrydol yn ei hemynau. Fel rhan o’r gred Fethodistaidd, anogwyd aelodau i ddatblygu perthynas personol â Duw a thrafodwyd y profiad hwnnw yn y seiat. Fe ysbrydolwyd Ann Griffiths gan ieithwedd ddwys y seiat, ynghyd a barddoniaeth werinol. Rhaid cofio mai cyfansoddwraig lafar ydoedd ac ni luniwyd ei hemynau ar gyfer dibenion cynulleidfaol. Er hynny, dysgodd ei morwyn, Ruth, ei gwaith ar gof a’u hadrodd yn y pendraw i’w g?r – y pregethwr nodedig John Hughes. Cofnododd yntau gweithiau Ann Griffiths. Golygwyd ‘Casgliad o Hymnau’ gan Thomas Charles o’r Bala.

John Roberts (Ieuan Gwyllt) – Llyfr Tonau Cynulleidfaol (1859)

Roedd John Roberts yn weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ac yn gerddor nodedig. Ystyrir ei gyhoeddiad ‘Llyfr Tonau Cynulleidfaol’ yn garreg filltir allweddol yn natblygiad canu cynulleidfaol yng Nghymru. Gweithiodd yn ddiwyd am chwe blynedd ar y gyfrol cyn iddi gael ei chyhoeddi ym 1859.

John Owen (Owain Alaw) – Gems of Welsh Melody (1860)

Cerddor gwobrwyol oedd John Owen, neu Owain Alaw. Casgliad cynhwysfawr o ddarnau cerddorol poblogaidd a geir yn ei gyfrol ‘Gems of Welsh Melody’. Lledaenwyd y casgliad yn eang a bu’n adnodd defnyddiol iawn i lawer. Gellir canfod clasuron megis ‘Hên Wlad fy Nhadau’ ac ‘Ar hyd y Nos’ yn y casgliad.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Llyfrau Hanes

Casgliadau / Digido - Postiwyd 10-08-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llyfrau hanes sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Theophilius Jones – A History of the County of Brecknock (1805)

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cyhoeddwyd amryw o destunau cynhwysfawr ar hanesion lleol yng Nghymru. Y mae’r gyfrol hon gan Theophilus Jones ymhlith y cofnodion mwyaf cywrain a chaboledig. Ar y cyfan, y mae’r cyfanwaith o safon ysgolheigaidd, er i ragfarnau amlwg dreiddio i’w gynnwys. Roedd Theophilus Jones yn ?yr i’r hanesydd nodedig Theophilus Evans.

Thomas Price (Carnhuanawc) – Hanes Cymru, a chenedl y Cymry, o’r cynoesoedd hyd at farwolaeth Llewelyn Ap Gruffydd : ynghyd a rhai cofiaint perthynol i’r amseroedd o’r pryd hynny i waered (1842)

Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymroddodd ysgolheigion Ewropeaidd (clerigwyr yn bennaf) eu hamser i gofnodi hanes a diwylliant cenhedloedd bychain a difreintiedig. Yng nghyd-destun Cymru, Carnhuanawc yw’r enghraifft amlycaf. Fe’i hysbrydolwyd yn bennaf gan Herder, athronydd Almaeneg, a fagodd enwogrwydd wrth ddadlau dros werth ac arwyddocâd diwylliannau bychain. Roedd y ddau’n rhannu’r un gred bod diwylliannau o’r fath yn cael eu gwarchod a’u cynnal gan haenau is, niferus, ond materol dlotach y gymdeithas. Ystyrir ‘Hanes Cymru’ fel prif gampwaith Carnhuanawc. Rhannwyd y gwaith yn bedwar cyfrol ar ddeg a chyhoeddwyd hwy rhwng 1836 a 1842. Rhaid nodi nad oedd gan Carnhuanawc afael gadarn ar ddyletswyddau’r hanesydd proffesiynol, serch hynny, ni fyddai gwaith cyfatebol i ‘Hanes Cymru’ yn ymddangos am rai blynyddoedd.

Jane Williams (Ysgafell) – A History of Wales derived from authentic sources (1869)

Ganwyd yr awdur a’r hanesydd Jane Williams yn Llundain. Treuliodd cyfnod o’i bywyd yn Aberhonddu, ac o ganlyniad, datblygodd cyfeillgarwch rhyngddi hi a’r noddwr diwylliannol enwog Augusta Hall, neu Arglwyddes Llanofer. Wedi hynny, magodd Jane Williams ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a dysgodd yr iaith. Cyhoeddodd lawer o gyfrolau pwysig, gan gynnwys ‘A History of Wales derived from authentic sources’ (1869). Yn y gyfrol honno ceir casgliad o’i gwaith mwyaf uchelgeisiol, ac er gwaethaf ei ddiffygion, ni ddisodlwyd ei gynnwys tan gyhoeddiad holl arwyddocaol Syr John Edward Lloyd ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

