Blog - Digido

Cymru yng Nghwpan y Byd

Digido / Gwasanaethau Darllenwyr - Postiwyd 19-12-2022

Ar ôl 64 o flynyddoedd hir, llwyddodd tîm pêl-droed Cymru o’r diwedd i gyraedd eu hail dwrnament Cwpan y Byd, y tro hwn yn Qatar. Nawr bod y twrnament wedi dod i ben, meddyliais y byddwn yn edrych yn ôl ar eu ymgyrch drwy danysgrifiad newydd Newsbank y Llyfrgell, sydd bellach yn cynnwys fersiynau delwedd llawn ar gyfer rhai teitlau. Er mwyn cael mynediad i Newsbank mae’n angenrheidiol i chi fod yn aelod arlein yng Nghymru o’r Llyfrgell. Gweler yma am fwy o wybodaeth, ac yma am ffurflen gofrestru. Gall aelodau arlein gael mynediad i Newsbank ac adnoddau allanol eraill drwy dudalen A-Z o adnoddau allanol y Llyfrgell. Gellir gwneud hyn drwy naill ai fod yn adeilad y Llyfrgell, neu mewngofnodi gyda tocyn darllen.

Roedd y cyffro a’r disgwyliadau yn amlwg yn uchel ar ôl absenoldeb mor hir o’r gystadleuaeth fwyaf ym myd pêl-droed. Ar ôl curo’r Wcráin yn rowndiau terfynol y gemau ail gyfle, fe allai cefnogwyr Cymru edrych ymlaen at weld eu tîm yn perfformio gyda thimau gorau’r byd. Yn y cyfnod cyn y twrnament, mabwysiadwyd cân eiconig Dafydd Iwan “Yma o Hyd” fel anthem Cwpan y Byd Cymru, a chyfwelodd y Guardian ef a chefnogwyr eraill i drafod sut roedd pawb yn teimlo cyn y twrnament.

 

 

UDA 1 – Cymru 1

Dyma hi, ein gêm Cwpan y Byd gyntaf ers 1958! Roedd miloedd o gefnogwyr Cymru wedi gwneud y daith draw i fod yn rhan o’r Wal Goch, ac roedden nhw a’r cefnogwyr yma yng Nghymru yn ysu i’r gêm ddechrau. Serch hynny, roedd hi’n edrych fel bod yr achlysur yn dangos ar y tîm, ac fe aeth yr Americanwyr ar y blaen yn haeddiannol hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf. Roedd yn amlwg fod angen newid ein tactegau ar gyfer yr ail hanner, a chafodd cyflwyniad Kiefer Moore effaith bositif ar sut oedd y tîm yn chwarae. Gyda deg munud i fynd fe enillodd Cymru gic gosb ar ôl trosedd ar Gareth Bale. Unwaith eto, Bale oedd arwr Cymru wrth iddo sgorio o’r smotyn, ac aeth cefnogwyr Cymru yn wyllt. Er ni lwyddwyd i gipio gôl arall, roeddwn ni wedi cael ein pwynt cyntaf!

 

 

Cymru 0 – Iran 2

Ar ôl i Iran ildio 6 gôl yn eu gêm agoriadol, roedd cefnogwyr Cymru yn eitha’ hyderus y gallen nhw gael canlyniad yn y gêm hon. Gyda lefelau cyffro yn cynyddu, dangoswyd y gêm mewn ysgolion a gweithleoedd ledled Cymru, oherwydd roedd ymlaen am 10 yn y bore. Yn anffodus, roedd gan Iran syniadau eraill. Nhw oedd amlwg y tîm gorau, a dim ond trwy gyfuniad o ffram y gôl a VAR, y gwrthodwyd gôl iddynt. Gwaethygodd y sefyllfa i Gymru ar ôl i Wayne Hennessey gael ei anfon o’r maes wrth iddo neidio’n wyllt i fewn i Taremi, chwaraewr cyntaf y twrnament i dderbyn cerdyn coch. Roedd bellach yn fater o hongian ymlaen am gêm gyfartal, ac achub pwynt. Bu bron i Gymru lwyddo, ond sgoriodd Iran ddwy gôl hwyr i dorri calonnau Cymru.

 

 

Lloegr 3 – Cymru 0

Ar ôl symud ymlaen i’r rownd 16 olaf yn y ddau Bencampwriaeth Ewropeaidd ddiwethaf, roedd y siawns o wneud hynny yn Qatar yn edrych yn anhebygol iawn. A dyna ddigwyddodd, wrth i ni golli yn erbyn Lloegr. Roedd y freuddwyd ar ben.  Er nad aeth yr ymgyrch fel y gobeithiwyd, bydd y grŵp hwn o chwaraewyr yn cael ei gofio fel y tîm a ddaeth â ni’n ôl i’r lle roedd holl gefnogwyr pêl-droed Cymru eisiau bod. Diolch bois.

 

 

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth

Casgliadau / Collections / Digido / Ymchwil - Postiwyd 07-11-2022

Bydd Prifysgol Aberystwyth, mewn partneriaeth gyda’r Llyfrgell Genedlaethol, yn lansio canolfan ymchwil newydd ar ddydd Gwener, 11 Tachwedd, sef y Ganolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth. Bydd y ganolfan yn gwneud defnydd o’r ffynonellau ymchwil sydd yng nghasgliadau meddygaeth y Llyfrgell fel sylfaen i ymchwil academaidd newydd yn y maes. Mae cynhadledd undydd wedi ei threfnu ar gyfer y lansiad ar 11 Tachwedd. Mae’n rhad ac am ddim a gallwch archebu tocyn i’r digwyddiad yma. Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb ac ar-lein.

 

Mae casgliad meddygaeth y Llyfrgell yn un eang, ac mae’n cynnwys deunydd print, archifol, pensaernïol, llawysgrifau, darluniau a ffotograffau. Yn sgil y prosiect Meddygaeth ac Iechyd yng Nghymru cyn y GIG, mae’r deunydd meddygaeth sy’n rhan o’r Casgliad Print Cymreig a Cheltaidd nawr ar gael ar y catalog ar-lein yn ei gyfanrwydd, gyda’r eitemau sydd allan o hawlfraint wedi ei digido hefyd, ac felly ar gael ar-lein. Mae’r casgliad print yn cynnwys nifer o ffynonellau ymchwil pwysig, gan gynnwys adroddiadau Swyddogion Iechyd cynghorau dosbarth gwledig a trefol ledled Cymru, adroddiadau ysbytai ac adroddiadau ysbytai meddwl.

 

 

Mae’r adroddiadau ysbytai meddwl yn cynnig esiampl dda o’r fath o wybodaeth a data sydd wedi ei chynnwys yn y ffynonellau print yma. Os edrychwn ar esiampl adroddiadau blynyddol ysbytai meddwl, yn yr achos yma adroddiadau’r Joint Counties Asylum yng Nghaerfyrddin (gweler uchod am y fersiwn ddigidol a osodwyd yn y blog, neu cliciwch yma i’w weld ar syllwr digidol y Llyfrgell), gwelwn y wledd o ddata craidd mae’r adroddiadau yma’n cynnig i ymchwilwyr. Mae’r adroddiadau yn cynnwys data ar nifer helaeth o agweddau bywyd yr ysbyty a’i chleifion gan gynnwys ystadegau ynghylch o le’r oedd y cleifion yn dod, eu gwaith, natur eu salwch, lefelau marwolaeth, diet y cleifion, oedran y cleifion, lefelau aildderbyniad, statws perthynas y cleifion, ac ystadegau cyllidol y sefydliad.

 

Mae data o’r fath yn sylfaenol i ymchwil yn y maes yma, a’r gobaith yw bydd sefydlu’r Ganolfan mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth yn fodd i gadarnhau’r perthynas rhwng y Llyfrgell, ein casgliadau a’r gymuned ymchwil. Os ydych am ddysgu mwy am y partneriaeth, neu os oes ydych â diddordeb yn yr ymchwil diweddaraf yn y maes llenyddiaeth a hanes meddygaeth, archebwch docyn i’r gynhadledd!

 

Dr Douglas Jones,

Rheolwr Prosiectau Casgliadau Cyhoeddedig.

Gwobrau Cadwedigaeth Ddigidol

Casgliadau / Digido - Postiwyd 29-09-2022

Cyflwynir Gwobrau Cadwediaeth Ddigidol gan Gynghrair Cadwedigaeth Ddigidol bob dwy flynedd i ddathlu llwyddiannau mwyaf arwyddocaol unigolion a sefydliadau wrth iddynt sicrhau cynaliadwyedd cynnwys digidol. Yn dilyn proses asesu drylwyr, cyhoeddwyd enwau’r enillwyr mewn seremoni gyflwyno ddisglair yn Glasgow, lle roedd sefydliadau ac ymarferwyr cadwediaeth ddigidol o bob cwr or byd yn bresennol. Roedd y Llyfrgell yn falch iawn o ennill Gwobr Rhwydwaith Treftadaeth Ddigidol yr Iseldiroedd am Addysgu a Chyfathrebu am y prosiect: Dysgu Trwy Wneud: adeiladu sgiliau cadwraeth ddigidol yng Nghymru: https://www.dpconline.org/news/dpa2022-winners.

Roedd Dysgu Trwy Wneud yn rhaglen o hyfforddiant rhyngweithiol a ddarparwyd gan staff y Llyfrgell ar blatfform Teams i ymestyn sgiliau cadwedigaeth ddigidol a chynyddu capasiti ar gyfer staff sy’n gweithio mewn sefydliadau ledled Cymru. Mae adnoddau i gefnogi’r hyfforddiant ar gael ar wefan Archifau Cymru: https://archives.wales/staff-toolkit/saving-the-bits-programme/.
Cyfrannodd y Llyfrgell at wobr arall o fri a ddyfarnwyd yn ogystal. Enillwyd gwobr Cymdeithas Archifau a Chofnodion ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Newydd y Flwyddyn gan Gemma Evans.

Roedd Gemma yn cael ei chyflogi gan y Llyfrgell i arwain y prosiect Cofnodion mewn Perygl ar gyfer Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Archifau Covid-19 y National Archives a sefydlwyd er mwyn cefnogi archifau a’u galluogi i ddiogelu cofnodion oedd mewn perygl o gael eu colli o ganlyniad i effaith economaidd y pandemig, a’r bygythiad i barhad busnesau, elusennau a sefydliadau, ledled Cymru. Datblygodd Gemma Becyn Cymorth Cofnodion mewn Perygl oedd yn sicrhau bod cofnodion mewn perygl gael eu hadnabod a’u diogelu, ac mae ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Archifau Cymru: https://archives.wales/records-at-risk/.

Thomas Jones yr Almanacydd

Casgliadau / Digido / Heb ei gategoreiddio - Postiwyd 27-12-2021

Dyma flwyddyn newydd arall ar y gorwel! Gadewch i ni edrych nôl ar gasgliad y Llyfrgell o almanaciau a’u defnydd gan y Cymry yn y gorffennol. Roedd yr almanaciau hyn yn cynnwys y prif ddyddiadau sioeau a ffeiriau a fyddai’n berthnasol i’r werin i gynllunio eu blwyddyn.

 

 

Thomas Jones (1648?-1713) oedd un o’r ffigyrau amlycaf a fu’n gyfrifol am gyhoeddi ac ysgrifennu almanaciau. Ganwyd ef yn Sir Feirionydd, yn fab i deiliwr. Ar ôl symud i Lundain yn ddyn ifanc i geisio sefydlu ei grefft yno, newidiodd gyrfa i fod yn argraffydd a chyhoeddwr. Erbyn 1693 roedd wedi symud i’r Amwythig a sefydlu yno y wasg Gymraeg gyntaf erioed. Cyhoeddi llyfrau oedd prif waith y wasg ond enillodd enwogrwydd drwy Gymru am gyhoeddi almanaciau. Enillodd Thomas Jones batent brenhinol i’r wasg yn 1679 i gyhoeddi almanac Cymraeg blynyddol, a gwnaeth hynny yn ddi-dor o 1680 tan flwyddyn ei farwolaeth yn 1713. Roedd yr almanaciau yn boblogaidd iawn gyda’r werin a ddefnyddiodd hwy i bwrpas tebyg i’r hyn a wnawn ni heddiw gyda chalendrau a chynllunwyr blynyddol.

Yn yr enghraifft a welir o almanac Thomas Jones, yn ogystal â chalendr, cawn ddisgrifiad byr o dywydd nodweddiadol pob diwrnod o bob mis. Roedd Thomas Jones fel pe bai am rybuddio a diddanu ei ddarllenwyr yr un pryd. Disgrifir rhai o’r diwrnodau yn Ionawr fel rhai gwyntog, eraill yn rhewllyd ac eraill yn lawiog. Mwy o gelfyddyd a ffrwyth dychymyg na gwyddoniaeth hinsawdd! Ond mae Thomas Jones hefyd yn cynnwys proffwydoliaethau niwlog eraill yn yr almanaciau gyda chyfeiriadau at rai o’r cyflyrau dyrys yr oedd yn dioddef ohonynt (dywedir ei fod yn dipyn o “hyperchondriac”!). Roedd yn amlwg fod ei ddarllenwyr wrth eu bodd yn darllen yr almanaciau at ddefnydd ymarferol ond hefyd roedd y cynnwys yn ddihangfa o realiti caled eu bywydau.

 

Hywel Lloyd

Llyfrgellydd Cynorthwyol.

Un arall o’r Llyfrau Duon

Casgliadau / Digido - Postiwyd 20-09-2021

Ganrif union yn ôl, yn 1921, cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans ei ffacsimili du-a-gwyn o gynnwys Llyfr Du’r Waun (er mai 1909 sydd ar y wyneb ddalen!). Bellach, trwy haelioni un o noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol, gellir gweld delweddau newydd sbon o’r llawysgrif ar ein gwefan.

Ar un adeg, credid mai’r llawysgrif hon – Peniarth 29 – oedd y gynharaf yn y Gymraeg. Erbyn heddiw, cydnabyddir ei bod ymysg y cynharaf, gan rannu pen-blwydd megis â Llyfr Du arall, sef yr un enwog o Gaerfyrddin. Ganed y ddwy yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, un yn y Gogledd, a’r llall yn y De. Ond beth sydd ynddi?

Llawysgrif Gymraeg ydyw, wedi ei hysgrifennu ar femrwn, a hynny gan chwech o sgrifyddion, mewn dull digon rheolaidd a phroffesiynol, er bod lle i feddwl nad oeddent yn gyfarwydd iawn ag ysgrifennu Cymraeg.

Cynhwysa destunau cyfreithiol sy’n ymwneud â’r brenin a’i lys yn ôl ‘dull Gwynedd’ neu ‘ddull Iorwerth’, brenin o fewn cyd-destun Cymreig wrth gwrs, fel sy’n gweddu i lawysgrif o gyfnod cynnar tywysogaeth Llywelyn ap Gruffudd, ‘y llyw olaf’. Wedi amlinellu hawliau’r brenin a’i osgordd (Cyfraith y Llys – cofier am y delweddau hynny o lawysgrif Ladin gyfoes Peniarth 28), mae’r awduron yn nodi rhannau o’r gyfraith fyddai’n berthnasol i’r werin, a manylu ar werthoedd anifeiliaid ‘gwyllt a dof’ ac elfennau eraill. Ceir crynodeb, a thestun cyfleus a darllenadwy, ar wefan Cyfraith Hywel.

Ond mae yn y gyfrol ychwanegiadau diddorol y tu hwnt i’r testunau cyfreithiol: diarhebion, a marwnad Dafydd Benfras i’r tywysog Llywelyn ab Iorwerth o 1240, yr olaf yn atgof efallai o oes aur y gyfraith frodorol yn null Gwynedd.

Ond pam ei chyplysu â’r Waun, yn sir Ddinbych? Mae’r cynnwys yn awgrymu mai llawysgrif o Ogledd Cymru ydyw, ac erbyn 1615 roedd ym meddiant John Edwards o Blas Newydd, Y Waun, reciwsant a gollodd lawer o’i eiddo trwy atafaeliad cyn ei farw yn 1625. Yn ei gartref ef y copïwyd ei chynnwys gan Francis Tate i lawysgrif Llanstephan 68. Trwy John Jones o’r Gellilyfdy, yn ôl pob golwg, y daeth i feddiant Robert Vaughan o Hengwrt, a gwelir iddo yntau roi iddi’r teitl ‘Y llyfr du or Waun’ yn ei law gain ar yr hyn sy’n weddill o frig tudalen 114.

Mae’r cloriau gwreiddiol duon wedi hen ddiflannu, ond mae’r hyn sy’n weddill o’r dail rhwymo yn niwedd y gyfrol.

A ninnau eisoes wedi digido Llyfr Du Caerfyrddin (Peniarth 1) a Llyfr Du Basing (llawysgrif NLW 7006D), pa sawl llyfr du arall sydd ar ôl i’w digido tybed?

 

Maredudd ap Huw

Curadur Llawysgrifau

 

 

 

 

 

 

 

 

Adnoddau Digidol Newydd i’r Haf

Collections / Digido - Postiwyd 29-07-2021

Ers dechrau’r flwyddyn mae’r gwaith o ddigido ein casgliadau wedi parhau ac mae’r eitemau a’r casgliadau canlynol bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Archifau a Llawysgrifau

Casgliadau Peniarth a Llanstephan

Papurau Sir John Herbert Lewis

 

Mae 33 o ddyddiaduron o bapurau Sir John Herbert Lewis Papers ar gyfer y cyfnod 1888-1924 ar gael:

Seliau a Siarteri Ystrad Marchell

Mae detholiad o ddogfennau a seliau canoloesol o Bapurau Pitchford Hall a Chofnodion Ystadau Penrice a Margam, Castell y Waun, Bronwydd a Wigfair, bellach ar gael, er enghraifft:

Mae mynediad hefyd i 33 o Siarteri Ystrad Marchell a cheir mynediad iddynt drwy’r catalog.

Deunydd Print

Casgliad Arthuraidd

 

Yn 2019, dewiswyd detholiad o gyfrolau print yn ymwneud â’r Brenin Arthur ar gyfer eu digido. Mae’r 13 cyfrol a ganlyn ar gael eisoes ac fe fydd y gwaith o ddigido’r gweddill yn parhau dros y misoedd nesaf:

Cofiannau (1809-1889)

 

Dros y misoedd diwethaf parhawyd i ryddhau cofiannau trwy Primo. Mae 913 o gyfrolau ychwanegol ar gael ar y catalog bellach, yn eu plith ceir:

Gweithiau printiedig eraill

 

Digidwyd 203 o weithiau eraill hefyd, gan gynnwys:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Ffotograffau D C Harries

 

Mae 102 o ffotograffau a dynnwyd tua 1890-1936 gan D C Harries o olygfeydd, adeiladau a phobl ardal Llanymddyfri, Llandeilo a Chaerfyrddin wedi’u hychwanegu. Mae’r detholiad yn cynnwys ffotograffau megis: Staff standing outside Lipton’s shop, Caerfyrddin, Staff standing outside Star Supply Stores, Llandeilo a Men in cars outside Crown garage – T. Roberts & Sons, Llanymddyfri.

Archif Posteri Hanesyddol

 

Mae dros 2,630 o bosteri o Archif Posteri Hanesyddol y Llyfrgell ar gael i ddefnyddwyr drwy’r syllwr. Mae’r casgliad difyr hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o bosteri, gan gynnwys posteri ymfudo o Aberystwyth a Lerpwl i America, baledi a chaneuon, posteri’n cyhoeddi marchnadoedd ac arwerthiannau, cyngherddau ac eisteddfodau bach a mawr ac ambell “noswaith ddifyr heb ganlyniadau gofidus”. Mae’r casgliad hefyd yn yn cynnwys nifer fawr o bosteri’n cyhoeddi newyddion am droseddau a hanesion llofruddion, er enghraifft: Dwyn caseg John Philip, Pentre-Mawr (1818); ‘Cyffes Wirfoddol John Griffiths .. am fwrddrad Mary Griffiths, ei wraig’ (1811) a ‘Murder’ (1796).

Y Bywgraffiadur Cymreig

 

Cyhoeddwyd 20 erthygl newydd ar y wefan:

Cofiwch hefyd ddilyn cyfrif Trydar Y Bywgraffiadur: @Bywgraffiadur

Adnoddau Digidol Newydd

Collections / Digido - Postiwyd 09-02-2021

Er bod adeilad y Llyfrgell wedi bod ar gau mae llawer o waith wedi parhau tu ôl i’r llen ac ers mis Mehefin mae’r eitemau a’r casgliadau a ganlyn ar gael yn ddigidol i bori o adref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:

Llawysgrifau ac Archifau

Casgliad Peniarth

Papurau Wynn o Wedir: (1515-[c. 1684])

Rhyddhawyd bron i 10,000 o ddelweddau o bapurau personol a phapurau’n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus aelodau teulu Wynn o Wedir, Sir Gaernarfon. Mae modd canfod 2,786 eitem o Grŵp Syr John Williams, 1519-1683 (NLW MSS 463-470) a Grŵp Panton, 1515-[c. 1699] (NLW MSS 9051-9069) yn y catalog.

Papurau Syr John Herbert Lewis Papers

Mae 8 o ddyddiaduron ym Mhapurau Syr John Herbert Lewis o’r cyfnod 1925-1933 bellach ar gael:

Papurau Gareth Vaughan Jones Papers

Pasbort Gareth Vaughan Jones 1930-1934 (B5/3)

Deunydd Print

Casgliad Llyfrau Cymreig Cynnar

Mae 2,470 o gyfrolau o’r casgliad ar gael ar y catalog, gan gynnwys gweithiau nodedig William Salesbury A dictionary in Englyshe and Welshe, [1547], Kynniver llith a ban [1551] a The descripcion of the sphere or frame of the worlde [ca. 1553]), rhan gyntaf gramadeg Gruffydd Robert, Milan Dosparth byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg (1567), Drych y Prif Oesoedd [1716] a Cyd-gordiad egwyddorawl o’r Scrythurau [1730].

Cofiannau (1809-1889)

Mae tua 900 o gofiannau ar gael drwy’r catalog erbyn hyn. Mae’r detholiad yn cynnwys teitlau megis:

Bydd y gwaith o ryddhau cofiannau yn parhau dros y misoedd nesaf.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Rhyddhawyd detholiad o deunydd print yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf:

Mapiau a Deunydd Graffigol

Casgliad Mapiau

Map llawysgrif hynod Idris Mathias o ran isaf Dyffryn Teifi.

Casgliad Portread

Rhyddhawyd 970 o eitemau ychwanegol o gasgliad Portread, gan gynnwys delweddau o gymeriadau amrywiol megis: Cranogwen; “Old Ellen Lloyd”; Edward Ellis y Gof, Blaenau Ffestiniog dyfeisydd y car gwyllt; Elizabeth Lloyd, ‘Beti Bwt’; a ffoto o John Ballinger, S. K. Greenslade, Evan Davies Jones a Syr John Williams gyda Llysgennad UDA y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Tachwedd 1912.

Y Bywgraffiadur Cymreig

Cyhoeddwyd 16 erthygl newydd ar y wefan:

Morfudd Nia Jones (Swyddog Cynnwys Digidol)

Gwaith Da yn Cadw’r Hyn sydd Dda: Cadw Deddfau Hywel Dda yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 05-11-2020

Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd

Bob blwyddyn, mae’r Glymblaid Cadwedigaeth Ddigidol yn cynnal Diwrnod Cadwedigaeth Ddigidol y Byd gyda’r nod o dynnu sylw at y materion strategol, diwylliannol a thechnolegol cymhleth sy’n gysylltiedig â sicrhau mynediad parhaus at gynnwys digidol. Mae eleni wedi dwyn sylw yn benodol
at y ddibyniaeth fyd-eang ar wybodaeth ddigidol, seilwaith a chysylltedd ac mae’r thema eleni: Digidau: er Daioni, yn adlewyrchu effaith gadarnhaol cadw a darparu mynediad at gynnwys digidol dibynadwy. Mae’r thema hon yn cyd-fynd yn berffaith ag ymagweddau arloesol y Llyfrgell mewn cadwraeth draddodiadol, digido a chadwraeth ddigidol sy’n integreiddio i sicrhau bod Llawysgrif Boston o Gyfreithiau Hywel Dda yn hygyrch nawr ac yn y dyfodol.

Llawysgrif Boston

Prynwyd Llawysgrif Boston yn 2012 gan y Llyfrgell gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’r llawysgrif, a ysgrifennwyd yn Gymraeg, yn dyddio o tua 1350 ac mae’n cofnodi deddfau brodorol Cymru, y credwyd iddynt gael eu codeiddio gan Hywel Dda. Mae’n destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac mae’n rhoi cyfle inni dreiddio i fywyd diwylliannol a hunaniaeth Cymru. Fe’i defnyddiwyd fel testun gwaith, gan gael ei anodi gan Farnwr yn Ne Cymru, a’i gariodd o gwmpas yn ei boced. Erbyn y 19eg ganrif, roedd y llawysgrif wedi cyrraedd America ac roedd yng ngofal Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn Boston, ar ôl cael ei chludo yno gan ymfudwr mae’n debyg.

Datgelodd asesiad cadwraeth fod y llawysgrif yn fregus iawn, gyda llawer o rwygiadau a holltiadau, gan olygu na ellid ei thrafod heb y risg o ddifrod pellach. Penderfynwyd dad-rwymo’r gyfrol a digideiddio’r cynnwys, a fyddai’n galluogi ail-rwymo’r gwreiddiol, creu copïau ffacsimili a mynediad digidol.

Llif gwaith o un pen i’r llall

Mae llif gwaith cymhleth wedi’i ddatblygu i reoli’r broses ddigido, o ddethol i ddarparu mynediad a storio. Sicrhaodd ymarfer meincnodi fod y llawysgrif yn cael ei digido yn unol â’r safonau a’r fethodoleg a sefydlwyd ar gyfer digido deunyddiau llawysgrif. Nodwyd y protocolau ar gyfer sganio, gan gynnwys y wybodaeth hanfodol er mwyn cipio delwedd, sef , priodoli enw ffeil, proses trosi, a phenodi fformatau ffeiliau ar gyfer ffeiliau meistr a deilliadol.

Digido’r llawysgrif

Hwyluswyd y broses sganio trwy’r dadrwymo, gan alluogi cipio pob ffolio yn gyfan, heb yr angen i ddad-ystofi (de-warp). Cynorthwyodd hyn gyda’r broses o ymestyn ymylon allanol y memrwn yn ddigidol. Gellid sganio pob ffolio gwastad trwy ddefnyddio system sganio llinell, yn hytrach na’r dull arferol o ddefnyddio camera a chrud un siot . Trwy ddefnyddio’r dull hwn, gellid cipio’r delweddau ar eglurdeb uwch nag y byddai arferion gwaith normal yn ei ganiatáu ac roedd mwy o gysondeb o ran goleuo, a chywirdeb lliw gwell.

Cynhyrchodd y broses sganio ffeiliau meistr TIFF, gyda’r deilliadau JP2 yn cael eu cynhyrchu wrth amlyncu i Fedora, y System Rheoli Asedau Digidol. Cynhyrchwyd y ffeiliau METS, a oedd yn cynnwys metadata disgrifiadol a strwythurol wrth amlyncu. Storiwyd y prif ffeiliau TIFF yn yr Archif Ddigidol. Mae camau cadwraeth, gan gynnwys gwirio checksum , monitro sefydlogrwydd a chynllunio cadwraeth yn sicrhau bod y cynnwys digidol yn cael ei gadw.

Creu’r ffacsimiliau

Budd arall o’r broses dadrwymo a sganio oedd y cyfle i’r Llyfrgell ddangos ei thechnegau arloesol wrth greu ffacsimiliau, sydd bron yr un ffunud â’r rhai gwreiddiol. Cydiwyd copïau printiedig o’r dail wedi’u sganio, ar bapur archifol o ansawdd uchel, a’u pastio gefn wrth gefn i ffurfio ffolios a chydiadau. Sicrhaodd y fformat cefn wrth gefn hwn y byddai’r ffacsimili yr un trwch â’r llawysgrif wreiddiol. Arweiniodd y dechneg arloesol o efelychu memrwn trwy ymestyn y papur â llaw yn anwastad, tra bod y dail yn dal i fod yn llaith, at ymddangosiad crychiog dilys.
Rhwymwyd y ffacsimiliau yn yr un modd â’r gwreiddiol ac fe’u defnyddiwyd at ddibenion addysgu ac allgymorth, gan ganiatáu mynediad am gyfnod estynedig i’r llawysgrif, gan ddiogelu’r gwreiddiol.

Allwch chi weld y gwahaniaeth!

Gellir gweld y llawysgrif ddigidol ar wefan y Llyfrgell. Mae’r delweddau’n cael eu gweini trwy faniffest IIIF, wedi’i gysylltu â’r ffeiliau deilliadol a gedwir yn Fedora, sy’n cyflenwi’r Gwyliwr Cyffredinol (Universal Viewer). Gellir newid y delweddau, gyda’r gallu i chwyddo rannau o’r llawysgrif, troi’r tudalennau a chael amrywiaeth o olygfeydd. Mae’r metadata disgrifiadol ar gael gyda’r delweddau er mwyn ddarparu gwybodaeth gyd-destunol.

Trwy ei dull integredig o warchod ac ymestyn mynediad i un o drysorau mwyaf arwyddocaol Cymru, mae’r Llyfrgell yn sicr wedi defnyddio ei digidau, yn ffigurol ac yn llythrennol, er lles ac i bawb.

Sally McInnes, Pennaeth Gofal Casgliadau a Chasgliadau Unigryw

 

WiciPics

Collections / Digido / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil - Postiwyd 20-10-2020

Prosiect torfol newydd sy’n anelu at gofnodi treftadaeth adeiladau Cymru trwy gyfrwng ffotograffiaeth ac erthyglau Wikipedia.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru unwaith eto yn cydweithio gyda Menter Iaith Môn, ynghyd ag arian oddi wrth uned iaith Llywodraeth Cymru, i gyflwyno a chyhoeddi’r prosiect gyffrous newydd yma.

Mae gan Gymru miloedd o adeiladau cofrestredig, sy’n amrywio o’r cestyll ysblennydd a adeiladwyd gan y Tywysogion Cymreig i eglwysi, plastai a thai teras.  Ar un adeg, roedd mwy o seddi yng nghapeli Cymru nag oedd o boblogaeth i eistedd arnynt ond bellach mae’r capeli hyn yn diflannu’n gyflym.  Mae gennym hefyd fel gwlad, adeiladau modern sydd angen eu cofnodi, er enghraifft, ysbytai a chanolfannau iechyd, ysgolion, llyfrgelloedd a chyfleusterau chwaraeon.

Ar gyfer y prosiect yma, rydym yn gofyn i chi weld beth ydych chi’n meddwl sydd angen cael ei gofnodi’n ffotograffig.  Os ydych yn cerdded y ci, rhedeg, seiclo neu’n mynd allan am dro ar ôl cinio dydd Sul blasus, jyst cydiwch yn eich ffôn neu gamera a chymerwch ambell ffotograff ar hyd y ffordd.

Bydd y delweddau hyn yn ffurfio rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru a bydd mynediad cyhoeddus ac am ddim iddynt wedyn i gael eu hail-ddefnyddio ar Wikimedia Commons, fel eu bod yn medru gwella erthyglau Wikipedia.  Mae Wikipedia yn llwyfan gwych inni gofnodi’n gymunedol a rhannu ein hanes lleol.  Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod erthyglau Wikipedia safonol yn help sylweddol i hybu twristiaeth.

Nid ydym yn disgwyl ffotograffau proffesiynol eu safon, na lluniau sydd wedi eu steilio mewn arddull neu ffordd arbennig.  Yr hyn sy’n bwysig yw delweddau sy’n cofnodi’n glir.  Medrwch dynnu llun ar unrhyw beth, o  gamera DSLR i ffôn symudol, felly mae pawb yn medru cyfrannu, o mamgu/nain a dadcu/taid i‘r wyrion.

Fel rhan o’r prosiect rydym yn bwriadu gweithio’n uniongyrchol (o bell) gydag ysgolion er mwyn annog disgyblion i dynnu ffotograff o’r adeiladau yn eu hardaloedd hwy ac yna byddwn yn eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r delweddau hyn i wella safonau erthyglau Wikipedia.

Mae cyfrannu i’r prosiect yn rhwydd.  Bydd map rhyngweithiol yn dangos I chi yr holl leoedd sydd angen eu cofnodi/tynnu ffotograff ohonynt yn eich ardal chi ac yna bydd ein tiwtorial fideo yn eich cyfarwyddo ar y camau syml ynghylch y broses llwytho’r ffotograffau.  Felly, cewch i weld beth sydd angen cael ffotograff ohono yn eich ardal chi a chofnodwch heddiw i sicrhau bod eich delweddau yn cael eu cynnwys yn ein harchif ddigidol newydd.

Tagiau: , , ,

Liber Landavensis: Llyfr Llandaf

Casgliadau / Collections / Digido - Postiwyd 26-05-2020

Naw can mlynedd yn ôl, ym mis Mai 1120, trosglwyddwyd esgyrn Dyfrig, sant o’r chweched ganrif, o Enlli a’u hailgladdu yn Llandaf, lle ‘roedd yr esgob Urban wrthi’n ailadeiladu a helaethu’r eglwys i adlewyrchu beth oedd, yn ei dyb ef, ei phriod parch. Fel esgob Llandaf, ‘roedd Urban yn hawlio awdurdod dros bob eglwys a gysegrwyd i esgobion gwreiddiol a nawddseintiau Llandaf, sef Dyfrig, Teilo ac Euddogwy, ac fe gododd hyn anghydfod rhyngddo fe ac esgobion Tŷ Ddewi a Henffordd, yr oeddent yn israddol iddo yn ei lygaid ef. Bwriad trosglwyddo creiriau Dyfrig i Landaf oedd i gryfhau achos Urban, ond canolbwynt ei ymgyrch oedd Liber Landavensis, Llyfr Llandaf, sydd yn un o drysorau’r Llyfrgell erbyn hyn. Trwy hon, cawn weld sut y chwaraeodd honiadau uchelgeisiol Urban ran pwysig mewn ailddiffinio nid yn unig yr eglwys yng Nghymru ond ei pherthnasau gyda’r eglwys yn Lloegr a hefyd gyda’r pab.

Rhoddwyd cynnwys y llawysgrif at ei gilydd gyda’r bwriad o ddangos bod Llandaf yn meddu ar statws archesgobaethol, bod awdurdod uniongyrchol ganddi dros yr eglwys o’r Tywi hyd y Gwy (ardal cyfatebol yn fras i hen deyrnas Morgannwg) a bod ei thraddodiad yn ddi-dor ers Dyfrig, gan feddiannu traddodiadau eglwysi eraill yn y broses o wneud hyn. Mae hi’n dyddio rhwng tua 1120 a marwolaeth Urban ym 1133 (er yr ychwanegwyd deunydd eraill wedyn), ac ymhlith ei chynnwys y mae Efengyl Mathew Sant, ‘Bucheddau’ Dyfrig, Teilo, Euddogwy a saint eraill, ‘Braint Teilo’ yn Lladin ac yn Gymraeg, hanes sefydlu Llandaf, rhestr o’i hesgobion, a chopiau anghyflawn neu llygredig o siarteri rheolwyr seciwlar yn rhoi tiroedd i Landaf o’r chweched ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae rhywfaint o ddeunydd cyfoes hefyd, yn cynnwys copi o’r cytundeb a wnaethpwyd ym 1126 rhwng Urban a Robert o Gaerloyw, arglwydd Morgannwg, yn atal ymosodiadau ar feddiannau bydol yr esgobaeth. Fel arfer yn achos propaganda, mae Liber Landavensis yn cynnwys cymysgedd o ffaith, ensyniad a ffuglen sydd yn aml yn anodd i’w dadblethu.

Ymatebodd Tŷ Ddewi trwy greu ei phropaganda ei hun, gan honni statws archesgobaethol dros Gymru gyfan a chan adolygu ‘Buchedd Dewi’ Rhigyfarch o’r unfed ganrif ar ddeg fel bod Dewi yn mynd yn uwchradd i Deilo a bod unrhyw gyfeiriad at ei gysegru gan Ddyfrig yn cael ei ddileu, ond nid yng Nghymru y penderfynwyd y mater. Golygai grym cynyddol yr eglwys Eingl-Normanaidd a’r pabaeth diwygiadol bod cydnabyddiaeth y pab ac archesgob Caergaint yn allweddol i lwyddiant achos Llandaf, a mae’r llawysgrif yn dogfennu yn ofalus sut yr aeth Urban ati i geisio cyflawni hyn. ‘Roedd arno ddyled i’r Normaniaid am gael ei swydd; o gael ei benodi gan Harri I a’i gysegru gan yr archesgob Anselm ym 1107, ‘roedd e’n un o’r esgobion cyntaf yng Nghymru i gael ei sefydlu gan awdurdodau tu allan i Gymru, a fe oedd yr un cyntaf y gwyddwn iddo dyngu llw o ufudd-dod i Gaergaint. Mae Liber Landavensis yn adlewyrchu’r realaeth newydd hon, gan honni (yn anghywir) ym ‘Muchedd’ Euddogwy bod Llandaf wedi bod yn ostyngedig i Gaergaint ac yn ufudd i frenhinoedd Lloegr ers amser Awstin Sant, a bod ei harferion yr un fath ag eiddo’r Saeson. Yn yr un modd, ‘roedd gweithgareddau Urban mewn materion eglwysig ar lefel Ewropeaidd yn beth newydd i esgob o Gymru. Mynychodd Gyngor Rheims ym 1119, lle apeliodd am y tro cyntaf i’r pab Calixtus II i gydnabod statws Llandaf; derbyniodd y Cardinal John o Crema, legad cyntaf y pab y gwyddwn iddo ymweld â Chymru, ym 1125; mynychodd Gynghorau San Steffan ym 1125 a 1127, a cymerodd ran mewn cysegru esgobion yn Lloegr; aeth â’i anghydfod gyda Tŷ Ddewi at lys y pab yn bersonol ym 1128 a 1129; a fe farwodd yn yr Eidal tra’n dilyn achos arall. Mae Liber Landavensis yn cofnodi hyn i gyd o’r bron, yn cynnwys copiau o lythyron y pabau a hanesion am y Cynghorau ac am deithiau Urban i Rufain.

Calonogwyd Urban gan ddyfarniad dros dro o’i blaid gan y pab Honorius II ym 1128, ond collodd ei achos yn y pen draw. ‘Roedd e wedi bod yn ymhongar – nid oedd Llandaf wedi bod yn eglwys o bwys ond ers rhyw ganrif, ac Urban ei hun oedd y cyntaf o esgobion Morgannwg i ddefnyddio teitl esgob Llandaf – ond ‘roedd e wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol. O ganlyniad i’w uchelgais, enillodd Tŷ Ddewi yr anghydfod am ffiniau a sefydlodd ei hun fel y prif esgobaeth yng Nghymru, tynhaodd Caergaint ei gafael ar esgobaethau Cymru, a rhoddwyd hwb newydd i eglwyswyr Lloegr i fynd â’u cwynion at lys y pab. Mae Liber Landavensis yn tystio i weledigaeth Urban, a’i fethiant hefyd.

Mae copi digidol o’r llawysgrif ar gael ar wefan y Llyfrgell, yn datgelu testun nad oedd yn weladwy cyn i’r gyfrol gael ei hailrwymo yn 2007.

Dr David Moore (Archifydd)

Llun: Delwedd efydd Crist ar glawr y llawysgrif; dim ond y clawr hwn sy’n goroesi o’r cloriau derw gwreiddiol. Cysylltiwyd y ddelwedd â’r clawr, yn ôl pob tebyg, yn fuan ar ôl iddi gael ei gwneud yn Lloegr yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg. Cedwir y cloriau ar wahân erbyn hyn.

<- Cofnodion Hŷn

Categorïau

Chwilio

Archifau

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog