Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig cyfoeth o adnoddau electronig i ddefnyddwyr, ar flaenau eich bysedd. Mae’r Llyfrgell yn tanysgrifio i ystod eang o’r adnoddau hyn, yn amrywio o archifau papurau newydd ar-lein, cyfnodolion ysgolheigaidd, gwyddoniaduron, adnoddau cyfeirio ac adnoddau achyddol:
Bydd angen i chi ymaelodi â’r Llyfrgell ond unwaith ichi wneud gallwch ddefnyddio’ch ID a’ch cyfrinair er mwyn cael mynediad at yr adnoddau hyn o bell, cyn belled â bod cyfeiriad post gennych yng Nghymru.
Mae Papurau newydd yn anhepgor fel ffynhonnell ymchwil i’n defnyddwyr. Maent yn cofnodi cyhoeddiadau geni, priodas, a marwolaethau yn ogystal ag erthyglau newyddion am ddigwyddiadau a chyflawniadau. Gallant gynnig mwy o fanylion a ffotograffau i wella ymchwil, a helpu rhoi gwell syniad o agweddau’r amser. Wrth ymaelodi a’r Llyfrgell, gallwch gael mynediad at y teitlau canlynol:
The Times Digital Archive 1785-2010
The Sunday Times Digital Archive 1822-2006
The Guardian and The Observer 1791 – 2003
The Telegraph Historical Archive 1855-2000
Daily Mail Historical Archive 1896- 2004
Independent Digital Archive 1986-2012
Illustrated London News
British Library 19th century newspapers
British Newspaper Library
Newsbank – gwasanaeth papurau newydd cyfredol sydd fel arfer yn rhoi mynediad i rifyn ddoe nifer o bapurau y Deyrnas Gyfunol (gan gynnwys nifer o rai o Gymru) a sawl blwyddyn cyn hynny.
Mae gennym hefyd wrth gwrs nifer o bapurau newydd Cymreig yr ydym wedi digido ein hunain. Mae’r rhain ar gael i unrhyw un yn y byd, ac mae croeso ichi ymgynghori â nhw ar unrhyw adeg, heb gofrestru. Mae Papurau Newydd Cymru Arlein yn caniatáu i chi chwilio a chael mynediad i dros 1,100,000 o dudalennau allan o dros 120 o gyhoeddiadau papur newydd yn gyffredinol i fyny at 1910.
Mae deunyddiau ysgolheigaidd ar-lein ar gael i’n defnyddwyr drwy danysgrifiadau’r Llyfrgell i Sage Journals a JSTOR. Rhyngddynt, mae’r adnoddau hyn yn darparu mynediad i dros 900 o gyfnodolion, a 12 miliwn o erthyglau cyfnodolion, llyfrau, delweddau a ffynonellau cynradd. Mae’r deunydd rhyngddisgyblaethol hwn o ansawdd uchel, a adolygir gan gymheiriaid, yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, ac mae wedi bod yn amhrisiadwy i fyfyrwyr ac ymchwilwyr.
Mae’r Llyfrgell hefyd yn tanysgrifio i nifer o adnoddau cyfeirio gwahanol. Mae’r rhain yn cynnwys adnoddau fel Credo Reference, Oxford Reference Online a Britannica Academic, sydd i gyd yn darparu mynediad i filiynau o erthyglau, bywgraffiadau, fideos a delweddau. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys deunyddiau o amrywiaeth o wahanol lefelau addysgol, a gallant fod yn ddefnyddiol i ddisgyblion ysgolion cynradd/uwchradd ac i fyfyrwyr prifysgol.
Rydym hefyd yn cynnig mynediad (o fewn y Llyfrgell yn unig) i Ancestry a Find my Past, dau adnodd sydd yn amhrisiadwy i ymchwilwyr heddiw. Maent yn cynnwys sylw helaeth o’r Deyrnas Unedig, Iwerddon a’r Unol Daleithiau, gan gynnwys cofnodion cyfrifiad, eglwys, llys, milwrol a mewnfudo, yn ogystal â chofnodi casgliadau o Ganada, Ewrop, Awstralia ac ardaloedd eraill o’r byd. Yn ychwanegol i hyn, maent yn cynnig gwasanaethau defnyddiol fel Adeiladwr Coed Teuluol, a byrddau negeseuon ar gyfer aelodau.
Mae ein gwaith digido wedi parhau tu ôl i’r llen ac mae nifer o eitemau a chasgliadau newydd bellach ar gael yn ddigidol i’w pori o gartref ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog. Ewch i weld beth sy’n newydd yn ein blog.
Cofrestrau Meteoroleg ‘The Chain’
Cwblhawyd y gwaith o ddigido’r gyfres o gofrestrau meteoroleg o ddarlleniadau thermomedr, baromedr a mesurydd glaw yn ‘The Chain’. Byddant ar gael ar ‘Torf’ maes o law: C 2/6: Meteorological register. Including enclosures C 2/6/1-40, 1901, Jan. 1-1906, July 7 C 2/7: Meteorological register. Including enclosures C 2/7/1-73, 1906, July 1-1911, July 1 C 2/10: Meteorological register. Including enclosures C 2/10/1-9, 1918, Dec. 29-1923, Feb. 3 C 2/11: Meteorological register. Including enclosures C 2/11/1-6, 1923, Feb. 4-1927, Feb. 12 C 2/12: Meteorological register. Including enclosures C 2/12/1-13, 1927, Feb. 13-1931, Feb. 21 C 2/13: Meteorological register. Including enclosures C 2/13/1-69, 1931, Feb. 22-1935, March 2 C 2/14: Meteorological register. Including enclosures C 2/14/1-32, 1935, March 3-1939, March 11 C 2/15: Meteorological register. Including enclosures C 2/15/1-26, 1939, March 12-1943, March 20 C 2/16: Meteorological register. Including enclosures C 2/16/1-78. The meteorological readings continue to 29 Dec. 1945 only, 1943, March 21-1947, Feb. 8
Albwm yn cynnwys 44 ffotograff o bobl a chymunedau Ffiji, ynghyd â thestun a gyhoeddwyd fel ‘A Trip To The Highlands of Viti Levu’ gan G Ansdell, Llundain (1882).
Awst yw mis Pride Cymru a chyfle ardderchog i ddathlu popeth LHDTC+ yng Nghymru. Mae gan y Llyfrgell gyfoeth o gasgliadau sy’n adlewyrchu cyfraniad pobl LHDTC+ i Gymru. Un o’r casgliadau cyntaf i mi ei gatalogio oedd casgliad Emlyn Williams, yr awdur a’r actor, y mae ei yrfa ddisglair wedi’i dogfennu mewn wyth llyfr lloffion enfawr, sy’n gyforiog o ohebiaeth gan sêr yn y meysydd theatrig a chreadigol. Ysgrifennodd Emlyn Williams am ei ddeurywioldeb yn ei ddau hunangofiant cyhoeddedig, George (1961) ac Emlyn (1973), sy’n rhoi cyd-destun i’r archif.
Mae llawer o gasgliadau eraill yn y Llyfrgell sy’n cofnodi cyfraniad pobl LHDTC+ a hefyd effaith symudiadau sydd heb eu hastudio/ystyried yn eang yng nghyd-destun LHDTC+. I ddathlu rhai o’r rhain, bydd Mair Jones, awdur ac ymchwilydd o Geredigion, yn cynnal dau weithdy ar 25 Awst (un yn Saesneg ac un yn Gymraeg) i bobl ifanc a fydd yn cael eu hannog i archwilio’r themâu a drafodwyd yn y gweithdai a chreu gweithiau newydd.
Y Llyfrgell Lego gyda lliwiau'r enfys (crewyd gan Josh Littleford @jltoyphotography)
Logo Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru
Blaenorol
Nesaf
Mae tocynnau ar gael ar Ticketsource ar gyfer y gweithdai rhad ac am ddim, a fydd hefyd yn cynnwys lluniaeth a ddarperir gan ein caffi gwych. Rydym hefyd yn cynllunio digwyddiadau eraill ar gyfer mis Medi, a fydd yn cael eu hariannu drwy gynllun grant Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Josh Littleford @jltoyphotography am greu’r llyfrgell Lego anhygoel hon yn lliwiau’r enfys.
Sally McInnes, (hi/ei) Cadairydd Fforwm Rhywedd a LHDTC+ LlGC
Ers dyfodiad Datganoli ym 1997, mae Datblygu Cynaliadwy wedi chwarae rhan ganolog a chynyddol yn y ffordd llywodrathir Cymru, ac o ganlyniad, yn y ffordd yr ydym yn byw. Wrth gydnabod hyn, rydym wedi bod yn archifo gwefannau ar Ddatblygu Cynaliadwy a’r Amgylchedd ers 2004. Mae’r casgliad bellach yn cynnwys dros 700 o wefannau. Ein cam nesaf fydd rhoi mynediad i’r casgliad gwerthfawr hwn o wefannau drwy greu casgliad arbennig am y pwnc o fewn Archif we y DG.
Tudalen gartref Archif We y DG
Mae cyfuniad cymhleth o ffactorau yn cyfrannu at yr egwyddor o Ddatblygu Cynaliadwy ledled Cymru. Er enghraifft, bydd ein harchifo ar y wê, ac felly’r Casgliad, yn canolbwyntio ar gadwraeth, gwarchodaeth a cynnal ecosystemau Cymru, Adnoddau Naturiol, Ynni Adnewyddadwy, diogelu’r amgylchedd a’r gwaith a wneir ar Reoli Gwastraff, Ailgylchu a Theithio Llesol. Byddwn hefyd yn ymdrin â Amgylcheddiaeth, Dinasyddiaeth Fyd-eang a Newid yn yr hinsawdd ac yn rhestru’r llu o wefannau sy’n dangos bod Cymru’n dod yn genedl fwy cyfrifol yn fyd-eang.
Daeth Cymru yn un o’r cenhedloedd cyntaf i gael dyletswydd gyfansoddiadol ar ddatblygu cynaliadwy. Mae’r gwefannau yr ydym yn eu harchifo yn dangos y cynnydd a wnaed o ran defnyddio ynni adnewyddadwy; effeithlonrwydd ynni; lleihau tlodi tanwydd; a thrawsnewid Cymru yn un o’r tair gwlad ailgylchu orau yn y byd. Fodd bynnag, nid yw llawer o wefannau o’n gorffennol bellach i’w gweld ar y wê fyw ond maent ar gael yn Archif Gwefannau’r DG. Mae ein gwaith hefyd yn cynnwys cipio gwefannau cyfredol sy’n mynd i’r afael â Datblygu Cynaliadwy gan sicrhau bod y gwaith hwn hefyd yn cael ei gynnwys ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gan fod Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang o ran deddfwriaeth ar ddatblygu cynaliadwy, roeddem yn geffylau blaen mewn nifer o agweddau. Daethom yn Genedl Masnach Deg gyntaf y Byd yn 2008; Cymru oedd y Senedd gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019. Ar ben hynny, carreg filltir arwyddocaol oedd pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gan arwain at apwyntio Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yr un cyntaf yn y bydu gyda phŵerau statudol.
Mae llawer mwy i’w wneud eto i greu dyfodol gwell i’n planed a llawer gormod i’w restru mewn blog! Fodd bynnag, bydd Cymru sy’n fwy gwyrdd yn gweld toriadau pellach mewn allyriadau carbon; mwy o deithio llesol; gwaharddiad ar blastigau un defnydd; mynd i’r afael â cholli amrywiaeth drwy greu coedwig genedlaethol; buddsoddi yn yr economi cylchol; sefydlu diwydiannau adnewyddadwy sy’n arwain y byd fel datblygu’r sector ynni morol yng Nghymru. Bydd Cymru hefyd yn edrych ar ei etifeddiaeth o’r gorffennol a’i addasu i’r dyfodol. Enghreifftiau o hyn yw y bydd ein tomenni glo segur yn cael eu gwneud yn fwy diogel a bydd ein sector Amaethyddiaeth yn derbyn cefnogaeth i fod yn fwy ecogyfeillgar.
Mae’n daith y gallwn fod yn falch ohoni ac mae’r tirwedd yn newid yn gyflym. Diolch byth, mae ein harchifo gwe yn sicrhau fod y daith holl bwysig hon a’i rhaglen uchelgeisiol yn cael eu ddogfennu a’i gwneud yn hygyrch.
Rydym hefyd yn estyn allan. Byddwn yn ceisio caniatâd gan gyhoeddwyr gwefannau i sicrhau fod eu cynnwys ar gael yn ehangach. Mae Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol y DG wedi bod yn archifo gwefannau’r DG gyda’r amod taw dim ond ar safleoedd y Llyfrgell mae’r deunydd hwn i’w weld. Byddwn hefyd yn cysylltu â phartïon sydd â diddordeb i’n helpu i ddewis gwefannau i’w cadw. Bydd hyn yn ychwanegu at ein rhestr sy’n cynhyddol o adnoddau sy’n cael eu cadw ar gyfer y genedl. Mae croeso mawr i chi wneud hyn drwy’r dudalen Nominate a website.Mae’r casgliad ‘beta’ rydym yn ei adeiladu i’w weld yma. Bydd blog ychwanegol yn ymddangos yn fuan.
Bydd blog ychwanegol yn ymddangos i arddangos y cynnydd rydym wedi’i wneud gyda’r casgliad! Yn y cyfamser, dyma gipolwg ar ‘Ailgylchu dros Gymru’, un o’r gwefannau cyntaf i gael ei harchifo nôl yn 2006!
Tra bod y Deyrnas Unedig yn dathlu Jiwbili Platinwm y Frenhines, mae’n gyfle i weld sut mae achlysuron tebyg wedi cael eu nodi yng Nghymru yn y gorffennol.
Adeiladwyd nifer o gofgolofnau trwy Brydain i ddathlu Jiwbili Aur Siôr III yn 1809, gan gynnwys y Bwa ger Pontarfynach, Ceredigion, a godwyd ar gyfer Thomas Johnes, casglwr llyfrau a pherchennog Gwasg Hafod. Codwyd hefyd Tŵr Jiwbili ar ben Moel Famau, Sir Fflint, sy’n cael ei ddisgrifio yn A history of the Jubilee Tower on Moel Fammau in North Wales gan R.J. Edwards.Mae’r ddau yn dal yn sefyll heddiw. Cyhoeddodd Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys eglwysi yng Nghymru bryd hynny) ffurfiau gweddi arbennig, yn Gymraeg a Saesneg, i ddiolch am hanner canrif o deyrnasiad y Brenin.
"A history of the Jubilee Tower on Moel Fammau in North Wales" gan R.J. Edwards.
Cyhoeddwyd ffurfiau gweddi tebyg yn 1887 ar gyfer Jiwbili Aur y Frenhines Fictoria, a chynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin, gyda phregeth gan Esgob Tyddewi. Ddegawd yn ddiweddarach dathlodd Fictoria ei Jiwbili Diemwnt. Un o’r llyfrau a gyhoeddwyd i nodi’r achlysur hwn oedd The Queen’s Diamond Jubilee: illustrated record of Her Majesty’s reign and descriptive sketch of Aberdare, 1837-1897.
The Queen's Diamond Jubilee: illustrated record of Her Majesty's reign and descriptive sketch of Aberdare, 1837-1897.
Mae’r casgliad a roddwyd i’r Llyfrgell Genedlaethol gan Miss Margaret Davies o Gregynog, ger Y Drenewydd, yn cynnwys cofnod unigryw o Jiwbili Arian Siôr V yn 1935. Rhoddwyd llyfr i Miss Davies a’i chwaer Gwendoline gan aelodau corau Sir Drefaldwyn oedd yn canu o flaen y Brenin a’r Frenhines yn Neuadd Albert, er mwyn diolch i’r chwiorydd am eu cefnogaeth. Mae’r llyfr wedi’i lofnodi gan aelodau’r corau a’i rwymo’n gain.
Yr un nesaf i ddathlu Jiwbili Arian oedd y Frenhines bresennol. Dw i’n cofio sefyll fel plentyn wrth ochr y ffordd pan oedd hi a Dug Caeredin yn dychwelyd o wasanaeth o ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandâf yn 1977. Argraffwyd llyfryn hardd dwyieithog yn cynnwys trefn y gwasanaeth. Chwarter canrif yn ddiweddarach roedd y Frenhines yn dathlu Jiwbili Aur, ac ymysg digwyddiadau’r flwyddyn ymwelodd hi a Dug Caeredin â Gŵyl Ieuenctyd ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Cyhoeddwyd llyfryn dwyieithog i ddathlu’r ymweliad.
Tybed pa gofnodion hanesyddol fydd yn cael eu hychwanegu at ein casgliadau ar ôl y dathliadau eleni?
Yn y flwyddyn 1870 safodd Cymro o’r enw John Hughes ar dir anghyfannedd yn nwyrain Wcráin. Dewiswyd y tir hwn fel safle ei weithdy haearn. Yr ardal, a gafodd ei henwi’n Hughesovka ar ei ôl, ddaeth gyda adeilad diwydiannol enfawr a ddenodd lawer o weithwyr o bob rhan o’r byd.
Ganed Hughes ym Merthyr Tudful yn 1814, a fu’n llwyddianus yn Ne Cymru a Llundain am fod yn feistr yn sawl ffowndri dur. Dysgodd ei grefft gan ei dad yng Ngweithdŷ Haearn Cyfarthfa, ac erbyn i Hughes gyrraedd ei 30au canol, roedd yn berchen ffowndri ei hun yng Nghasnewydd. Wedyn, symudodd i Lundain a parhaodd ei lwyddiant. Ym 1870, cafodd Hughes y cyfle gan y Tsar Rwsiaidd i ddod a’i arbenigedd i Rwsia ymerodrol.
Llyfrau am Hughesovka o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrau a erthyglau am Hughesovka
Nid yn unig roedd ei gwmni newydd, the New Russia Company Ltd., wedi creu diwydiant o fewn y rhanbarth, ond hefyd darparodd amwynderau ar gyfer y boblogaeth newydd, gydag eglwysi, ysbytai, a gwasanaethau pwysig eraill ar gael, i sicrhau amgylchedd gwaith hapus a chytûn. Roedd gweithwyr hyd yn oed yn cael ail-leoli eu teuluoedd i’r rhanbarth newydd, yn y gobaith y byddai hyn yn lleihau hiraeth.
Roedd yr amodau gwaith yn galed gyda hafau poeth a sych, stormydd llwch, glaw trwm y gwanwyn, a gaeafau caled gyda llawer o eira. Roedd Hughes yn gobeithio y byddai’r cyflogau da a gwaith cyson, na allai llawer o wledydd eraill ei ddarparu, yn gwneud yn iawn am y tywydd eithafol yr oedd rhaid i’r gweithwyr ddioddef.
Datblygodd Hughesovka a newidiodd ei enw yn ddiweddarach i Stalino, ac yna Donetsk, yn gymuned lewyrchus erbyn dechrau’r 21ain ganrif. Daeth y rhanbarth yn rhan bwysig o ardal Donbas. Yn anfoddus, daeth gwrthdaro yn fuan wedyn.
Cyfeiriadau a ffynonellau ar-lein:
Edwards, S. Hughesovka: a Welsh enterprise in Imperial Russia : an account of John Hughes of Merthyr Tydfil, his New Russia Company, and the town, works and collieries which he established in the Ukraine, 1992
Thomas, C. Dreaming a city : From Wales to Ukraine : The Story of Hughesovka/Stalino/Donestsk, 2009*
Glamorgan Family History Society Journal, No. 128 (December 2017), p. 10-13 (Diggins, R. Hughesovka: a Welsh enterprise in Imperial Russia).
Mae’r Llyfrgell yn darparu arddangosfa bob blwyddyn ar gyfer Brecwast Gweddi Gŵyl Ddewi yng Nghaerdydd. Trefnir y digwyddiad arbennig hwn gan grŵp o aelodau Cristnogol o’r Senedd o wahanol bleidiau, ac mae’r gwahoddedigion yn cynnwys aelodau o seneddau dros Ewrop, arweinyddion eglwysi a chapeli, a chynrychiolwyr nifer o fudiadau Cristnogol.
Thema’r Brecwast Gweddi eleni oedd “Diwygiadau”. Yr eitem hynaf a ddangoswyd oedd Llythyr ynghylch y ddyledswydd o gateceisio plant a phobl anwybodus (1749) gan Griffith Jones, oedd yn gyfrifol am sefydlu miloedd o ysgylion cylchynol er mwyn dysgu pobl i ddarllen y Beibl. Roedd cysylltiad agos rhwng yr ysgolion hyn a’r ymdrechion i gael yr SPCK i ddarparu Beiblau Cymraeg.
Tudalen deitl "Hanes llwyddiant diweddar yr Efengyl" gan William Williams
Cyhoeddwyd Two letters, giving an account of a revival of religion in Wales gan Thomas Charles o’r Bala yn 1792. Arweiniodd y cyfnod o adfywiad ysbrydol mae Charles yn ei adrodd at sefydlu Cymdeithas y Beibl, a dangoswyd hefyd yr argraffiad cyntaf o’r Beibl Cymraeg a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 1807.
Er mwyn adlewyrchu agwedd ryngwladol y thema, dangoswyd Hanes llwyddiant diweddar yr Efengyl, a rhyfeddol waith Duw, ar eneidiau pobl yn North America (1766), sef cyfieithiad gan William Williams, Pantycelyn o bamffledyn yn disgrifio deffroad ysbrydol yn America ddwy flynedd ynghynt. Roedd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys hunangofiant Ben Chidlaw (1890), Cymro a ymfudodd i America ond a fu’n rhan o Ddiwygiad 1839 tra ar ymweliad â’i famwlad, a The revival in the Khasia Hills (1907), sef hanes cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India.
Dangoswyd dwy lawysgrif o Ddiwygiad 1858-9, sef dyddiadur Dafydd Morgan, Ysbyty, a llythyr oddi wrth John Matthews o Aberystwyth. Yr eitem a ddenodd sylw mwyaf y gwahoddedigion oedd Beibl Evan Roberts, a oedd gydag ef pan oedd yn gweithio mewn pwll glo. Cafodd y Beibl ei losgi yn rhannol mewn ffrwydrad yn 1897 a laddodd pump o’i gydweithwyr. Arweiniodd hyn at ei droëdigaeth, sy’n cael ei disgrifio yn nyddiadur y Parch. Seth Joshua a ddangoswyd ar bwys y Beibl. Roedd Evan Roberts yn un o brif arweinwyr Diwygiad 1904-5.
Roedd yn fraint i arddangos y trysorau hyn o gasgliadau’r Llyfrgell yng nghyntedd y Senedd a’u trafod gyda’r gwesteion. Wrth greu’r arddangosfa, ceisiais amlinellu hanes gwaith Duw trwy nifer o ddiwygiadau yng Nghymru a diwygiadau mewn gwledydd eraill sydd naill ai wedi dylanwadu ar Gymru neu wedi elwa o gyfraniad cenhadon o Gymru.
Dros bythefnos ym mis Ionawr teithiodd Rhydian Davies a minnau, cadwraethwyr o dan hyfforddiant y Llyfrgell, i Wakefield. Yno, mynychom fodiwl cadwraeth papur yng Nghanolfan Hanes Gorllewin Swydd Efrog. Rydym hanner ffordd drwy’r hyfforddiant, a dyma flas ar beth a ddysgom yn hanner cyntaf y modiwl.
Trwsio dogfennau gwlyb
Mae gwlychu papur yn ffordd ddefnyddiol iawn i’w ymlacio a golchi baw sy’n gynhenid tu fewn i’r ffibrau er mwyn paratoi i drwsio’r ddogfen. Ond cyn golchi’r ddogfen, rhaid glanhau’r arwyneb. Os na wneir hyn, mae perygl symud baw tu fewn i ffibrau’r papur. Rydym yn defnyddio brwsh meddal i lanhau’r llwch a sbwng latecs awyrog (smoke sponge, aerated latex sponge) i waredu baw mwy styfnig. Fe ddefnyddir dilëwr Staedtler weithiau hefyd.
Ar ôl glanhau’r arwyneb mae’r ddogfen yn barod i’w wlychu. Y risg mwyaf gyda gwlychu unrhyw ddogfen yw fod yr inc/cyfryngau’n rhedeg pan mae’n cyffwrdd â’r dŵr. I osgoi trychineb, rydym yn arbrofi’r inc gyda diferyn o ddŵr ac alcohol. Gwelir uchod llun o Rhydian yn gwneud hynny.
Mae rhan fwyaf o’r llawysgrifau yn defnyddio inc “iron gall” sydd ddim yn doddadwy mewn dŵr nag alcohol. Mae sêl yn bresennol ar y ddogfen, a gan fod sielac yn doddadwy mewn alcohol ond ddim mewn dŵr, felly fe wlychom y ddogfen mewn dŵr yn unig.
Ar ôl ei olchi mewn dŵr, fe drosglwyddom y ddogfen i fwrdd gwydr i ddechrau trwsio. Gan fod y ddogfen mor frau penderfynwyd rhoi papur sidan Japaneaidd (2gsm) dros y cefn i gyd; mae’r papur sidan mor ysgafn a thenau fel nad yw’n cuddio unrhyw eiriau sydd ar y ddogfen.
Dyma lun ohonof uchod yn dal y papur sidan Japaneaidd. Gellir ei weld trwyddo’n hawdd, ac ar ôl ei osod ar y ddogfen, mi fydd bron yn anweladwy!
Dyma’r ddogfen ar ôl derbyn y papur sidan Japaneaidd dros y cefn, fel y gwelwch o’r llun, mae’r ddogfen llawer mwy sefydlog. Ond nid yw’r papur sidan ar ben ei hun yn ddigon cryf i amddiffyn y ddogfen o niwed mecanyddol. Mae’n ddigon hawdd i’r ddogfen gael ei niwedio yn bellach.
Felly, yn y cam nesaf cawsom gyfle i ddysgu a defnyddio’r dull “leaf casting”. Mae’r dull yma yn defnyddio’r cysyniad o sut mae papur yn cael eu creu yn y lle gyntaf, gan ddefnyddio pwlp papur i lenwi’r ardaloedd sydd ar goll. Mae’r ddogfen yn cael ei roi o dan ddŵr, ac wedi tynnu’r plwg, mae disgyrchiant yn tynnu’r pwlp lawr i’r llefydd sydd angen eu llenwi.
D’oes dim llun gyda ni o’r canlyniad terfynol, gan fod hanner cyntaf y modiwl wedi gorffen ar ôl i ni wneud y cam hyn. Rydym yn dechrau’r ail hanner ar 7 Chwefror, felly bydd llawer mwy i ddweud ar ôl i ni orffen! Ond am y tro, gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen yr erthygl hon.
Mae mis cyfan o 2022 eisoes wedi mynd heibio a chyda blwyddyn newydd daw adnoddau digidol newydd. Mae ein gwaith digido wedi parhau tu ôl i’r llen ac mae’r eitemau a’r casgliadau yma bellach ar gael yn ddigidol i’w pori ar wefan y Llyfrgell a/neu y catalog:
Archifau a Llawysgrifau
Casgliadau Peniarth, Llanstephan, Cwrtmawr a Brogyntyn
Yn fy llyfr A History of Women in Men’s Clothes: from cross-dressing to empowerment (Pen and Sword Books, 2021) amlinellais sut mae menywod wedi herio gorchmynion cymdeithasol ers canrifoedd trwy drawswisgo, traws-weithio, a thraws-fyw. Ar ôl traddodi sgwrs ar y gyfrol, cysylltodd Nia Mai Daniel (Yr Archif Gerddorol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) â mi yn fy hysbysu am y faled Gymraeg, ‘Can Newydd’, am ferched yn trawswisgo. Gan nad wyf yn medru darllen Cymraeg, gofynnais i Mair Jones (Queer Welsh Stories) a allai hi wneud cyfieithiad rhagarweiniol i asesu’r cynnwys, ac yna darparodd y bardd Cymraeg Grug Muse fersiwn mwy cyfoes.
Ysgrifennwyd ‘Can Newydd’ gan y baledwr unllygeidiog ecsentrig Abel Jones, (Bardd Crwst) oedd, yn ôl y Bywgraffiadur Cymreig, ‘yr olaf o’r baledwyr mawr’, ac fe’i gosodwyd ar dôn ‘Mae Robin yn swil’. Nododd yr Athro E Wyn James, Prifysgol Caerdydd fod y gân hon ‘yn fwy addas ar gyfer y dafarn nag ar gyfer canu mewn cyngherddau ac eisteddfodau parchus.’ Roedd ychwanegu geiriau’r Bardd Crwst yn ei gwneud hi’n fwy risqué fyth.
Can Newydd
Hanes dwy Ferch ieuanc o’r fro hon a wisgodd eu hunain mewn dillad meibion, a myned i blasdy i garu at ddwy ferch ieuanc, rhai dyeithr iddynt.
Cenir ar-”Robin yn Swil”
Wel lanciau bro Gwalia beth meddwch chwi am hyn–
Gwel’d merched mewn closau, on’d ydyw beth syn?
A’i prinion yw’r meibion rhai mwynion ein bro,
Nes ydyw rhai merched am gariad o’u co’.
O’nd ydyw’n beth syn gwel’d merched fel hyn,
Yn curo at f’rwynion Plas uchaf a’r Glyn &c
Rhyw noswaith ber oleu yng nghanol mis Mai,
Fe aeth dwy ferch ifanc fel llanciau difai,
I guro at plasdy lle’r oedd ryw ddwy ferch
Mewn newyn am gariad i roi arno eu serch, &c
Curasent y gwydr nes codi o’r ddwy
A buan gofynwyd, f, anwylyd, O! Pwy?
Wel dau o wych lanciau–rhai hynod o dlws,
Adwaenwch hwy’n union’r ol agor y drws &c
Agorwyd mewn munud heb oedi dim dau,
‘Rol ychydig o eiriau i’r gwely a hwy’n glau;
Cofleidio, cusanu, peth melys yw dyn,
Ond pedair merch ieuanc mewn newyn bob un
Fe flinwyd cusanu. ‘roedd natur yn gre’,
A Siani a deimlodd, ni henwaf ymhle;
Deallodd nad ceiliog oedd gyda hi’n bod
Neu fod yn un hynod o ryfedd ac od &c
Roedd Lusi a’i chydmar mewn gwely gerllaw,
Yn ddiwyd fwyn garu heb gaffael un braw,
A dywedodd i’w chariad mai biwty mab oedd,
Gwneuthur os cawsai o’i hanfodd neu fodd, &c
Peth mawr yw chwant cydmar ar geiliog neu iar,
Peth mwy yw merch ieuanc yn deisyf yn daer;
A dywed hen ddiareb “heb geiliog cheir ciw,”
A rhyfedd fu’r caru rhwng Sian a Cit Puw &c
Da chwithau y llanciau o deuwch ar frys,
Mae’r merched yn ynfyd gan gymmaint eu blys;
Mae gofid’n eu poeni hwy hoewant mewn chwant,
Fe ddofir eu nwydau pan gaffont hwy blant, &c
Mae’r ffasiwn yn dechreu i’r merched gael d’od,
I guro at lanciau, on’d ydyw’n beth od?
On’d ydyw’n beth syn gwel’d merched fel hyn,
Yn gwisgo y closau am danynt mor dyn.
Ffarwel i bob busle a’r crinoline fu
Mae’r merched am drowsus i’w wisgo yn hy;
Hwy roddant ryw arwydd ymhob gwlad a thre’,
I ddangos i’r meibion fod ganddynt hwy ble.
Ond ydyw’n beth syn gwel’d merched fel hyn’
Yn curo at f’rwynion Plas uchaf a’r Glyn.
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant ar y faled, fel yr eglurodd yr Athro James, oherwydd absenoldeb enw unrhyw argraffydd. Fodd bynnag, mae’r Athro James yn nodi mai’r eitem gyntaf ar y ddalen yw cerdd am weinidog gyda’r Bedyddwyr yn methu trên Dowlais. Gan fod y gweinidog yn Nowlais o 1865-1872, gellir cyfrif fod y daflen, yn ol pob tebyg, wedi ei hargraffu yn y cyfnod hwnw. Nid yw’r copïau mewn casgliadau eraill, megis Archifau Prifysgol Bangor ac Archifdy Ceredigion, yn taflu goleuni pellach ar y dyddiad.
Mae cynnwys ‘Can Newydd’ yn ymwneud â dwy ddynes sy’n traws-wisgo fel dynion er mwyn ymweld â phlastai a chael rhyw gyda dwy ddynes.
“Hanes dwy Ferch ieuanc o’r fro hon a wisgodd eu hunain mewn dillad meibion, a myned i balasdy i garu at ddwy ferch ieuanc, rhai dyeithr iddynt.”
Un ffordd y gellid darllen y faled o bosibl yw fel beirnidaeth ar ddynion sydd wedi esgeuluso’r merched, a’u gadael heb dderbyn digon o sylw gan ddynion.
“Wel lanciau bro Gwalia beth meddwch chwi am hyn–
Gwel’d merched mewn closau, on’d ydyw beth syn?
A’i prinion yw’r meibion rhai mwynion ein bro,
Nes ydyw rhai merched am gariad o’u co’.”
Fodd bynnag, mae’r faled hefyd yn tynnu sylw at y nifer cynyddol o fenywod a oedd yn croeswisgo, rhywbeth yr wyf yn ei drafod yn fy llyfr. Roedd canol diwedd y 19eg ganrif yn gyfnod pan oedd merched yn eu miloedd yn gwisgo fel dynion, (‘masquerading’) ac roedd llawer o’r rhain yn unigolion y byddem ni heddiw yn eu hadnabod fel lesbiaid neu drawsryweddol.
Mae’r faled yn mynd i gael ei pherfformio (efallai am y tro cyntaf ers y 19eg ganrif) yn Aberration fel rhan o Fis Hanes LHDT+ 2022 – cyfle i chi farnu drosoch eich hunain beth sy’n digwydd yn y faled.
Norena Shopland
Draig Enfys
Hyrwyddo hanes LHDT+ a threftadaeth Cymru
Twitter: @NorenaShopland
Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.