John Edward Lloyd – A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (1911)

Cofir am John Edward Lloyd fel un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru. Fe’i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a llwyddodd i ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Goleg Lincoln, Rhydychen ym 1883.  Dilynodd gyrfa yn y maes academaidd – penodwyd ef yn ddarlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1885 ac yn Athro Hanes yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ym 1899. Arbenigwr yn y cyfnod canoloesol ydoedd ac fe ysgrifennodd testunau cynhwysfawr ar hanes cynnar Cymru. Cyhoeddwyd ei gampwaith enwocaf: ‘A History of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest’ ar ffurf dwy gyfrol ym 1911. Roedd eu cynnwys yn unigryw oblegid fe’u lluniwyd drwy asesiadau beirniadol ac ymchwil wyddonol drylwyr. Ystyrir hwy heddiw fel trobwyntiau allweddol ym maes astudio Hanes Cymru. Cydnabuwyd ei gyfrolau fel gweithiau awdurdodol allweddol. Nid yw’n syndod felly bod rhai ysgolheigion wedi, ac yn cyfeirio at Syr John Edward Lloyd fel ‘tad’ astudiaeth Hanes Cymru.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Llyfrau Teithio

Casgliadau / Digido - Postiwyd 03-08-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llyfrau teithio sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido a’u cyfrannu yn sgil y prosiect.

 

Thomas Pennant – A Tour in Wales (1778)

Lluniwyd wyth cyfrol gynhwysfawr ac unigryw o ‘A Tour in Wales’ ar gyfer llyfrgell bersonol Thomas Pennant yn Downing, Sir y Fflint ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Serch hynny, fe luniwyd dwy gyfrol ar gyfer gwerthiant cyhoeddus; argraffwyd un ym 1778, a’r naill ym 1781. Maent yn crynhoi siwrnai Thomas Pennant ar draws Cymru rhwng 1773 a 1776. Ceir darluniau gan artistiaid adnabyddus y cyfnod yn y cyfrolau, gan gynnwys gwaith Moses Griffiths ac Ingleby. Caiff Thomas Pennant ei gydnabod heddiw fel un o brif awduron llyfrau teithio Cymreig y ddeunawfed ganrif.

W. E. Jones (Cawrdaf) – Y bardd, neu, y meudwy Cymreig: yn cynwys teithiau difyr ac addysgiadol y bardd gyda rhagluniaeth (1830)

Argraffydd, awdur a bardd hysbys oedd W. E. Jones. Cyflwyna Jones, yn ei gyfrol ryddieithol ramantus ‘Y bardd, neu, y meudwy Cymreig’, lu o ddisgrifiadau dychmygol o deithiau rhyngwladol. Disgrifia’r awdur ei siwrnai ynghyd â lleoliadau penodol. Cydnabuwyd y gwaith yn wreiddiol fel y nofel Gymreig gyntaf, serch hynny erbyn heddiw cytunir nad yw ‘Y bardd, neu, y meudwy Cymreig’ yn meddu ar briodweddau’r nofel.

George Borrow – Wild Wales: its people, language and scenery (1862)

Ganed George Borrow yn Norfolk ym 1803. Milwr oedd ei dad, ac o ganlyniad bu’n rhaid i’w deulu symud ar hyd a lled Prydain. Addysgwyd Borrow yng Nghaeredin a Norwich. Hyfforddwyd ef fel cyfreithiwr, ond yn fuan wedi hynny, trodd at lenyddiaeth greadigol, yn benodol nofelau a llyfrau teithio. Wrth ysgrifennu, manteisiodd ar ei brofiadau personol, yn enwedig ei deithiau niferus ar draws Prydain ac Ewrop. Yn ei gyfrol ‘Wild Wales’ disgrifia Borrow ei gyfnod yn Llangollen yn ystod haf 1854. Crwydrodd ogledd Cymru ar droed, ynghyd â rhannau o’r de: disgrifia’r rhain hefyd yn ‘Wild Wales’. Roedd Borrow yn ieithydd nodedig; medrodd y Gymraeg a dangosodd ddiddordeb penodol yn nharddiad enwau lleoedd Cymru.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Llenyddiaeth Plant

Casgliadau / Digido - Postiwyd 27-07-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llenyddiaeth plant sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Robert Richards – Darlleniadur : sef hyfforddiadau hawdd ac eglur i ddysgu darllain Cymraeg (1820)

Yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif fe ddysgwyd plant yng Nghymru i ddarllen mewn Ysgolion Sul a Chylchynol. Yn y cynulliadau yma, rhoddwyd pwyslais penodol ar allu’r disgyblion i ddarllen a deall y Beibl Cymraeg, a hynny fel y gellid achub eu heneidiau. Dylid ystyried cyfrol sillafu Robert Richards o fewn y cyd-destun yma. Roedd cyfrol Richards ymhlith rhai o’r llyfrau sillafu Cymraeg cynharaf, er nad oedd mewn gwirionedd wedi’i chynllunio na’i fformatio ar gyfer disgyblion o natur ifanc. Y mae teitl llawn y gyfrol yn crynhoi ei phwrpas – ‘Darlleniadur : sef hyfforddiadau hawdd ac eglur i ddysgu darllain Cymraeg wedi eu hamcanu megis silliadur cyntaf i blant : ac yn cynnwys amrywiaeth helaeth o wersi, wedi eu gosod mewn trefn gymmwys i arwain yr ieuangc ym mlaen o râdd i râdd, o hawdd i anhawdd, yn esmwyth ac megis yn ddiarwybod : at yr hyn y’ chwanegwyd hanesion a damhegion, holiadau ac attebion, yngh?d âg amryw bethau eraill angenrhaid i blant eu gwybod’.

O. M. Edwards – Llyfr Del (1906) ac Yr Hwiangerddi (1911)

Roedd O. M. Edwards yn olygydd, awdur, hanesydd ac yn addysgwr nodedig. O’r flwyddyn 1888 ymlaen, cyhoeddodd lawer iawn o lyfrau a chyfnodolion poblogaidd, yn enwedig ym maes hanes a diwylliant Cymru. Gweithiodd fel Athro Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1896 a 1930. Er hynny, parhaodd Edwards i ysgrifennu, golygu a phrawf ddarllen yn ei amser sbâr, weithiau hyd oriau mân y bore. Y mae bron yn amhosib gorbwysleisio cyfraniad O. M. Edwards i Gymru a’i diwylliant, ac yn wir, ymestynnodd ei ddylanwad tu hwnt i ddarlithfa’r brifysgol. Ysgrifennodd nifer o lyfrau plant, gan gynnwys ‘Llyfr Del’ a ‘Yr Hwiangerddi’. Roedd ei gyfrolau’n ddeniadol, yn llawn darluniau, ac yn hawdd eu darllen. Roeddent yn unigryw oblegid y darparent gynnwys priodol ar gyfer eu cynulleidfa ifanc, a hynny am y tro cyntaf yn y Gymraeg.

Hugh Evans – Y Tylwyth Teg (1935)

Awdur nodedig oedd Hugh Evans. Sefydlodd gwasg ei hun yn Lerpwl ym 1897 sef Gwasg y Brython. Ysgrifennodd lyfr poblogaidd i blant sef ‘Y Tylwyth Teg’, ond ni argraffwyd y gwaith tan 1935; wedi marwolaeth Evans. Fe ailgyhoeddwyd y stori ddeniadol hon mewn sawl argraffiad diweddarach.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Llenyddiaeth Gymreig tu hwnt i Gymru

Digido - Postiwyd 20-07-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, llenyddiaeth Gymreig y hwnt i Gymru sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Ellis Pugh – Annerch i’r Cymry iw galw oddiwrth y llawer o bethau at yr un peth angenrheidiol er mwyn cadwedigaeth eu heneidiau (1721)

Ymfudwr a Chrynwr nodedig oedd Ellis Pugh, a ddaeth yn aelod o Eglwys y Cyfeillion (Friends Church) yn ddeunaw oed. Ym 1686 teithiodd yntau, ynghyd â’i deulu a llawer o Gymry eraill, i Bensylfania. Erbyn haf 1686, yr oedd Pugh wedi ymsefydlu yn yr Amerig fel amaethwr a gweinidog. Ar ei ôl, fe adawodd Ellis Pugh waith swmpus ar ffurf llawysgrif, o dan y teitl ‘Annerch ir Cymru’. Cyhoeddwyd y gwaith yn ddiweddarach ym Mhensylfania ym 1721, a chaiff ei gydnabod fel y llyfr Cymraeg cyntaf i’w gyhoeddi yng Ngogledd America. Yn ddigon tebyg i’r sefyllfa yng Nghymru, defnyddiwyd y diwydiant argraffu i ledaenu gwerthoedd a chredoau crefyddol.

Owain Myfyr, William Owen Pughe ac Iolo Morganwg – The Myvyrian archaiology of Wales: collected out of ancient manuscripts (1801-7)

Yn y cyhoeddiadau arwyddocaol hyn ceir cofnod o farddoniaeth Cymraeg a Chymreig cynnar, Brutiau, a Chroniclau. Fe’i cyhoeddwyd mewn tair cyfrol, dau ym 1801, a’r naill ym 1807. Yn ôl rhai ysgolheigion, symbyla hwy ddiwedd cyfnod y llawysgrif yng Nghymru. Owain Myfyr a William Owen Pughe oedd yn bennaf gyfrifol am dynnu’r cyhoeddiadau ynghyd, ond fe’u cynorthwywyd hefyd gan Iolo Morganwg wrth lunio’u cynnwys. Enwyd y cyfrolau serch hynny ar ôl Owain Myfyr, wedi iddo gyfrannu’n hael iawn yn ariannol i’r fenter; mae’n debyg rhwng pedwar a phum mil o bunnoedd. Teithio ar hyd a lled llyfrgelloedd Cymru a wnaeth Iolo Morganwg er mwyn darganfod ystod o ddeunydd i’w cynnwys, a strwythuro’r ffynonellau hynny a wnaeth William Owen Pughe, er mwyn eu paratoi ar gyfer y wasg. Nid oedd y fenter yn hollol lwyddiannus, a chafwyd cryn broblemau wrth drawsysgrifio’r gwaith. Yn ogystal, ni wnaeth yr amheuon cynyddol ynghylch dibynadwyedd gwaith Iolo Morganwg unrhyw gyfiawnder â gwerthiant diweddarach y cyfrolau.

Iolo Morganwg – Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829)

Roedd Edward Williams (Iolo Morganwg) yn fardd, awdur a hynafiaethydd nodedig. Bu’n aelod brwd o gymdeithasau Cymry-Llundain ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac fe effeithiwyd ef yn fawr gan ddatblygiadau diwylliannol a hynafiaethol y cyfnod. Ym 1792, cynhaliodd Iolo gyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn Llundain. Yn ystod yr achlysur hwnnw, cyflwynodd ffurf o dderwyddiaeth, ond fe ddarganfuwyd yn ddiweddarach nad oedd gan y fath gynulliad wreiddiau hanesyddol. Y mae Iolo ymhlith rhai o ffigyrau hanesyddol a llenyddol mwyaf dadleuol Cymru. Fe gyhoeddwyd y gyfrol ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’ ym 1829, tair blynedd wedi marwolaeth yr awdur. Thesis unigryw ydyw ar darddiad y grefft farddonol Cymraeg ac fe arddangosa’r awdur ei afael gadarn ar y pwnc yn y gyfrol. Serch hynny, y mae dychymyg neilltuol Iolo i’w weld yn glir yn ‘Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain’. Gwrthoda’r safonau a ffurfiwyd gan Dafydd ab Edmwnd yn y bymthegfed ganrif, gan gynnig yn eu lle hen fesurau caeth, yn ogystal â rhai newydd. Cefnogodd Iolo ei ddamcaniaethau â ffug enghreifftiau. Yr oedd y rhain yn deillio o waith beirdd hynafol Morgannwg, ac yn nhyb Iolo, yn brawf o ragoriaeth ac awdurdod llenyddol beirdd ei ardal enedigol.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Baledi

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 13-07-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, baledi sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o eitemau fydd yn cael eu cyfrannu yn sgil y prosiect.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif, a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, argraffwyd baledi ar raddfa eang iawn gan y gweisg newydd yng Nghymru. Fe’i gwerthwyd i’r cyhoedd yn aml mewn ffeiri a marchnadoedd, lle y canwyd hwy gan eu gwerthwyr. Roedd cynnwys y faled Gymreig yn medru amrywio. Ymdriniodd rhai â themâu crefyddol a moesol; adroddodd eraill newyddion cyfoes, megis troseddau lleol a chenedlaethol, terfysgoedd neu ddamweiniau diwydiannol; bu hanesion a chwedloniaeth yn destunau poblogaidd ar gyfer baledi hefyd.

Chwaraeodd y faled rhan flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd baledi’n cael eu hargraffu ledled Cymru: mewn 96 o drefi a phentrefi. Prynwyd hwy yn eu miloedd, yn aml iawn gan haenau is y gymdeithas. Denwyd a recriwtiwyd darllenwyr Cymraeg newydd gan faledi oherwydd natur boblogaidd eu cynnwys.

 

Alban Thomas, ‘Cân o senn iw hên feistr Tobacco’, 1718

‘Cân o senn iw hên feistr Tobacco’ oedd y faled cyntaf i’w chyhoeddi gan wasg swyddogol yng Nghymru. Fe’i cyhoeddwyd gan Wasg Isaac Carter yn Nhrefhedyn ym 1718. Trafoda’r faled natur anfoesol tybaco.

Lewis Davies, ‘Pennillion a wnaeth Lewis Davies o Lanrwst, i ffarwelio a’i wlad wrth gychwyn i America’, 18??

Ffarwelio â’i gyd-wladwyr a wna Lewis Llanrwst Davies yn y faled hon, wrth iddo gychwyn ar ei daith i’r Amerig.

Ywain Meirion, ‘Rhyfel-gan, am wrthryfel yr India, a gorchfygu y gelynion, a meddiannau Delhi’, 18??

Cân rhyfel yw’r faled hon. Trafoda Ywain Meirion ymosodiad y Prydeinwyr ar India, wrth iddynt drechu’r ‘gelyn’ gan feddiannu Delhi.

Di-enw, ‘Ymweliad y cholera, ynghyd â galwad ar bawb i ymofyn am gymod â Duw cyn eu symud i’r byd tragwyddol’, 18??

Mae’r faled hon yn cyflwyno dau rybudd i’w darllenwyr ynghylch epidemig y colera yng Nghymru. Fe drafodir perygl y clefyd ei hun ar yr un llaw, ond gelwir hefyd ar bob dioddefwr i gymodi â Duw cyn iddynt symud i’r byd tragwyddol.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: ,

Datgelu’r Gwrthrychau: Dramâu

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 06-07-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect The Rise of Literacy mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, dramâu sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o’r eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Twm o’r Nant (Thomas Edwards), Tri Chryfion Byd, 1789

Roedd Twm o’r Nant (Thomas Edwards) yn ddramodydd nodedig ac yn awdur nifer o anterliwtiau. Ymhlith ei weithiau mwyaf poblogaidd oedd ‘Tri Chryfion Byd’. Personolir tlodi, cariad a marwolaeth yn yr anterliwt ac y maent oll yn pregethu, adrodd, cynghori a sylwebu drwy gydol y ddrama fywiog a ddigri. Fel llawer o weithiau eraill Twm o’r Nant, y mae ‘Tri Chryfion Byd’ yn cynnwys sylwebaeth gymdeithasol.

R. J. Derfel, Brad y Llyfrau Gleision, 1854

Bardd, awdur a sosialydd nodedig oedd R. J. Derfel. Ef oedd awdur y ddrama enwog ‘Brad y Llyfrau Gleision’ sef ei ymatebiad uniongyrchol i adroddiadau addysg 1847. Portreadir Cymru fel gwlad odidog a Duwiol yn y ddrama, ac o’r herwydd, y mae’n lleoliad annioddefol yn llygaid gythreuliaid uffern. Er hynny, maent yn derbyn â hoffter clerigwyr Eglwysig Cymru, gr?p a ddarparodd lawer o dystiolaeth wrth lunio adroddiadau 1847. Wedi cyhoeddiad y Llyfrau Gleision cyhuddwyd rhai clerigwyr o frad, yn bennaf oll gan Anghydffurfwyr teyrngar. Yn ystod yr ail act danfona Beelzebub (tywysog y cythreuliaid) tri archwilydd i Gymru i asesu cyflwr y wlad a’i phobl, nid yn annhebyg i’r tri dirprwy a benodwyd i lunio adroddiadau 1847. Fodd bynnag, cyflawnir y ‘brad’ gan glerigwyr yr Eglwys. Yr oedd rhai o’r farn, gan gynnwys Derfel, bod eu tystiolaeth wedi cynorthwyo, a hyd yn oed bwydo beirniadaethau gwrth Cymreig Llyfrau Gleision 1847. Ysbrydolwyd y ddrama gan chwedl ‘Brad y Cyllyll Hirion’.

Beriah Gwynfe Evans, Chwareu-gan : drama yn null Shakespeare ar “Owain Glyndwr”, 1879

Dramodydd a newyddiadurwr nodedig oedd Beriah Gwynfe Evans. Ysgrifennodd lawer o ddramâu, a oedd fel rheol wedi eu selio ar ddigwyddiad neu ffigyrau hanesyddol. Gwobrwywyd ei ddrama ‘Owain Glyndwr’ yn eisteddfod Llanberis, ac fe dorrodd tir newydd. Mae’n bosib dadlau i’r gwaith ysbrydoli symudiad yn ei faes lenyddol yng Nghymru. Llwyfannwyd fersiwn newydd o’r ddrama yng Nghaernarfon ym 1911 ar gyfer arwisgiad Tywysog Cymru.

Idwal Jones, Pobl yr ymylon: drama bedair act, 1927

Gweithiodd Idwal Jones fel ysgolfeistr, ond yr oedd hefyd yn fardd a dramodydd nodedig. Ystyrir ‘Pobl yr ymylon’ fel ei waith pwysicaf. Archwilia’r ddrama pedair act ystyr parchusrwydd a dadleua’r dramodydd yn erbyn rhai disgwyliadau cymdeithasol.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Datgelu’r Gwrthrychau: Barddoniaeth

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 29-06-2018

Ym mis Hydref eleni bydd y Llyfrgell yn rhannu nifer o eitemau ychwanegol o’i chasgliadau ar Europeana Collections, sef llwyfan ddiwylliannol ddigidol Ewropeaidd. Fel rhan o’r prosiect ‘The Rise of Literacy’ mae’r Llyfrgell yn cydweithio â 12 sefydliad Ewropeaidd er mwyn olrhain datblygiad llythrennedd yn Ewrop. Yn y gyfres flog wythnosol -‘Datgelu’r Gwrthrychau‘, bydd rhai o gyfraniadau’r Llyfrgell yn cael eu datguddio fesul thema.

Yr wythnos hon, cyfrolau’n cynnwys barddoniaeth sy’n mynnu ein sylw. Dyma ddetholiad o’r eitemau fydd yn cael eu digido yn sgil y prosiect.

 

Huw Jones (gol.) – Diddanwch Teuluaidd, 1763

Golygwyd y gyfrol farddonol ‘Diddanwch Teuluaidd’ gan Huw Jones. Casgliad ydoedd o weithiau beirdd mwyaf nodedig Môn, gan gynnwys Goronwy Owen, Lewis Morris, Hugh Hughes ac eraill. Argraffwyd y gyfrol yn Llundain, ond fe’i hailgyhoeddwyd yn ddiweddarach – yng Nghaernarfon ym 1817 ac yn Lerpwl ym 1879.

Roedd Goronwy Owen yn fardd ac yn athro nodedig. Ym 1757 hwyliodd o Lundain i Virginia wedi iddo dderbyn swydd fel athro mewn ysgol ramadeg yn Williamsburgh. Pan oedd yn iau, cyfansoddodd lawer iawn o gampweithiau barddonol. Edmygwyd ei waith gan y genhedlaeth ddilynol o feirdd ac fe efelychwyd Owen gan nifer ohonynt.

Athro barddol enwog oedd Lewis Morris a bu Goronwy Owen yn ddisgybl iddo. Cyfansoddodd nifer o weithiau caeth a rhydd o natur amharchus a chyhoeddwyd nifer ohonynt yn y gyfrol hon.

Roedd Hugh Hughes hefyd yn athro barddol ac yn gyfaill agos i Lewis Morris a’i frodyr. Gellir canfod casgliad o’i gyfansoddiadau yn ‘Diddanwch Teuluaidd’.

John Ceiriog Hughes – Oriau’r hwyr: sef, gweithiau barddonol John Ceiriog Hughes, 1860

Roedd John Ceiriog Hughes yn fardd Cymreig enwog ac ‘Oriau’r hwyr’ oedd ei gyhoeddiad cyntaf. Ymhlith ei hoff themâu oedd natur, serch a gwladgarwch. I gymharu â safonau cyfredol, yr oedd ei gerddi’n hynod sentimental o ran eu cynnwys a’u tôn, ond yn boblogaidd iawn serch hynny yn eu cyfnod. Yn y gyfrol hon, gellir canfod darnau poblogaidd sydd wedi eu hadrodd, eu haddasu’n ganeuon, a’u clywed ar lwyfannau ar draws Cymru am genedlaethau lawer. Ac eithrio’r Beibl, ‘Oriau’r hwyr’ oedd cyfrol fwyaf poblogaidd Cymru, o ran gwerthiant, yn y 1860au. Gwerthwyd 30,000 o gopïau rhwng 1860 a 1872.

Sarah Jane Rees, Caniadau Cranogwen, 1870

Bardd, athrawes a golygydd nodedig oedd Sarah Jane Rees, neu Cranogwen. Enillodd ei gwobr nodedig gyntaf fel bardd yn Eisteddfod Aberystwyth ym 1865 ar y pwnc ‘Y Fodrwy Briodasol’. Casgliad o’i gwaith a geir yn ‘Caniadau Cranogwen’ ac fe gyhoeddwyd y gyfrol ym 1870 ar ôl ei llwyddiannau. Roedd Cranogwen hefyd yn siaradwraig gyhoeddus nodedig, yn bregethwr ac yn ymgyrchydd brwd; daeth yn olygydd ar ‘Y Frythones’ ym 1878, sef cylchgrawn Cymreig yn trafod materion menywod.

Alun Lewis, Raiders’ Dawn and other poems, 1942

Roedd Alun Lewis yn fardd ac yn awdur straeon byrion nodedig. Casgliad o’i waith a geir yn y gyfrol ‘Raiders’ Dawn and other poems’. Lluniwyd y cerddi hyn rhwng 1940 a 1941 pan oedd Lewis yng ngwersyll milwrol Bordon, lle dderbyniodd hyfforddiant milwrol. Ysbrydolwyd y rhan fwyaf o ddelweddau Lewis gan fytholeg Feiblaidd a Groegaidd, ac roedd tuedd ganddo i siapio ei gerddi fel damhegion neu alegorïau. Gwerthwyd yr argraffiadau cyntaf o’r gyfrol yn gyflym tu hwnt ac fe’i hail-argraffwyd chwe gwaith.

Eisiau darllen mwy o gofnodion o’r gyfres hon? Gweler isod:

 

Elen Hâf Jones – Swyddog Prosiectau Mynediad Digidol

Crëwyd y cofnod yma fel rhan o brosiect ‘The Rise of Literacy’, Europeana

Tagiau: , , ,

Casgliad Porteadau Cymru

Casgliadau / Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau - Postiwyd 27-06-2018

4800 o bortreadau Cymraeg wedi cyrraedd Comin Wikimedia a Wikidata.

Dros y 4 mlynedd ddiwethaf mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi gweithio gydag Wikimedia i ddarparu mynediad agored i fwy na 10,000 o ddelweddau parth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys Casgliad Tirlun Cymru, ffotograffau, mapiau a llawysgrifau.

 

Mae’r bartneriaeth hon wedi arwain at fwy na 455 miliwn hits ar erthyglau Wicipedia sy’n cynnwys delweddau’r Llyfrgell Genedlaethol.

 

Delweddau

 

Nawr, mae’r Llyfrgell yn falch o gyhoeddi bod bron i 5000 o bortreadau – printiau, ffotograffau a phaentiadau – wedi’u gosod yn gyhoeddus ar Gomin Wikimedia.

 

Ynghyd â’r delweddau, mae Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol hefyd wedi rhannu metedata cyfoethog ar gyfer pob delwedd fel data agored cysylltiedig ar Wikidata.

 

Prif nod y Llyfrgell wrth ryddhau cynnwys o’r fath yw cynyddu mynediad i’n casgliadau a chyfrannu at greu a rhannu gwybodaeth am Gymru a’i phobl.

 

Erbyn hyn, gobeithir y bydd cymuned Wikimedia yn dechrau defnyddio’r delweddau hyn i ddarlunio erthyglau Wicipedia. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn bwriadu cynnal prosiect i gynyddu ymgysylltiad â’r casgliad hwn, ac mae’n gobeithio y bydd gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i greu erthyglau Wikipedia am yr eisteddwyr, artistiaid, argraffwyr a ffotograffwyr Cymreig sy’n ymwneud â’r casgliad.

 

Oherwydd bod yr holl ddelweddau yma ar gael i lawrlwytho ac yn y parth cyhoeddus, rydym hefyd yn annog eraill i ailddefnyddio’r delweddau hyn at unrhyw ddiben y maent yn ei ddymuno, o addysg i’r diwydiannau creadigol, mae hwn yn adnodd am ddim i bawb.

 

 

Data

Mae creu data cysylltiedig (linked data) ar gyfer y casgliad hefyd yn cynnig cyfleoedd diddorol i ymchwilwyr ac academyddion. Am y tro cyntaf, gallwn ddiamwyso enwau’r artistiaid a’r eisteddwyr er mwyn deall cyfansoddiad y casgliad yn well. Er enghraifft, nodwyd 12 o wahanol unigolion a enwir John Jones yn y casgliad, ac rydym bellach yn gwybod pwy ydynt i gyd, ac erbyn hyn mae llawer wedi eu cysylltu trwy Wikidata i erthyglau Wikipedia neu i’r Bywgraffiadur Cymreig.

 

Gallwn ymholi’r data a’i wneud yn weledol mewn nifer o ffyrdd gan ddefnyddio gwasanaeth holi Sparql. Er enghraifft, gallwn ddadansoddi pa engrafwyr sydd wedi copïo gwaith artistiaid penodol, a gallwn weld y mathau o bobl a ddarlunnir amlaf (clerigwyr, o bell ffordd) a nodweddion, megis Arfbais, ac addurniadau ar ffin y delweddau.

Delwedd sydd yn ymddangos pa argraffwyr sydd wedi copïo gwaith gan arlunwyr penodol

 

Y pethau sy’n cael i ddarlunio fwyaf yn y casgliad

Mae’n hawdd arddangos yn weledol yr eisteddwyr sy’n ymddangos fwyaf yn y delweddau gan ddefnyddio priodwedd ‘Prif bwnc’ yn Wikidata. Thomas Picton, arwr rhyfel a enwyd yng Nghymru, sy’n cael ei ddarlunio amlaf, gyda 32 o bortreadau. Yn ddiddorol mae ei erthygl Wicipedia yn datgelu nad oedd yn arwr mor wych wedi’r cyfan, ar ôl cael ei euogfarnu am gam-drin menywod.

Delwedd sydd yn dangos yr eisteddwyr sydd yn ymddangos yn fwyaf aml

Gallwn hefyd archwilio’r casgliad yn gronolegol ac mae golwg gyntaf yn dangos cydberthynas glir rhwng poblogrwydd rhai mathau o bortread a digwyddiadau hanesyddol. Er enghraifft, mae nifer y delweddau o bregethwyr ac offeiriaid yn cynyddu’n sylweddol ar adegau o adfywiad Crefyddol.

Llinell amser o’r pethau sydd yn ymddangos mwyaf yn y casgliad dros amser

Iaith

Mae Wikidata yn blatfform amlieithog, felly mae hefyd yn ein galluogi i ddefnyddio natur amlieithog y labeli disgrifiadol Wikidata i weld ein data mewn dwsinau o ieithoedd. Roedd y Metadata a gedwir gan y llyfrgell ar gyfer y casgliad hwn ar gael yn Saesneg yn unig, fodd bynnag, trwy ei drosglwyddo i Wikidata roedd 83% o’r 40,000 o eitemau data ar gael yn awtomatig yn Gymraeg, diolch i waith gwirfoddolwyr Wikidata, sydd wedi ychwanegu labeli Cymraeg i lawer o eitemau Wikidata dros y blynyddoedd. Rydym yn gobeithio ymgysylltu â gwirfoddolwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod 100% o’r data ar gael yn Gymraeg.

 

Cysylltu ein treftadaeth

Mantais arall o rannu ein data ar lwyfan cyhoeddus fel Wikidata yw bod llawer o sefydliadau eraill wedi gwneud yr un peth, ac mae hyn yn golygu y gallwn ni ddechrau adeiladu rhwydwaith helaeth o ddata cysylltiedig. Mae’r data yn ein galluogi i gysylltu ein casgliadau ein hunain gyda’i gilydd, er enghraifft, gallwn weld pa gyhoeddwyr sydd wedi cyhoeddi gwaith sydd yn rhan o Gasgliad Portreadau Cymreig ond hefyd y Casgliad Tirwedd Cymru. Rydym hefyd wedi gallu nodi’n gyflym dros 400 o bortreadau o bobl a geir yn y geiriadur Bywgraffiadur Cymreig, ac rydym bellach yn cysylltu’r portreadau hynny i wefan y Bywgraffiad.

Yr holl ddelweddau gan un cyhoeddwr. Mae glas yn nodi delweddau yn Gasgliad Portreadau ac mae melyn yn nodi delweddau gan yr un cyhoeddwr sydd yn rhan o Gasgliad Tirlun Cymru

 

Y tu hwnt i’n sefydliad ein hunain, fe allwn weld pa rai o’n heisteddwyr sydd â phortreadau yn yr Oriel Bortreadau Cenedlaethol, a gallwn adnabod yr artistiaid a’r eisteddwyr yn ein casgliad sydd â chofnod Oxford DNB. Yn y modd hwn, gellir cysylltu treftadaeth ddiwylliannol y byd gyda’i gilydd i ddarparu mynediad hawdd i’r cyhoedd, mewn un lle, i ystod gyfoethog ac amrywiol o ffynonellau.

 

Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol

 

 

Tagiau: , , , , , ,

Papurau Newydd Cymru Arlein – Ysgrifennu ‘Notorious’

Casgliadau / Digido / Heb ei gategoreiddio / Ymchwil - Postiwyd 26-06-2018

Dyma gofnod gwadd gan Anthony Rhys.

Mae croeso i chi gynnig cofnodion i’w hystyried yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Mae’n rhaid i bob cofnod ymwneud â gwaith neu gasgliadau’r Llyfrgell, yr iaith Gymraeg neu Gymru. Rydym yn cadw pob hawl golygu dros unrhyw gofnodion a gyhoeddir. Danfonwch eich cofnodion trwy’r Gwasanaeth Ymholiadau os gwelwch yn dda.

Dwy flynedd yn ôl dechreuais y gwaith ymchwil ar gyfer ysgrifennu hanes dwy stryd yng Nghaerdydd, sef Stryd Charlotte a Lôn Whitmore, ardal enwog am ei phuteindai, ei thafarndai, a’i thai llety. Prosiect celf oedd y gwaith ar y dechrau, ond datblygodd yn gyflym i fod yn llyfr llawn o’r enw ‘Notorious’ sy’n dilyn bywydau tri deg o bobl ar y ddwy stryd hyn dros gyfnod o dri deg mlynedd.

Ni fyddai’r llyfr wedi bodoli oni bai fy mod wedi gallu defnyddio Papurau Newydd Cymru Ar-lein i chwilio am gynifer o enwau a lleoedd dros gyfnod mor eang. Rwy’n amcangyfrif bod 60% o’r ffynonellau a ddefnyddiais ar gyfer y llyfr wedi dod o’r wefan hon.

Ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi adrodd storïau bywydau’r bobl yn y llyfr heb ddefnyddio Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Byddai chwilio â llaw drwy gofnodion ar ficroffish wedi cymryd chwe mis o weithio 9 tan 5 yn ddyddiol. Amhosibl fyddai i rywun sydd hefyd yn gweithio’n feunyddiol ymroi cymaint o’i hamser. Allweddol hefyd oedd y gallu i ddychwelyd at y ffynonellau dro ar ôl tro i ymchwilio enwau a thrywyddion newydd fel y byddent yn dod i’r golwg. Heb fynediad parhaus i wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein ni fyddwn wedi medru adrodd hanesion y bobl hyn.

Anthony Rhys

Blog Anthony Rhys: Two Notorious Cardiff Streets: Charlotte Street and Whitmore Lane 1841-1870

<- Cofnodion Hŷn Cofnodion Newydd ->

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog